RHUTHUN A'R CYLCH DRWY HEN GARDIAU POST ~
yng ngofal D.Gwynne Morris


FEL llawer ffilatelwr arall dois at gasglu cardiau post darluniadol trwy ddamwain fel petae. Dim ond ar gardiau wedi eu gyrru o swyddfeydd post bychain, fel Pentrecelyn fy hen gartref, y gwelir stampiau wedi eu canslo gyda dileadau rwber lliw glas neu ddileadau modrwy. Angenrheidiol felly oedd imi eu casglu.

Fel un sydd wedi byw yn ardal Rhuthun bron iawn ar hyd fy oes, ac hefyd fel un â diddordeb mawr mewn hanes lleol, sylweddolais yn fuan bwysigrwydd yr ochr ddarluniadol o'r cardiau topograffig fel ffynhonnell arall o wybodaeth. Erbyn hyn mae casgliad sylweddol gennyf o'r ardal, ac yn ystod misoedd y gaeaf caf weld fy ngwahodd i'w dangos i aml sefydliadau gwirfoddol. Trwy eu dangos byddaf yn cael hwyl ar ddweud gair neu ddau am gefndir y darluniau.

Saif sgwâr Sant Pedr ar fryn yng nghanol y dref a chan fod y lle yn ganolfan i bob ymwelwyr, naturiol yw cychwyn trwy ddangos gwahanol gardiau ohono. Ym mhen draw y llun gwelir pigdwr eglwys Sant Pedr, eglwys heb reithor neu ficer, ond un gydag offeiriad yn cario y teitl 'Warden'. Adeiladwyd yr eglwys gyntaf ar y fan fel eglwys ogleddol gan John de Grey yn 1301 gyda chaniatâd yr Esgob Anian, Esgob Bangor yn 1301, gyda gorchymyn fod y saith offeiriad i fyw yn y gymuned ac i weithio o dan Warden. Erbyn heddiw dim ond un offeiriad sydd wrth y llyw ac mae hwnnw'n dal i gario'r teitl Warden. Ym mhen draw y llun ar y cerdyn gwelir adeilad tri llawr a fu ar un amser yn un o hanner can o dafarndai'r dref. Aeth ar dân yn 1904 ond ymhen dwy flynedd codwyd adeilad arall i gymryd ei le, adeilad arbennig i'r Swyddfa Post, sydd yno hyd heddiw.

Un o brif atyniadau'r sgwâr yw'r cloc. Ychydig o'r trefolion sy'n gwybod ei hanes. Fe'i hadeiladwyd yn 1883 nid fel cofeb ond er mwyn mynegi diolch i Joseph Peers, dyn a gafodd ei eni yn y dref yn 1800 ac a oedd ar fin ymddeol o'i swydd fel Clerc Llys Chwarter Sir Ddinbych wedi 50 mlynedd o wasanaeth di-dor. Nid oedd son am ymddeoliad cynnar yr adeg honno! Yng Nghymru anaml yr anrhydeddwyd proffwyd yn ei ardal ei hun — yn enwedig tra fo'n fyw — ond dyma inni un eithriad. Yn anffodus, er ei fod yn dal i weithio yn 83 mlwydd oed, roedd ei iechyd wedi dechrau torri a bu'n anabl i fod yn bresennol yn y seremoni dadorchuddio ym mis Medi 1884, a bu farw y mis Ionawr canlynol. Os dewch ar daith i'r dref edrychwch yn fanwl ar y cloc — mae llawer mwy i'w weld arno, ynghyd â cherflun o wyneb Joseph Peers.

Rhed strydoedd y dref allan o'r sgwâr i bedwar cyfeiriad y gwynt, fel adain olwyn beic. Ar waelod un o'r strydoedd yma, Stryd y Ffynnon (Well Street neu hwyrach un tro Welsh Street) gwelir ar y dde gwesty'r Wynnstay Arms. Ddiwedd y ganrif ddiwethaf fe'i gelwid yn 'The Cross Foxes'. Caed cerflun dros ddrws y ffrynt yn dangos dau lwynog yn sefyll ar eu coesau ôl gyda'r coesau blaen fel eu bod yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd. Am ryw reswm roeddynt wedi methu, ac fe ddaeth y ddwy goes ar draws ei gilydd. Dywed rhai mai 'Crossed Foxes' oedd yr enw iawn. Roedd y tŷ yn rhan o stad Wynnstay ac fe welir y llwynogod hefyd ar arfbais y teulu. Ysgrifennodd George Borrow yn ei lyfr Wild Wales am y dydd yn 1851 pan gerddodd ef a'i arweinydd, gwehydd o Langollen, o'r dref honno i Ruthun ac yn ôl a'u bod wedi bwyta yn y gwesty hwn. Cawsant ginio byth­gofiadwy a dyma gydymaith Borrow yn dweud, 'This is the first duck I ever tasted, and though I never taste another, as I probably never shall, I may consider myself a fortunate weaver, for I can now say I have tasted duck once in my life. Few weavers in Wales are ever able to say as much.'

Stryd y Ffynnon, Rhuthun

Saif Neuadd Llanbedr Dyffryn Clwyd ryw ddwy filltir go dda allan o'r dref. Bu'n gartref un tro i ddau o deuluoedd a fu'n amlwg yn y fro, sef Joseph Ablett a John Jesse. Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf prynwyd y Neuadd a oedd ar y pryd yn Iechydfa, gan yr hynod Dr Huw Morriston Davies. I mi, mae yn enghraifft o ddyn sydd heb gael ei gymeradwyo yn ei wlad ei hun. Cofir mai ef oedd y meddyg cyntaf i astudio afiechydon yr ysgyfaint gan ddefnyddio pelydrau-x, ac ef hefyd oedd y cyntaf yn y byd i drin tiwmor cancr yr ysgyfaint drwy lawfeddygaeth. Erbyn yr Ail Ryfel Byd roedd yr Iechydfa yn lle pwysig i drin cleifion yn dioddef o'r Darfodedigaeth. Roedd llawer o'r cleifion yn cerdded i'r pentref i brynu cardiau post i'w gyrru adref i'w ffrindiau a'u perthnasau. Agorwyd tŷ bwyta Tan yr Unto lle treuliodd nifer o'r cleifion eu prynhawniau. Un o'r cleifion a fu yno am beth amser yn ystod y Rhyfel Byd diwethaf oedd merch Cadfridog de Gaulle. Mae hanes lleol iddo aros lawer gwaith yng ngwesty Cae Fron ar y ffordd fawr i lawr am y pentref o Tan yr Unto. Heddiw mae'r lle ar gau ac wedi'i droi yn dri thŷ.

Y Sgwâr Iechydfa Dyffryn Clwyd

Er bod carchar o ryw fath neu'i gilydd wedi'i godi yn y dref mor bell yn ôl ag 1654 rhoddwyd y gwaith ar y gweill o adeiladu un newydd yn 1774 pan gafwyd cynlluniau gan Joseph Turner, pensaer o Gaer. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y bont tair bwa dros Afon Clwyd — Pont y Dŵr — a welir ar y cerdyn. Cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pob sir yn gyfrifol am ei charcharau eu hunain heb ddim ymyrraeth gan y Llywodraeth, ond o 1 Ebrill 1878 daeth pob carchar yn `Garcharau ei Mawrhydi'. Cyn hyn penderfynwyd, gan ustusiaid y sir, bod angen estyniadau i'r hen garchar ond yn lle hynny fe adeiladwyd bloc newydd, bloc pedwar llawr, fel y gwelir ar y cerdyn post, am gost o ddeuddeng mil o bunnau.

Tanyrunto, Llanbedr Penybont, Rhuthun Gwesty Caefron, Llanbedr

Un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus a fu dan glo yno oedd un o'r enw John Jones. Ychydig iawn fydd yr enw hwn yn ei olygu i neb ond ei lysenw oedd Coch Bach y Bala ac ychydig sydd heb glywed am ei fywyd cythryblus yn ymwneud â thorri cyfraith gwlad, ac fe olrheinir yr ochr yma o'i fywyd yn fyw iawn yng nghyfrol Ernest Jones Coch Bach y Bala a gyhoeddwyd gan Wasg Gee yn 1972. Fe gofir iddo ddianc oddi yno noson cyn iddo gael ei drosglwyddo i garchar Stafford ym mis Medi 1913 i gyflawni ei benyd-wasanaeth. Gwnaeth hyn trwy dorri twll ym mur ei gell - twll oedd ond troedfedd sgwâr. Yn anffodus dyma gychwyn y diwedd iddo gan ym mhen rhai dyddiau cafwyd hyd iddo yn ymyl coed Nantclwyd yn ardal Pwllglas gan fyfyriwr ifanc 19 oed a ddigwyddai fod yno yn saethu petris. Cyn i'r Coch Bach ddianc fe'i saethwyd yn ei goes gan y dyn ifanc. Bu farw yn fuan iawn wedyn ac fe'i claddwyd - wedi cryn tipyn o stŵr yn y dref - mewn bedd ym Mynwent y Plwyf yn Llanelidan gyda deuddeg galarwr yn bresennol. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach codwyd carreg fedd i'r Coch Bach gydag arian a gyfrannwyd gan bobl ledled Cymru. Peth digon anghyffredin fuaswn i'n meddwl - hel arian i gofio lleidr! Cyfeirir ni gan Ernest Jones at englyn a ganodd Gwilym Deudraeth i'r Coch Bach:

I mi wybod, tynnwyd tri llun o'r achlysur gan Lewis Edwards Price, y tynnwr lluniau lleol, a'u gwerthu fel cardiau post. Buaswn yn hynod falch i gael gwybodaeth amdanynt.