RHOI COF YR HIL MEWN CYFROLAU ~
Ymchwil Robin Gwyndaf

BRAINT a hyfrydwch i unrhyw un, bid siŵr, yw cael ymhél â diwylliant gwerin mor gyfoethog ag eiddo cenedl y Cymry. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn cefais innau gyfle i gasglu ac astudio defnyddiau amrywiol a diddorol iawn yn ymwneud a sawl agwedd ar y diwylliant hwn, yn lluniau ac yn llawysgrifau o bob math, megis llythyrau, dyddiaduron, llyfrau, cyfrifon, biliau, derbynebau, a chasgliadau o lên gwerin.

Ond yr hyfrydwch pennaf un fu cael cwrdd â phersonau hwnt ac yma yng Nghymru sy'n llawysgrifau byw – gwŷr a gwragedd sy'n awdurdod ar lên a llafar eu bro; cynheiliaid traddodiad eu tadau, bob amser yn barod i drosglwyddo'r traddodiad i eraill; cymeriadau crwn, a'u cynhysgaeth yn ein hatgoffa o ddiwylliant eang gwŷr y Dadeni Dysg.

Un o'r gwŷr da hynny ydoedd Lewis T. Evans (1882-1975) a anwyd ar fferm Ty'n Gilfach, plwyf Cerrigydrudion, ac a fu yn ei dro yn was ffarm, yn chwarelwr, yn gipar, yn fugail, yn amaethwr ac yn goedwigwr. Bardd a hynafiaethydd; crefftwr ac arlunydd; mining ei feddwl; craff ei sylwgarwch; a deheuig ei law, fel Lleu Llaw Gyffes gynt yn y Mabinogi.

***

AR NOSON o wanwyn yn 1964 y clywais amdano gyntaf. Er mor anghysbell oedd fy nghartref ar fferm yr Hafod, Llangwm, arferai amryw o'r cymdogion yn eu tro ddod draw fin nos am sgwrs. Tua'r flwyddyn 1958 dechreuais innau gofnodi rhai o'r sgyrsiau hyn a holi fy nhad a'i gyfeillion ymhellach am eiriau a dywediadau'r fro, ei harferion, ei cherddi a'i storïau. Un o'r ymwelwyr cyson ydoedd y diweddar David Thomas, Cefn-brith, a'r tro olaf y bu ar ein haelwyd holais ef am enwau personau a allai gofio'r gymdeithas ryfeddol o feirdd a fu unwaith ar Fynydd Hiraethog - 'Beirdd Hafod Elwy a'r Cylch', fel y cyfeirid atynt, gan amlaf.

Y mae'n wir fy mod eisoes wedi clywed ambell bwt o rigwm doniol, megis hwnnw o eiddo John Jones, Llidiart y Mynydd, bugail a ffariar gwlad:

Ond nid oeddwn wedi gweld y nesa peth i ddim o waith y tri bardd ar ddeg a fynychai gapel bychan Pentrellyncymer ar dro'r ganrif ac yr arferid dweud ar lafar gwlad eu bod yn gallu llunio englyn cywir, na gweld chwaith y cerddi niferus a adroddai hynt a helynt aelodau'r gymdeithas, yn arbennig eu troeon trwstan.

Ac fel ateb i'r cwestiwn hwn y cyfeiriodd David Thomas fi at 'hen ŵr' yn byw mewn tyddyn bychan o'r enw Seler, ar gwr y goedwig i gyfeiriad Cyffylliog. Roedd yn fardd, 'crap ganddo ar ddwy neu dair o ieithoedd' ac, yn ei ddydd, wedi 'gwneud telyn, ffidil a gitâr...'

Bu raid aros hyd ddiwedd 1964 cyn y daeth cyfle i ymweld â Lewis Evans yn ei gartref, ond rhwng hynny a dyddiad ei farw yn 92 mlwydd oed, ddydd Llun y Pasg, 1975, bûm yn ymweld ag ef dros ddeg ar hugain o weithiau, ac yr oedd un ymweliad, fel arfer, yn ddiwrnod llawn. Bûm hefyd yn gohebu'n aml ag ef ac yn rhoi gwaith cartref iddo yn gyson. Recordiodd yntau imi 134 o dapiau hanner awr yr un, a chofnodwyd llawer o wybodaeth bellach mewn llyfrau nodiadau.

***

ER MOR hir a blinedig oedd y daith o Gaerdydd i Gyffylliog, yr un bob tro oedd y wefr o gyrraedd cartref Lewis Evans. A'r un hefyd oedd fy rhyfeddod.

Rhyfeddu at gof y gŵr a feistrolodd y gelfyddyd o wrando a sylwi. Cofiai, er enghraifft, lu mawr o hen storiau gwerin a glywodd gan ei ewythr dall pan oedd yn hogyn naw i ddeg oed yn Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer, wedi iddo adael yr ysgol.

Rhyfeddu hefyd at gyfoeth yr etifeddiaeth ddiwylliannol a ddaeth yn eiddo iddo drwy ei deulu. Roedd ei fam a'i brodyr yn alluog a gwybodus. Un ohonynt ydoedd Evan Evans (leuan Alwen) a gyhoeddodd gasgliad o'i farddoniaeth mewn llyfr prin iawn erbyn hyn o'r enw Blodau Ebrill (Rhiwabon, d.d.). O ochr ei dad gallai olrhain ei achau gyda balchter hyd at ei hen, hen, hen daid, Dafydd, y cyntaf i ddod i fyw i Dy'n Gilfach: Lewis Evans, mab Hugh Evans, mab Huw Evans, mab Huw Ifan, mab Ifan, mab Dafydd.

Yr oedd Hugh Evans, tad Lewis Evans, yn dipyn o fardd. Am ran olaf ei oes bu'n casglu trethi plwyf Cerrigydrudion a lluniodd englyn i ddisgrifio ei brofiadau (ac 'n' yn eisiau yn y llinell olaf!):

Ond fel hynafiaethydd lleol y gwnaeth ei gyfraniad pennaf. Yr oedd hefyd yn seryddwr o fri. Aeth ati un tro i wneud arbrawf gyda pholyn er mwyn gallu profi bod y ddaear yn troi o amgylch yr haul ac nid yr haul o amgylch y ddaear!

***

AC IEITHOEDD wedyn – dyna ddiddordeb mawr arall. Er mwyn ceisio meistroli'r iaith Saesneg prynodd eiriadur, a dywedir iddo ddysgu oddeutu deuddeng mil o eiriau ar ei gof! Yr oedd ganddo grap pur dda hefyd ar Ladin, Groeg, Hebraeg a Ffrangeg. Fe welais i un o'i lyfrau Hebraeg, llyfr yn cynnwys y Salmau, Llyfr y Diarhebion, Llyfr y Pregethwr a Chaniad Solomon. Yr oedd wedi'i brynu, medd Lewis Evans, gan ryw ŵr a adwaenid fel 'Roberts y Llyfre Budron'!

Yr oedd prynu llyfrau (ac weithiau eu gwerthu) yn ei waed. Pan oedd yn bur ifanc clywodd fod Gwilym Cowlyd yn y cylch a'i fod yn prynu llyfrau ail-law. Aeth â hanner sachaid o hen lyfrau ato ar y slei, gan ddweud wrth ei rieni mai i'r Groes Faen yr oedd yn mynd. Wedi dychwelyd holodd ei fam ef.

'Wel, sut roedd pobol Groes Faen heddiw?'

'0, iawn', meddai Hugh Evans, 'mi gês baned yno.'

Arferai ei fam ddweud mai dim ond dau beth yr oedd yn ofni ei weld yn dod i'r buarth:

'Angau a gwerthwr llyfrau'!

***

TESTUN rhyfeddod arall oedd amrywiaeth mawr diddordebau Lewis Evans, o gadw adar i lunio'i getyn pren ei hun, o wneud ffust a chribin i wneud 'hofrennydd' o bren i geisio hedfan o ben clogwyn! Ymddiddorai yn llenyddiaeth ac iaith ei wlad a'i fro. Cyfeiriai at feirdd megis Llywarch Hen a Dafydd Nanmor fel petaen nhw'n gyfeillion byw iddo. Fel ei dad, ymddiddorai yntau mewn ieithoedd cenhedloedd eraill, mewn seryddiaeth ac mewn archaeoleg.

Yn yr un modd, yn y gorffennol, gan amlaf, yr oedd ei brif ddiddordeb pan âi ati i arlunio. Ond iddo ef, nid y gorffennol marw, pell yn ôl, oedd hwn, ond y gorffennol sy'n fythol fyw yn y presennol: llun o'r Brenin Arthur sy'n dal i alw'i farchogion o'r ogof; llun o Greigiau'r Bleiddiau ac Aelwyd Brys – dim ond tai, ond tai a fu hefyd yn gartref i wŷr o athrylith y bydd eu henwau fyw fyth tra deil trigolion cylch Uwchaled i drysori iaith a diwylliant.

Digon caled oedd ei fyd pan droes i amaethu. Bu'n ffarmio i fyw ac nid byw i ffarmio. Yr oedd mwy i fywyd na gwaith. Yn un peth yr oedd dyn wedi llunio offerynnau cerdd gogoneddus, a hyfrydwch pur i Lewis Evans ydoedd chwarae rhai o'r offerynnau hyn, yn fwyaf arbennig y sturmant, cordial, organ geg, y ffidil, y gitâr a'r delyn. Fe wnaeth delyn a ffidil ei hun pan oedd yn llanc ifanc, a gitâr pan oedd bron yn bedwar ugain oed.

Ymddiddorai hefyd ym myd natur, ac yr oedd ganddo wybodaeth helaeth am feddyginiaethau gwerin ac am y llysiau rhinweddol hynny yr oedd cymaint ohonyn nhw'n tyfu yn yr ardd yn Seler, ei gartref, ac yng nghloddiau'r caeau o amgylch – os oedd llygad gennych i'w hadnabod a'r iawn wybodaeth i'w defnyddio.

***

OND O bob testun rhyfeddod, y rhyfeddod mwyaf un oedd sylweddoli mor eithriadol gynhwysfawr a gwerthfawr oedd gwybodaeth Lewis Evans am ddiwylliant gwerin y gymdeithas y bu ef yn rhan ohoni am oes gyfan yn Uwchaled.

Ef oedd yr olaf o feirdd y gymdogaeth fynyddig a ffynnai ym Mhentrellyncymer a'r cylch yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf a chwarter cyntaf y ganrif hon, ac y mae mwy na geinau yn ei gywydd dwys i'w hen fro:

Gwerth arbennig tystiolaeth Lewis Evans yw iddo allu rhoi darlun mor fyw a chywir inni o'r gymdeithas gynt yn y rhan hon o Fynydd Hiraethog. Rhoes ddarlun, er enghraifft, o gynhaliaeth faterol dyn – ei fywyd a'i ddillad; ei foddion i gadw'n iach; ei dai a'i ddodrefn, a hefyd ei waith ar hyd y flwyddyn, boed amaethwr yn torri gwair rhos ar yr ucheldir neu grefftwr crwydrol, megis Ifan Jones y Gwydrwr, Ifan Jones y Sadler, a'r Seiri Cochion.

Yn yr un modd rhoes ddarlun byw inni o'r cymeriadau hynod hynny sy'n rhoi lliw a blas ar fywyd, y mwyafrif ohonyn nhw yn drigolion lleol, ond rhai ohonyn nhw yn ymwelwyr achlysurol, megis Cornelius Wood, y sipsi, a Twm Pool a Siarret, dau grwydryn gwlad.

Rhoes inni hefyd ddarlun gwerthfawr o gynhaliaeth ysbrydol dyn. Coelion ac arferion gwerin, megis hynt y gwyliau a'r tymhorau a chylchdro bywyd, o'r crud i'r bedd; chwaraeon, clymau tafod a phosau, megis:

(A'r ateb? Dyn yn eistedd ar stôl drithroed yn gafael mewn coes gŵydd, ci yn dod heibio ac yn dwyn y goes; y dyn yn taro'r ci gyda'r stôl ac yn cael y goes yn ôl.)

Hwiangerddi a phenillion telyn hefyd, megis:

Rhigymau a cherddi llafar gwlad i hynt a helynt y trigolion, megis yr englyn hwn gan Tom Owen i ofyn i Ddafydd Jones, Melin Bryn Saint,: Cerrigydrudion, am waliwr:

Diarhebion a dywediadau sy'n cynnwys sylwadaeth graff dyn ar hyd yr oesoedd, megis yr arwyddion tywydd a ganlyn am yr eira:

(Bowls, wrth gwrs, yw'r cylchoedd haearn a chwaraeid gyda bachyn gan blant). Neu ddywediadau a blas lleol arnynt, megis:

(Arferai trigolion Uwchaled fynd i'r ffair hon yn y ganrif ddiwethaf ac yr oedd yn daith bell iawn.)

(h.y. talu byth. Nid oedd ffair ym mhentref bychan Cefn-brith!)

Ac wrth gwrs, y llu storiau, hanesion a thraddodiadau o bob math, dros 350 ohonynt i gyd.

***

OND WRTH gyflwyno darlun cynhwysfawr o ddiwylliant gwerin dyn yn ei gymdeithas rhoes Lewis Evans wybodaeth inni hefyd am yr hyn oedd yn creu'r diwylliant hwnnw: addysg, hyfforddiant a diddordeb; etifeddiaeth ddiwylliannol; a'r cwlwm adnabod a brawdgarwch oedd yn troi cwmwd yn gymdogaeth.

Rhoes wybodaeth inni yn ogystal am yr hyn oedd yn cynnal y diwylliant hwn: parhad o'r un teuluoedd; dylanwad nifer o gynheiliaid traddodiad gweithredol (yn feirdd ac yn hynafiaethwyr, yn bennaf); a phwysigrwydd mannau cyfarfod, yn arbennig y rhai answyddogol, megis: y ffeiriau, y noswaith wau, noson ladd gwair, gwleddoedd cyn Clame, noson wneud cyfleth, diwrnod dreifio grows, cyfarfod y bugeiliaid, y llofft stabal, y sgubor ar ddiwrnod gwlyb, yr efail, diwrnod cneifio, diwrnod dyrnu, diwrnod lladd mochyn, ac ambell dŷ yn yr ardal â’r drws ar agor.

Ie, braint a hyfrydwch yn wir i mi fu cael bod yn ddisgybl ac yn gyfaill i Lewis Evans am ddeng mlynedd ar derfyn ei oes. Cwta dair blynedd o ysgol yn unig a gafodd, ond parhaodd i ddysgu hyd y diwedd. Pan oeddwn wedi cofnodi ond cyfran fechan o'i dystiolaeth. Dysgodd lawer imi am wyrth y meddwl dynol. A dysgodd imi wyleidddra. Yng ngeiriau Rolant o Fôn:

ÔL NODYN
Ysgrifennais y sylwadau uchod nid yn unig er mwyn rhannu peth o'r hyfrydwch gyda darllenwyr Y Casglwr, ond hefyd er mwyn annog rhywrai, gobeithio, i gofnodi tystiolaeth personau tebyg i Lewis Evans mewn ardaloedd eraill. Ni fydd eu llafur yn ofer.
Daliaf ar y cyfle hwn i ddiolch yn ddiffuant iawn i Mrs Gwennie Thomas, Cyffylliog, nith Lewis Evans, am lawer cymwynas, i Amgueddfa Werin Cymru am ganiatâd i gyhoeddi rhai o'r lluniau; ac i Roy Stephens am roi imi bennawd i'r ysgrif hon. Cefais y llinell ‘cof yr hil mewn cyfrolau' o'i gywydd yn rhifyn Mai 1979 o 'Barddas’, i ffarwelio â phedwar gŵr o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth: Syr Goronwy Daniel, a'r Athrawon J.E. Caerwyn Williams, R. Geraint Gruffydd a Brinley F. Roberts.