ENGHREIFFTIAU NODEDIG O DDIWYLLIANT GWLAD ~
Dafydd Islwyn a'r hen werinwr

 

YN EI gywydd 'Rhai o hen feirwon anfarwol plwyf Pentraeth,' i ddathlu Cyhoeddi Eisteddfod Môn 1963 ym Mhentraeth, Mai 1962 dywedodd Llew Llwydiarth:

Fe alwyd R.H. Thomas, Cae'r Ffynnon, Rhoscefnhir, Ynys Môn yn llenor, hynafiaethydd, bardd chwilotwr, lloffwr, casglwr a llythyrwr. Credai mai agweddau oeddynt o'i ddawn amlycaf sef achyddwr lleol dan gamp. Fel y dywedodd Dr Thomas Richards, Bangor amdano  "...yr oedd R.H.T. yn enghraifft nodedig ragorol o ddiwylliant gwlad."

Ganwyd Richard Huw Thomas (R.H.T.) 17 Gorffennaf 1859, yr ieuengaf o ddeg o blant, pum mab a phum merch, Huw ac Elizabeth Thomas. Bu ei fam, a hanai o deulu'r Meysydd, Llanbedrgoch, farw pan oedd R.H.T. yn naw oed. Bu ei chwaer, Catherine, a anwyd ym 1845 yn fam ragorol iddo, gan ei gymell i ddarllen a myfyrio. Ymatebodd yntau a datblygu'n ŵr diwylliedig.

Wedi ei gyfnod yn ysgol Frytanaidd Pentraeth, prentisiwyd ef yn deiliwr gyda'i dad. Bu wrth y gwaith tan tua 1920, a'r flwyddyn honno ymgymerodd â chasglu arian yswiriant. Bu farw 18 Ionawr 1934 yn 74 oed a chladdwyd ef ym Mhentraeth.

***

DYN bychan o gorff oedd yr hen lanc. Cwmnïwr diddan ac wrth ei fodd yn tynnu coes. Dyn y gallai bro gyfan ymddiried ynddo. Ar hyd ei oes bu'n aelod gwerthfawr yng Nghapel Penygarnedd, Rhoscefnhir. Bu'n asgwrn cefn i'r Ysgol Sul yno, gan fod yn athro am dros hanner canrif. Yng nghyfarfodydd yr wythnos y cafodd Ysgol Sul, Rhoscefnhir, Cangen o'r Capel ym Mhenygarnedd, - Yr Ysgol Bach ar lafar - a oedd ar stepan ei ddrws, o'i orau.

Yno, bu'n hyfforddi to ar ôl to o bobl ieuanc y pentref. Fynychaf Maes Llafur yr Ysgol Sul ar y pryd oedd prif bwnc y cyfarfodydd darllen ond trafodwyd 'Athrawiaeth yr Iawn', y Parchedig Lewis Edwards, D.D., llyfrau John Cynddylan Jones a chyfrolau eraill yno hefyd. Y mae'r dosbarthiadau hyn yn draddodiad cyfoethog yn hanes y fro. Brwd iawn fu ei gefnogaeth i'r capel, Ysgol Sul, y cyfarfod darllen, y Seiat, y gymdeithas lenyddol a'r eisteddfod leol. Ond fel y dywedodd John Jones (Dyfnan) yn ei deyrnged iddo yn Y Cloriannydd, 24 Ionawr 1934 "...bu iddo yntau ei faen tramgwydd os tramgwydd hefyd. Ei nodwedd amlycaf ydoedd braidd yn llym ei feirniadaeth. Rhyw ddweud gormod o wir y byddai am lawer i symudiad yn yr eglwys. Mae'n bosibl mai dyna a'i cadwodd o'r Set Fawr.(Er iddynt godi blaenoriaid bumgwaith yn ystod ei oes ef ym Mhenygarnedd!). Efe a wnaeth fwyaf er sicrhau i'r eglwys ddiwylliant gwirioneddol".

***

UN ceidwadol ei ddaliadau diwylliannol a chrefyddol ydoedd, ac er bod y Beibl a'r Llyfr Emynau ar ben ei fysedd byddai'n rhagfarnllyd yn erbyn syniadau modern ei gyfnod. Nid oedd ei chwaer Catherine, a fu farw yn 1923, yn wahanol iddo yn hyn o beth. Er ei fod yn wreiddiol yn ei sylwadau tybiai yn bendant fod pob tystiolaeth o'i eiddo'n derfynol ar unrhyw fater.

'Doedd ryfedd felly, fod Llyfr Emynau'r Hen Gorff 1927 yn mynd dan groen y gŵr ystyfnig ac fe ddangosai hynny drwy ei gario yn isel tu ôl i'w gefn bob Sul.

Bu Edward Owen Jones (E.O.J.), golygydd Y Cloriannydd, o dani ganddo am newid ei adroddiadau i'r papur i'r orgraff newydd. "Os oes eisiau dwy 'N' yn annwyl mae ei heisiau mewn enaid, ac y mae y gair eto wedi mynd yn rhyw bitw bach wedi tynnu un t ohono" oedd ei ddadl.

Bu Syr John Morris-Jones o dan ei ddyrnod hefyd am iddo geisio tynnu i lawr seiliau Gorsedd y Beirdd ac ymosod ar Iolo Morganwg. Yr oedd ganddo feddwl uchel wedyn o Syr Ifor Williams am iddo ef ddal ei afael yn yr 'iachawdwriaeth' ac nid 'iechydwriaeth'.

***

DROS Y blynyddoedd daeth yn ysgrifennwr medrus a da. Croniclodd hanes y fro mewn ysgrifau ac adroddiadau i'r papurau wythnosol ym Môn. Erbyn heddiw mae'r gwaith hwn o'i eiddo yn dra phwysig i unrhyw un sydd am astudio hanes lleol Rhoscefnhir.

Yn yr adroddiad am ei angladd dywedir fod iddo awen farddonol ystwyth, ac mai yn y mesurau rhydd yr ymhyfrydai ac nad oedd ganddo fawr o grap ar y gynghanedd. Yn ei draethawd 'Hen Gymeriadau Rhoscefnhir', Eisteddfod 'Dolig y Rhos, 1953, dywedodd fy nhad iddo gyhoeddi ambell englyn. Ceir un o'i eiddo ar garreg fedd ym mynwent capel Gilead (MC), Penmynydd, Ynys Môn. Ar y cyfan rhigymllyd, yn ôl Dr Thomas Richards, oedd ei farddoniaeth.

Fe allwn anghofio am ei gyfraniad ym myd yr awen ond wiw i ni wneud hynny ym myd hanes lleol. Bu ei waith yn olrhain hanes dechreuad a chynnydd yr Achos Methodistaidd yn ardal Penygarnedd, Môn, o gymorth mawr i'r rhai fu'n ysgrifennu y llyfryn Hanes yr Achos ym Mhenygarnedd 1782-1976, a gyhoeddwyd Medi 1976. Dros bedwar ugain ac wyth o flynyddoedd ynghynt ysgrifennodd R.H.T. amryw o ffeithiau am yr hen bregethwr William Lewis, Glasinfryn, i'r Parchedig John Pritchard, Amlwch, ar gyfer y gyfrol Methodistiaeth Môn a gyhoeddwyd yn 1888.

Drwy ei oes ysgrifennodd a chofnododd sylwadau crefyddol gwerth eu cadw, a thrwyadl iawn yw ei fanylion am bregethwyr a ddeuai i fwrw'r Sul ym Mhenygarnedd, a chofnododd destunau pregethau hefyd.

Yr oedd yn dipyn o 'sglaig ar enwau lleoedd a llên gwerin, a lloffodd yn ddyfal yn y maes hwn. Bu dadl unwaith rhwng Dr John Williams, Brynsiencyn a'r Parchedig William Pritchard, Pentraeth, parthed y lle y pregethwyd y bregeth ymneilltuol gyntaf yn y cylch. 'Roedd Brynsiencyn o'r farn mai yn Y Dyffryn Gwyn, Llanffinan y pregethwyd hi, a William Pritchard 'run mor bendant mai yn Rhyd-y-saint y clywyd hi.

Gofynnwyd i R.H.T. dorri'r ddadl, ac heb funud o betrusder atebodd Rhyd-y-saint. "Profwch eich gair," meddai John Williams. "Rhyd-y-saint yn y bore a'r Dyffryn Gwyn yn yr hwyr yr un dydd," oedd yr ateb.

***

CYMERAI ddiddordeb dwfn iawn mewn hynafiaethau, "hynafiaethydd hyglod a golau," yn ôl Y Cloriannydd, 24 Ionawr, 1934. Casglodd lawer i hen grair a dywedir bod potel inc John Bunyan ganddo!

Dangosodd ddiddordeb mawr yng Nghymdeithas Hynafiaethwyr Môn. Yn sgil ei, ddiddordeb daeth i'w feddiant gofnodion pwysig am eglwysi MC y cylch, llawysgrifau rhyw Thomas Smith o Langeinwen, dau lyfr cownt ei dad, gweithiau barddonol Williams Lewis, y plastrwr o Langefni a degau o bethau eraill.

Bu'r Arglwyddes Boston a Mr Neil Baynes mewn cysylltiad ag ef ynghylch hen bethau yn enwedig rhai yn ymwneud â Charreg Llanol.

Yn ei adroddiad, 'Llawysgrifau Cae'r Ffynnon', mae'r Dr Thomas Richards yn gofyn "ond pa fodd y bu i R.T.H. ofalu am lyfr Festri Llanfair Mathafarn Eithaf am 1821, a syndod y byd ddod yn geidwad i lyfr rheolwyr Wyrcws Aston ger Birmingham?" Dyfalwn a dyfalwn.

***

YN SGÎL ei ddiddordebau o ysgrifennu, chwilota a chasglu 'roedd yn llythyrwr brwd. Yn ei oes ysgrifennodd gannoedd o lythyrau, cyfran dda ohonynt dros ei gyfeillion anllythrennog, a wyddai'n iawn y byddai cynnwys pob un yn gyfrinach ganddo.

Bu'n llythyru a'i ffrind John Owen Jones, 'Ap Ffarmwr' (1861-99), ynghylch crwsâd hwnnw ymhlith gweision ffarmwrs Môn. Cyfeirio y mae llawer o atebion y gŵr hwnnw at ryw fân drefniadau. Ysgrifennodd R.H.T. lythyr cryf iawn i'r Werin ar fudiad newydd y gweision.

Yn rhifyn Mehefin 1888 o'r Frythones 'roedd ef, yn ôl Huw Williams, Bangor yn Y Goleuad 25 Rhagfyr 1974, yn ceisio olrhain achau Richard Davies, awdur yr emyn, 'Dyma Feibl Annwyl Iesu', gan iddo'n gynharach y flwyddyn honno ysgrifennu am awduriaeth yr emyn. Nid atebwyd ei gais.

Derbyniodd lythyr oddi wrth y diweddar Brifathro J.H. Davies, ar droad y ganrif yn holi am hen gerddi ac yn arbennig am almanaciau Thomas Jones a John Jones o'r Caeau.

'Adeiladu tablau achau oedd ei brif ddiddordeb, achau ei deulu, ac achau pobl yr ardaloedd cyfagos.' Holai a chwiliai'n ddi-baid yn eu cylch. Darllenai gofnodion plwyf ac arysgrifau mewn mynwentydd.

Derbyniodd lawer o lythyrau oddi wrth eraill a ymddiddorai yn yr un pwnc. Bu'n olrhain achau'r Cyrnol Owen Thomas, a fu'n Aelod Seneddol dros Fôn. Derbyniodd lythyr oddi wrth Syr Henry Lewis yn rhoi iddo rai ffeithiau am hynafiaid ei dad ei hun ac yn holi am fwy.

'Diddorol yw sylwi i R. Môn Williams, Caergybi, sgwennu ato "yn pentyrru cwestiynau ynghylch mân feirdd ac offeiriaid er mwyn adeiladu ei draethawd ar Enwogion Môn, 1850-1910.”

Cyhoeddwyd y gwaith yn gyfrol yn 1913, wedi iddi ddod yn ail i 'Enwogion Môn', y Parchedig R. Hughes, Y Fali, Ynys Môn, yn Eisteddfod Gadeiriol Môn, Caergybi 1912. Prynais y gyfrol yn ail-law yn Siop Pendref, Bangor flynyddoedd yn ôl, un a fu'n llyfrgell Crwys.

Wrth sôn am bapurau Cae'r Ffynnon fe ddywaid John Jones (Dyfnan) amdanynt eu bod o werth mawr. Ymhen hanner canrif eto byddant yn werth mwy ond gofalu amdanynt. Gwireddwyd dymuniad Y Cloriannydd Ionawr 1934, canys y mae casgliad helaeth o bapurau R.H.T., yr hen deiliwr, yn Llyfrgell Coleg Prifysgol, Gogledd Cymru Bangor.