NED MN gan Dafydd Wyn Wiliam

PAN OEDDWN yn fyfyriwr ym Mangor arferwn alw yn Siop Pendref. Ar un o'r mynych ymweliadau fe brynais am ddeunaw swllt gyfrol Edward Jones, Cyfreithiau Plwyf . . . (Llundain 1794) tt. ixiv; 1-152. Pris y gyfrol adeg ei chyhoeddi oedd triswllt. Yr oedd gennyf ddau reswm da dros brynu'r gyfrol perthynai ir ddeunawfed ganrif a gwyddwn mai gŵr o Fn oedd yr awdur. Ceir llith amdano yn Y Bywgraffiadur Cymreig Hyd 1940 (1953) t. 431 ac enw R.T.J(enkins) wrth ei godre. Diben hyn o ysgrif fydd crynhoi rhagor o ffeithiau amdano.

Yr wyf yn ddyledus i Sin Wiliam Prichard (1749-1829) o Blas-y-brain ym Mhlwyf Llanbedrgoch, Ynys Mn am fy ngosod ar drywydd Edward Jones a'i deulu. Mewn llythyr a ysgrifennodd yn 1790 cyfeiria'r gŵr o Blas-y-brain at 'Edward Jones gynt o Veiriogan' LL.G.C. 13222, 21; gw. hefyd ibid. 227. Fferm ym Mhlwyf Llanddeusant, Mn yw Meiriogan a phan edrychais am gofnod o fedydd Edward Jones o'r lle hwnnw yn Eglwys ei blwyf ni chefais fy siomi.

Bedyddiwyd Edward mab John Edward ac Elisabeth Owen o Feiriogan 9 Ionawr 1751-2. Ef oedd yr ail mewn teulu o wyth o blant. Yr oedd y plentyn hynaf, Owen, eisoes wedi ei fedyddio 31 Mai 1750 a bedyddiwyd y plant eraill wedi hynny John yn 1754, Thomas (1756 bu farw'n ifanc), Margaret (1758), Elisabeth (1760), Thomas (1762) ac Anne (1764). Ymddengys bod y trydydd mab, John wedi dilyn ei rieni ym Meiriogan oherwydd cofnodir bedyddio pedwar o blant iddo ef a'i wraig Jonett rhwng 1768 a 1775.

Y mae'n werth cofio bod Sin Wiliam Prichard wedi ei fagu yng Nghnwchdernog ym Mhlwyf Llanddeusant ac iddo gael addysg dda. Dichon iddo ef a meibion hynaf Meiriogan fynychu'r un ysgol gyda'i gilydd. Ni wyddys ddim oll am Owen Jones na'i frawd Edward nes iddynt ymddangos yn Llundain.

CEIR y sn cyntaf am Edward Jones yn 1781 pryd yr etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain. Erbyn hynny yr oedd bron yn ddeg ar hugain oed.

Fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r Gymdeithas yn 1782 a thair blynedd yn ddiweddarach ef oedd ei llywydd. Y mae'n debygol fod ei frawd Owen wedi ymaelodi a'r Gwyneddigion tua'r un pryd ag ef. Gweithredodd Owen fel ysgrifennydd yn 1789 ac ar l gwasanaethu fel is-lywydd yn 1792 fe'i dyrchafwyd yntau yn llywydd yn y flwyddyn ddilynol.

Fe ddengys y ffeithiau moel hyn fod y ddau wladwr o Blwyf Llanddeusant wedi dod i amlygrywdd ym mywyd Cymraeg Llundain a chyfeillachent gwŷr fel Owain Myfyr, William Owen Pughe, Dafydd Samwell, Gwallter Mechain, Iolo Morganwg ac eraill. Datblygodd Edward Jones, yr ieuengaf o'r ddau frawd, i fod yn awdur o fri.

Yn Llyfryddiaeth Y Cymry (1869) tt. 692 a 696 fe briodola Gwilym Lleyn y ddwy gyfrol Index to Records (1759) i'r un awdur ag a ysgrifennodd Cyfreithiau Plwyf (1794), sef Edward Jones. Bwriodd R.T.Jenkins beth amheuaeth ar hyn eithr nid oes wadu nad Edward Jones ('Ned Mn') yw awdur y cyfrolau Saesneg hefyd. Gwelais hwy yn y Llyfrgell Genedlaethol. Wele ran o'r teitl hirwyntog:

Cyflwynodd yr awdur ei waith mawr a gorchestol i 'Sir Archibald Macdonald Knt. Lord Chief Baron of the Court of the Exchequer, ac ar derfyn y cyflwyniad ceir 'Inner Temple July 28, 1793.' Dilynir hyn gan ragymadrodd maith a dysgedig o 47 tt. sy'n cynnwys cyfeiriad at ddeddfau Cymru a dyfyniad Cymraeg mewn nodyn godre ar t. xviii.

Ar derfyn y ddwy gyfrol ceir rhestrau o danysgrifwyr at y gwaith, dros fil ohonynt, a'r mwyafrif o'r rheini yn Saeson. Eithriad yn eu plith yw enw ambell Gymro megis 'Owen Jones, Esq. Thames-street'.

Dengys y gwaith hwn fod yr awdur yn ysgolhaig dygn ac yn ŵr a ymddiddorai'n fawr yn y gyfraith. Geilw William Owen Pughe ei gyfaill yn 'Ned Mn the lawyer' ac fe ddywaid Gwilym Lleyn amdano t. 692: 'Dygwyd ef i fyny yn gynghawsydd, neu ddadleuwr cyfreithiol, ac yr oedd yn aelod o'r Fewnol Deml yn Llundain.'