ANRHEGU CYN-OLYGYDD Y CASGLWR
Cynhaliwyd cyfarfod i anrhegu John Roberts Williams am ei wasanaeth i gylchgrawn Y Casglwr yn Amgueddfa Celtica, Machynlleth, ddydd Sadwrn, 16 Mai eleni, a hynny'n gwbl annisgwyl iddo!
|
Comisiynodd Cymdeithas Bob Owen arlunydd o Lanbedrog, Berwyn Jones, i wneud torlun pren o un o'i hoff lecynnau, sef Ffynnon Gybi yn Eifionydd. Mae'r llun o'i ffynnon mewn pum lliw ac ar bapur o waith llaw. Yn Llangybi y magwyd John Robert Williams. Bu'n olygydd Y Casglwr am un mlynedd a bymtheg o adeg ei sefydlu yn 1976 hyd at 1992. Cynhyrchodd 48 o rifynnau hynod ddiddorol. Fel y dywedodd cadeirydd y cyfarfod, Dr Brynley Roberts mae ôl ei ddawn newyddiadurol yn amlwg iawn wrth fodio trwy'r rhifynnau hyn. |
Cyflwynwyd y darlun iddo gan ei gyfaill Dr Meredydd Evans, ac, fel y byddech yn disgwyl, cafwyd anerchiad difyr dros ben ganddo. Roedd y gynulleidfa wrth ei boddau gyda rhai o enghreifftiau Merêd o ddoniolwch 'cwbl unigryw' John Roberts Williams yn ogystal â'i safbwyntiau cryfion ar bynciau amrywiol. Cafwyd tystiolaeth o'r doniolwch a'r dawn dweud hynny yn ei ymateb i sylwadau Meredydd Evans amdano. Mae'n siŵr y bydd y rhai a oedd yn bresennol yn cofio tynged y creadur hwnnw ddigwyddodd sarhau hen genedl y Cymry yng ngwydd Meredydd Evans am sawl blwyddyn i ddod. I'r rhai nad oeddynt yno, roedd 'Young Conservatives', estyniad bar, par o ddyrnau a soffa yn elfennau pwysig iawn yn y stori. Fe adawaf y gweddill i'ch dychymyg! |
Roedd y cyfarfod yma'n rhan o weithgarwch ehangach yn Celtica, sef Ysgol Undydd ar y cyd rhwng Cymdeithas Bob Owen ac Adran Ethnoleg Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Dyma'r eildro i'r ddwy gymdeithas gydweithio, ac unwaith eto bu'n llwyddiannus dros ben. Themâu'r diwrnod oedd diwylliant gwerin a hanes Bro Ddyfi a'r cyffiniau. Cafwyd darlithoedd sylweddol am draddodiad y blygain (D. Roy Saer), Gwylliaid Cochion Mawddwy (Yr Athro J. Gwynfor Jones) a hanes teulu Thomas Richards, Darowen (Mari Ellis).
Roedd Amgueddfa Celtica, Y Plas, Machynlleth yn fan delfrydol i gynnal y math hwn o weithgarwch, yn enwedig ar ddiwrnod braf o wanwyn. Cynhaliwyd y darlithoedd mewn stafell gyfforddus o fewn y prif adeilad, ac roedd cael caffi ar y safle ar gyfer bwydo mynychwyr y cyfarfod yn hwyluso gweithgareddau'r dydd.
Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod. Ond mae'r diolch mwyaf i John Roberts Williams am ei gymwynas fawr i'r Casglwr a Chymdeithas Bob Owen.