JOSEPHUS gan Eurwyn Wiliam

MEWN SIOP ail-law ym Mhorthmadog, ryw flwyddyn yn ôl, y cefais fy nghopi cyntaf o Josephus, yn y bocs amrywiol y tu allan i'r ffenestr. Gweithiau Flavius Josephus, yn cynnwys Hynafiaethau yr Iuddewon, yn nghyda Hanes eu Rhyfeloedd hyd Ddinystr Jerusalem. . . cyfieithedig o'r Groeg ar Hebraeg gan William Whiston, A.M. Ail- argraffiad o'r cyfieithiad Newydd i'r Gymraeg meddai'r ddalen. Cyhoeddwyd ef gan H. Humphreys, Castle Square, Caer­narfon, yn 1882. Cynnwys nifer helaeth o luniau, a cherdd `Dinystr Jerusalem' Eben Fardd.

Fel archaeolegydd a fu unwaith yn arbenigo ar y fyddin Rufeinig, yr oeddwn yn gyfarwydd iawn â gweithiau Josephus, trwy gyfieithiad deunawfed-ganrif Whiston a thrwy'r argraffiad Loeb diweddarach. Ond ni wyddwn gynt ei fod wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg. Ac ail argraffiad oedd y copi hwn.

Beth am yr argraffiad cyntaf? Yn ffodus iawn digwyddais ddod ar draws dwy gyfrol yr argraffiad hwn yn fuan wedyn: Holl Waith Flavius Josephus, yr hanesydd Iuddewig. . . wedi ei gyfieithu yn ofalus i'r Gymraeg, gan Hugh Jones, gynt o Faesyglasau yn Meirionydd (1819). . . . at yr hyn y chwanegwyd, parhad o Hanes yr Iuddewon, hyd y ddeunawfed gannrhif. Gan T. Bradshaw, A.D. Argraffwyd a chyhoeddwyd y gwaith gan Ll. Jenkins, Heol-Duc, Caerdydd, ym 1838.**

Dyma felly y cyfieithiad cyntaf i’r Gymraeg o Josephus: yn anffodus nid yw fy nghopi i, o leiaf, yn nodi gwaith pwy yw'r cyfieithiad, ond mae yn amlwg mai cyfieithiad yw nid o'r Groeg gwreiddiol ond o gyfieithiad Saesneg lled wael Whiston.

***

MAE POB hanesydd y cyfnod Rhufeinig yn gyfarwydd â gwaith Josephus, oherwydd ef sy'n rhoi y disgrifiadau cyfoes gorau o'r fyddin Rufeinig, ac ef yw'r unig un i ddisgrifio'n fanwl ryfel fawr yr Iddewon yn erbyn Rhufain yn 66-73 O.C.

Iddew oedd Josephus : ganwyd ef yn Joseph ben Matthias, tua 37 O.C. Yr oedd yn ŵr dysgedig a galluog. Bu yn Rhufain ar neges, dros ei bobl, ac yn 66 O.C. ar ôl y gwrthryfel yn erbyn Testius, llywodraethwr Galilea, penodwyd ef yn lywodraethwr Iddewig y dalaith honno, a bu yn un o arweinwyr dewraf y gwrthryfel.

Galilea oedd y dalaith gyntaf i deimlo grym y Rhufeiniaid unwaith iddynt ddod dros eu syfrdandod. Crynhowyd byddin enfawr dan y cadfridog Vespasianus a'i fab Titus, ac ail­gychwynnwyd ar y gwaith o goncro gwlad yr Iddewon.

Ar ôl amddiffyn tref ar ôl tref yn wrol, yn Jotapata bradychodd Josephus ei gyd-amddiffynwyr a throi at y Rhufeiniaid. Goresgynnwyd y wlad; llosgwyd Jerusalem bron i'r llawr; lladdwyd miloedd ar filoedd o'r Iddewon; a mabwysiadwyd Josephus yn fab i Vespasianus, erbyn hyn yn ymherodr Rhufain. Bu farw yn ddyn cyfoethog ac uchel ei barch yn Rhufain yn y flwyddyn 100 O.C.

***

YSGRIFENNODD Josephus bedair cyfrol, gan gynnwys dwy hynod bwysig, Hynafiaethau yr Iddewon a Rhyfeloedd yr Iddewon. Ysgrifennwyd hwy gyntaf yn Aramaeg, ac yna yn eu cyfieithu i'r Groeg. Argraffwyd y Rhyfeloedd yn Basle yn 1544, ac yn Genefa yn 1611.

Ond beth oedd diddordeb Cymry'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hanesion gwaedlyd Josephus? Mae'r ateb yn syml. Ef oedd yr unig awdur clasurol i drafod yn weddol fanwl fodolaeth a gwaith Iesu Grist, a hynny mewn llyfrau a ysgrifennwyd dim mwy na hanner canrif ar ôl y croeshoeliad.

Ceir yma lawer am weithred­oedd Pontius Pilatus, gwëithredoedd braidd yn annoeth a'i gwnaeth yn hynod amhoblogaidd gyda'r Iddewon. Yn dilyn hyn (cyf. II, tud. 52 yn argraffiad 1838) mae'r canlynol, sydd yn werth ei ddyfynnu yn ei gryn­swth:

***

SYLWEDDOLWYD pwysigrwydd tystiolaeth Josephus yn gynnar iawn, gan ysgrifenwyr Cristnogol megis Origen, Eusebius, Ambrose, ac eraill. Ond yr hyn nas ceir ganddynt hwy, fwy nag y cyfieithiad Cymraeg, yw'r fersiwn lawnach o'r Rhyfeloedd a geir mewn copïau Rwseg a Rwmaneg. Deillia'r rhain, yn amlwg, o fersiwn Roeg o'r Aramaeg gwreiddiol - ond fersiwn wahanol i'r un derfynol.

Yn y fersiynau Slafonig hyn ceir disgrifiadau llawn o'r Atgyfodiad, er bod llawer ynddynt yn wahanol i'r traddodiad a dderbyniwyd yn Y Testament Newydd. Sonia Josephus hefyd am yr Iesu yn cael ei ddwyn gerbron Peilat ddwywaith, ond i hwnnw ei ryddhau am i'r Iesu wella ei wraig: dim ond beth amser wedyn, ac ar ôl i Beilat gael ei lwgrwobrwyo â 30 darn o arian, y bu i'r Iesu gael ei groeshoelio.

Rhaid derbyn, felly, nad gwaith rhyw Gristion anhysbys yw'r darnau hyn yng ngwaith Josephus. Yn amlwg, penderfynodd yr awdur - un o oroeswyr mawr hanes, os bu un erioed - fod y darnau hyn yn llawer rhy ymfflamychol i'w cyhoeddi yn ystod teyrnasiad Domitian (ail fab Vespasianeus), erlynydd eithafol y Cristnogion. Dim ond trwy ddamwain y cadwyd hwy. Buasai tadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi bod wrth eu boddau pe cynhwysid hwy yn y cyfieithiad Cymraeg.

** Gwelwr tudalen 3 - Y Casglwr Rhif 10 Mawrth 1980 - E.G.Millward yn cadarnhau dyddiad cyhoeddi'r cyfieithiad cyntaf o waith yr hanesydd Iddewig