IORTHRYN GWYNEDD A'R LLYFRAU GLEISION
gan Gwawr Jones

 

Y Parchedig Robert David Thomas (1817-1888) Iorthryn Gwynedd

ELENI mae'n gan mlynedd a hanner ers cyhoeddi'r 'Llyfrau Gleision' ym mis Hydref, 1847. Mae'r trobwynt pwysig hwn yn hanes Cymru i'w gofio gan fod ei ôl-effeithiau'n dal i ddylanwadu'n drwm ar feddwl y Cymro, yn ddiwylliannol ac yn arbennig yn wleidyddol.

Tri llyfr, a'u rhwymiad yn las, oedd y Llyfrau Gleision, yn crynhoi sylwadau tri chomisiynydd - R.R.W. Lingen, Henry Vaughan Johnson a Jelinger C. Symons - a benodwyd ar ran y llywodraeth gan J.P. Kay Shuttleworth, Ysgrifennydd Pwyllgor y Cyfrin Gyngor ar Addysg. Siarsiwyd hwy i gynnal arolwg o 'gyflwr addysg yn Nhywysogaeth Cymru, yn enwedig y ffordd y caffai'r dosbarthiadau gweithiol wybodaeth o'r iaith Saesneg', a dechreuasant ar y gwaith 1 Hydref 1846. Ni ellir cyfeirio at yr adroddiadau bellach heb sôn am 'Frad y Llyfrau Gleision', teitl gan R.J. Derfel ar ddrama o'i eiddo yn 1854. Ymateb i'r Llyfrau Gleision a wnaeth R.J. Derfel, fel eraill o'r cyfnod megis Lewis Edwards ac Ieuan Gwynedd, ac am hynny cawsant eu gosod ym Mhantheon Cymru Ymneilltuol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ond mae un sy'n haeddu ei gofio am fod yn llawer mwy effro ac arloesol na'r rhain, gan ei fod wedi ceisio rhagweld ystrywiau'r comisiynwyr a cheisio achub y blaen ar eu harolwg. Mae'n ymddangos nad yw ef na'i waith wedi cael y mymryn lleiaf o sylw gan haneswyr y Llyfrau Gleision. Dyma'r stori.

Capel Penarth, ger Llanfair Caereinion, Maldwyn

Yn 1989 yr oedd aelodau eglwys Annibynnol Penarth, ger Llanfair Caereinion, Maldwyn, yn paratoi'r capel ar gyfer dauganmlwyddiant yr adeilad. (Mae'r eglwys, fel corff o addolwyr, yn hŷn.) Mewn cwpwrdd o dan y pulpud cafwyd hyd i fwndel trwchus o hen bapurau, dros dri chant o dudalennau maint ffwlscap, ac ar y ddalen uchaf y geiriau hyn:

    Statistical Facts (1 Part)
    touching
    The State of Education
    in the
    Parish of Castle Caereinion
    Decr. 1846
Yr oedd y papurau wedi eu plygu a'u gwnïo wrth ei gilydd i wneud llyfrynnau tenau ac, ar wahân i Gastell Caereinion, yr oedd darnau eraill o'r gwaith yn ymwneud â Llanfair Caereinion, Manafon, Cegidfa, Llangyniw a rhannau o blwyf Meifod. Rhyw fath o gyfrifiad oedd y ddogfen. Cafwyd colofnau'n rhestru enwau pobl, eu hoedran, eu cartrefi, gwaith, cenedl, ieithoedd a siaredid (Cymraeg ran fwyaf, peth Saesneg, ond un cyn-filwr o fyddin yr India yn medru Hindwstani hefyd!), a oedd pobl yn medru'r wyddor, ac yn medru sillafu, darllen, ysgrifennu, gwneud syms, gramadeg, daearyddiaeth a cherddoriaeth. Wedyn roedd colofn lydan i restru'r llyfrau yn y tŷ. Nodwyd hefyd a oedd rhai yn mynychu ysgol ddyddiol neu Ysgol Sul neu le o addoliad. Cadwyd y golofn olaf ar gyfer 'Observations & Remarks'. e.e. (yn Saesneg) 'Rhy dlawd i dalu am ysgol', 'mae'r teulu yma'n cefnogi Ysgol Frytanaidd - yn awyddus iawn i'w chael', 'gwyllt: iawn - dim un llyfr!'

Aethpwyd â'r ddogfen i'w diogelu i Benybelan, cartref ysgrifennydd eglwys Penarth, Mr John H. Jones, y mae ei deulu â chysylltiad â'r achos yn ddi-dor o'i gychwyn. Buan y sylweddol­wŷd mor bwysig oedd y ddogfen. Ar yr olwg gyntaf fe ymddengys yn unig fel casgliad o ffeithiau o werth i'r hanesydd teuluol, ond rhydd lawer mwy o ffeithiau nag unrhyw Gyfrifiad o'r cyfnod. Yng Nghyfrifiad 1841, er enghraifft, y cyntaf o unrhyw werth i'r hanesydd teuluol a chymdeithasol, ni chafwyd oedrannau oedolion ond i'r pum mlynedd agosaf ac ni chafwyd sôn o gwbl am berthynas pobl â'i gilydd yn yr un annedd, heb sôn am yr holl wybodaeth am lyfrau yn y tŷ a sylwadau eraill. Ni chafwyd cwestiwn yng Nghyfrifiad y wladwriaeth ar yr ieithoedd a siaredid tan 1891.

O edrych eilwaith ar glawr y ddogfen, roedd fel petae State of Education a Decr. 1846 yn neidio allan o'r ddalen i daro llygad y darllenydd. Tybed a oedd cysylltiad rhwng papurau Penarth a'r Llyfrau Gleision?

Pan aed ati i chwilio yn y Llyfrau Gleision eu hunain, yno yn Atodiad (Appendix) H ar dudalen 337 gwelwyd: 'MEMORIALS from the DISSENTERS OF LLANFAIR CAEREINION, CASTLE CAEREINION and MANAFON in the County of MONTGOMERY, respecting the want of EDUCATION in those Parishes'.

Ewreca!

Felly, o'r defnydd crai a oedd yng nghadw ym Mhenybelan, lluniwyd adroddiad sylweddol o ugain tudalen yn y Llyfrau Gleision y 'Memorials' uchod. Mae'n debyg fod dogfen Penarth yn unigryw yng Nghymru, a bellach mae hi yn y Llyfrgell Genedlaethol i rywun ei gweld (Llawysgrif NLW 23220F).

Awdur yr atodiad a chynllunydd yr arolwg oedd y Parchedig Robert David Thomas (1817-88), gweinidog egnïol Penarth rhwng 1842 a 1854, a adnabyddid hefyd dan ei enw barddol 'Iorthryn Gwynedd'. Cyflwynwyd y 'Memorials' i'r comisiynwyr tua diwedd Ionawr 1847, felly trefnwyd yr holl waith o holi'r bobl a theithio o dŷ i dŷ ganol gaeaf Maldwyn, yr hel ynghyd, y crynhoi gwybodaeth a'r anfon at y Comisiwn o fewn tua mis gan un dyn. Dyna roi biwrocratiaeth a chwangoau’r ugeinfed ganrif mewn perspectif!

Sut yr aeth y Parchedig Thomas ati i wneud yr arolwg? Cafodd gymorth deugain o Ymneilltuwyr amlwg yr ardal. (Cofier bod rhaid i bob un ohonynt fedru ysgrifennu a darllen.) Aethant o gwmpas i holi, pawb â'i ran ei hun. Paratowyd y papurau ar eu cyfer, wedi eu rhannu'n golofnau, gan y Parchedig Thomas. Rhoddwyd cyfarwyddiadau manwl iddynt ar sut i lenwi'r arolwg, a lluniwyd mapiau i ddangos yn union lle dylid mynd. I wneud yn berffaith siŵr fod pawb yn deall yn union beth oedd i fod i'w wneud, gwnaed patrwm i bawb gan ddefnyddio enwau a chartrefi dychmygol.

Aeth pawb ati i gwblhau'r gwaith, rhai'n well na'i gilydd. Y syndod ydi fod y casglwyr wedi llwyddo cystal, gan fod pobl yr adeg yma'n amheus iawn o unrhyw gyfrifiad. Roedd gan y werin ddigon o le i amau, gan fod codi trethi neu gonsgriptio'n tueddu i ddilyn cyfrifiadau o'r fath. Diau mai'r ffaith fod y casglwyr y tro yma'n rhai o'u plith eu hunain, ac yn Anghyd­ffurfwyr, a'i gwnaeth hi'n hawdd cael cydweithrediad y bobl. I ddangos teyrngarwch crefyddol yr ardal mae'r ystadegau am Fanafon (o ddogfen Penarth) yn ddadlennol iawn. Yno o blith 822 o blwyfolion, roedd 69 (8.4%) yn ddigrefydd, 61 (7.4%) yn Anglicaniaid (a 14 o'r rheini'n byw yn y rheithordy!), a 692 (84.2%) yn Anghydffurfwyr, Annibynwyr bron i gyd. Ond ni chafwyd cydweithrediad pawb. Wrth enwau'r Parchedig Daniel Hughes, rheithor Manafon, a'i deulu niferus, ceir 'We did not wait on Mr Hughes personally; but had the information from other gentry. We were afraid to offend him'. Gwnaeth y Parchedig Daniel Hughes bopeth a allai i rwystro sefydlu Ysgol Frytanaidd ym Manafon. Hefyd ym mhlwyf Castell Caereinion, gyferbyn ag enw'r rheithor, y Parchedig Lewis, ni cheir unrhyw wybodaeth o gwbl — a'r rheswm? 'He being not willing to "mix" with the collectors'.

Yn y 'Memorials' ceir dadansoddiad manwl a chynhwysfawr o'r rhai oedd yn mynychu'r Ysgolion Sul Ymneilltuol, gyda llawnder o ystadegau a chefndir cymdeithasol. Mae rhywun yn cael yr argraff fod y gwaith mawr yma i gyd islaw sylw'r comisiynwyr (yn adlewyrchu agwedd y Parchedig Lewis, Castell Caereinion), ac nad oeddynt yn barod i ystyried fod agweddau eraill ar fywyd heblaw eu rhai hwy. Ystyriwch y sylw yma ganddynt (t.354): 'Both these are duplicate Returns. It is difficult to conceive the object of the memorialists in thus returning seven schools twice over, as all proceed from the same person. (h.y. R. D. Thomas).'

A'n helpo! Roedd rheswm da iawn dros gynnwys Ysgolion Sul fwy nag unwaith. Fe wnaed arolwg y comisiynwyr fesul plwyf, felly lle roedd Ysgol Sul Ymneilltuol yn tynnu aelodau o fwy nag un plwyf (gan nad yw ffiniau plwyf yn berthnasol i Anghydffurfwyr) roedd rhaid cynnwys ystadegau'r Ysgol Sul honno fwy nag unwaith o dan benawdau'r plwyfi gwahanol yr oedd hi'n eu gwasanaethu.

Yr oedd teimladau'r bobl gyffredin yn gryf iawn dros addysg anenwadol, ac roedden nhw'n barod i aberthu er mwyn ei chael. Fel y dywed R. D. Thomas yn y 'Memorials':

Sylwer fod enw R.D.Tho,as yn anghywir - fel J.D.Thomas mae o'n ymddangos ar y rhestr

Yn wyneb holl dystiolaeth a dadleuon cryfion R. D. Thomas, dyma a geir yng nghorff y Llyfrau Gleision gan Vaughan Johnson (comisiynydd Gogledd Cymru, gan gynnwys Maldwyn) am ardal Llanfair Caereinion:

Oes syndod, yn wyneb y fath ddiffyg deall, i gymaint o Ymneilltuwyr ardal Penarth ymfudo i'r Unol Daleithiau? Y Llyfrau Gleision oedd yr olaf mewn cyfres o ergydion iddynt. Roedd Penarth ymhlith yr ardaloedd â'r raddfa uchaf o ymfudo yng Nghymru. Roedd dylanwad Samuel Roberts ('S.R.', 1800-85) hefyd yn drwm ar yr ardal, ei dad, John Roberts (1767-1834) wedi bod yn weinidog ar gapel Penarth, ac S.R. ei hun yn gyfaill mawr i R.D. Thomas. Enwodd R.D. Thomas a'i wraig Sarah, o deulu Roberts, Penybelan (a ysgrifennai dan yr enw 'Sarah Maldwyn'), eu plentyn cyntaf yn Samuel Maldwyn o barch i'w cyfaill.

Ymfudo a wnaeth R. D. Thomas ei hun. Ar ôl gadael Penarth arhosodd yng Ngheri am ychydig, a gadael Cymru yn 1855 gan fynd â nifer o deuluoedd Penarth efo fo. Bu'n weinidog ar eglwysi Annibynnol yn Nhalaith Efrog Newydd, Efrog Newydd ei hun, Knoxville (Tennessee), Mahanoy City (Pennsylvania) a Columbus (Ohio), gan ei daflu ei hun i mewn i fywyd cyhoeddus a chrefyddol Cymry Gogledd America. Tra oedd ei gŵr ar ymweliad â Chymru yn 1873, bu farw Sarah yn annisgwyl yn eu cartref yn Tennessee. Er i R.D. Thomas gael gwahoddiad i ddychwelyd i Faldwyn ar ôl marw ei wraig, ni ddaeth. Bu'n ysgrifennu'n doreithiog i wahanol gylchgronau'r Annibynwyr, yma a'r ochr draw i'r Iwerydd. Cyhoeddodd nifer o lyfrau rhwng Y Crochan Aur (1840) yn ystod ei ieuenctid yn Llanrwst a Hanes Cymry America (un gyfrol, 1872). Methodd â mynd ymlaen a chwblhau ail gyfrol Hanes Cymry America ar ôl marw Sarah. I'r diwedd uniaethodd Iorthryn Gwynedd ei hun yn llwyr â theulu a chyfeillion ei wraig ac â'r gymdeithas glôs yn ardal Llanfair Caereinion, ac mae'r serch a deimlai at ei aelodau ym Mhenarth yn loyw trwy ei ysgrifau. Mae hanes ei fywyd yn gyfareddol, gyda'i ymgyrchoedd a'i deithiau i hel arian, pregethu ac arlunio.

Cawsom gan mlynedd a hanner o wylofain a rhincian dannedd oddi ar y Llyfrau Gleision. Gwae ni os bydd hanes yn ailadrodd ei hun eto o ddiffyg achub y blaen.