O FAES Y GWAED gan Robin Gwyndaf

YSGWN I faint o'r darllenwyr sy'n casglu defnyddiau megis llythyrau, dyddiaduron neu gerddi a sgrifennwyd gan filwyr ymhell o'u gwlad a'u teuluoedd? Gwell gan rai, mae'n siŵr, yw peidio ag ymhél o gwbl ag unrhyw beth sy'n eu hatgoffa o'r bechgyn a glwyfwyd ac a laddwyd ar faes y gad. A hawdd yw cydymdeimlo â safbwynt felly.

Ac eto, fe all darllen y defnyddiau hyn ein hargyhoeddi fwyfwy o ffolineb ac erchyllterau rhyfel. Dyna, yn sicr, y dylai ymweliad â'r Amgueddfa Ryfel (yr Imperial War Museum) yn Llundain ei wneud, yn ogystal, wrth gwrs, â'n gorfodi i ryfeddu at faint yr holl wybodaeth a'r defnyddiau a gasglwyd ynghyd yno.

Rai blynyddoedd yn ôl cefais gyfle i recordio atgofion tri o gyfeillion Hedd Wyn: y diweddar Jacob Jones (genedigol o Uwchaled) a fu'n cyd-rigymu a chyd-englyna ag ef yn yr odyn grasu yn Nhrawsfynydd; y Parch. William Morris, cyfaill bore oes; a Simon Jones, Blaen Plwyf Uchaf, Aberangell, a welodd Hedd Wyn yn cael ei glwyfo.

Wedi hynny daeth cyfle i gasglu llythyrau, dyddiaduron a cherddi a sgrifennwyd gan eraill o fechgyn ifanc a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bechgyn na ŵyr Cymru fawr ddim amdanyn nhw, ond sydd â'u henwau yn fyw ac yn annwyl iawn hyd heddiw gan eu teuluoedd.

Cofiaf yn dda, er enghraifft, am ddisgrifiad Telynores Maldwyn (tap A.W.C. 3191) pan aeth i ymweld â mam Defi Llwyn Cwpwl, Llangwm, y llanc hoffus a direidus y bu hi'n ei ddysgu i ganu'r delyn deir-rhes (daeth yntau, yn ei dro, yn athro i Miss Laura M. Jones, 'Telynores Gwynedd'):

0 holl wyliau'r flwyddyn, mae'n sicr mai dymuniad pob milwr yw cael bod gartref gyda'i deulu dros Ŵyl y Nadolig. Anodd yw gorfoleddu yn sŵn y gynnau, ac yn ei gerdd odidog 'Bethlehem' rhoes y diweddar Barch R. Meirion Roberts (awdur y ddwy gyfrol o farddoniaeth Plant y Llawr ac Amryw Ganu) fynegiant didwyll ac angerddol iawn i ddyheadau llawer un ar yr adeg hyn o'r flwyddyn.

Yr oedd ef ar y pryd yn gaplan yn Y Dwyrain Canol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

OND NID pob milwr sy'n gallu cyfansoddi barddoniaeth. Anfon eu cyfarchion Nadolig drwy gyfrwng llythyr neu gerdyn a wnâi'r mwyafrif, ac yn y rhifyn hwn o'r Casglwr tybiais y byddai gan y darllenwyr ddiddordeb mewn gweld enghreifftiau o gardiau o'r fath, o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. (Daw'r tri o gasgliad Amgueddfa Werin Cymru, rhifau 59 128 1-2 a 70 313 1).

Cyflwynwyd cerdyn 1 a 2 (top a gwaelod ar dud. 1) yn rhodd i'r Amgueddfa gan S.A. Luen, y Barri. Anfonwyd hwy at ei briod, Annie, cyn iddi briodi gan ddau fachgen ifanc o'r Barri: Idris Roberts ac Albert Richards. Perthynai'r naill i rif 38 o'r Adran Gymreig a'r llall i'r ail fataliwn ar bymtheg o'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol. Bu farw'r ddau yn y rhyfel.

Cyflwynwyd y trydydd cerdyn (ar y tudalen yma) yn rhodd i'r Amgueddfa gan W. Graeme John, o Aberdâr. Ni wn at bwy yr anfonwyd ef na pha beth a ddigwyddodd i'r sawl a'i hanfonodd, ond dyma'r geiriau a sgrifennwyd y tu mewn i'r cerdyn: 'To you from Evan John with best Love.'

ÔL NODYN
Cais gan y Golygydd am lun Cerdyn Nadolig Cymraeg cynnar a roes sbardun i'r nodiadau uchod. Ond er i'r cerdyn Nadolig cyntaf yn Lloegr a Chymru fel y gwyddom ni amdano gael ei gyhoeddi mor bell yn ôl ag 1843 (gw. cyfrol George Buday, 'The History of the Christmas Card, 1954) prin yw'r cardiau Cymraeg a gyhoeddwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Os oes gan rai ohonoch enghreifftiau cynnar beth am eu hanfon naill ai at y Golygydd neu at Adran Llên Gwerin, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd.