CADW, NID CNOI BACO gan Huw Ethall
William Ambrose (Emrys) |
AR ÔL darllen ysgrif hynod ddiddorol W. Alun Mathias yn y rhifyn diwethaf o'r Casglwr — 'Cnoi Baco' — aeth fy meddwl yn ôl at Sul yn y chwedegau a minnau yn gwasanaethu yn eglwys Salem, Bae Colwyn. Ysgrifennydd yr eglwys bryd hynny oedd Dr Pari Huws a oedd yn gymaint o fardd ag o feddyg yn ôl ei gyfeillion. Treuliwn y Sul ar ei aelwyd ac ar ôl cinio dangosodd lestr, tebyg i lestr dal blodau, i mi. 'Darllenwch y geiriau sydd arno,' meddai. Minnau'n darllen:
- Cell myglys Emrys yw hon — roid i’r gŵr
Drwy gariad cyfeillion:
Yn hir y bo'r llenor llon
Yn byw'n deg uwch ben digon.
Llestr i gadw baco Emrys, y Parchg William Ambrose (1813-73) oedd y llestr.
Roeddwn yn weinidog yn eglwys Salem, Porthmadog ar y pryd, lle bu Emrys yn weinidog o 1836 hyd 1873. Gŵyr y cyfarwydd i'r Capel Coffa, Porthmadog gael ei godi er cof am y gŵr mawr hwnnw a thristwch oedd gweld y capel hardd yn cael ei dynnu i lawr oherwydd perygl i'r cyhoedd. Ond erys y capel llai, Y Capel Coffa, o hyd i gofio'r gweinidog a'r bardd enwog.
Ar ôl darllen yr englyn ar y llestr sylweddolwn ei fod yn dweud o leiaf dri pheth am Emrys — ei fod yn smociwr (i ble'r aeth y gair 'myglys' tybed?), ei fod yn gymeriad llon (beth bynnag a ddywedodd ei farnwyr) a'i fod yn boblogaidd ymhlith ei gyfeillion. Ni ddywedir ei fod yn cnoi baco fodd bynnag.
Yn y sgwrs wedyn mentrais ddweud wrth Dr Pari Huws: 'Yn Port y dylai hwn fod'. Gwenu yn unig a wnaeth.
Ond ganol yr wythnos wedyn, pwy a ymddangosodd wrth ddrws ein tŷ ym Mhorthmadog ond Dr Pari Huws — a 'cell myglys Emrys' yn ei law. 'Ie — yn Port y dylai hwn fod,' meddai a gwên braf ar ei wyneb.
Pan ymadawsom fel teulu â Phorthmadog yn 1964, rhoddais y llestr yng ngofal y Parchg Trebor Roberts, gweinidog Y Capel Coffa ar y pryd ac a oedd yn fardd o'r iawn ryw ei hun. Colled fawr fu ei farw yn 1985. Wrth roi 'cell myglys Emrys' i'w ofal, cofiaf iddo ddangos y trywel arian a ddefnyddiodd Henry Richard, 'Apostol Heddwch' wrth osod carreg sylfaen Y Capel Coffa gwreiddiol ar 20 Awst 1877 a thraddodi anerchiad ar yr achlysur ar 'Gweithrediad yr Egwyddor Wirfoddol'. Ond stori arall yw honno.
Mae'n siŵr fod y ddau ddarn hanesyddol ar gael o hyd.