GWYDDONWYR O FRI gan Mel Williams

ERS llawer blwyddyn bellach, mae casglu hanes pobol sydd wedi bod yn cynrychioli Cymru mewn rhyw fodd neu'i gilydd wedi bod yn ddiddordeb mawr gen i. Gan mai gwyddoniaeth yw fy maes yn naturiol ddigon bu'n rhaid chwilota'n galed i ddilyn hynt a helynt y gwyddonwyr o Gymry a gyfrannodd i'r byd gwyddonol.

Dro yn ôl, a minnau ar wyliau yn yr Alban, deuthum ar draws pren mesur yn y siopau mân addurniadau. Does dim byd yn arbennig yn hynny, medde chi, ond wedi'i ysgrifennu arno roedd enwau'r dyfeiswyr a'r gwyddon­wyr o Albanwyr a oedd wedi cyfrannu at wella ein byd megis Telford, Fleming, Stevenson, Mcadam, ac ati. Rhaid imi gyfaddef bod yr Albanwyr bob amser yn ymhyfrydu yn eu gwŷr doeth. Ychydig iawn o wthio sy'n digwydd yng Nghymru. Efallai gyda dyfodiad y Cynulliad y bydd tro ar fyd. Gawn ni weld.

Serch hynny, mae yna wyddonwyr o Gymry wedi cyfrannu llawer, er nad yw eu henwau yn wybyddus i ni. Dyna pam y bum i'n casglu lluniau o'r enwogion, llun eu cartre, llungopi o wyneb-ddalen cyfrol a ysgrifennwyd ganddynt ac yn aml llun y garreg fedd i weld pa iaith sydd arni.

Does dim rhaid ichi fynd ymhell i ddod ar draws cartref un ohonynt. Beth am i mi fynd am dro ar hyd ac ar led Cymru er mwyn enwi rhai o'r enwogion. Does dim gwell lle i mi, mae'n debyg, na dechrau wrth fy nhraed, sef yn Y Bala. Faint ohonoch sy'n mwynhau gwrando ar y radio? Mae'r synau, fel y gwyddoch, yn cael eu codi yn y stiwdio gan offeryn o'r enw y meicroffon. Rydym yn ddyledus i David Edward Hughes am y ddyfais hon a hynny yn 1879. Ganed David Edward Hughes yn Llundain ar 16 Medi 1831. Roedd ei dad, David Hughes, yn fab i Robert Hughes, crydd o'r Bala ac roedd ei fam hefyd o'r Bala.

Yng Nghorwen y ganwyd Edward Edwards, a hynny yn 1803. Dyfeisiodd ef acwariwm arbennig a fyddai’n cadw pysgod yn fyw ac iach. Roedd y ddyfais mor llwyddiannus fel y'i mabwysiadwyd gan brif amgueddfeydd Prydain, yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Yn fferm Llewenni, ger Dinbych y ganwyd Robert Griffith. Ef a ddyfeisiodd y nyten hecsagon, brws gwallt trydan i rwystro'r gwallt rhag gwynnu, peiriant rifetio, peiriant llifanu (grinding) gwydr, a'r propeler sgriw i yrru llongau. Cafodd y propeler a ddyfeisiodd Robert Griffith ei ddefnyddio gan y Llynges.

Pwy ohonoch chi sydd wedi clywed am y Trypanosoma lewisi? Anifail ydyw sy'n rhy fach i'w weld â'r llygad noeth. Perthyn i'r Trypanosoma sy'n achosi'r clefyd cwsg yn y trofannau. Gwyddonydd o'r enw Timothy Richards Lewis a ddarganfu'r anifail yma mewn gwaed llygod mawr a chan mai ef oedd y cyntaf i ddod ar ei draws, cafodd ei enwi ar ei ôl. Ganwyd Timothy Richards Lewis yn Yr Hafod, sydd tua milltir a hanner o Hendy-gwyn­ar-daf. Magwyd ef, fodd bynnag, ym mhlwyf Crinow, Sir Benfro, ar ôl i'w deulu symud yno.

Mae'n ymddangos fod yna newid ar droed ym myd y peiriant petrol, sef y peiriant tanio o'r tu mewn. Yn ôl y broliant bydd y car hwn yn achub y byd. Seilir hyn ar y gwaith ar y gell danwydd sy'n cael ei gynnal yn yr Unol Daleithiau. Dyfais yw'r gell danwydd sy'n galluogi tanwydd - megis hydrogen, petrol, weithiau methanol, ethanol neu nwy naturiol - gael ei drawsnewid i drydan yn gemegol ac yna'i storio. Nid yw'r broses yn cynnwys llosgiad, a dŵr yw ei brif sgil gynnyrch. Felly, mae'n lân iawn. Lleiheir mwg i tua 90% o'i gymharu â cheir confensiynol.

Dyfeisiwyd y celloedd tanwydd yn 1839 gan Gymro o'r enw Syr William Grove a anwyd yn Abertawe. Y celloedd hyn sydd wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu trydan ar ffwrdd y probau gofod megis Gemini ac Apolo.

Mae'r lliwurau (dyes) wedi bod yn bwysig ym mywydau pobl ers cyn cof. Defnyddiai'r dyn cyntefig liwurau ar ei groen i ddychryn ei elynion. Yn ddiweddarach dysgodd sut i lifo dillad. Un o'r problemau wrth ddefnyddio lliwurau i lifo dillad, hyd at drigain mlynedd yn ôl, oedd bod dillad yn colli eu lliw, yn enwedig yng ngolau'r haul. Erbyn dechrau'r ganrif roedd lliwurau yn cael eu gwneud o dar glo. Er bod gwledydd Prydain yn cynhyrchu mwy na neb o dar glo, prin oedd ein cyfraniad yn y maes hwn a mewnforwyd y lliwurau o'r Almaen. Daeth pen ar hyn pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe aeth John Morton o Gaerliwelydd ati i geisio gwella'r sefyllfa.

Ymunodd Cymro o'r enw John Thomas â’r cwmni yn 1918 a fo oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddo i ddatblygu lliwiau newydd, llachar nad oedd yn pylu yng ngoleuni'r haul.

 

Gyda dyfodiad y diwydiant sidan roedd angen lliwurau arbennig. Llwyddodd John Thomas i ddatblygu lliwurau addas a chysylltir ei enw â glas a gwyrdd Caledon. Nid oedd golchi na golau'r haul yn effeithio ar y lliwur hwn. Cafodd John Thomas ei eni yn Nhrelogan, Sir y Fflint, ond symudodd y teulu i Harlech pan oedd John yn ifanc iawn.

Gwyddonydd a ddyfeisiodd sblintiau ar gyfer toriadau'r clun a'r aelodau oedd Huw Owen Thomas. Fe'u hadnabyddir heddiw fel sblintiau Thomas. Ganwyd Owen Thomas ym Modedern, Sir Fôn ar 23 Awst 1834. Ef yw'r arloeswr a sefydlodd egwyddorion sylfaenol llawfeddygaeth orthopedig.

 

Gwyddonydd arall a anwyd ym Modedern oedd Syr William Roberts, a hynny yn 1830. Bu'n byw am dros chwarter canrif ym Mhlas y Bryn, Llanymawddwy. Dyma wyddonydd arall a etholwyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Darganfu effaith y ffwng o rywogaeth Penicillium ar facteria hanner can mlynedd cyn gwaith Fleming.

 

Er y ganwyd Huw Morrison Davies yn Huntingdon fe ddaeth yn enwog iawn ym myd afiechydon y frest. Ef oedd y cyntaf i ysgrifennu gwerslyfr yn Saesneg ar anhwylderau'r frest o dan y teitl Diseases of the Thoracs.

Daeth yn adnabyddus yn y gogledd pan gymerodd drosodd Iechydfa Llanbedr, ger Rhuthun.

 

Dyna gipolwg brysiog ar rai o'n gwŷr doeth. Gadewch imi wybod os oes rhai â chysylltiad a'ch ardaloedd chi.