CROCHENWAITH BWCLE gan Eirlys Gruffydd

YN YSTOD y blynyddoedd diwethaf cynyddodd diddordeb pobi leol yn niwydiant crochen­waith Bwcle, yng Nghlwyd. O ganlyniad i gloddio archaeolegol darganfuwyd safle pedwar ar bymtheg o'r hen grochendai, rhai ohonynt yn mynd yn ôl i gyfnod Siarl y Cyntaf. Heblaw hynny daethpwyd o hyd i ddarnau o grochenwaith o'r Canol Oesoedd wrth gerdded tir wedi ei aredig, ac yn wir mae gennym brawf dogfennol o fodolaeth crochen­wyr yn yr ardal yng nghyfnod Edward y Cyntaf.

Cred trigolion y lle mai mater hawdd yw adnabod crochenwaith Bwcle. Gall fod o liw melyn gyda phatrwm neu ysgrifen wedi ei grafu arno nes i liw corff y llestr ddod i'r golwg; y 'Crochenwaith Sgraffito' fel y'i gelwir. Cynhyrchwyd llawer o'r rhain rhwng 1870 a 1906. Ychydig yn ddiweddarach cafwyd llestri wedi eu crafu i'w gwneud yn debyg i risgl coeden, gyda darnau melyn wedi eu gosod ar y llestr i gynrychioli brigau a lifiwyd. Dyma'r Llestri Gwledig — y 'Rustic Ware'.

O'r un cyfnod, ail hanner y ganrif ddiwethaf, y daw'r llestri 'Slip' diweddar hefyd, lle defnyddiwyd clai melyn i wneud patrwm neu ysgrifen ar y crochen­waith brown tywyll. Dyma'r llestri y gwyddai'r bobl leol amdanynt.

Dychmygwch syndod y gwybodusion hyn felly pan ddangoswyd iddynt lond bwrdd o grochenwaith cywrain gyda sglein du arno, enghreifftiau a godwyd o'r pridd ac a ddyddiwyd o gwmpas 1700. Anodd oedd cael rhai pobl i gredu mai o Fwcle y daeth y llestri nes iddynt sefyll ar safle'r hen grochendai a gweld y gwrthrychau yn dod i'r wyneb.

Wrth gwrs, llestri a ddifethwyd yn y broses o'u gwneud yw'r rhan fwyaf o'r darnau a ddaw i law, ond wrth ddyfalbarhau gellir trwsio llawer ohonynt ac ail­greu'r llestr gwreiddiol.

***

GELLIR rhannu hanes crochen­waith yn ardal Bwcle i bedwar cyfnod: Y Canol Oesoedd, Y Cyn-Ddiwydiannol (1680-1780), Y Diwydiannol (1780-1860), a'r ôl-Ddiwydiannol (1860-1940). Hyd yma dim ond un safle o'r Oesoedd Canol a ddaeth i'r golau. Ildiodd hen jygiau a ddifethwyd wrth eu tanio, llestri storio a theils to, ond heb fod yn ddigon cyfan i'w hadfer. Mae eu defnydd yn wyn a llwyd ac wedi ei danio'n ysgafn. Tebyg fod mwy o safleoedd o'r cyfnod hwn yn aros heb gael eu darganfod.

Rhyw dro yn ystod ail hanner yr Ail Ganrif ar Bymtheg, casglodd nifer o grochenwyr bychain o gwmpas Mynydd Bwcle. 'Roedd digon o glai pwrpasol, glo brig, ffynonellau o blwm cyfagos, yn ogystal â thrafnidiaeth ar ddŵr yn gwneud yr ardal yn lle naturiol i ddatblygiad o'r fath. Hwyrach mai dim ond tua dwsin o deuluoedd oedd yn gweithio yno ond 'roedd y cynnyrch o safon uchel, yn arddangos llawer o'r dulliau soffistigedig a ddefnyddid ar y pryd yn Swydd Stafford.

  Mae'r llestri Slip cynharaf o Fwcle yn cynnwys
powlenni a phlatiau wedi eu taflu, ac arnynt batrwm
a godwyd mewn melyn a brown ar gefndir slip melyn.
Daeth y math newydd o lestr i'r amlwg tua 1700, un a
wnaed drwy wasgu'r clai o liw pinc, coch neu biws i
fold crwm. O'r un cyfnod ceir llestri efo sglein brown
arnynt. Tebyg fod yr effaith yma yn cael ei greu drwy
roi powdwr manganîs yn y sglein. Y crochenwaith arferol yn y math yma o ddefnydd oedd diodlestri â llestr siambar, powlenni a llestri storio.

Popty bach 'Holandanaidd' - 'Dutch Oven' - i'w osod o flaen y tân i grasu darnau o gig. Brown a slip melyn.

Ond y llestri mwyaf cyffredin o Fwcle o'r cyfnod hwn oedd y llestri efo sglein du arnynt. Cynhyrchid y sglein yma drwy roi haearn ynddo. 'Roedd corff y llestr o liw llwyd, piws neu goch tywyll ac wedi ei danio'n dda. Mae'r enghreifftiau cynharaf o grefftwaith cywrain gyda'r ffurfiau yn ddatblygedig a soffistigedig, tebyg i'r llestri Sistersiaidd a geir mewn llawer man ym Mhrydain. O'r math yma o ddefnydd y gwnaethpwyd jygiau, potiau posel, mygiau a phowlenni.

***

YN YSTOD y Cyfnod Diwydiannol daeth crochendai Hancock a Catherall i'r amlwg. 'Roedd ganddynt ddiddordeb yn y diwydiannau glo a phlwm, ond ar wneud briciau yn hytrach na chynhyrchu crochenwaith yr oedd y pwyslais mwyaf. Llestri cegin bras efo sglein du arnynt oedd y mwyafrif o gynnyrch y cyfnod hwn. 'Roedd y crochendai yn fwy na chynt, a lle ynddynt i'r gweithwyr letya.

O'r cyfnod hwn y daw'r Llestri Slip y cyfeiriwyd atynt eisoes, a'r llestri Maen Muchudd (Agate Ware). Mae dau fath o'r llestri hyn i'w cael; gwnaed un drwy gymysgu clai o wahanol liwiau a'r llall lle llwyddwyd i gael yr un effaith marmor ar y llestr drwy roi cymysgedd o liwiau gwahanol ar gorff coch plaen. Gwnaed amrywiaeth mawr o lestri o'r math yma.

Yn niwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg daeth trai ar weithgarwch y crochenwyr diwydiannol ond daliodd rhai teuluoedd i gynhyrchu ar lefel lai. Cynnyrch i'r gegin mewn sglein plwm traddodiadol o safon is, ac heb addurn arno oedd hwn. Ond o 1870 ymlaen ymddangosodd y Llestri Gwiedig (Rustic Ware) ac yn 1890 daeth jygiau pos, cadw-mi-gei, a modelau o ddodrefn a phethau addurniadol eraill yn boblogaidd.

Darganfuwyd ffyrdd newydd o roi sglein lliw ar y llestri yng nghrochendy Powell a chynhyrchwyd gwrthrychau amrywiol yno. Rhan o'r cynnyrch hwn oedd y Llestri Celfydd (Art Pottery).

***

YN YSTOD degawd cyntaf y ganrif hon dechreuwyd cynhyrchu crochenwaith oedd yn arbennig nid yn unig am ei ddefnyddioldeb ond am fireinder ei liw a'i lun. 'Roedd crochendy Powell ar flaen y gad yn y datblygiad newydd hwn a alwyd yn Grochenwaith Gelfydd Gogledd Cymru. Yr un defnyddiau traddodiadol a ddefnyddiwyd, llestri pridd coch ac arnynt sglein lliw hufen ond bod lliwiau newydd yn y sglein, a phatrymau newydd yn addurn ar y llestri.

O dan ddylanwad y datblygiad hwn cynhyrchwyd teils seramic gyda phatrymau cywrain a gwreiddiol arnynt. Caewyd crochendy Powell yn 1929, ond daliodd ambell feistr ar y grefft fel John Hughes (1876-1960) i gynhyrchu gwaith o safon uchel mor ddiweddar â 1937.

Darlun i hysbysebu cynnyrch crochenwaith Powell, 1923.

Gan fod miloedd o ddarnau o grochenwaith eisoes wedi eu codi o'r pridd, a nifer helaeth o safleoedd crochendai yn aros i gael eu harchwilio'n archaeolegol, penderfynwyd ffurfio Ymddiriedolaeth Amgueddfa Crochenwaith Bwcle. Y gobaith yw y gellir cael adeilad addas i gartrefu'r darganfyddiadau a gwneud arddangosfa barhaol o grochenwaith Bwcle trwy'r canrifoedd. Yna gellir cadw i'r oesoedd a ddêl y crefftwaith a fu.