SELIAU CYMRU gan Kathryn Pritchard Gibson

AR Fehefin 28,1283 bradychwyd encilfa gyfrinachol y Tywysog Dafydd ap Gruffudd a oedd wedi'i chuddio mewn cors wrth droed mynydd y Bera ar ochr ogleddol Eryri. Cipiwyd Dafydd a charcharwyd ef yn yr Amwythig lle y'i crogwyd a'i ddiberfeddu a'i chwarteru yn gyhoeddus o flaen y Groes Fawr. Casglodd Edward ei hun y teyrndlysau Cymreig a'r trysorau ysbrydol, gan gynnwys coron Arthur, mewn arwydd symbolaidd o goncwest, ac ymhen degawd wedyn gwnaeth yr un peth yn yr Alban. Aethpwyd â'r Groes Naid i Lundain a'i chludo hyd y strydoedd mewn gorymdaith a arweiniwyd gan y Brenin, ac yntau wedyn yn ei rhoi mewn lle amlwg yng Nghapel San Siôr yng Nghastell Windsor. Rhoddwyd gorchymyn i doddi matrices Sêl Gyfrin y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a'i wraig Eleanor a hefyd y Tywysog Dafydd, ac i ddefnyddio'r arian i wneud cwpan a gyflwynwyd wedyn gan Edward yn anrheg i Abaty Brenhinol y Cwm.

Er bod matricsau sêl y teulu brenhinol Cymreig wedi mynd, y mae nifer o ddogfennau yn perthyn i'r ddeuddegfed ganrif, a'r drydedd ganrif ar ddeg ar gael sydd ag argraff y sêl arnynt.

Yr oedd gan bob perchennog ei sêl ei hun, ac arni yr oedd manylion arbennig wedi'u selio, fel modd o rwystro unrhyw dwyll ar y ddogfen. Ffurfiwyd y sêl o gŵyr gwenyn â lliwiau cryf wedi'u hychwanegu atynt; gwyrdd oedd y lliw mwyaf cyffredin ar siartiau brenhinol, yn enwedig y rhai a gofnodai grantiau tir a ffafrau.

Weithiau yr oedd gan ddogfennau pwysig seliau tystion eraill arnynt. Yn 1272 pan seliodd y Tywysog Rhodri ap Gruffudd weithred ryddhau dros ei frawd y Tywysog Llywelyn, cynhwyswyd seliau esgobion Bangor a Llanelwy, abadau Aberconwy, Basingwerk ac Enlli, ac archddiaconiaid Bangor a Llanelwy `er diogelwch'.

 

Ar sêl fawr Llywelyn ab Iorwerth yr oedd llun o'r Tywysog ar gefn ceffyl, gan ddal yr awenau yn ei law chwith a chleddyf yn ei ddeheulaw. Ar y sêl gyfrin lai gwelwyd baedd o dan goeden. Yn 1222 pan briododd y Dywysoges Helen, ei ferch, John yr Albanwr, cefnder Brenin Alexander II o'r Alban ac etifedd Ranulf, Iarll Caer, seliodd Llywelyn ddogfen y briodas â'i sêl fawr ac yna argraffodd ei sêl gyfrin ar gefn honno i roi iddi fwy byth o ddilysrwydd.
Sêl fawr Llywelyn ab Iorwerth
Sêl gyfrin Llywelyn ab Iorwerth (1222)

Mae'n bosibl mai yn llythyrau John Pecham, Archesgob Caergaint, y teflir y goleuni mwyaf ar yr amgylchiadau amheus ynglŷn â marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ar Ragfyr 11, 1282, a'r dynion a gysylltir â'i farwolaeth.

Mewn llythyr a ysgrifennwyd o Pembridge chwe niwrnod wedi marwolaeth Tywysog Cymru, y mae Archesgob Pecham yn rhoi gwybod i'r Brenin Edward bod 'sêl gyfrin Llewelyn gan Edmund Mortimer'. Wrth i'r wybodaeth hon a darnau eraill o'r jig-so gael eu gosod wrth ei gilydd, teflir goleuni ar y digwyddiadau a newidiodd gwrs hanes y Gymru annibynnol.

Yn 1404 anfonwyd llysgenhadon gan Owain Glyndŵr at y Brenin Siarl VI o Ffrainc. Cedwir y ddogfen a gludwyd ganddynt yn yr Archives Nationales ym Mharis. Ar y sêl fawr gwelir llun o Owain ddi-goron â theyrnwialen yn ei law, a'r geiriau, 'Owynus . . . princeps wallie' (Owain . . . Tywysog Cymru).

Dwy ochr sêl fawr Owain Glyndŵr (1404)

Ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg dangoswyd diddordeb mawr yn natblygiad y seliau fel y deuai defnyddioldeb ohonynt yn fwy cyffredin. Cafwyd hyd i argraffiadau sêl Cymreig gan sigillograffwyr ar ddogfennau mewn archifdai gwahanol a cheisiwyd gwneud copïau neu gastiau o'r seli. Bu George Grant Francis, ysgrifennydd lleol Morgannwg o'r Gymdeithas Archaeolegol Cambrian, wrthi'n ddiwyd yn paratoi casgliad ohonynt i'w harddangos yn y Sefydliad Brenhinol yn Abertawe.

Erbyn 1858 dangoswyd casgliad Robert Ready o 271 enghraifft o gopïau o'r seliau Cymreig, a wnaethpwyd o lud arbennig o goed ym Malaysia (gutta-percha), yn Amguedd­feydd Abertawe a Chaerfyrddin. Bu setiau o'r copïau hyn ar werth a chodwyd 6 gini amdanynt.