LLUNIAU RHYFEDDOL MONSIEUR DAGUERRE
gan Iwan Meical Jones

YN Y blynyddoedd diwethaf dangoswyd mwy a mwy o ddiddordeb mewn hen ffotograffau - yn enwedig y rhai cynharaf - a gyda'r diddordeb newydd daeth cynnydd mawr yn y prisiau. Mae nifer o'r mathau cynharaf o ffotograffau yn dal ar gael o gwmpas Cymru, a byddai'n dda i unrhyw gasglwr eu hadnabod, onid er mwyn gwneud ffortiwn, yna er mwyn diogelu'r lluniau.

Tua 1830 yr oedd nifer o weithwyr yn arbrofi ar greu llun drwy effaith golau'r haul ar wahanol gemegau. Joseph Nicephore Niepce a gafodd y llwyddiant cynharaf, a chredir iddo wneud y ffotograff cyntaf ym mhentref St. Loup-de-Varennes ger Chalon-sur-Saōne, dwyrain Ffrainc, yn 1826. Pan fu farw yn 1833 yr oedd ei broses yn bell o fod yn ymarferol, gan ei bod yn rhaid gadael y plāt yng ngolau dydd am rai oriau, a hynny yn y diwedd heb wneud mwy na chreu llun sāl.

Wedi ei farwolaeth bu ei frawd Louis Daguerre yn gryn feistr ar y grefft o ddenu sylw, ac mewn cyhoeddusrwydd mawr dadlennwyd manylion y broses i gyfarfod o'r Academies des Sciences et des Beaux-Arts ym Mharis ym mis Awst 1839.

Taniwyd chwilfrydedd y cyhoedd, ac o fewn misoedd i'r cyhoeddiad swyddogol yr oedd ffotograffwyr wedi dechrau ar eu gwaith dros Ewrop ac yn America.

***

PETHAU cywrain, disglair, yw'r ffotograffau cynharaf hyn. Gwnaed y llun ar blāt o gopr ag arno haen o arian, a gosodwyd y plāt fel rheol y tu ōl i wydr mewn cas lledr. I wneud y llun gadewir y plāt arian yn agos at ļodin i greu haen o iodid arian (silver iodide) ar y wyneb. Amlygir y plāt yn y camera am rai munudau ac yna'i ddal dros ferciwri poeth i ddatblygu'r llun. Golchir y plāt mewn dŵr a halen (neu, yn well, 'Hypo', sef sodium thiosulphate) er mwyn tynnu'r iodid arian na effeithiwyd gan oleuni ac felly rhwystro'r llun rhag diflannu. Wedyn gellir ei selio y tu ōl i wydr a'i roi yn ei gasyn lledr.

Llun positif yw'r daguerrotype, ac oherwydd nad oes negatif y mae'r tu chwith, fel llun mewn drych. Gellir adnabod un yn hawdd iawn gan fod y plāt yn adlewyrchu golau fel drych a'r llun fel rhith ar y wyneb. Nid oes unrhyw fath arall o ffotograff yn debyg iddo: mae fel gem gwerthfawr yn ei gasyn lledr.

Portreadau yw'r rhan fwyaf o'r daguerrotypes ac erbyn hyn, ysywaeth, y mae llawer yn ddienw. Eleni bu portreadau bychain dienw yn gwerthu yn Sotheby's am tua £20. Y mwyaf bo'r llun yr uchaf fydd y pris fel rheol. Os yw enw'r person neu'r ffotograffydd yn hysbys bydd y pris yn uwch; weithiau bydd casyn da yn codi'r pris - yn enwedig rhai mathau addurnedig o America a elwir yn 'Union cases'.

Fel arfer, gan fod cymaint o bortreadau, ceir gwell pris am olygfa nag am bortread. Disgwylid gwerthu golygfa fechan o Benllergaer, cartref y ffotograffydd John Dilwyn Llewelyn, am dros ganpunt yn Sotheby's eleni. Gellir lliwio daguerrotype ā llaw, neu dynnu pār o luniau gyda'i gilydd i roi effaith 3-D, ac mae hyn eto'n codi'r pris.

Gellir talu cannoedd am y daguerrotypes gorau, ond y mae'r rhan fwyaf yn dal i werthu am lai na hanner canpunt, ac yn sicr y mae rhai ar gael o hyd o gwmpas Cymru, er efallai nad yw'r perchnogion i gyd yn gwybod beth yn union ydynt.

Yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae un nodedig iawn, sef y portread o'r bardd Talhaiarn. Digon posib y tynnwyd hwn yn Ffrainc pan oedd Talhaiarn yno yn arolygu codi plasau'r Rothschilds. Ai dyma'r ffotograff cynharaf o Gymro enwog?

***

BYR FU oes y daguerrotype. Aeth allan o'r ffasiwn yn ystod y 1850au ar ōl darganfod prosesau gwell. Yr oedd yn rhaid gwneud daguerrotype ar blāt metel felly yr oedd yn broses ddrud o'i chymharu ā'r prosesau papur a ddyfeisiwyd yn ddiweddarach. Mae'n debyg mai'r brif anfantais oedd bod pob un llun yn wrthyrch unigryw - ni ellid cael mwy nag un copi gan nad oedd negatif yn bod.

Hyd yn oed heddiw y mae'n anodd gwneud copi o daguerrotype oherwydd bod y wyneb yn adlewyrchu golau. Ond y mae gan y daguerrotype ryw naws arbennig iawn, ac fe ddaw yn nes nag unrhyw fath arall o ffotograff at atgoffa rhywun o'r grym hudol, rhyfedd y mae dynion o bob oes wedi'i weld mewn llun a delw.