RHOI MÔN AR Y MAP gan Ted Huws

BYDDAF yn teimlo'n bur euog wrth brynu map gan fy mod yn ymwybodol o gefnogi diwydiant malurio llyfrau. Er hynny mae map yn beth deniadol - yn arbennig map o Ynys Môn! Mae ynys yn ffitio mor dda i ffrâm fel y sylweddolodd cenedlaethau o gartograffwyr. Mae'n debyg mai'r map cyntaf o Fôn fel ynys ar ei phen ei hun oedd un Gerard Mercator yn nhrydedd ran ei Atlas (1595). Mae wedi ei gynnwys mewn chwarter tudalen gydag Ynys Wyth, Guernsey a Jersey. Roedd Saxton wedi cynnwys Môn ac Arfon gyda'i gilydd yn ei atlas o Loegr a Chymru yn 1579. Wrth gwrs roedd y map cyntaf erioed o Gymru fel gwlad unigol gan Humphrey Lhuyd - y Cambriae Typus wedi ei gynnwys yn Theatrum . . . Ortelius yn 1573.(Gweler Y Casglwr, rhif 7, Mawrth 1979). Ynddo hefyd roedd traethawd Lhuyd ar Ynys Môn, De Mona Druidum Insula. Trueni na fyddai wedi cynnwys map mawr o Fôn gyda'i draethawd.

Yn 1607 ymddangosodd chweched argraffiad Britannia, William Camden ac ynddo fapiau o siroedd am y tro cyntaf. Fersiwn o fap Saxton oedd Anglesey Comitatus. Erbyn argraffiad Gibson yn 1695 roedd mapiau'r siroedd wedi'u disodli (heblaw Mynwy) gan ddau fap Robert Morden o ogledd a de Cymru.

Un o'r mapiau mwyaf enwog a deniadol o Ynys Môn yw un John Speed yn ei atlas o siroedd Prydain, Theatrum ... (1610). Mae'n cynnwys cynllun o Biwmaris, prif dref Môn yn y cyfnod, fel oedd ei arfer gyda'r holl siroedd.

Yn 1675 daeth dimensiwn newydd chwyldroadol i fyd mapiau. Cyhoeddodd John Ogilby gyfrol o gant o fapiau ffyrdd ar ffurf rhubanau, chwech neu saith ar bob tudalen. Hyd yma doedd fawr o sylw wedi ei roi i ffyrdd ar fapiau.

Yn Britannia roedd mesuriadau eithaf manwl ar, raddfa o fodfedd i'r filltir a honno'n un statudol o 1,760 llath. Cyn hyn roedd milltiroedd o dri gwahanol hyd yn cael eu defnyddio ar raddfeydd. Dangoswyd ffyrdd y goets fawr o Lundain. Cynhwyswyd Môn ar ddiwedd y ffordd o Gaer i Gaergybi, o draeth Lafan i Fiwmaris a thrwy 'Llangeveney' a 'Boddedar' i Gaergybi. Nodir y pellter o Lundain bob milltir - 269 i Gaergybi a'r cyfeiriad ar gwmpawd ym mhob 'rhuban'. (Gweler Atlas Môn, Cyngor Gwlad Môn, 1972.) Cynhwysir nodau tirweddol fel afonydd a phontydd, ambell grocbren a thai enwog fel 'Presrved (Prysaeddfedl) Hall'. Mae'n debyg fod map ffordd eithaf manwl yn gymorth i deithwyr ar eu ceffylau, ond roedd yn fawr i'w gludo (13½" x 17½") Gwelodd eraill eu cyfle i rannu'r farchnad fel Thomas Gardner (1719) a John Senex (1719) trwy gyhoeddi atlasau llai o lawer i ffitio poced yn y cyfrwy. Yr un mwyaf adnabyddus, mae'n siŵr, yw'r un â'r enw bostfawr Britannia Depicta or Ogilby Improv'd (1720) gan Emanuel Bowen. Mae ynddo fapiau confensiynol a mapiau ffyrdd ar ddull Ogilby.

O hynny ymlaen aeth yn ffasiwn i gynnwys y priffyrdd ar y mapiau confensiynol ar ôl gwaith arloesol Ogilby. Mae Robert Morden yn ei fap o Fôn (1701) yn dangos dwy ffordd ar draws yr ynys, un o lanfa fferi Biwmaris a'r llall o lanfa fferi Abermenai. Pan ddown at fap lithograffig R. K. Dawson (1832) sy'n fath o fap OS cynnar, mae Pont Telford a agorwyd yn 1826 yn cael ei dangos yn arwain i ddwy ffordd - un trwy Langefni (sillafiad cywir erbyn hyn) a'r llall yn dilyn cyfeiriad yr A5. Dangosir hefyd ffyrdd i Amlwch, Aberffraw a Phorthaethwy i Fiwmaris. Mae map adnabyddus Archer (1848) yn dangos y rheilffordd o Fangor i Gaergybi am y tro cyntaf er nad yw'n eglur fod dwy bont yn croesi’r Fenai. Defnyddiwyd addasiad o’r un map yng nghyfrol gyntaf Hanes y Brytaniaid a'r Cymry (Gweirydd ap Rhys, 1872), gyda phont y rheilffordd yn fwy eglur a lein Gaerwen i Amlwch, a gwblhawyd yn 1867, wedi ei hychwanegu.

'Wn i ddim sawl map o Ynys Môn sydd ar gael, nid yw'n arbenigwr, dim ond casglwr.

Ond hoffwn dynnu sylw at ychydig o rai eraill sydd o ddiddordeb arbennig i mi. Yn 1718 cyhoeddodd Thomas Taylor The Principality of Wales Exactly Described. Hwn, mae'n debyg, oedd yr atlas cyntaf i bortreadu Cymru yn unig. Mae ynddo ddeg o fapiau siroedd Cymru. Ni welais yr un ohonynt ond byddai A New Mapp of the Isle of Anglesey yn ychwanegiad gwerthfawr iawn i'm casgliad. Ceir disgrifiad manwl o'r atlas gan Gwyneth Lewis yn JWBS, cyfrol VII, rhif 4. Cyfrol arall wedi ei sylfaenu ar Gymru yn unig yw'r gyfres o siartiau gan Lewis Morris o arfordir Cymru, Plans of Harbours, Bays and Roads ... (1748). Ynddo mae wyth siart o arfordir Môn a 'sglein' arbennig ar siart Bae Dulas wrth gwrs! Pan ailgyhoeddwyd y gyfrol gan ei fab William yn 1861 roedd arfordir Amlwch wedi ei ychwanegu. Defnyddiwyd archwiliad Lewis Morris o arfordir Môn gan rhyw J. Gibson i gynllunio map o'r ynys ar gyfer ailargraffiad 1766 o Mona Antiqua Henry Rowlands. Roedd hwn yn lle map dychmygol a hollol ddi‑fudd oedd yn argraffiad cyntaf Dulyn (1723). Rhoir clod i Lewis Morris am y gwelliannau yn yr ail argraffiad. Mae ei fap yn dangos enwau lleoedd wedi eu sillafu'n gywir, fel y disgwylid, yn wahanol iawn i'r llygru a fu ar enwau lleoedd mewn mapiau o Ynys Môn cynt ac wedyn gan ysgythrwyr ac argraffwyr di-Gymraeg.

Gellid maddau i'r Eidalwr Vincenzo Coronelli o Venezia am roi 'Inis Ligod' (Ynys Lygod), 'Llanarghymeath' (Llanerchymedd), a 'Llanualthgo' (Llanallgo) ar ei fap Anglesey Isola dell' Inghilterra a gyhoeddwyd yn yr Eidal yn yr 1690au fel rhan o'r atlas Isolario dell' Atlante Veneto. Map wedi ei sylfaenu ar un Saxton ydoedd a chamsillafu Saxton wedi ei gamsillafu ymhellach!

Tramorwr arall a fentrodd gyfres o fapiau siroedd Cymru oedd y Ffrancwr Michel Perrot yn ei lyfryn La Principauté de Galles (1835). Roedd ei fap o Ynys Môn mor fach (10mm o hyd) fel nad oedd llawer o le i gamgymeriadau. Y cwbl mae'n gallu ei gynnig yw 'Holyhead', 'Amlwch'. 'Beaumaris' ac 'Aberffraw' (yn gywir chwarae teg!) gyda 'Mt. Parys' (deniadol i Ffrancwr!) fel asgwrn cefn 'mawr' ar draws yr ynys. Map bychan arall (25mm o hyd) yw un John Luffman yn ei New Pocket Atlas (1806). Nid yw'n ceisio rhoi amlinelliad cywir o'r ynys a heblaw 'Holyhead' a 'Beaumaris' mae y pedwar enw arall yn anghywir - Llanerchimed, Boddedor, Aberfrarv a Nervberg. Mae disgrifiad o’r ynys yn hanner gwaelod o’r dudalen wythplyg ac mae lle i gredu y defnyddid y llyfr mewn ysgolion. Wnâi o mo'r tro i'r Cwricwlwm Cenedlaethol!

Mae mapiau bach diddorol iawn ar gardiau chwarae y 16eg a'r 17eg ganrif. Pan ddaeth cardiau chwarae yn boblogaidd yn y 16eg ganrif sylweddolodd rhywun fod y 52 sir yng Nghymru a Lloegr yn rhoi'r union gyfrif i bac o gardiau a bod tair sir ar ddeg Cymru yn rhoi'r union gyfrif i siwt.

Rhoddodd William Bowes fap anelwig o Ynys Môn ar gerdyn y ddwy galon yn ei bac a ymddangosodd tua 1605. Cafwyd paciau yn dangos y siroedd, gan gymwys Môn eto gan Morden a Redmayne tua 1676 a Lenthall wedyn yn 1711. Gwnaed pac Robert Morden yn llyfryn, A Pocket Book of all the Counties of England and Wales yn 1676 trwy ychwanegu gwybodaeth ddaearyddol gyda'r mapiau a dileu symbol y siwt.

Efallai mai ymateb i wrthwynebiad piwritanaidd yr oes i gardiau chwarae ydoedd hyn.

Yn olaf, trof at un o'n harlun­wyr ni, Hugh Hughes, Pwllgwich­iaid, Llandudno. Mentrodd gynrychioli Ynys Môn fel wyneb a het 'Modryb Gwen' (1845). Cartŵn lithograffig ydoedd o ogledd Cymru neu Venedotia ar ffurf hen wraig, Dame Venedotia neu 'Modryb Gwen' (gweler Y Casglwr, rhif 7, Mawrth 1979). Fersiwn gyntaf y cartŵn oedd Modryb Gwen yn gollwng bradwyr y Llyfrau Gleision yn bendramwnwgl i Fae Ceredigion gyda Penrhyn Llŷn yn fraich. Bu'r cartŵn yn llwyddiant mawr ac aeth i nifer o argraffiadau o wahanol fersiynau a maint heb i neb, am a wn i, gwyno fod Môn yn edrych fel 'het'.

Ydi, mae Ynys Môn wedi ysbrydoli llawer o fapwyr ar hyd y canrifoedd ac mae stôr enfawr o fapiau i'w casglu a'r wefr yn parhau o ddarganfod map nad yw yn fy nghasgliad.