GORONWY OWEN A WALTON gan D.Ben Rees

ENW cyfarwydd yw Walton yn Sir Gaerhirfryn. Dyna Walton-le-dale ger Preston a dyna'r Walton sydd yn rhan o Lerpwl. Un o bentrefi coll y ddinas yw'r Walton yn Lerpwl, ac i Eglwys Walton y perthyn yr anrhydedd o fod yn fam holl eglwysi Glannau Mersi. Fe'i codwyd gan y Sacsoniaid yn yr wythfed neu'r nawfed ganrif. Fe'i hail­adeiladwyd yn 1742 a'i thŵr yn 1822. Cafodd yr Eglwys beth niwed yn y Rhyfel Byd Cyntaf ond fe'i difrodwyd hi gan fomwyr yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dechreuodd gwaith adfer yr Eglwys yn 1947, a saif mor urddasol heddiw ag y safodd hi erioed, ac fe'i diogelwyd gan gamera Mr E. Emrys Jones i'r oesoedd a ddêl.

Rhan o sefydliad yn perthyn i urdd fynachaidd oedd yr eglwys ar y dechrau. Yn 1326 rhoddodd Iorwerth yr Ail hawliau Eglwys Sant Fair i Abad Amwythig, ac yn sgil y Diwygiad Protestan­naid trosglwyddwyd yr hawl penodi o ddwylo'r myneich i deulu Molyneux. Rhoddodd y teulu hwnnw wasanaeth clodwiw iawn i'r Eglwys. Bu nifer ohonynt yn rheithoriaid megis Syr Richard Molyneux, trydydd mab Syr Richard Molyneux o Sephton, y gŵr a wnaed gan y brenin yn farchog ar faes Agincourt. Dynion â chalonnau tyner oedd rhai o'r rheithoriaid hyn megis y Dr Thomas Leight a ddosrannai fara i dlodion y plwyf ac a gofiodd fod angen atgyweirio Eglwys Gadeiriol Sant Paul, yn Llundain yn 1634 ac yn 1636. Cyfrannodd y swm o £6.13s.4c yn flynyddol yr adeg honno.

Gan lenorion Cymreig a minnau, rhoddir y lle blaenaf ymhlith clerigwyr Walton i Goronwy Owen (1723-69), bardd Cymraeg o Fôn a chyn ei ddyfod i Walton yn giwrad yn Uppington, Swydd Amwythig ac yn athro yn Donnington. Ei gyfaill o lenor William Morris o Gaergybi (1705-63) a gynorthwyodd Goronwy Owen i gael ei benodi i giwradaeth Walton, a dechreuodd ar ei waith yno yn Ebrill 1753. Ar ben hynny, ar bwys ei arbenigedd yn y clasuron, gwahoddwyd ef i fod yn athro yn yr Ysgol Ramadeg, ac y mae honno, fel y dengys y llun a dynnwyd gan y ffotograffydd Cymreig E.Emrys Jones, ar ei thraed heddiw.

Derbyniai Goronwy Owen am ei ddyletswyddau fel ysgolfeistr yn flynyddol y swm o £13. Adeiladwyd yr ysgol o fewn libart yr Eglwys ac ymhell cyn dyfodiad Goronwy Owen, cofiodd nifer o noddwyr hael am ei hanghenion hi. Gadawsai Thomas Harrison yn 1613 y swm o £120 i'r ysgol a dosrannodd yntau Alexandra Molyneux yn 1630 yn ei ewyllys i'r ysgol, y swm o £20. Ac yn 1690 gadawodd Richard Whitfield yntau £10 iddi.

Un byr o faintioli ond un llawn o hunanbwysigrwydd oedd Goronwy Owen. Gallai gerdded hanner can milltir mewn diwrnod, ond prin iawn oedd ei ganmoliaeth i drigolion Walton. Nid oeddynt yn ei olwg nemor gwell na'r Hattentatiaid (er nad oedd ef erioed wedi cyfarfod â'r rheini); pobl ddirmygedig oeddynt a rhai oedd wedi bod yn boendod mawr iddo. Mae un peth yn gwbl eglur; ni allai ddygymod â ffyliaid yn rhadlon, ac wedi i Esgob Bangor ei alltudio o Lanfair Mathafarn Eithaf o Ynys Môn, 'hyfrydwch pob rhyw frodir' iddo, ac iddo wedi hynny fethu cael bywoliaeth yng ngwlad ei gynefin, ni ddiwallwyd byth mo'i hiraeth am Gymru.

Nid oedd eisiau llawer i beri iddo golli ei limpin, ac o'r cychwyn cyntaf yn ei weinidogaeth Gristnogol yn Walton, yr oedd problemau ariannol yn ei lethu. Ar ben hynny, bu'n rhaid iddo ef a'i briod wynebu'r brofedigaeth o golli eu merch Elin yn flwydd a phum mis oed yn 1755. Ac yntau `yn gaeth o'i hiraeth am hon', chwedl yntau, ysgrifennodd Goronwy Owen farwnad gain am Neli ei angyles — 'Neli'n iach eilwaith, lân ei chalon yn gorphwys ym mynwent Walton'. Yn ddiddadl — un o'r marwnadau plant gorau yn yr iaith. Yn ystod ei dymor byr yn Walton ysgrifennodd Goronwy Owen beth o'i waith barddonol godidocaf gan gynnwys 'Cywydd Hiraeth am Fôn' a chywydd 'Y Maen Gwerthfawr'. Er hyn, ni bu mor gynhyrchiol yn Walton ag y bu yn Amwythig, lle canodd ei orchestwaith, 'Cywydd y Farn Fawr'.

Cefnodd ar ei swyddi fel ciwrad ac fel athro yn Walton yn 1755 a'i chychwyn hi am Lundain gan obeithio y cyflogai'r Gymdeithas Gymraeg ef fel ysgrifennydd a chyfieithydd, yn ogystal â'i sicrhau o gyfleusterau i wasanaethu fel clerigwr yn Gymraeg yn Llundain, cyfleusterau y teimlodd eu colli yn Walton. Ond fel yn Walton, ni ddaeth cyfleusterau i ddefnyddio'r Gymraeg yn Llundain ychwaith, ac am na chyflawnwyd ei ddyheadau, a than faich ei ddigalondid, symudodd Goronwy Owen drachefn — y tro hwn i'r Unol Daleithiau.

Wedi derbyn swydd prifathro mewn ysgol ramadeg yn gysylltiedig â Choleg William a Mary yn Williamsburg, Talaith Virginia, bwriodd angor ar y deuddegfed o Ragfyr 1757 yn llong hwyliau y Trial. Glaniodd yn Williamsburg ym mis Mawrth 1758, wedi colli Elin ei briod yn y cyfamser ar y fordaith. Seliasai Goronwy Owen ei briodas ag Elin (merch i fasnachwr a Henadur Owen Hughes a Margaret Hughes, Croesoswallt) yn Selatyn ar Awst 21, 1747. Collasai hefyd William ei fab ar y fordaith, ac aeth yntau namyn deng mis oed, a chladdwyd y ddau, y fam a'r plentyn, ym Môr yr Iwerydd.

Yn drist ei wedd ac yn flin o gorff y cyrhaeddodd Goronwy Owen gyda Robert a Goronwy ei feibion eraill eu cartref newydd.

Ond wedi ysbaid cafodd adferiad a phriododd â Mrs Clayton, chwaer i Lywydd y Coleg, ond bu hithau farw yn 1759. Dan y trallod ychwanegol hwn, dechreuodd Goronwy Owen yfed yn drwm drachefn. Dyna oedd ei wendid yn ei ofidiau yn Walton gynt. Fodd bynnag, llwyddodd i ddenu menyw arall — Joan Simmonds — ato yn drydedd wraig.

Erbyn ei farw, yn nechrau Gorffennaf 1769, llwyddasai Goronwy Owen i godi'n berchennog ar blanhigfa cotwm a phlanhigfa baco ac yn feistr ac yn berchennog ar bedwar o gaethweision. Claddwyd ef ar dir ei blanhigfa ei hun.

Nid yw'r beirniaid llenyddol yn unfryd unfarn parthed lle a maintioli Goronwy Owen yn hanes llenyddiaeth Cymru, ond ni all neb wadu ei fod ef yn gyfrifol gymaint â neb am yr adfywiad ym marddoniaeth Cymru. Nid oedd William Morris, ei gyfaill o Fôn, ymhell ohoni pan ysgrifennodd na allai ef feddwl am neb hafal iddo. Prin y buasai ei blwyfolion yn Eglwys Sant Fair Walton wedi anghytuno! Nid yr Ysgol Ramadeg yw'r unig ddolen a erys am gysylltiad Goronwy Owen a Walton oherwydd y mae'r clychau a osodwyd yno yn 1730, yno o hyd. Mi fyddai Goronwy Owen wedi gwerthfawrogi'r pennill canlynol o gerdd W. G. Hardman i 'Glychau Walton':