CERDD JOHN PARRY gan Gerald Morgan
UN 0 fân feirdd diwedd y 18fed ganrif yn Sir Ddinbych oedd John Parry, bardd a ddigwyddodd sgrifennu un gerdd boblogaidd, sef Myfyrdod mewn Mynwent, a argraffwyd bedair gwaith ar ddeg. Y mae'n syn na sylwodd Charles Ashton arno yn ei Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 i 1850, cyfrol sy'n dal yn werthfawr.
- Wele fynwent, olaf annedd,
Gwely llygredd, gwaela' llun;
Lle mae'n diwedd ddynol fawredd,
Bawb yn waredd, bob yn un ...
Nid dyna ei unig gerdd; ceir wyth darn o'i waith yng nghasgliad Robert Humphreys, Y Wenynen Fach (J. Harris, Caerfyrddin, 1823; ail argraffiad John Jones, Llanrwst, 1845).
Roedd John Parry yn amlwg yn gyfarwydd â cherdd enwog Thomas Gray, Elegy Written in a Country Church-yard (1751):
- Pa faint sydd yma yn y gladdfa,
A fu i’w gyrfa'n fywiog lawn;
Ac er hynny gair o'u hanes,
Tra maen, a chofrestr mwy ni chawn?
Os pobl enwog, a galluog,
A fu galonnog efo'u gwlad;
Nid oes wybodaeth o'u gwroliaeth,
Na dim ystyriaeth: dyma'u stâd.
Ond ni lwyddai'r bardd i gyfleu'r manylion sy'n bywiocáu cerdd Gray:
- For them no more the blazing hearth shall burn,
Or busy housewife ply her evening care:
No children run to lisp their sire's return,
Or climb his knees the envied kiss to share.
- 'Nawr p'le mae'r achau, uchel raddau,
P'le mae eu teitlau a'u henwau hwy?
P'le mae'r anrhydedd? ond cwbI wagedd
Nodi eu mawredd; - nid yw mwy!
Defnyddiodd y cyhoeddwyr y gerdd mewn dulliau gwahanol - fel baled wyth tudalen, fel llyfryn bychan, ac fel poster. Wele restr o'r argraffiadau gwahanol:
- 1. Myfyrdod mewn Mynwent, sef, Can newydd Ddifrifol ... Llundain: Argraphwyd gan
John Williams,
yn agos i Borth y Deml. tt.7
Does dim dyddiad argraffu ond ceir '1810' wrth y Rhagair, ac ymddengys mai hwn yw'r argraffiad cyntaf.
2. Myfyrdod yn y Fynwent. I'w canu ar Ddiniweidrwydd, neu Hyd y Frwynwen Las. Yn ail, Hymn.
Trefriw: Argraphwyd gan I. Davies. tt. 8
Tybiaf mai hwn yw'r ail argraffiad, a'i fod yn perthyn i’r flwyddyn 1811 am y rhesymau a ganlyn:
y mae'n defnyddio'r un addurniadau argraffu â Marwnad Dafydd Jones, Llangan (Trefriw, 1811).
Y mae'r copi yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn dwyn y dyddiad '1811' mewn inc,
ac y mae'r un person (? Myrddin Fardd, ?
Charles Ashton) wedi dyddio nifer o gyhoeddiadau eraill yn effeithiol ac yn gall.
3. Myfyrdod mewn Mynwent, Gan John Parry ...I Davies, Argraffydd, Trefriw. tt. 12
Y mae hwn yn lanach na'r argraffiad blaenorol, ac yr oedd gwelliant cyffredinol yng ngwaith gwasg
Trefriw wedi 1811, oherwydd cyfraniad John Jones, mab Ismael Davies. Tybiaf fod hwn yn perthyn
i 1812-13, er y gallai fod yn ddiweddarach.
4. Myfyrdod mewn Mynwent. Gan John Parry, Llaneilian ... Trefriw: Argraphwyd gan I. Davies. 1814. tt. 16
5. Myfyrdod mewn Mynwent gan John Parry ...Caernarfon: R. & W. Williams. tt. 24
Roedd y ddau argraffydd hyn yn bartneriaid yn ystod 1817-18 yn unig, yn ôl Miss Eiluned Rees.
6. Myfyrdod mewn Mynwent. Gan John Parry, Llanelian ... Trefriw: Argraffwyd gan J. Jones. 1823. tt.16
7. Myfyrdod mewn Mynwent. Gan John Parry ...Llanrwst: Argraffwyd gan John Jones. 1824. tt.16
Rhaid mai camgymeriad yw'r dyddiad; ni symudodd John Jones i Lanrwst tan 1825.
8. Myfyrdod mewn Mynwent. Gan John Parry ..Llanrwst: Argraffwyd gan John Jones. 1830. tt. 16
9. Myfyrdod mewn Mynwent. Gan John Parry ...Llanrwst; Argraffwyd gan John Jones. 1839. tt.16
10. Myfyrdod mewn Mynwent. J. Jones, Argraffydd, Llanrwst. Baled daflen fawr neu boster yw'r
argraffiad hwn, gyda llun mawr o eglwys a bedd. Nid oes dyddiad arno.
11. Myfyrdod mewn Mynwent. Ar fesur a elwir Diniweidrwydd. Gan J. Parry Llanelian. Argraffwyd
gan M. Jones, Caerfyrddin. tt.12
Roedd Mary Jones yn argraffu yng Nghaerfyrddin rhwng 1832 a 1859 (Miss Eiluned Rees).
12. Myfyrdod mewn Mynwent. Gan John Parry ...Llanrwst; Argraffwyd gan John Jones. tt.16
Awgrymaf c.1845 i’r argraffiad hwn.
13. Myfyrdod mewn Mynwent: gan y diweddar Mr John Parry, Llaneilian.
Adargraphwyd ar ddymuniad Mr Thomas Edwards, Ironmonger, Chester.
Bala. Argraphedig gan R. Saunderson. 1855. tt.12
14. Meditations in a Churchyard. Translated from the Welsh by Mr Ebenezer Thomas, of Clynnog,
At the request of Mr Thomas Edwards, Ironmonger, Chester. Bala: Printed by Robert Saunderson. 1855. tt.12
Er bod 13 a 14 yn ymddangos fel dau gyhoeddiad ar wahân, mae'n bosibl eu bod yn ffurfio un gyfrol fach.