CASGLU ANEURIN BEVAN gan D.Ben Rees

 

UN o fy arwyr cynnar oedd Nye Bevan, y sosialydd carismatig, a wnaeth waith anhygoel yn y llywodraeth Lafur (1945-50) ac a osododd seiliau y Wladwriaeth Les. Ganwyd ef ar 15 Tachwedd 1897, a chwithig oedd sylweddoli mai ychydig iawn o ddathlu a fu y tu allan i'w filltir sgwâr yn Nhredegar a Blaenau Gwent. Bu'n Aelod Seneddol Glyn Ebwy o 1929 hyd 1960 a bu ei farw cynamserol yn ergyd i lu ohonom oedd yn fyfyrwyr coleg y dwthwn hwnnw.

Penderfynais fynd ati yn ddiymdroi i gychwyn cylchgrawn i goffáu Aneurin. Roedd nifer o rai eraill yn Aberystwyth yn barod iawn i roddi help llaw i'r fenter, a daeth fy ffrind mawr o Rosllannerchrugog, Arfon R. Jones yn gyd-olygydd.

Y gamp fawr oedd cael cyfranwyr adnabyddus a chylchrediad teilwng. Nid oedd problem ar fater yr erthyglau. Meddai Arfon ar gryn ddawn ei hun ac yr oeddem yn ddigon ffyddiog i fentro gwahodd ysgrifenwyr profiadol fel Huw T. Edwards, John Morgan, yr Athronydd Anthony Flew, heblaw ffrindiau Arfon a minnau. Cofiaf imi gael cyfweliad â T. E. Nicolas (Niclas y Glais) gan ein bod yn bennaf ffrindiau a galwn arno bron yn feunyddiol a chael llond tŷ o groeso. Ar fater y cylchrediad, gwyddwn y medrwn ddibynnu ar rai o'r Undebau Llafur, fel Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth gan fod Huw T. Edwards, Tom Jones, Shotton (un arall o fechgyn y Rhos) a Ron Mathias yn gefnogol. Roedd gan Cliff Protheroe ddigon o raslonrwydd i sylweddoli fod y fenter yn werth cefnogaeth ac anfonem barsel da o Aneurin ar gyfer y Blaid Lafur Cymreig. Yn y wlad roedd ambell Lafurwr yn barod i roddi help llaw, fel Owen Edwards, prifathro Betws Gwerful Goch. Roedd hyn oll yn golygu ein bod bron mewn sefyllfa i dalu'r anfoneb am yr argraffu, a'r unig ffordd i werthu mwy oedd cerdded strydoedd Aberystwyth gyda chyflenwad o'r cylchgronau. Gwthiai Arfon y pram yn llwythog o Aneurin a safem mewn mannau allweddol ar hyd a lled y dref. Sefais droeon am awr neu ddwy o flaen gorsaf reilffordd Aberystwyth i werthu'r cylchgrawn.

Cyhoeddwyd pedwar rhifyn o Aneurin a gwerthwyd pob copi ohonynt. Erbyn hyn y mae'n gwbl amhosibl i gael y pedwar rhifyn gyda'i gilydd, ac os oes gan rywun set gyflawn fe all ofyn £25 amdanynt. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol set gyflawn ond wn i am neb arall, ar wahân i mi.

Dyna ddechrau casglu Aneurin Bevan. Yr oedd yn fy meddiant, cyn marw Bevan, gyfrol o waith Americanwr, V. Brome, a gyhoeddwyd yn 1957 gyda'r teitl Aneurin Bevan. Ni welais gopi arall o'r gyfrol hon mewn unrhyw siop ail-law. Gwelais mewn catalog ddeng mlynedd yn ôl y gyfrol ar werth am £10 yr adeg honno. Heddiw, o leiaf £15 yw'r pris. Yna, yn 1962, daeth cyfrol gyntaf cofiant godidog i Bevan allan o law olynydd iddo fel Aelod Seneddol Glyn Ebwy. Mae gan Michael Foot allu anghyffredin fel llenor. Ar un olwg trueni iddo erioed fynd yn Aelod Seneddol gan inni golli clamp o sgrifennwr. Bu'n rhaid aros blynyddoedd am yr ail gyfrol ond fe'i cyhoeddwyd yn 1975. Bellach fe gyhoeddwyd argraffiad newydd gan Blackwell, Rhydychen yn 1997. Fel y gellir disgwyl, cofiant canmoliaethus yw cofiant Michael Foot. Mae angen cofiannau felly. Sylwaf fod y ddwy gyfrol yn gwerthu yn ail-law am yr un pris â'r argraffiad newydd, sef pum punt ar hugain.

Cafwyd cofiant beirniadol dros ben gan John Campbell, Nye Bevan and the Mirage of British Socialism yn 1987. Y mae iddo le pwysig i unrhyw gasglwr ar Bevan gan fod Campbell yn dinoethi ein harwr. Mae ganddo resymau da weithiau, dro arall mae'n well gen i dderbyn dehongliad Foot o'r hanes.

Mae'n resyn na chafwyd cofiant Cymraeg iddo hyd yn hyn a dim ond dau Gymro a aeth ati i'w dafoli. Y cyntaf yw Dr Kenneth O. Morgan mewn darlith a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol. Yr hyn a wna Dr Morgan yw cymharu cyfraniad Bevan gyda'i gyfoeswr James Griffiths. Un arall a luniodd bennod arno yw'r hanesydd Dai Smith.

Ond i gasglu llyfrau ar Bevan mae'n rhaid cofio cyfraniad ei briod, Jennie Lee, ac mae tair cyfrol o'i heiddo yn fy meddiant. Y gyfrol sy'n denu rhywun i'w darllen yn gyson yw'r gyfrol gyntaf o hunangofiant, This Great Journey: a volume of autobiography, 1904-45, a'r cyhoeddwyr yw Macgibbon & Kee, Llundain. Cyhoeddwyd y gwaith yn 1963 gyda rhagarweiniad o eiddo Benn Levy, ffrind cywir i Aneurin a Jennie. Costiodd y gyfrol hon ddeg swllt ar hugain imi yn 1964 ond erbyn heddiw mae'n werth deg punt ar hugain. Cyfrol brin odiaeth yw Russia our Ally (1941) sy'n werth £20 erbyn hyn. Mae'r drydedd gyfrol My Life with Nye, a gyhoeddwyd gan Jonathan Cape yn 1980 am £8.50, yn awr yn gwerthu am £20.

Ym mis Tachwedd 1997 cyhoeddwyd cofiant Jennie Lee gan Wasg Prifysgol Rhydychen a'r teitl llawn yw Jennie Lee: a life, gan Patricia Hollis. Yn ôl Anthony Howard (Sunday Times, 30 Tachwedd 1997) dyma gofiant gwleidyddol gorau'r flwyddyn. Canmoliaeth arbennig gan arbenigwr yn y maes. Cost y gyfrol yw £25 a fydd yn werth £40. Dyna'r pris a delais am gerflun pres o Aneurin Bevan a baratowyd ar gyfer dathlu canmlwyddiant ei eni. Copi ydyw o'r gofeb iddo yng Nghaerdydd.

Mae gennyf yr unig gyfrol o waith Bevan, In Place of Fear, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1952. Trueni na fyddai wedi cyhoeddi mwy. Mae'n hen bryd cael casgliad o'i anerchiadau. Archebais, am £10, gyfrol H. Pelling (a fu farw'n ddiweddar), America and the British Left, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1957.

Gallaf eich sicrhau na chyhoeddir dim am Aneurin Bevan na fyddaf yn barod iawn i'w brynu. Pan ddaw'r cofiant Cymraeg fe brynaf gopïau i weddill y teulu hefyd! Felly, brysied Prifysgol Cymru i gyflawni'r gymwynas.