CEREDIG gan Huw Edwards

ER MAI o Landdewi Brefi y daeth ei rieni, ganwyd Jonathan Ceredig Davies ym mhlwyf Llangynllo, ger Llandysul, ar Fai 22,1859. Collodd ei dad pan oedd yn bedair ar ddeg oed, a dwy flynedd yn ddiweddarach mentrodd ymweld â Phatagonia. Cymerodd ddeufis iddo hwylio o Gymru i'r Wladfa yng nghwmni hanner cant o Gymry eraill.

Treuliodd un mlynedd ar bymtheg yno a bu'n weithgar iawn yn pregethu ac yn ceisio sefydlu cangen o'r Eglwys Sefydledig neu, yn ei eiriau ef 'Yr Hen Eglwys Brydeinig', yn y Wladfa. Dychwelodd i Gymru yn 1891 ac, yn weddol fuan ar ôl hynny, cyhoeddodd lyfryn 32 tudalen ar Batagonia. Cyhoeddwyd fersiwn Saesneg o'r gwaith yn Nhreorci, ym 1892. Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg hefyd, ond ni welais gopi.

Ceir yn y llyfryn ddisgrifiad o'r wlad a chrynodeb o hanes sefydlu'r Wladfa, disgrifiad o helbulon ac amodau byw y gwladychwyr cynnar etc. Gan fod tua phum gwaith cymaint o fechgyn ag o ferched yno, a chan fod bywyd gŵr dibriod ar y paith yn unig ofnadwy, y mae'n cynghori pob gwladychwr ei bod yn angenrheidiol iddo sicrhau gwraig cyn gadael Cymru!

Dywed J.C.D. bod arferion Cymry ieuainc Y Wladfa'n llawer gwell nag arferion y rhai a arhosodd yng Nghymru. Y mae'n cyfeirio'n arbennig ar yr arferiad 'gwarthus ac anweddus' o 'garu'n y gwely' a oedd yn dal yn boblogaidd yn Sir Aberteifi. Mor wahanol oedd pethau yn y Wladfa - yno 'roedd parau ieuanc yn caru ar gefn ceffyl (proses digon anghyffyrddus, gallwn feddwl!)

***

EFALLAI mai'r adran sy'n disgrifio rhai o arferion a chredoau'r Indiaid yw'r peth mwyaf diddorol yn y llyfryn. Y mae'n feirniadol iawn o'r ffordd yr oedd llywodraeth Ariannin wedi mabwysiadu polisi o erlid a lladd yr Indiaid. Dechreuwyd y gwaith gan y Cadfridog Rosas, y gŵr y cafodd Charles Darwin brofiad o rai o'i greulondebau pan ymwelodd â'r Ariannin ym 1833.

Rhai blynyddoedd cyn i J.C.D. fynd i Batagonia, danfonwyd milwyr yno i ladd yr Indiaid. Aethpwyd â'r gweddill i wersyll ymhell o ddyffryn Camwy, lle cadwyd hwy o dan ofal y fyddin, neu aed â hwynt i Buenos Aires lle rhoddwyd hwy fel gweision, neu gaethweision yn hytrach i gyfoethogion y ddinas.

Cyn yr ymgyrch hwn yn eu herbyn daethai'r Indiaid i ymweld â'r Cymry'n aml er mwyn cyfnewid crwyn anifeiliaid, fel y Guanaco a'r Puma, am nwyddau megis blawd a bara ('roedd yr Indiaid yn hoff iawn o fara ac 'roeddynt wedi dysgu'r gair 'bara' yn gyflym iawn).

Ar y cyfan 'roedd y brodorion ar delerau da gyda'r Cymry ac unwaith yn unig y bu ffrwgwd cas rhyngddynt. Digwyddodd hynny ym 1885, pan laddwyd tri o'r Cymry gan yr Indiaid ar ôl iddynt anturio'n bell o'r anialwch. Nid yw'n syndod i hyn ddigwydd gan fod y Cymry wedi gwisgo fel milwyr yr Ariannin.

***

YM 1892, hefyd, cyhoeddodd ryw fath o nofel am Batagonia - Adventures in the Land of the Giants (Llanbedrpont Steffan, 1892). Mae'r nofel hon yn cynnwys disgrifiadau da o'r wlad ac mae'r stori'n ddigon bywiog - ond yn gwbl anhygoel. Gŵr ieuanc yw'r arwr sy'n mynd ar fordaith i Dde America ond dryllir y llong mewn storm ac ef yw'r unig un i ddianc â'i fywyd.

Ar ôl iddo fod ar goll ar y paith am gyfnod, y mae'n cyfarfod ag Indiad caredig o'r enw Kingel. Y mae hwnnw'n fab i bennaeth y llwyth ac y mae'n digwydd siarad Cymraeg yn rhugl! Ymhen rhai diwrnodau gwahenir hwynt ond, cyn pen dim, mae'r arwr yn llwyddo i achub bywyd merch ifanc. Er iddi wisgo fel un o'r Indiaid, y mae hithau'n siarad Cymraeg yn rhugl. Achubwyd hithau ar ôl llongddrylliad flynyddoedd ynghynt ac, ar ôl iddi ddweud yr holl hanes, sylweddola'r arwr ei bod hi'n gyfnither iddo a aeth ar goll flynyddoedd ynghynt a bod yr Indiaid a'i hachubodd yntau'n hanner brawd trwy fabwysiad iddi!

Ar ôl rhagor o anturiaethau, ac ar ôl i Kingel eu hachub rhag marwolaeth unwaith etc, maent yn cyrraedd y Wladfa, yn priodi ac yn byw'n hapus . . . cyhoeddodd O.M. Edwards fersiwn Gymraeg o'r stori uchod yn Cymru, viii—xi (1895-6) o dan y teitl Anturiaethau yng ngwlad y cewri: rhamant Batagonaidd.

Ar ôl dweud mor anhygoel yw'r cyfan, teg yw nodi fod J.C.D. wedi cyfarfod a'r Kingel hwn pan oedd yn byw'n y Wladfa. 'Roedd nid yn unig yn berson realac yn fab i bennaeth, ond 'roedd hefyd yn siarad Cymraeg gan iddo dreulio llawer o amser ymhlith y Cymry pan oedd yn blentyn.

Bu J.C.D.'n darlithio ar Batagonia mewn llawer man yng Nghymru ac yn Lloegr ac yn crwydro tipyn, ond, yn 1898, mentrodd adael Cymru unwaith eto er mwyn ymweld ag Awstralia Orllewinol, lle 'roedd tair chwaer iddo'n byw. Gwnaeth lawer o waith cenhadol yma eto, gan gynnal gwasanaethau yn Colliefields a'r ardaloedd cyfagos. Dywed iddo ddibynnu ar y casgliadau bychain am ei gynhaliaeth, a dyna'r unig gyfeiriad a geir yn ei lyfrau ar sut y bu'n cynnal ei hunan. Y mae peth dirgelwch ynglŷn â hyn gan nad oes awgrym iddo ddal swydd gyflogedig erioed.

***

DYCHWELODD i Gymru erbyn Nadolig, 1901, ac yn fuan ar ôl hynny, cyhoeddodd lyfr am Awstralia Orllewinol - Western Australia: its history and progress, the native blacks, towns, country districts and the Goldfields. (Nantymoel, 1902). Cyhoeddwyd fersiwn Gymraeg (sy'n helaethach na'r fersiwn Saesneg am ei bod yn cynnwys hanes y daith allan a hanes Cymry'r dalaith) y flwyddyn ganlynol - Awstralia Orllewinol: Hanes a chynnydd y wlad a'i thrigolion, amaethyddiaeth a chloddfeydd aur, a'r brodorion duon a'u harferion. (Treorci, 1903).

Y mae'r teitl yn rhoi syniad digon teg o'r cynnwys ac mae'n debyg mai'r rhan fwyaf diddorol o'r llyfr yw'r adran sy'n disgrifio'r brodorion duon a'u harferion.

Ar ôl disgrifio crefydd, defodau claddu ac ofergoelion y brodorion, y mae hefyd yn sylwi bod y dyn gwyn wedi gwneud llawer o niwed iddynt - nid yn unig trwy'u defnyddio fel llafur rhad ar y ffermydd ond hefyd trwy hela cangarwaid, eu prif gynhaliaeth. Pan oedd bwyd y brodorion yn mynd yn brin, rhaid oedd iddynt grwydro i diriogaeth llwythau eraill i hela ac achosai hyn ryfeloedd diddiwedd rhwng y llwythau.

***

AR ÔL iddo ddychwelyd i Gymru, anogwyd ef gan y Dywysoges Sapieha (y mae ei hunangofiant yn llawn cyfeiriadau at y wraig hon ac 'roedd yn barchus iawn ohoni) i ysgrifennu llyfr ar Lên Gwerin Gorllewin Cymru. Treuliodd rai blynyddoedd yn crwydro o fan i fan yn Nyfed yn hel defnyddiau ar gyfer y llyfr. Cyhoeddwyd y gwaith yn Aberystwyth, ym 1911, o dan y teitl Folk-lore of West and Mid-Wales.

Y mae'n llyfr sylweddol iawn o 350 o dudalennau a dengys ymchwil manwl a gofalus. Cafodd wybodaeth am arferion caru a chladdu, chwedlau ynglŷn â thylwyth teg, ysbrydion etc., gan gannoedd o bobl yn ogystal ag o hen lyfrau. Y mae ganddo lawer i'w ddweud am y Dr John Harries, y dyn hysbys o Gwrtycadno ynghyd â phennod ddifyr ar hen arferion meddygol y werin. Credaf ei fod yn lyfr cwbl anhepgorol i unrhyw un sydd am astudio Llên Gwerin Dyfed.

***

ANOGWYD ef wedyn i ysgrifennu'i hunangofiant ond, ar ôl iddo wneud hynny, cafodd bod costau argraffu wedi cynyddu cymaint ar ôl y Rhyfel Mawr fel na allai mwyach fforddio talu am ei argraffu. Penderfynodd argraffu'r gwaith ei hunan a phrynodd wasg fechan – fawr iawn mwy na thegan, fel y dywed ef ei hun ac fel y dengys llun ohono ef a'i wasg a gyhoeddwyd yn y Welsh Gazette adeg ei farwolaeth.

Bu wrthi'n ddiwyd am flynyddoedd yn ei gartref yn Llanddewibrefi. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1927 o dan y teitl Life, Travels and Reiminiscences of Jonathan Ceredig Davies. Yn ôl y wyneb ddalen, dim ond 58 copi a argraffwyd ond, ar y copi a welais i, newidiodd yr awdur y ffigur hwn i 70. Y mae'n llyfr sylweddol iawn o bron 450 o dudalennau ac y mae'n cynnwys nifer dda o ddarluniau (digon aneglur, mae'n wir).

***

YN RHAN gyntaf y llyfr y mae'n sôn dipyn am ei hynafiaid ('roedd yn achyddwr o fri) a'i blentyndod, cyn sôn am ei fywyd a'i anturiaethau ym Mhatagonia ac Awstralia Orllewinol. Yn y penodau hyn y mae, i raddau helaeth iawn, yn ail-adrodd yr hyn a ddywedodd eisoes yn ei lyfrau ar y taleithiau hyn.

Wedyn ceir disgrifiad go fanwl o'i deithiau o amgylch Gorllewin Cymru i hel defnyddiau ar gyfer ei lyfr ar lên gwerin. Byddai'n aml yn cael aros yng nghartrefi'r hen ysweiniaid a châi gyfle i loffa'n eu llyfrgelloedd. Ymhyfrydai yn ei adnabyddiaeth o'r 'boneddigions', cymaint felly fel nad yw rhannau o'r llyfr yn fawr iawn mwy na chatalog o'i ymweliadau â phlasau'r 'bobl fawr', lleoedd megis Trawscoed, Gogerddan, Nanteos, Dolaucothi, Highmead a Rhydodyn.

Yr oedd yn fawr ei barch at deuluoedd o'r fath ac y mae cyfeiriad atynt ar bron bob tudalen. Dyma enghraifft o'r math hwn o beth a gymerwyd ar antur:

Yn gwbl nodweddiadol ohono, ychwanegodd nodyn ar waelod un tudalen yn y copi a welais i:

Llwyddodd, yn ddiarwybod iddo'i hun megis, i bortreadu cyfnod, ac o ffordd o fyw, a ddiflannodd megis 'eira llynedd' (i ddefnyddio ymadrodd W.J. Gruffydd yn ei adolygiad deifiol ar lyfr H.M. Vaughan, The South Wales Squires – llyfr a gyhoeddwyd yn yr un cyfnod, 1926,ac sy'n disgrifio'r un bobl).

'Roedd J.C.D'n wladgarwr ac 'roedd yn fawr ei sêl dros yr iaith Gymraeg a thros bopeth Cymreig a Cheltaidd. Dywedodd droeon y dylai pawb sy'n byw yng Nghymru fedru siarad Gymraeg.

Y mae'n anodd i ni heddiw gysoni hyn gyda'i hanner-addoliaeth o'r teulu brenhinol (y mae'n dweud mewn un man yn y Reminiscences mai arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, yn 1911, oedd y digwyddiad pwysicaf a fu yng Nghymru erioed), ei lawenydd am yr 'uniad hapus' rhwng Cymru a Lloegr a'i snobyddiaeth digon diniwed – ond diderfyn a hollbresennol, hefyd. Ond mae'n debyg iddo fod yn ddigon nodweddiadol o'i gyfnod yn hyn o beth.

Y mae'r llyfr hefyd yn cofnodi hanes ei deithiau yn Llydaw ac yn Sbaen yn ogystal â phennod ar y tebygrwydd rhwng y Gymraeg a'r Berseg a'r Arabeg. Yn wir, ym 1927 eto, argraffodd y bennod hon fel llyfryn ar wahân i'r gweddill, yn dwyn y teitl Welsh and Oriental Languages. Yn ôl y wyneb ddalen, ni chyhoeddwyd mwy na 22 o gopïau o'r gwaith hwn.

***

TREULIODD flynyddoedd olaf ei oes, yn ddigon unig a meudwyaidd, gyda'i holl lyfrau yn y 'Myfyrgell,' Llanddewi brefi. Adroddodd Dyfnallt Morgan (Y Casglwr, Rhif 4) yr hanes am y ffordd y digiodd pan gyfeiriodd y 'Western Mail' ato fel 'The loneliest man in West Wales', ac nid af trwy'r hanes hwn eto.

Bu farw ar Fawrth 29ain, 1931, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf. Hoffwn derfynu gyda dyfyniad o erthygl Dyfnallt Morgan: "Ar ei fedd ... y mae carreg ac arysgrif nodedig yn rhoi hanes ei fywyd a'i gyhoeddiadau ac yn terfynu gyda'r pennill hwn: