YR INC CYMREIG YN UTICA gan D. Ben Rees

OES AUR cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gwelir hyn ymhob rhan o'r byd. Cyhoeddwyd cyfrolau yn Gymraeg yn Awstralia yn ogystal ag yn y Wladfa ac yn arbennig yn yr Unol Daleithiau ac mewn dinas arbennig yn nhalaith Efrog Newydd, sef Utica. Yno 'roedd canolfan cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg yn yr Unol Daleithiau trwy gydol y ganrif.

Cychwynnodd yr enwadau crefyddol gylchgronau, fel enwad y Methodistiaid Calfinaidd a fu'n gyfrifol am Y Cyfaill o 1838 hyd ei ddiflaniad yn 1933. Gofalodd yr Annibynwyr Cymraeg bod ganddynt hwythau eu cylchgrawn Y Cenhadwr Americanaidd. Cychwynnwyd Y Cenhadwr Americanaidd gan weinidog yr Annibynwyr - Cymraeg yn Utica, Robert Everett (1791-1875) a hynny ynl840. Ef a olygai'r cylchgrawn a'i argraffu hefyd ar ei argraffwasg ei hun. Daeth Y Cenhadwr Americanaidd yn gylchgrawn misol poblogaidd dros ben.

Yn 1861 symudodd Y Drych o Efrog Newydd i Utica, ac yn y fan honno y cyrhaeddodd ei benllanw - sef cylchrediad o ddeuddeg mil. Cyn 1910 yr oedd Y Drych yn gyfangwbl Gymraeg, ond yn y dauddegau gwelwyd eitemau Saesneg yn cripio iddo a hynny yn bennaf am fod y gymdeithas Gymraeg yn nhalaith Pennsylfania yn Seisnigeiddio yn gyflym. Ac erbyn y tri degau yr oedd Saesneg wedi dod yn iaith y cylchgrawn - ac felly y mae hi heddiw yn hanes Y Drych.

Dim ond ychydig enghreifftiau a nodais. Y mae llawer o gylchgronau crefyddol a ddylid eu crybwyll, fel Blodau yr Oes ar Ysgol a gyhoeddwyd ar gyfer y bobl ifainc yn yr Unol Daleithiau. Byr fu ei fywyd, o Ionawr 1872 hyd Rhagfyr 1875, ond y mae'n enghraifft ardderchog o'r bywyd Cymraeg cryf a fodolai yn Utica.

***

YR OEDD dau nodwedd i'r cyhoeddi yn Utica - cyfrolau crefyddol yw rhan helaethaf o'r cynnyrch, ac yn ail cyhoeddwyd llawer o gyfrolau a gafodd eu hysgrifennu a'u cyhoeddi yng Nghymru yn gyntaf. Er enghraifft yn 1844-5 argraffodd Evan E. Roberts Geiriadur Ysgrythyrol Thomas Charles o'r Bala - yr argraffiad Americanaidd cyntaf. Cafwyd argraffiadau eraill - un ohonynt yn Utica yn 1863 pan argraffodd Evan Roberts Y Geiriadur ar ran cyhoeddwr o'r enw T.T. Evans.

Ond hyd y gallaf gasglu yr oedd un argraffydd a chyhoeddwr yn sefyll ar ei ben ei hun yn Utica, sef T.J. Griffiths, Exchange Buildings, ac ar ôl hynny 131 Genesee Street. Y mae gennyf yn fy llyfrgell ddwy gyfrol a argraff­wŷd ac a gyhoeddwyd gan T.J. Griffiths. (Gobeithiaf lwyddo yn y dyfodol i roddi fy llaw ar lawer mwy na hynny a dod o hyd hefyd i hanes y cyhoeddwr hwn.)

Gwaith chwarelwr 'Ionoron Glan Dwyryd' (1819-1884) neu Rowland Walter yw'r gyfrol gyntaf, sef Caniadau Ionoron: yn cynnwys Awdlau, Cywyddau, Englynion, a Phenillion a gyhoeddwyd gan T.J. Griffiths yn 1872. Yr oedd lonoron yn byw ac yn gweithio fel chwarelwr yn Hydeville, Vermont, ac yn barod iawn ei gyfraniad i'r papurau a gyhoeddid yn Utica, fel y Cenhadwr Americanaidd a'r Drych. Ond prif gymhelliad Ionoron oedd gwneud ceiniog neu ddwy. Dyma'i gyfaddefiad yn y Rhagymadrodd:

Ni welais ddim byd tebyg mewn unrhyw ragymadrodd a tybed a lwyddodd Ionoron? Pan ddarllenais ragymadrodd Ionoron cofiais gwpled Sarnicol am y Llenor Cymraeg :

***

YR AIL gyfrol a feddaf o argraffdy T.J. Griffiths yw'r gyfrol. D.L. Moody a'i Waith, sef cyfieithiad y Parchedig Thomas R. Jones o waith y Parchedig W.H. Daniels a gyhoeddwyd yn Utica yn 1877. Yr oedd Thomas R. Jones yn byw yn Randolph, Wisconsin, a chredai y byddai'r gyfrol yn apelio at bobl o bob oedran. Dyma'i eiriau'

Credaf fod y gyfrol hon yn go brin, a sonnir ar y dudalen flaen amdani fel Cyfrol 1. Ni wn a gyhoeddwyd cymar iddi. Ond yn ddiddorol iawn o lyfrgell Richard Hughes, Tŷ Hen Isaf, Llanerchymedd, Môn, y daeth y gyfrol hon sydd yn fy meddiant. (gweler erthygl Dafydd Wyn Wiliam, 'Y Casglwr o Fôn'. Casglwr, Mawrth 1979, t. 10). Llyfrbryf a oedd yn byw yn nechrau'r ganrif hon yn Llanerchymedd oedd Richard Hughes ond sut y daeth ef o hyd i un o'r cyfrolau prinnaf y deuthum o hyd iddi hyd yn hyn o argraffwasg T.J. Griffiths, Utica?

Dechrau sôn a wneuthum am dref a fu'n ganolfan brysur i gyhoeddi yn Gymraeg - ac erbyn heddiw peidiodd y gweithgarwch yn llwyr yn Utica. Ond nid yw hynny yn esgus i mi beidio â chasglu cynnyrch cyhoeddwyr Utica.