TOCYNNAU, OS GWELWCH YN DDA gan Richard E.Huws

DAETH rhediad llwyddiannus Clwb Pêl-droed Wrecsam yng nghwpan F.A. Lloegr yn ystod 1996-97, pan ddaethant o fewn dwy gêm i gyrraedd y Cup Final yn Wembley, ag atgofion am gamp clwb Abertawe ym 1964. Llwyddodd y Swans i fynd un cam ymhellach na Wrecsam cyn colli i Preston North End o 2-1 ar faes Villa Park, o flaen torf enfawr o 68,000. Ac fel y dywedodd Max Boyce, yng nghyd-destun pêl o siâp gwahanol, gallaf innau ymffrostio trwy ddweud, 'I was there!' Ac yn fwy na hynny, mae'r tocyn pinc pum swllt a ganiataodd i mi sefyll yn y glaw trwm ym mhen Witton Lane o'r maes yn dyst i'r digwyddiad hanesyddol hwn, yn dal yn fy meddiant. I gyrraedd y safle annisgwyl hwn yn y gystad­leuaeth, roedd Abertawe wedi brwydro'n ddewr. Trechwyd Barrow gartref yn y drydedd rownd, cyn llwyddo yn erbyn Sheffield United a Stoke City mewn gemau ailchwarae ar y Vetch.

Yn y chweched rownd curwyd Lerpwl yn Anfield ar eu tomen eu hunain mewn gêm a gofir oherwydd campau anhygoel gôl-geidwad lliwgar rhyngwladol o Wyddel Abertawe, Noel Dwyer. Ond yn eironig, Dwyer druan oedd ar fai am y gôl a fyddai'n sicrhau buddugoliaeth i Preston yn y rownd ganlynol, a thrwy hynny siomi'r 30,000 a deithiodd o Gymru i fyny'r M5 i Birmingham ar y diwrnod bythgofiadwy hwnnw ar 14 Mawrth 1964. Dyma'r pellaf i dîm o Gymru fynd yn y gystadleuaeth enwog hon, ers i Gaerdydd drechu Arsenal yn y rownd derfynol ym 1927, a thrwy hynny sicrhau'r unig dro i'r cwpan fynd allan o Loegr.

Yn wir, bu'r degawd hwn yn un arbennig o lwyddiannus i'r ddau dîm o Gymru, gan i Gaerdydd gyrraedd y pedwar olaf ym 1921, y rownd derfynol ym 1925, cyn colli i Sheffield United, a llwyddodd Abertawe foddi yn ymyl y lan drwy golli i Bolton yn rownd gynderfynol 1926, a hynny ar ôl trechu'r ffefrynnau, sef yr enwog Arsenal.

Oherwydd i olygydd newydd Y Casglwr ddigwydd sôn yn ei gyfweliad gyda'm cydweithiwr Huw Ceiriog yn rhifyn Gwanwyn 1997 ei fod yn awyddus i godi 'proffil y cylchgrawn a chael mwy o gyfranwyr sy'n hel mân betha', gwelais gyfle i sôn am fy nghasgliad bychan o docynnau, ac i geisio codi ymwybyddiaeth o werth y math yma o ddeunydd. Mae tocynnau yn perthyn i'r categori allweddol yna o effemera sy'n peri trafferth i sefydliadau megis llyfrgelloedd ac archifdai, ond sydd ar yr un pryd yn ddeunydd craidd pwysig i'r hanesydd, ac sy'n rhoi her i'r casglwr mwyaf brwd.

Erbyn heddiw mae'n edifar gennyf na fyddwn wedi cadw ambell docyn cyngerdd, rali, cyfarfod, neu noson lawen y bûm ynddynt, neu docynnau amryliw bysus Davies Bros, Blossom Garage, Pencader y teithiwn arnynt mor fynych fel plentyn ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au. Tybed a oes tocynnau Tribannau Pop y chwedegau ar gael? A oes tocynnau cyngherddau arloesol Triawd y Coleg, Dafydd Iwan, neu Ryan a Ronnie yn llechu ar waelod rhyw ddrôr yn y tŷ? Cofiaf fynychu un o gyngherddau cynharaf Mary Hopkin — ond nid yw'r tocyn yn dal yn fy meddiant.

Ond, mae effemera o'r math hwn yn gronicl pwysig o'n bywyd diwylliannol, ac ofnaf nad ydym efallai wedi rhoi, nac yn rhoi, sylw dyledus i'r cyfrwng hwn. Mae manion printiedig eraill fel matiau cwrw, bocsys matsys a phosteri wedi hen ennill eu plwyf erbyn hyn, ond ystyrir y tocyn druan o hyd fel rhywbeth cymharol ddibwys.

Ar ôl gwneud y pwynt gwleidyddol hwn, dyma sôn yn fyr am fy nghasgliad o docynnau, gan obeithio y bydd darllen amdanynt yn sbardun i eraill i gasglu yn yr un maes, a thrwy hynny ddiogelu rhywfaint mwy ohonynt. Ofnaf mai casgliad bychan iawn sydd gennyf, a'r eitemau mwyaf diddorol yn eu plith yw rhyw ddwsin o docynnau gemau pêl-droed, a'r rheini i gyd yn gemau cofiadwy am resymau gwahanol. Y cynharaf yw'r un uchod y cyfeiriais ato eisoes, ac un arall yn eu plith yw tocyn gêm allweddol ar Barc Ninian ym 1965, pan fu tîm y brifddinas yn ymrafael â'r enwog Real Zaragoza o Sbaen yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop o flaen torf o 42,000. Roedd disgwyl i Gaerdydd ennill y gêm hon ar ôl cymal cyntaf cyfartal o 2-2 yn Sbaen, ond colli o unig gôl y noson a wnaethpwyd er mawr siom i'w cefnogwyr.

Ymhlith y tocynnau eraill a drysoraf yw un Clwb Pêl-droed Caernarfon yn erbyn Stockport County yn rownd gyntaf Cwpan Lloegr ar 15 Tachwedd 1986 — gornest a enillwyd gan y Cofis ym mlwyddyn eu canmlwydd­iant gan esgor ar rediad cyffrous. Diddorol yw nodi nad oes gair o Gymraeg ar y tocyn! Daeth eu rhediad clodwiw i ben yn y drydedd rownd mewn gêm ailchwarae yn Barnsley.

Yn dilyn methiant Abertawe ym 1964 i gyrraedd Wembley, a'r siom a deimlais fel un o'u cefnogwyr mwyaf pybyr, mae'n naturiol fod lle anrhydeddus yn fy nghasgliad i docyn rownd derfynol yr Autoglass Trophy a gynhaliwyd yn y stadiwm enwog honno ar Ebrill 24ain, 1994. Trechwyd Huddersfield Town mewn gornest gyffrous a orffennodd mewn cystadleuaeth ciciau cosb, ac roedd hi'n dda bod ymhlith torf o 50,000 i dystio i'r digwyddiad. Dyna'r unig dro yn fy mywyd i mi deithio ar football special, ac roedd y profiad hwnnw, a rennais gydag wyth o'm cydweithwyr, yn un bythgofiadwy. Roedd y Jacks, chwarae teg iddynt, allan i fwynhau eu diwrnod, ac roedd eu hymddygiad trwy gydol y siwrnai hir o orsaf Abertawe i Wembley Park yn esiampl glodwiw i gefnogwyr eraill.

Wrth gloi, carwn gyfeirio at un tocyn arall yn y casgliad. Ychydig dros flwyddyn yn ôl cefais y fraint o fod yn bresennol ym Mharc Latham yn y Drenewydd i weld y tîm lleol yn ymrafael ag F.C. Skonto o Latfia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan UEFA. Roedd y maes wedi ei baratoi'n berffaith, a gosodwyd eisteddleoedd dros-dro i amgylchynu'r cae. Roedd hi'n noson hyfryd o haf, gyda thyrfa luosog iawn o bob oed wedi troi allan i gefnogi'r tîm lleol. Dyma beth oedd hysbyseb wirioneddol wych i Gynghrair Cymru ac i bêl-droed Ewropeaidd, ac er i'r Drenewydd golli o 1-4, aeth pawb adre'n fodlon wedi profi achlysur gwirioneddol hapus.

Yn bendant, mae'n werth cadw ambell docyn, er mwyn cofio nosweithiau tebyg. Ac efallai fod rhywfaint o werth ariannol i'r tocynnau hefyd. Yng nghatalog diweddaraf Cwmni Messengers, sy'n arbenigo mewn effemera, ac sy'n cynnal arwerthiannau drwy'r post, amcangyfrifir gwerth tocyn Cup Final 1927 yn £30!