CAN MLYNEDD O WASANAETH ~ W.O.Davies, Llandeilo

Pan ddychwelodd fy ail fab, Paul, i stafell ddidoli Swyddfa Post Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, wedi dosbarthu llythyrau yn ardal Llansadwrn ar y trydydd o Orffennaf 1997, roeddem ni'r teulu yn llawenhau oherwydd ei fod wedi cyflawni y cyfanswm o gan mlynedd o wasanaeth i'r Swyddfa Bost gan y teulu.

Roedd fy nhad wedi rhoi 43 o flynyddoedd fel postmon troed yn ardal Llanrwst. Minnau wedi rhoi ugain mlynedd ar y cownter yn Llanrwst o 1940, yna yn bostfeistr Dolgellau am ddeuddeng mlynedd ac wedyn postfeistr Llandeilo am un mlynedd ar ddeg cyn ymddeol yn 1983 fel postfeistr swyddogol olaf Llandeilo.

Roedd fy nhad, Glyn Postman fel y'i gelwid, wedi dechrau ei wasanaeth i'r Swyddfa Bost ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon. Ei swydd gyntaf oedd dosbarthu llythyrau a pharseli yn ardal Pandy Tudur, ger Abergele, gan gerdded yno bob bore, dosbarthu yn yr ardal ac yna aros mewn sied o eiddo'r Swyddfa Bost tan hwyr y pnawn. Yna casglai'r llythyrau o Swyddfa Bost Pandy Tudur, casglu o flychau postio'r ardal ac yna dychwelyd ar droed yn ôl i Lanrwst gan gyrraedd am saith o'r gloch yr hwyr.

Daeth yn ffrindiau â gŵr dall o Bandy Tudur o'r enw John Massey a phan oedd yn adeg casglu afalau yn ei berllan byddai John Massey yn gofyn i fy nhad eu casglu iddo. Tra byddai fy nhad yn casglu'r afalau ar ben yr ysgol fe fyddai John Massey yn fwy siaradus nag arfer a gofynnodd fy nhad iddo pam roedd o mor siaradus ac fe atebodd yntau, 'Rwy'n gwybod nad wyt yn bwyta'r 'fala'.

Bu fy nhad yn dosbarthu llythyrau yn ardaloedd Melin-y-­coed a Nant-y-rhiw (ar gyffiniau Mynydd Hiraethog) a Nant-­bwlch-yr-heyrn. Cerddai ddeuddeng milltir y dydd ac yn ystod y pumdegau doedd ei gyflog ond £2.10s. am 48 o oriau'r wythnos.

Byddai fy nhad, yng nghwmni postmon arall, yn cyfarfod trên pump o'r gloch y bore o Gyffordd Llandudno i gasglu'r bagiau llythyrau a pharseli gan eu gosod ar dryc dwy olwyn ac yna eu cludo i swyddfa ddidoli'r Swyddfa Bost. Yna byddai'r postmyn i gyd yn eu didoli i wahanol adrannau o'r ardal.

Roedd fy nhad yn aelod o Gôr Meibion Llanrwst ac yn canu second tenor. Doedd ryfedd ei fod yn canu ar ei ffordd i'w waith, ar blatfform y stesion ac ar ei deithiau.

Pob mis Mawrth byddai'n dewis un ffermwr y flwyddyn ac yna'n dynwared y gog. Byddai'r ffermwr yn ysu i weld Glyn y bore hwnnw i ddweud ei fod wedi clywed y gwcw ym mis Mawrth o bob mis.

Roedd y postmon yn cael dwy siwt swyddogol y flwyddyn ynghyd â mantell i gadw'i hunan a'r llythyrau'n sych. Byddent hefyd yn cael côt fawr ynghyd â chwiban a ddefnyddid i roi arwydd i'r fferm fod y postmon yn agosáu. Siwt swyddogol glas tywyll fyddai'r dillad gyda rhimyn coch ar ymylon y siaced a'r gôt fawr ac i lawr ochrau'r trowsus. Roedd yr het yn un anarferol gyda cantal 'nôl a blaen — fel a welir yn y llun.
Glyn Davies yn 1922

 

Arferai'r postmyn gael caniatâd y ffermwyr i gael croesi eu tir. Byddai hynny'n rhoi amser i'r postmon gael dweud am ddigwyddiadau'r dref tra'n cael lluniaeth. Arferai un fferm ym mhob ardal fabwysiadu'r postmon a byddai brecwast o facwn cartref, wy, menyn ffres a bara cartre yn ei aros bob bore.

Adeg y Nadolig byddai'r ffermwyr yn hael iawn gyda'u anrhegion Nadolig a byddai pocedi'r postmyn yn llawn o arian!

Arferai'r postmon alw, 'Oes 'ma bobol', yn hytrach na rhoi cnoc ar y drws, a byddai'r lleisiau oddi mewn yn ateb mewn un llais, 'Dowch i mewn, postman'.

Bûm yn gweithio am ugain mlynedd ar y cownter yn Llanrwst a golygai hynny weithio rhai oriau yn y swyddfa ddidoli a hynny am 13/6 yr wythnos am 48 o oriau. Dechreuwn am bump y bore tan hanner awr wedi hanner dydd bob yn ail ddiwrnod, a hanner awr wedi hanner dydd tan hanner awr wedi wyth y nos. Byddai'r clercod a'r postmyn yn gweithio diwrnod Dolig hefyd.

Cefais fy nyrchafu'n Bostfeistr yn Nolgellau yn 1960 a dyrchafiad arall i Landeilo yn 1971 ac yno y bûm hyd 1983 cyn ymddeol fel y Postfeistr Swyddogol olaf yn Llandeilo. Roeddwn wedi gwasanaethu am 43 o flynyddoedd i'r Swyddfa Bost.
Marshal Davies ac Eric Walker yn Nolgellau

 

Er mai arlunydd yw Paul yn wreiddiol, dechreuodd ar ei waith fel postmon yn Swyddfa Bost Llandeilo yn 1983 gan ei fod yn hoffi'r awyr agored yn hytrach na gweithio dan do. Wrth gwrs cerbydau sydd gan y postmyn rŵan.
Paul Davies

 

Rhaid crybwyll fod y cysylltiad rhwng y ffermwyr a'r postmyn wedi newid oherwydd yr 'amser a mosiwn', gan nad oes gan y postmyn amser bellach i sgwrsio. Yn yr hen ddyddiau roedd postmon cystal â bod yn aelod o'r teulu i bawb yn y wlad.

Mae gwahaniaeth mawr rhwng doe a heddiw.