J.HOWELL HUGHES, LERPWL (1908-98) gan D.Ben Rees

 

J.Howell Hughes

Gweld llun Huw Morriston Davies (1879-1965) yn Y Casglwr (Rhif 62, Pasg 1998) a'm cymhellodd i lunio gair am ŵr a'i dilynodd yn Ysbyty Llan­gwyfan yn 1939 — John Howell Hughes, mab i adeiladydd ydoedd. Daeth ei dad, John Hughes, o Gemaes, Ynys Môn yn 1895 ac felly mae'r teulu wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd Lerpwl am dros gan mlynedd.

Addysgwyd Howell Hughes yn Ysgol Gynradd Anfield, y Collegiate ac yna Prifysgol Lerpwl lle y gwnaeth enw iddo'i hun fel chwaraewr rygbi. Graddiodd yn 1931 a chael swydd yn yr Inffyrmari Lerpwl, ond yn 1939 fe'i gwahoddwyd i fod yn llawfeddyg yn ogystal yn Ysbyty Llangwyfan yn Nyffryn Clwyd. Treuliai ddau ddiwrnod yr wythnos ac, unwaith y mis, teithiai yr holl ffordd i Sanatoriwm Talgarth, sir Frycheiniog. Nid oedd angen iddo ddreifio'i hun gan y gwnâi ei briod, Mrs Myra Hughes hynny. Roedd hi'n deall byd yr ysbyty gan iddi fod yn nyrs ac yn sister cyn iddi briodi.

Dilynodd J. Howell Hughes un o'r arloeswyr pennaf Morriston Davies, a gweithiai ef a'i gymrawd o Lerpwl, Hugh Reid, ac yn 1951 ymunwyd â hwy gan Ivor Lewis. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach y perfformiodd Howell Hughes ei driniaeth lawfeddygol olaf, ar 22 Gorffennaf 1981. Caewyd yr ysbyty y flwyddyn honno. Roedd y dicáu wedi'i drechu a phobl fel J. Howell Hughes wedi gweld terfyn ar y ddarfodedigaeth. Roedd y llawfeddyg wedi ymddeol saith mlynedd yn gynharach o Ysbyty Brenhinol Lerpwl a gofynnwyd iddo aros i gynllunio yr ysbyty newydd ac fe wnaeth hynny gan gael profiad tra gwahanol o agwedd gweinyddwr yn hytrach na llawfeddyg. Mae'r adeilad mawr yn Stryd Prescott (lle bûm yn gaplan am dair blynedd ar ddeg) yn gofgolofn i'r gŵr dawnus.

Roedd J. Howell Hughes yn Gymro rhugl. Y tro cyntaf i mi ei weld a'i glywed oedd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni yn 1957 ac fe siaradai mewn Cymraeg rhywiog fel Llywydd y Dydd. Ychydig a feddyliwn y byddwn, yn 1974 ar ôl cau Capel Anfield Road, yn dod i'w adnabod yn dda fel gweinidog y teulu. Nid yn aml y ceir record tebyg i'r record o eiddo'r teulu yn hanes Eglwys Bresbyteraidd Cymraeg Anfield Road. Etholwyd ei dad yn flaenor yn 1921, ef yn 1939 a'i frawd, W. Elwyn Hughes, yn 1947.

Gŵr gwybodus iawn oedd J. Howell Hughes ac un a fu'n garedig iawn i genedlaethau o fyfyrwyr. Dyna dystiolaeth yr Athro D. A. Price Evans, Riyad a apwyntiwyd dan ei aden yn 1952 a chanddo air caredig iawn i'r llawfeddyg. Meddylid yn fawr ohono gan y Cymry a ddeuai o ogledd Cymru i dderbyn gwellhad yn ei ward yn yr Ysbyty Brenhinol. Ward 8 oedd Ward J. Howell Hughes. Roedd ei air yn efengyl a'i gerddediad yn haeddu parch y nyrsus. Un bychan o gorffolaeth ond mawr ei lafur a'i allu anhygoel fel llawfeddyg.

Mwynhai dreulio pen­wythnosau yn ei ail gartref yng Nghemlyn, ger Cemaes, Môn ac yno y câi gyfle i ymlacio gan fwynhau ei gwch a'r môr, pysgota a mynd â'r cŵn am dro. Bu'n Uchelsirydd Môn — yno roedd gwreiddiau teulu ei dad er bod teulu ei fam o Sir Gaernarfon. Darllenai gylchgronau meddygol a hefyd y cylchgrawn drud Country Life ac am flynyddoedd cawn y copïau o'r cylchgrawn hwnnw ar ei ôl. Cefais lwythi ohonynt. Erbyn hyn trosglwyddais hwy i brynwyr papur.

Meddai J. Howell Hughes ar allu i lenydda fel y gwelir yn ei gyfrol Surgeon's Journey a gyhoeddwyd gan Wasg Gee yn 1989. Oherwydd ei boblogrwydd fe werthodd y gyfrol yn dda - er na welais adolygiad o gwbl ohoni. Canolbwyntiodd yn y gyfrol ar ei yrfa fel llawfeddyg, ei gefndir fel un o Gymry Lerpwl, ei wyliau yng Nghymru, ei hyfforddiant fel cyw feddyg a saga gorchfygu y dicáu. Ond y mae'r gyfrol yn brin o fod yn hunangofiant am iddo adael allan cymaint o bethau pwysig. Nid yw'n sôn am ei ddyddiau fel chwaraewr rygbi, ei briodas, ei gyd-fyfyrwyr, a llu o'i gyd­weithwyr. Pan wna hynny mae'n ddiddorol, fel ei gyfeiriad at y llawfeddyg enwog Thelwall Thomas a oedd yn byw dri chanllath o'i gartref yn Calderstones.

Hoffwn wybod mwy am ei ddiddordeb a'i ddarllen, ei ffydd a'i farn am gyd-swyddogion yng Nghapel Anfield, ond ofer disgwyl gan iddo wrando ar eiriau ei nain: 'i gofio mai ffordd uniawn yw bywyd, a dylid cerdded y ffordd honno heb fynd ar ôl yr hyn nad yw'n angenrheidiol'. Gwireddodd y cyngor a daeth, yn ei gyfnod, yn llawfeddyg nodedig.