Y DDOLEN GYSWLLT gan Donald Treharne

PAN fo casglwr yn breuddwydio mae'n breuddwydio am ddarganfod rhywbeth prin. Yn anaml iawn y gwireddir hyn tu allan i'w freuddwydion. Serch hynny, dyna ddigwyddodd i mi ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae'r digwyddiad a'r cyd­-ddigwyddiadau yn ddigon diddorol i'w croniclo.

Buom mewn Ffair Hen Bethau yn Llanelwedd gyda ffrindiau. Bach iawn oedd yn y Ffair o ddiddordeb i'r un ohonom er inni dreulio prynhawn digon difyr yn chwilmantan yn y stondinau. Ar y ffordd yn ôl i Bontarddulais gwelsom siop hen bethau wrth fynd trwy dref Llanwrtyd. Erbyn hyn fe fyddech yn meddwl y byddem wedi cael digon o lygadu'r anniddorol ond nid yw llygaid y gwir gasglwr byth yn cau! I fod yn onest nid oedd llawer o ddiddordeb yn y siop. Sylwais ar gwpan a soser — y cwpan heb ddolen. Yn amlwg' 'roeddynt yn hen ac ar y soser yr oedd marc clir nad oeddwn yn adnabod ar y pryd. Rhoddais hwy o'r neilltu gan roi mwy o sylw i ddau blât a wnaethpwyd ym Mryste. Mae'r tebygrwydd rhwng peth o grochenwaith Bryste o ddechrau'r ganrif yma a'r hyn a gynhyrchwyd yn Llanelli tua'r un cyfnod yn faes diddorol iawn ond stori arall yw honno.

Prynais y ddau blât ac wrth dalu, meddai perchennog y siop wrthyf, 'Gan eich bod wedi dangos diddordeb yn y cwpan a'r soser fe'u cewch am ddim am brynu'r platiau.' Paciwyd y cyfan ac yn ôl â ni i Bontarddulais. Minnau'n rhyw dybio 'mod i wedi talu gormod am y platiau os oedd y cwpan a'r soser yn dod am ddim!

   

Daeth amser yn nes ymlaen i fynd ar drywydd y marc ar y soser. Tybiais mai llyfr enwog E. Morton Nance ar grochenwaith Abertawe fyddai'r cydymaith gorau¹. Y gwir a dybiais, ar dudalen 214 o'r llyfr dywed, 'Other patterns bearing special marks are as follows: (1) the " Campania ". Orientalized scenery (a man on an elephant with a parasol, etc.) which in addition to the impressed part-circle mark usually has a mark in transfer " Campania" (in script) over B B & Co, within scroll-work and foliage. The damaged example I have has an unusual additional mark, an impressed crown. The design is in green transfer.' Mae'r patrwm ar fy soser mewn troslun gwyrdd hefyd ac fel y dengys y llun mae'r marc yn hynod o debyg i ddisgrifiad Nance. Y gair 'Campania' mewn cartouche deiliog yn dwyn y llythrennau 'B B & Co.' Ymddengys gwasgfarc y goron sy'n anarferol, yn ôl Nance, yng nghanol y soser.

Gwnaethpwyd y cwpan a'r soser, felly, yng nghrochendy Morgannwg gan B B & Co. — Baker Bevans and Company. Fel arfer defnyddid y llythrennau cyntaf B B & I ar grochenwaith Morgannwg — Baker Bevans & Irwin. Neilltuwyd y ffurf fer B B & Co. i'r patrwm 'Campania'. Mae'n ddiddorol sylwi bod 'damaged example' Nance yn awr yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Prin iawn yw enghreifftiau o'r patrwm yma o Grochendy Morgannwg. Gwelir yn yr Amgueddfa enghreifftiau eraill o'r patrwm ond rhai sy'n deillio o grochendy arall ydynt. O waith y Cambrian y daethant, crochendy a sefydlwyd yn 1764 gan William Coles o Gastell Nedd yn y rhan hynny o Abertawe a elwir y 'Strand'. Hwn oedd y crochendy pwysicaf yn Abertawe a gyda'r gwaith cysylltir enw teulu Dillwyn a'r enwog Billingsley.

Hyd yn ddiweddar iawn nid oedd llawer o gyfeiriadau printiedig at waith nac ychwaith at gynnyrch Crochendy Morgannwg. Ar y pryd roeddwn yn gwybod am gynlluniau Helen Hallesey yn Abertawe i gyhoeddi llyfr i unioni'r cam. Gan wybod bellach bod rhywfaint o arbenigrwydd yn perthyn i'r 'Campania' gofynnais iddi a oeddynt o ddiddordeb. Dywedodd y byddai'n falch iawn petai'n gallu tynnu llun ohonynt a'i gynnwys yn y llyfr. Llun o gwpan a soser, y cwpan heb ddolen, cofiwch. Cytunais i roi benthyg y llestri iddi er mwyn cyflawni hyn.

Pan oedd y llestri yn ei gofal cofiodd am focs o fan bethau a brynwyd ganddi mewn arwerthiant yn Llandeilo flynyddoedd ynghynt. Ymhlith y trugareddau 'roedd amryw o hen ddolenni ac yn eu plith 'roedd un a ymdebygai i'm cwpan. Gosododd y ddolen yn ôl ar y cwpan a gwelodd nad oedd amheuaeth mai'r ddolen wreiddiol oedd hi. Nid yw'n bosib asio dau ddarn toredig yn gymwys os nad ydynt yn ddarnau a oedd yn wreiddiol yn un llestr. Ni cheisiwyd atgyweirio'n broffesiynol dim ond gosod y ddolen ar y cwpan A glud dros-dro er mwyn tynnu'u llun i'w arddangos yn y llyfr.

Erbyn heddiw cyhoeddwyd y llyfr gan Wasg Gomer² ac mae'n cynnwys gwybodaeth newydd am hanes a chynnyrch y crochendy. Brithir y tudalennau â lluniau clir, safonol sy'n ychwanegu at ein gwybodaeth ac yn bleser digamsyniol i'r llygad. Gwelir llun o'r cwpan a'r soser ar dudalen 66 o'r llyfr. Gwaetha'r modd llwyddodd yr argraffwyr i gamosod y disgrifiad ohono, ond un o ychydig bach iawn o feiau yn y llyfr yw hynny. Mae cyfeiriad at y marc ar dudalennau 74 a 75 ond nid yw'n sôn am wasgfarc y goron yng nghanol y soser.

Digwyddiad cyffrous oedd dod o hyd i esiampl prin o grochenwaith Cymreig er bod y cwpan heb ddolen. Ond, bobol bach, darganfod y ddolen wreiddiol! Mae'n gyd-­ddigwyddiad anhygoel.

Dolen gyswllt yn wir.