LLUNIAU O ARMENIA, CAERGYBI - pwy all helpu?
gan Robyn Williams

PRIN fod yna gapel gydag enw mor anghyffredin ag Armenia, Caergybi. Safai'r eglwys yn ardal glan y môr o'r dref a bu'n tystiolaethu o 1861 hyd Sul y Blodau 1997 pan unwyd yr eglwys gyda'r fam eglwys yn Hyfrydle.

Mae hanes dechreuad yr Achos yn mynd yn ôl i 1854 pan oedd Caergybi yn mwynhau cyfnod llewyrchus yn dilyn adeiladu'r morglawdd a dyfodiad y rheilffordd. Roedd angen gwarchod moesau trigolion yr ardal ac aethpwyd ati i gynnal ysgoldy ym Mhonc yr Efail. Bu'r fenter yn llwyddiannus a bu'n rhaid ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer y trigolion. Sefydlwyd yr Achos yn Armenia yn 1861, ond bu Ponc yr Efail yn parhau fel ysgoldy hefyd am dros ganrif.

Paham Armenia? Roedd un o flaenoriaid yr eglwys, Edward Parry, yn ymwybodol fod y wlad a enwir Armenia yn wlad ffrwythlon gyda dau gnwd ym mhob tymor ac fe fynegwyd y gobaith y byddai'r eglwys yr un mor ffrwythlon.

Yn y dyddiau cynnar fe safai'r eglwys mewn rhan lewyrchus o'r dref a bu cysylltiad agos gyda'r byd morwrol a marsiandwyr y dref. Ymhen ychydig mabwys­iadwyd llysenw hoffus ar y capel, 'Y Capel Sidan' oherwydd fod sŵn sgertiau'r merched yn y capel yn sisial wrth iddynt gerdded i'w seddau.

Gyda hynny o ymadrodd carwn ofyn am gymorth oddiwrth ddarllenwyr Y Casglwr. Wrth i ni hel y gwahanol gelfi at ei gilydd, cawsom hyd i rai lluniau na welsant olau dydd ers rhai blynyddoedd. Tybed oes rhywun all ein helpu i adnabod y cymeriadau yn y lluniau?

Ymhlith y 'trysorau' a ddaeth i'r golwg gwelir hefyd daflen cyhoeddiadau cyntaf yr eglwys a rhestr o enwau y rhai a gyfrannodd tuag at y llestri Cymun yn 1868. Defnyddiwyd rhai o'r llestri yn y gwasanaeth olaf.

Cliciwch ar y daflen i'w gweld yn ei llawn maint

Bwriedir anfon dogfennau a lluniau perthnasol i’r eglwys i'r Archifdy. Mi fyddai'n braf cael gwybod pwy oedd y cymeriadau a ddaeth i'r golwg.