LEWIS WESTON DILWYN a'r Gymraeg
gan R.Elwyn Hughes
Lewis Weston Dillwyn |
I'R sawl sy'n casglu effemera Cymraeg, prin y gellir meddwl am yr un cyhoeddiad sy'n fwy diddorol na'r copi (bellach yn brin iawn) o'r London Gazette sy'n dwyn y dyddiad Mawrth 3, 1821 — a hyn oherwydd ei le o bwys yn hanes cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol.
Ond fel y crybwyllwyd uchod, cafwyd ond odid yr enghraifft fwyaf diddorol o 'Gymraeg swyddogol' cynnar, yn y London Gazette ar ddydd Sadwrn, Mawrth 3ydd, 1821. Prin y gellid fod wedi dod o hyd i leoliad mwy swyddogol na hyn gan mai diben y London Gazette oedd gweithredu fel llwyfan i ddatganiadau a chyhoeddiadau 'swyddogol' o bob math. Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai'n cyhoeddi o dro i dro 'ddatganiadau o deyrngarwch' a gyflwynwyd i'r brenin gan gynrychiolwyr gwahanol rannau o wledydd Prydain.
Ar ddydd Gwener, 23 Chwefror 1821 cyflwynodd Lewis Weston Dillwyn — tirfeddiannwr cefnog o gylch Abertawe ac Uchel Siryf Morgannwg — ddau 'ddatganiad o deyrngarwch' i'r Brenin William IV — y naill ar ran trigolion Plwyf Llangyfelach a'r llall ar ran plwyfolion Llandilotalybont, dau blwyf yng ngorllewin Morgannwg. Cynhwysai'r anerchiadau ryw dri chant o eiriau'r un a'r peth mwyaf trawiadol yn eu cylch oedd bod y cyfan yn Gymraeg — ac yn Gymraeg yn unig.
Cofnododd Dillwyn y digwyddiadau yn ei ddyddiadur, '. . . on receiving the Addresses the King only said "I am very happy to see you Mr Dillwyn" and I was immediately pressed on by the crowd'; ac nes ymlaen, 'The reception of my Addresses in Welsh was at first objected to, and it was said that none except in English could be received. I however claimed the right of all his Majesty's subjects to address him in their own language and it was at last admitted. They appeared in the Gazette of March 3, and it was doubted whether the Welsh language had ever before appeared in an official paper.'
Mae'n anodd deall ymlyniad Dillwyn wrth y Gymraeg. Yn awdur rhyw ddeg o lyfrau botanegol a sŵolegol, ac yn FRS, yr oedd wedi ennill cryn enw fel naturiaethwr. Ond hyd y gellir barnu, go denau oedd ei wybodaeth o'r Gymraeg - bu raid iddo gyfaddef hyn pan fu gohebydd yn ymgynghori ag ef unwaith ynglŷn ag ystyr rhai geiriau Cymraeg (LlGC 6328C) a phur oeraidd oedd ei ymateb i gais Hugh Davies yn 1817 am iddo dderbyn hanner dwsin o gopïau o'i Welsh Botanology (a gynhwysai gryn gyfran o Gymraeg) (LlGC 6664C). Cynhwysai ei lyfrgell, yn niwedd y ddeunawfed ganrif, 'two Welsh Dictionaries' a 'One Welsh Book'.