LLOFFION LLANGYNFELYN gan W.J.Edwards
WRTH I bawb ohonom lawenhau yn llwyddiant y gadwyn gref o bapurau bro sy'n ymestyn i bob rhan o Gymru ac i Lerpwl hefyd erbyn hyn tybiais mai da fyddai dwyn ar gof arbrawl tebyg mewn un plwyf yng Ngheredigion yn y pumdegau. Gŵyr y cyfarwydd wrth gwrs fod O.M. Edwards wedi breuddwydio am gyhoeddi cylchgrawn plwyf ac iddo gyhoeddi dau rifyn o Seren y Mynydd, "Papur newydd at wasanaeth Llanuwchllyn a'r amgylchoedd" ym 1895. Gresyn na buasai ardaloedd eraill wedi dilyn ei esiampl a da fuasai cael gwybod a fu plwyfi mewn rhannau eraill o Gymru yn cyhoeddi cylchgrawn neu bapur.
Ar ôl gwasanaethu yn yr Awyrlu yn ystod yr Ail Ryfel daeth Huw J. Evans (tad y cynhyrchydd teledu John Hefin) yn ysgolfeistr i Dre Taliesin yng ngogledd Sir Aberteifi yn Ionawr 1946 ac ef a gafodd y weledigaeth i gychwyn cylchgrawn i wasanaethu'r plwyf. Plwyf Llangynfelyn yw'r plwyf hwnnw a gan mai pennaeth Ysgol Llangynfelyn oedd Huw Evans yr oedd yn naturiol iddo fedyddio'r cyhoeddiad newydd yn Lloffion Llangynfelyn.
Ymddangosodd y rhifyn cyntaf deuddeg tudalen yn Ebrill 1956 a dyma ddywed y golygydd wrth ei gyflwyno:
- "Wele'r rhifyn cyntaf o'r 'Lloffion'
lleol. Bwriedir ei gyhoeddi bob chwarter, gan gynnwys
pigion o hanes ein plwyf yn y presennol a'r gorffennol. Ceisir rhoi crynodeb o weithgarwch
yr Eglwys a'r Capeli, y Cyngor Plwyf, Sefydliad y Merched, y Pwyllgor Gwelliannau Lleol, y
Clwb Pêl-droed, y Gymdeithas Arddio ac o unrhyw beth o ddiddordeb a ddigwydd yn y cylch.
Peth da hefyd fyddai cael tipyn o hanes ein plant alltud - pobl ieuainc y plwyf sydd yn y
lluoedd arfog, yn gweini mewn ysbytai a mannau eraill. Croesewir unrhyw waith creadigol,
boed ddarn o farddoniaeth, stori fer neu ysgrif fer, ac fe roddir croeso arbennig iawn i hen
atgofion gan bobl sy'n cofio fel y bu pethau gynt. Cesglir ynghyd friwsion o hanes y plwyf
sydd ar hyn o bryd yn wasgaredig mewn llawysgrifau, cyfnodolion neu lyfrau".
***
WRTH droi dalennau'r deuddeg rhifyn a gyhoeddwyd gwelir bod y cylchgrawn wedi llwyddo'n rhagorol i gyflawni amcanion Huw Evans a bu'n gronicl cyflawn o fywyd un ardal yn ogystal. Cafodd dderbyniad llawen gan yr ardalwyr a'r rhai a symudodd o'u cynefin ac fel hyn y cyfarchodd bardd gorau'r plwyf, William Ernest Pugh, y cylchgrawn:
- Siwrnai ddigloff i'r "Lloffion"
A hir oes i'r fenter hon.
Rhamant ein pwy' arwymir;
O'r grawn hael rhagor yn wir.
0 fro wen awen a hwyl
Ysgub a ddaeth, annisgwyl.
Llonnwyd fy Ebrill anodd, —
Iaith fy mam sydd wrth fy modd.
Afiaith a gwae gânt ofod,
Y mynd dwys a rhamant dod;
Actau'r pwyllgorau a gawn
Llwydd ac aflwydd yn gyflawn;
A gwefr a gwên hen hanes,
Doniau'n hael i'w dwyn yn nes.
Y llon brydyddion ar dant
Yn hwyliog am a welant,
A beirdd ymhell o'r hen bau
A thw' hiraeth eu horiau. Di-draul dy haul Huw drylen,
Wyt grëwr a lloffwr llên;
A da ei ran, nid ar ôl,
Arthur a'i deipio gwyrthiol. 0 drimis ara' dramwy!
0 dywys melys, oes mwy.
Yr oedd y bardd yn alltud yng Nghaint ar y pryd a'r teipydd y cyfeirir ato yn y cywydd yw Arthur Pugh, a fu, cyn ymddeol yn ysgrifennydd i Alwyn D. Rees ac Adran Efrydiau Allanol, Coleg Aberystwyth.
***
YN Y braslun o hanes pob chwarter gofalwyd croniclo geni, priodi a marw'r plwyfolion a manylwyd ar weithgareddau'r gwahanol gymdeithasau. At hynny bu'r golygydd yn ddiwyd yn ychwanegu pob math o wybodaeth megis cyfeirio at agor Gorsaf Deledu Blaen-plwyf. Dwy set deledu oedd yn y plwyf ym 1956.
Ar Fawrth 30, 1957 caewyd tafarn yr Half-way yn Nhre'r-ddôl a gofalwyd rhoi dogn helaeth o hanes yr hen westy a fu'n fan newid ceffylau yn nyddiau'r Goets Fawr yn y Lloffion. Yno y cychwynnodd achos y Wesleaid yn y pentref ac yno'n ddiweddarach y ceid y cinio rhent pan ddeuai'r trigolion i gyflwyno'u harian prin i berchen stad y Gwynfryn, cartref yr Esgob William Basil Jones, Tŷ Ddewi.
Y tu ôl i'r dafarn y mae Cae Cwrt sy'n ein hatgoffa mai yn y dafarn y cynhelid yr hen lys ynadon cyn ei symud i Dal-y-bont ganrif yn ôl. Caeodd hwnnw'i ddrws bellach a daeth yr adeilad yn gartref i Wasg y Lolfa. Gan fod gennyf fodryb yn byw yn ymyl yr Half-way yr oeddwn yn bur gyfarwydd â'r hen dafarn a byddwn yn hoff o chwarae gyda'm cefndryd yn yr hen stabal lle lletyid ceffylau'r Goets gynt. Y mae arnaf hiraeth am yr Half-way fel am y Royal Oak yn Nhaliesin, y pentref lle maged fi. Trowyd y naill yn gartref ond nid oes garreg ar garreg o'r llall yn aros mwyach. Dywedir mai'r tywydd yw pwnc trafod pob dau o flaen popeth arall a da y gwnaeth Huw Evans sylwi ar dywydd pob chwarter. Dyma bwt diddorol:
"Ar ddydd Iau, Gorffennaf 4, 1957 yn y bore bach, daeth i ben gyfnod go hir o sychder, pan gafwyd storm enbyd o fellt a tharanau na welwyd ei thebyg yma ers hydoedd. Ynghyd â'r storm cafwyd glaw trwm a chesair am gyfnod byr. Bu cryn dipyn o ddifrod.
" Daeth dŵr a llaid i mewn i nifer o dai yn Nhaliesin a Thre'r-ddôl; syrthiodd canghennau'n groes i'r gwifrau teliffon a thrydan; niweidiwyd y trosglwyddydd yn Nhaliesin a bu'r pentref heb drydan hyd nos Wener..."
Ar Orffennaf 15 daeth Dygwyl Swithin, a'r dwthwn hwnnw ni bu glaw yn y plwyf. Ond ofer ein gobeithion. Yn lle deugain niwrnod o dywydd teg cawsom wyth. Bu'n glawio rhyw gymaint am ddeuddeng diwrnod ar hugain. Y llynedd cawsom ddeng niwrnod sych".
***
GWELIR wrth droi i'r adrannau sy'n adrodd am y gorffennol fod un o feibion enwoca'r ardal, y Doctor Thomas Richards, Llyfrgellydd Coleg Bangor, wedi cyfrannu llithiau difyr mewn sawl rhifyn. Ysgrifennodd am ei gartref yn Ynys Tudur ac am Yr Annual Examination. Y mae ar ei orau yn sôn am y capel bach o'r un enw â'i gartref ac yn portreadu'r addolwyr yn rhagori. Sôn amdano'i hun yn ddisgybl-athro o 1893 i 1897 y mae yn yr ysgrif ar yr arholiad ac am ddyfodiad yr 'inspector' ysgol a phawb yn crynu o ofn.
Gŵr arall a gyfrannodd yn gyson i'r colofnau oedd y Prifardd Dewi Morgan o Ben-y-garn. Ysgrifennodd am Y Ffair Gyflogi, Mynd i'r Dref a'r bywyd Ar y Ffermydd Gynt. Bu R.J. Thomas, Golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru a drigai yn Nhaliesin yn gefn mawr i'r cylchgrawn bob amser ac y mae cyfraniadau ganddo ymhob rhifyn.
Cyfrannodd ei dad, y Parchedig J.E. Thomas, a fu'n weinidog Wesle, benodau o atgofion difyr yn gyson hefyd ac yn un ohonynt y mae'n adrodd am fynd i angladd Marged Morris a fu farw'n 108 oed yn Ionawr 1885 pan oedd yn ddeg oed. Caewyd yr ysgol am y prynhawn a gorymdeithiodd y plant o flaen arch yr hen wreigan. Yr oedd wedi'i geni ym 1776 a chofiai Daniel Rowland yn pregethu yn y Tabernacl cyntaf yn Aberystwyth.
Er bod pregethwr mawr Llangeitho wedi marw yn 1790 yr oeddwn i yn adnabod gŵr a fu'n sgwrsio gyda gwraig glywodd bregethwr mwyaf y Diwygiad Methodistaidd yn traethu neges yr Efengyl. Dyna bontio dau gan mlynedd mewn tair cenhedlaeth!
Gellid amlhau enghreifftiau o bethau difyr a difrif a welodd olau dydd yn y chwarterolyn ond rhaid ymatal gan ofidio iddo ddod i ben ei rawd ar derfyn 1958 pan ymadawodd y golygydd i ofalu am Ysgol Llanbadarn Fawr. Symudodd oddi yno i fod yn bennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac yno ar faes chwarae'r ysgol ynghanol y plant y bu farw Huw Evans yn rhy ifanc o lawer.
Cyfrannodd yn helaeth i fywyd plwyf Llangynfelyn drwy'r ysgol, y capel a'r gwahanol gymdeithasau ond ei gofgolofn barhaol efallai yw'r Lloffion difyr a gynaeafodd o chwarter i chwarter am dair blynedd. Ac nid yn ofer y Ilafuriodd yr arloeswr annwyl oherwydd yn yr un darn gwlad o Geredigion y cafwyd y papur bro cyntaf pan gyhoeddwyd Papur Pawb yn Nhal-y-bont i wasanaethu'r pentref hwnnw ynghyd â phentrefi Taliesin, Tre'r-ddôl ac Eglwysfach.