CNOI BACO gan W.Alun Mathias
Siôl Pêsli Siân Owen |
Mae sioliau Pêsli fel un Siân Owen, yn y llun enwog 'Salem', yn weddol gyffredin ac fe aeth rhai merched i'w defnyddio ar wely.
Mae un siôl yn fy meddiant sy'n wahanol i'r cyffredin ac mae'r patrwm a'r lliwiau yn ei gwneud yn hynod hardd, a dyma'r hanes. Mynn rhai pobl weld y Diafol ym mhlygion siôl Siân Owen, gan dybio fod ei balchder yn bechod. Am hynny aeth perchennog ffatri wlân ym Mhen Llŷn (Rhydyclafdy, mi dybiaf) ati i ddod â siôl wahanol allan fel na allai hynny ddigwydd. Rwy'n falch fod un o'r rheini gen i.
Pan ddaeth yn arferiad i wisgo hetiau corun uchel a sioliau Pêsli i ben fe ddechreuodd y merched wisgo boneti duon gyda chêp tri chwarter. Yn y dillad hynny rydw i'n cofio fy nain. Mae'n anodd disgrifio'r boneti yma — mae rhyw fath o fframwaith i ffitio'r pen, sidan du drosto wedi ei addurno â mwclis a phlu estrys, yna dau ddarn o ruban du llydan i gyfarfod o dan yr ên i gadw'r bonet yn saff ar y pen. Rwy'n falch iawn fod gen i rai o'r boneti yma — mae un ohonynt yn amlwg wedi'i wisgo gan rywun mewn galar gan fod y sidan yn llai sgleingar a dim mwclis na phlu ar ei gyfyl.
Daeth dillad isaf hefyd yn cynnwys cobenni i'm meddiant gyda gwaith les hardd odiaeth arnynt, a pheisiau duon sidan yn dangos gwaith llaw nodedig - rhyfeddaf at y pwythau amrywiol.
Cytunaf â'r sylw a wnaed wrth sylwi ar hoffter Dic Aberdaron o lyfrau a chathod: 'Dydi pawb ddim yn gwirioni 'run fath'!