CNOI BACO gan W.Alun Mathias


DYWEDIR y byddai golygydd Y Diwygiwr yn nyddiau cynnar cyhoeddi'r cylchgrawn hwnnw yn rhybuddio ei ddarllenwyr bob blwyddyn mai tri pheth oedd yn lladd pregethwr, sef gwely llaith, ceffyl cloff, a dyn yn cysgu yn y cwrdd. Ond yr oedd digon o bethau eraill, wrth gwrs, heblaw'r rhain yn gallu achosi poen a blinder i bregethwyr y dyddiau gynt, ac un ohonynt oedd dynion yn cnoi baco yn y cwrdd ac yn poeri'r sudd ar y llawr. Cefais fy atgoffa o'r arfer annymunol hwn wrth weld yn rhifyn Haf 1996 o'r Casglwr (tud.20) atgynhyrchiad o daflen brintiedig y daethid ar ei thraws gan R. W. McDonald yn dwyn y teitl, 'Gair neu ddau ar yr arferiad o boeri mewn tŷ addoliad'. Argraffwyd y daflen wreiddiol yn Rheithordy Llanwenllwyfo, Sir Fôn, tua'r flwyddyn 1880, a'r pwrpas wrth ei chyhoeddi, fel y cofir, oedd ceisio dwyn perswâd ar y dynion hynny oedd yn cnoi baco ac yn poeri mewn lle o addoliad i roi'r gorau i'r arferiad hwn, a oedd yn ôl yr awdur, i'w weld 'mor fynych', trwy geisio dangos iddynt pa mor wrthun ac anweddus oedd ymddygiad o'r fath.   
'Ar arferion Cymru gynt....'R.W.McDonald yn dod ar draws taflen mewn llythyr oddi wrth yr Archddiacon A.Owen Evans, Rheithordy Llanfaethlu, at J.H.Davies, Ebrill 4ydd 1918. Rheithor Llanwenllwyfo tua 1880 oedd John Evan Williams. Llsgr. Cwrtmawr 971C.

Nid oeddwn yn gwybod dim am yr arferiad o gnoi baco mewn tŷ addoliad hyd nes i mi, flynyddoedd maith yn ôl bellach, daro ar nifer o gyfeiriadau ato wrth ddarllen rhai o'r Cofiannau Cymraeg a'r cyfrolau eraill yr oeddwn wedi eu casglu gyda'r bwriad o hel gwybodaeth am arferion addysgol yng Nghymru'r ganrif ddiwethaf. Fy mwriad yn yr erthygl hon yw nodi rhai o'r cyfeiriadau hynny gan obeithio y byddant o ryw ddiddordeb i ddarllenwyr Y Casglwr.

Gellir bod yn sicr na fuasai cofnod wedi ei gadw o rai o'r enghreifftiau sydd wedi goroesi o gnoi baco mewn oedfa grefyddol onibai bod rhywbeth anarferol wedi digwydd ar yr achlysur, megis ymyrraeth annisgwyl o du'r pregethwr. Ceir enghraifft nodedig o'r math hwn o beth yn yr hanesyn a adroddir am y gweinidog Wesle William Rowlands ('Gwilym Lleyn', 1802-65) a'r cnöwr baco - hanesyn a ystyriwyd yn ddigon hynod i gael ei gynnwys yn y gyfrol Hynodion Hen Bregethwyr Cymru (1872)¹. Cofir am Gwilym Lleyn yn bennaf heddiw am ei lafur yn llunio'r rhestr o lyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd dan y teitl Llyfryddiaeth y Cymry yn 1869, ond i'w gyfoeswyr yr oedd yn adnabyddus hefyd am ei wrthwynebiad anghymodlon i arferion megis cnoi baco, ysmygu ac yfed diodydd meddwol. Mae’r hanesyn y cyfeiriwyd ato i’w weld yng nghyfrol yr 'hynodion' dan y pennawd, 'Gwilym Lleyn a’r Chaw tobacco'. Dywedir yno fod Gwilym Lleyn wedi ei gythruddo’n arw un tro o weld fod gŵr yn y gynulleidfa wedi dodi 'tamaid lled dda' o faco yn ei enau. Sylwodd, fel yr oedd y gwasanaeth yn mynd yn ei flaen, fod y cnöwr wedi dechrau hepian â'i enau 'yn fwy na hanner agored'. Yr hyn a wnaeth wedyn oedd rhuthro ato 'a chyda chyflymdra bron annysgrifiol' fe wthiodd ei fys i enau'r dyn a chipio'r joe faco ymaith mewn eiliad ac yna ei dal i fyny yn fuddugoliaethus 'gan adael y dyn mewn syndod gwag'. Mae'r hanesyn yn gorffen â'r geiriau hyn:

'Taflodd yr amgylchiad digrifol hwn y gynulleidfa i ysgafnder mawr, a bu diwedd ar ddefosiwn y gwasanaeth hwnnw'.

Dywedir i hyn ddigwydd mewn cyfarfod mawr yn Nhredegar pan oedd Gwilym Lleyn yn weinidog yno. Bu'n gweinidogaethu ddwywaith yn Nhredegar; y tro cyntaf ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf, a'r eildro yn y pumdegau. Yn ystod un o'r cyfnodau hynny, felly, y digwyddodd helynt 'Gwilym Lleyn a’r Chaw tobacco'.

Pregethwr gyda’r Wesleiaid oedd Gwilym Lleyn. Dyna hefyd oedd Isaac Jones (1823-95), gŵr y dywedir amdano iddo yntau hefyd un tro fethu ag ymgadw rhag dangos yn gyhoeddus ei anghymeradwyaeth o'r arfer o gnoi baco yn y cwrdd - er iddo wneud hynny mewn dull tipyn yn llai dramatig na'r un a ddefnyddiwyd gan Gwilym Lleyn. Ceir yr hanes am Isaac Jones yn y cofiant iddo a ysgrifennwyd gan John Hughes². Dywed ei gofiannydd fod Isaac Jones 'yn galed ar gysgaduriaid yn moddion gras', ac y byddai weithiau yn eu henwi o'r pulpud. Adroddir ei fod yr un mor llawdrwm ar gnöwyr baco yn yr oedfa, ac yn ôl John Hughes, un gŵr a fu dan ei lach oedd 'hen ŵr bychan o gigydd' o'r enw Richard Hughes. Yr oedd hwn, mae'n debyg, yn methu peidio cymryd bodiaid o faco weithiau yn ystod y gwasanaeth - 'yr hyn a gynhyrfai y pregethwr yn dost'. Fe'i cynhyrfwyd unwaith i'r fath raddau nes iddo ofyn ar goedd, 'Beth mae'r dyn yn bori deudwch, ai gwair y mae efe?' Ymddengys mai mewn oedfa yng Nghricieth y digwyddodd hyn.

Fel y gwyddys, y mae gofyn i'r sawl sy'n cnoi tybaco gael gwared o bryd i'w gilydd a'r sudd fydd yn ymgasglu yn ei geg. Yn ddiamau, profiad digon annifyr i bregethwr fyddai gweld dyn yn dodi baco yn ei geg i'w gnoi yn ystod yr oedfa. Ond gwaeth o lawer na hynny fyddai gorfod ei wylio yn poeri allan y sudd tybaco, a hynny mae'n debyg, yn amlach na pheidio ar y llawr, oherwydd mae'n ymddangos na wneid fawr o ymgais i ofalu bod unrhyw fath o lestri ar gael i ddal y seigiau poer. Un cyfeiriad yn unig a welais at y priodoldeb o ddarparu llestri pwrpasol mewn addoldai at ddal poer, ac mae'r cyfeiriad hwnnw i'w weld mewn pregeth o waith y gweinidog Annibynnol John Williams Castellnewydd Emlyn (1819-69), a gyhoeddwyd yn y cofiant iddo a olygwyd gan Benjamin Williams. Pregeth oedd honno a draddodwyd adeg ailagor capel a oedd newydd gael ei baentio, ac fe'i hargraffivyd dan y teitl 'Cysegr Hardd'. Yn y bregeth gosodir pwyslais arbennig ar gadw'r capel yn lân a chymen a cheir y pregethwr yn annog ei gynulleidfa i lanhau eu traed ar ddiwmod gwlyb cyn mynd i mewn i'r capel, i beidio ysgrifennu dim ar y corau a'r muriau, ac yn olaf i beidio cnoi baco yn ystod yr oedfa. Er bod John Williams yn gwrthwynebu'r arfer o gnoi baco yn y cwrdd, yr oedd yn ddigon goddefgar i ychwanegu y dylid sicrhau fod poerlestr, neu yn ei eiriau ef, 'llestr pwrpasol i'r perwyl' ar gael ar gyfer y sawl a oedd mor gwbl gaeth i'r arfer fel na allai ymatal rhag cnoi yn ystod y gwasanaeth. Y mae'n ddiddorol gwybod mai dyddiad yr enghraifft gynharaf sy'n digwydd o'r gair 'poerlestr' yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru yw 1852 - er bod enghraifft o'r ffurf 'poerflwch' yn digwydd am y waith gyntaf yn 1820.

Mae'n amheus iawn gennyf a fuasai defnyddio poerlestr na phoerflwch wedi gwneud fawr iawn o wahaniaeth yn yr achos o boeri yn y cysegr a gofnodir yng nghofiant J. J. Morgan i'r cawr-­bregethwr ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, Edward Mathews, Ewenni (1813-92). Y poerwr yn yr achos hwn oedd blaenor yn y sedd fawr a'r achlysur oedd oedfa lle'r oedd Matthews i weini'r ordinhad o Swper yr Arglwydd. Gwell cael yr hanes yng ngeiriau'r cofiannydd:
Edward Mathews, Ewenni

Yr unig gyfeiriad y digwyddais daro arno at ŵr a fyddai’n cnoi baco yn ystod gwasanaethau yn yr Eglwys Wladol yw'r un a gofnodir yn y gyfrol o atgofion a ysgrifennwyd gan David Evans (1830-1910), Archddiacon Llanelwy. Y cnöwr yn yr achos hwn oedd clochydd o'r enw William Morgan a oedd yn gwasanaethu ym mhlwyf Llanrhystud adeg adeiladu'r eglwys newydd yno tua chanol y ganrif ddiwethaf. Yr oedd yr Archddiacon yn frodor o blwyf Llanrhystud, ac yn ei atgofion ceir ganddo ychydig o hanes y clochyddion a fu'n gwasanaethu yn eglwys y plwyf yn ystod ei ddyddiau cynnar. Un o'r rhain oedd William Morgan, ac mae'n ymddangos mai'r prif beth a oedd wedi aros yng nghof yr Archddiacon am y gŵr hwnnw oedd ei fod yn cnoi baco yn ystod y gwasanaeth. Dyma sut y cyfeiria at hyn: 'Byddai (William Morgan) yn hoff iawn o gnoi tybacco, ac yr oedd yn methu yn lân â byw hebddo hyd yn oed yn ysbaid y gwasanaeth.'(Ystyr 'yn ysbaid' yn y frawddeg hon, wrth gwrs, yw `yn ystod'.)

Cyfeiriadau a gafwyd hyd yma at enghreifftiau yn y ganrif ddiwethaf o unigolion yn cnoi baco yn ystod gwasanaethau crefyddol. Ond ai rhywbeth cyfyngedig i ambell unigolyn mewn ambell gapel neu eglwys oedd yr arferiad? Mae'r hyn a ddatgelir mewn llythyr at y golygydd a gyhoeddwyd yn Tywysydd yr Ieuainc ym Mawrth 1848 yn dangos yn eglur fod yr arfer yn digwydd yng Nghymru ym mhedwardegau’r ganrif ddiwethaf ar raddfa ehangach o gryn dipyn nag a awgrymir gan yr enghreifftiau y cyfeiriwyd atynt uchod. (Gan Dr R. Elwyn Hughes y cefais wybod am y llythyr hwn, a mawr yw fy niolch iddo am ei gymwynas.) Ymddangosodd y llythyr dan y pennawd 'Anfoesgarwch yn Nhŷ Dduw', a'r awdur oedd gŵr o Goed-y-cymer a oedd yn defnyddio'r ffugenw 'Ieuan Mawrth'. Lladd yn ddiymarbed a wneir yn y llythyr ar yr arfer o gnoi baco yn y cwrdd gan gyfeirio at y difrod a'r llanast a achosid gan y poeriadau llysnafeddog. Mae'n gwbl amlwg mai sôn a wna'r awdur am arferiad a oedd i'w weld yn aml yn y pedwardegau. Dyma ddyfyniad o'r llythyr:

Codwyd y sylwadau a ddyfynnir isod o ysgrif gan David Rees, Llanelli a gyhoeddwyd yn Y Diwygiwr yn 1858, sef ymhen deng mlynedd union ar ôl i lythyr 'Ieuan Mawrth' ymddangos yn Tywysydd yr Ieuainc. Fe'u dyfynnir gennyf er mwyn dangos fod y sefyllfa ynglŷn â chnoi baco a phoeri mewn addoldai yn dal i fod i bob golwg lawn cynddrwg ym mhumdegau'r ganrif ag y buasai yn y pedwardegau.

Hyd y gwelaf nid oes modd gwybod pa bryd y dechreuodd yr arfer o gnoi baco mewn addoldai yng Nghymru, ond mae'n bur amlwg oddi wrth yr hyn a ddywedwyd uchod mai peth digon cyffredin ym mlynyddoedd canol y ganrif ddiwethaf oedd gweld dyn neu ddynion yn cnoi baco ac yn poeri yn ystod y gwasanaeth. Ni wn i pa un ai gwella neu ynteu gwaethygu a wnaeth y sefyllfa yngIŷn â'r arfer yn ystod chwedegau a saithdegau'r ganrif, ond mae'r daflen brintiedig y cyfeiriwyd ati ar ddechrau'r sylwadau hyn yn tystio fod yr arfer mewn grym mor ddiweddar â'r wythdegau. Pa bryd y gwelwyd diwedd ar yr arferiad gwrthun hwn? Byddai'n ddiddorol gwybod a lwyddwyd i gael gwared ohono cyn diwedd y ganrif.