CEFNDIR LLYFRGELL CAERDYDD ~
Y Ddarlith gan J.Brynmor Jones ym Mhrifwyl Caerdydd

ER MIS Medi 1978 mae Llyfrgell Dines Caerdydd yn gant ac un ar bymtheg mlwydd oed. Yn gyntaf gaf fi roi yn fras hanes ei sefydlu. Fe ddaeth Deddf Llyfrgelloedd cyhoeddus ar Lyfr Cyfraith Gwlad Prydain Fawr yn 1850 – o dan y Ddeddf hon y sefydlwyd llyfrgelloedd cyhoeddus cyntaf Cymru a Lloegr. Yn ôl gofynion y ddeddf 'roedd yn rhaid cynnal cyfarfod cyhoeddus o'r trethdalwyr, ac mi 'roedd hi'n angenrheidiol bod dwy ran o dair o'r bobl oedd yn bresennol o blaid cyn y medrid sefydlu gwasanaeth llyfrgell.

Fe fu gŵr o'r enw Peter Price yn llythyru yn y wasg leol yn ardal Caerdydd yn ystod y flwyddyn 1858, gan geisio ennyn diddordeb pobl y cylch a'u cymell i bwyso ar Gyngor y Dref i agor llyfrgell gyhoeddus. Ond aeth pethau yn eu blaen hyd fis Hydref 1860 cyn i'r cyfarfod cyhoeddus y soniais amdano gynnau gael ei gynnal. Siomedig fu'r ymateb – chafwyd mo'r mwyafrif angenrheidiol ac felly fedrai cefnogwyr y syniad ddim gofyn i Gyngor y Dref sefydlu llyfrgell.

Fodd bynnag fe agorwyd cronfa ar unwaith er mwyn rhedeg llyfrgell gyhoeddus wirfoddol – 'doedd prif gefnogwyr y syniad ddim yn brin o ffydd yng ngwerth gwasanaeth llyfrgell –ac fe agorwyd y llyfrgell wirfoddol honno mewn goruwch-ystafell ym mhen gorllewinol y Rhodfa Frenhinol (y Royal Arcade), bron uwchben y fynedfa o Heol Fair i siop lyfrau Lears.

Agorwyd hon ar y pymthegfed o Fehefin 1861, a chymaint oedd brwdfrydedd y cefnogwyr fel y rhoddasant nifer o lyfrau i'r llyfrgell a hefyd ei dodrefnu; yn wir bu eu hesiampl yn sbardun i nifer o bobl y dref i gyfrannu £200 tuag at gynnal llyfrgell. Mae'n debyg mai ystafell ddarllen yn unig oedd hon, – 'doedd dim benthyca ohoni.

Ymysg y gwŷr goleuedig yr oedd Peter Price, Charles Thompson, John Batchelor, 'cyfaill rhyddid' (mae cofgolofn iddo yn sefyll i'r de o adeilad presennol y llyfrgell yn Heol y Cawe), ac aelodau o deuluoedd Bird a Vachell, enwau sy'n dal yn uchel eu parch yn y ddinas. Bu Peter Price yn gysylltiedig â gwaith y llyfrgell dros nifer o flynyddoedd - yn Ysgrifennydd Mygedol, Is-gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor yn ei dro.

***

WEDI gweld bod y fenter yn llwyddiant a bod yna fanteision i'w cael mewn gwasanaeth llyfrgell, fe alwyd y trigolion ynghyd yr ail waith a'r tro hwn fe gafwyd y mwyafrif angenrheidiol, - yn wir dim ond llais un gŵr heb weld y goleuni oedd yn erbyn y peth. Ym mis Medi 1862 y bu hyn a chytunodd Pwyllgor y llyfrgell wirfoddol i drosglwyddo'r awenau i ddwylo Cyngor y Dref, ac yn unol â gofynion y Ddeddf, fe neilltuodd y Cyngor gyfwerth treth geiniog, sef £450, i redeg y llyfrgell am flwyddyn.

Felly ar y 27 o Hydref 1862 fe agorodd y llyfrgell gyhoeddus gyntaf yng Nghymru ei drysau. Mae'n debyg mai tua 400 o gyfrolau oedd yn y llyfrgell y pryd hwnnw. Gŵr o'r enw Charle Prouse oedd llyfrgellydd y llyfrgell wirfoddol a gwelodd y Cyngor yn dda i'w benodi'n llyfrgellydd y llyfrgell newydd, a'i gyflog ar y pryd oedd £20 y flwyddyn.

Ymhen blwyddyn ychwanegwyd adran fenthyca ac yn Ionawr 1864, gan fod y gwasanaeth yn cynyddu, bu'n rhaid chwilio am le mwy. Cymerwyd prydles ar adeilad Cymdeithas Gristionogol y Gwŷr Ifanc (y YMCA) yn Heol Fair a bu'r llyfrgell yn cartrefu yno am ddeunaw mlynedd.

Ym mis Hydref 1863 agorwyd amgueddfa gan y Cyngor yn yr un adeilad, ac yn 1866 fe ychwanegwyd Ysgol Wyddoniaeth a Chelfyddyd (a honno, gyda llaw, oedd dechreuad yr Athrofa Dechnegol sydd heddiw'n rhan o Brifysgol Cymru). Fe symudodd hon i gartref arall yn 1879, i oruwch-ystafell ymhen arall y Rhodfa Frenhinol sef yr ochr ddwyreiniol yn Heol y Cawe, - ystafell sy'n rhan yn awr o ystafell fwyta siop David Morgan, ac fe welir llechen ar y mur yn nodi'r ffaith.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf dal i gynyddu a wnâi'r llyfrgell a bu cryn drafod am lawer blwyddyn mewn cyfarfodydd o'r Cyngor, yn y wasg ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus ynglŷn â chael safle ac adeilad newydd i fod yn gartref i'r holl drysorau a'r gweithgareddau cynyddol. 0'r diwedd fe benderfynwyd ar safle yn Stryd y Drindod, – safle hen gapel Seion a oedd wedi ei ddymchwel. Agorwyd yr adeilad newydd gan y Maer, Mr Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd yn ddiweddarach) ar Fai 31,1882. 'Roedd hi'n ddiwrnod mawr yn y dref – yn ddiwrnod gŵyl – ac fe fathwyd medal aur i gofio'r achlysur a’i chyflwyno i'r Maer.

Hanner ogleddol yr adeilad presennol oedd yr adeilad newydd hwn, hynny yw, y rhan nesaf at Eglwys Sant loan. Go fain oedd pethau am ychydig flynyddoedd gan fod y rhan fwyaf o'r arian yn mynd i gadw'r drws ar agor ac ychydig iawn oedd ar ôl i brynu llyfrau.

Fodd bynnag, wedi i'r Ysgol Gelf a Gwyddoniaeth symud i adeilad arall yn 1890 fe wellodd pethau gryn dipyn. 'Roedd gan y Pwyllgor wedyn fwy o arian i brynu llyfrau ac yr oedd y ffaith fod y gwasanaeth yn ffynnu yn ennyn diddordeb y cyhoedd yn gyffredinol, a hefyd ddiddordeb llawer o ddinasyddion cefnog a roddodd sawl rhodd hael i chwyddo'r casgliad.

Er gwaetha'r dyddiau main, 'roedd y Pwyllgor yn benderfynol o wneud eu gorau i sicrhau bod cyfran dda o lyfrau Cymraeg yn cael eu prynu, ac nid prynu'n unig. Yn 1870 mae geiriau un adroddiad yn sôn am y Pwyllgor yn cymell pob aelod o'r cyhoedd i helpu i wneud y casgliad yn un gwir werthfawr drwy gyflwyno i'r llyfrgell weithiau daearyddol, ar Sir Forgannwg yn enwedig, ond hefyd ar Gymru'n gyffredinol.

***

YMHEN rhai blynyddoedd 'roedd yn rhaid cael rhagor eto o le ac fe brynwyd tir ar ochr ddeheuol yr adeilad er mwyn codi estyniad. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1896 ac agorwyd y rhannau newydd gan Dywysog Cymru (Iorwerth VIII wedi hynny) yn 1896, ar y 27 o Fehefin. Rhaid cofio bod Amgueddfa Caerdydd yn parhau i rannu'r adeilad gyda'r llyfrgell ond wedi sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru, fe drosglwyddwyd y creiriau yn araf dros gyfnod i'w cartre’ newydd ym Mharc Cathays ac er 1923 mae'r adeilad cyfan yn Stryd y Drindod wedi cael ei ddefnyddio gan y llyfrgell.

Yr adeilad hwn heddiw yw pencadlys Llyfrgell Sir De Morgannwg, ac ynddo mae yna Adran Fenthyca (sy'n benthyca recordiau gramoffon a chasetiau yn ogystal â llyfrau), Llyfrgell Gyfeiriadol (rhan o hon yw'r Llyfrgell Gymraeg, ac mae hefyd yn cynnwys adran arbennig i ateb cwestiynau byd masnach a diwydiant), adran rwymo ac atgyweirio llyfrau a llawysgrifau, adran brynu a pharatoi'r llyfrau, ystafell ymchwil, yn ogystal â swyddfeydd gweinyddol Llyfrgell y Sir.

Wrth sôn am y Llyfrgell Gyfeiriadol yr ydym yn sôn am un o gasgliadau mwyaf pwysig Prydain. Drwy gydol y cyfnod o hanner can mlynedd neu ychydig llai hyd 1900, 'roedd pwyllgor y llyfrgell yn un o'r rhai gorau ym Mhrydain.

Ond 'roedd hi hefyd yn bolisi pwrpasol gan y pwyllgor o'r dechrau i sefydlu llyfrgell Gymraeg a fyddai'n cynnwys llyfrau, pamffledi, cyfnodolion, llawysgrifau, papurau dyddiol ac wythnosol, mapiau, darluniau, ac yn y blaen, yn adlewyrchu pob agwedd o fywyd Cymru.

Mae'n wybyddus mai yn 1909 y sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond 'rwy'n credu y gellir dadlau i Gaerdydd hyd yr amser hwnnw gynnal gwasanaeth teilwng i lenwi'r bwlch; yn wir, yn 1905 'roedd y Cyngor yn barod i roi stoc gyffredinol y Llyfrgell Gyfeiriadol, y casgliad Cymraeg, a mil o bunnau'r flwyddyn o arian y dreth fel casgliad sylfaenol y sefydliad newydd os sefydlid y llyfrgell genedlaethol yng Nghaerdydd.

Fe gofir i amodau tebyg gael eu gwneud o blaid Aberystwyth pan ddywedodd Syr John Williams y câi'r llyfrgell genedlaethol ei gasgliad gwych ef (casgliad a gynhwysai lawysgrifau Peniarth yn ogystal â chasgliad cynhwysfawr o lyfrau Cymraeg cynnar) pe sefydlid y llyfrgell yn y dref honno. Mae'n hysbys, wrth gwrs, mai Aberystwyth a gariodd y dydd, ond hyd yn oed os collodd Caerdydd y frwydr, fe wnaeth gyfraniad gwerthfawr i'r sefydliad newydd oherwydd fe wahoddwyd ei llyfrgellydd, John Ballinger, i dderbyn y swydd o lyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiwrthwynebiad.

***

CYN TROI at y casgliadau arbennig hwyrach y byddai o ddiddordeb i restru yma y cyfnodolion Cymraeg oedd yn cael eu derbyn ar y dechrau. Yn adroddiad blynyddol cyntaf y llyfrgell fe restrir Baner Cymru, Seren Cymru, Y Diwygiwr, Yr Haul, Y Brython a'r Gwyddoniadur. Erbyn heddiw mae'r rhestr yn hirach o dipyn, – mae'r llyfrgell yn ceisio derbyn (a rhwymo) pob cylchgrawn Cymraeg a Chymreig a llawer iawn o bapurau newydd yn ogystal. Hanner cant namyn un o gyfrolau oedd yn y llyfrgell gyfeiriadol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, – heddiw mae yno tua 370,000 o gyfrolau.

Un o'r casgliadau cyntaf i ddod i feddiant y llyfrgell oedd un o 210 o gyfrolau ar amaethyddiaeth drwy law Mr C.W. David ym 1875. 'Roedd rhai ohonynt yn weithiau cynnar iawn ar ffermio, ac yn lled brin. Yna ym 1882 fe ddaeth casgliad o tua 2,000 o gyfrolau drwy haelioni'r Barnwr Thomas Falconer o Frynbuga yng Ngwent.

Bu Falconer yn hael iawn ar hyd y blynyddoedd tuag at y llyfrgell. Hwn mae'n wir oedd y casgliad mwyaf o'i eiddo a ddaeth i law, ond mae cofnodion ei fod o hyd ac o hyd yn cyfrannu ambell gyfrol neu ddyrnaid o gyfrolau.

Dyn diddorol iawn oedd y Barnwr, – mae yna erthygl arno yn y ail gyfrol o'r Red Dragon, y cyfnodolyn a olygid gan Charles Wilkins, sef y gyfrol am y flwyddyn 1882.

Ddwy flynedd wedi hyn daeth gwerth £160 o gyhoeddiadau yn rhodd i'r llyfrgell drwy haelioni Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Yn yr un flwyddyn cyflwynodd Ardalydd Bute gyfres o fapiau a llyfrau yn ymwneud â Gorllewin Palesteina.

Yna ym 1891 fe benderfynodd y pwyllgor brynu y casgliad 'mawr' cyntaf, pan ddaeth tua 7,000 o gyfrolau printiedig a thua 100 o lawysgrifau o lyfrgell y Tonn, Llanymddyfri. casgliad yn ymwneud â Chymru yn bennaf oedd hwn, casgliad a grynhowyd gan deulu enwog Rees, argraffwyr y 'Mabinogion', Liber Vandavensis a gweithiau eraill dros Gymdeithas Llawysgrifau Cymru, y Welsh Manuscripts Society.

Yn ôl adroddiad blynyddol y llyfrgellydd 'roedd llawer o ysgolheigion wedi dod i weld y casgliad hyd yn oed cyn iddo gael ei gatalogio, ac 'roedd hynny yn arwydd o'i bwysigrwydd. Fe godwyd £350 drwy danysgrifiadau tuag at brynu'r casgliad.

ERBYN 1895 'roedd y casgliad Cymraeg yn un go helaeth, a'r flwyddyn honno fe benderfynodd y pwyllgor baratoi catalog printiedig ohono. Fe benodwyd Ifano Jones o Aberdâr ym 1896 i ymgymeryd â'r gwaith ac fe gyhoeddwyd y catalog ym 1898. Dyma a gyflwynwyd i'r byd ym mis Tachwedd 1898:

Cardiff Free Libraries.

CATALOGUE OF PRINTED LITERATURE
in the
WELSH DEPARTMENT.

by
JOHN BALLINGER
and
JAMES IFANO JONES

Ni bydd doeth ni ddarlleno

CARDIFF:
Published by the Free Libraries Committee.
LONDON:
Henry Sotheran and Co., 140,Strand, and 37, Piccadilly.

1898.

***

Ar gefn y wyneb-ddalen mae'r geiriau Imprinted at Newport, Monmouthshire, by William Jones, for the Cardiff Free Libraries Committee, November 1898. Fe argraffwyd dwy fil a phum cant o gopïau, pum cant ar bapur mawr mewn argraffiad llyfrgell, a dwy fil o gopïau mewn argraffiad cyffredin. Cafodd dderbyniad da gan ysgolheigion a llyfrgellwyr a chan y cyfnodolion Cymraeg. Yn ôl J.M. Staniforth, cartwnydd y Western Mail, dyma "rodd Caerdydd i Gymru" - ac i'r byd hefyd, 'ddwedwn i, oherwydd mae copïau wedi ymgartrefu mewn llawer gwlad. Mae e'n dal i fod yn arf llyfryddol pwysig ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno ei fod yn un o'r cyfraniadau mwyaf gwerthfawr erioed i lyfryddiaeth Gymraeg.

Mae rhagair y catalog yn egluro beth yw cynnwys y casgliad Cymraeg, sef yw hynny casgliad mor llawn ag oedd yn bosibl ar y deuddeg sir, ac i raddau llai ar y pedair sy'n ffinio â Chymru, sef Sir Gaer, Sir Amwythig, Sir Henffordd a Sir Fynwy.

Ond rhaid brysio i ychwanegu bod ychydig o newid wedi digwydd er y dyddiau y gosodwyd y seiliau hyn i lawr, – mae Sir Fynwy yn awr ers rhai blynyddoedd i fewn yn y gorlan ac yn cael triniaeth lwyr. Eglura'r rhagair hefyd bod y casgliad yn cynnwys llyfrau yn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill – Cernyweg, Gaeleg, Llydaweg a Manaweg, – yn ogystal â'r Gymraeg.

Ond yn ddiweddar 'rwy'n ofni ein bod wedi gorfod rhoi'r gorau i'r polisi hwn o gasglu llyfrau yn yr ieithoedd Celtaidd eraill, yn bennaf am fod nifer y llyfrau yn ymwneud â Chymru wedi cynyddu gymaint, a bod rhaid paratoi lle i'r rheini o flaen dim.

Mae'r catalog yn cynnwys manylion am lyfrau llyfrgell y Tonn, ac am lyfrau casgliad mawr y Barnwr Falconer, a hefyd am lyfrau'r casgliad a gyflwynwyd gan William Scott o Gaerdydd. Buasai'r casgliad hwn ar adneu yn y llyfrgell am rai blynyddoedd, ond fe gyflwynodd Scott y llyfrau i fod yn eiddo'r llyfrgell ym 1901. 'Roedd Scott yn aelod o bwyllgor y llyfrgell ac wedi bod yn casglu llyfrau a llawysgirfau Cymraeg ers blynyddoedd, gan ganolbwyntio ar gael gafael mewn eitemau nad oeddent eisoes yn y llyfrgell.

'Roedd yna dros 2,000 o eitemau yn y casgliad, rhai ohonynt yn unigryw, yn cynnwys tri ar ddeg o argraffiadau gwahanol o Daith y Pererin a deg o Ganwyll y Cymry, tua hanner cant o lawysgrifau a nifer o almanaciau a baledi. Yn y catalog hefyd mae yna ymgais i restru pob argraffiad o rai teitlau, megis Taith y Pererin, Canwyll y Cymry, Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, Llyfr y Tri Aderyn, Drych y Prif Oesoedd ac eraill.

'Doedd Ifano ddim yn honni bod y rhestrau hyn yn rhai cyflawn nac yn rhai manwl gywir, – ymgais yn unig ydyn nhw at restru argraffiadau Cymraeg y teitlau clan sylw. Ar ddiwedd y catalog ceir atodiad sy'n rhestru enwau barddol, ffugenwau ac yn y blaen ac yn rhoi'r enwau priodol lle bo hynny'n hysbys.

***

YN YR un flwyddyn ag y cyhoeddwyd y catalog fe gyflwynodd Arglwydd Tredegyr soned a gyfansoddodd William Wordsworth ar achlysur ail-adeiladu Eglwys y Santes Fair yng Nghaerdydd ym 1842, soned yn llaw y bardd ei hun. Gŵr haelionus arall oedd John Cory; mae sawl cyfeiriad yn yr adroddiadau ato yn cyfrannu arian a llyfrau a phethau eraill i'r llyfrgell.

Efallai mai ei gyfraniad mwyaf gwerthfawr oedd nifer o enghreifftiau (a gasglwyd gan Lindsay Jones ac a brynwyd oddi wrtho gan John Cory) o incunabula, sef llyfrau wedi eu hargraffu cyn y flwyddyn 1500. Mae 67 o gyfrolau yn y casgliad i gyd, llawer ohonynt yn esiamplau gwych o argraffu'r cyfnod. Bydd enw John Cory yn cael ei grybwyll eto ynglŷn â llyfrgell Thomas Philipps, Middle Hill.

Ym 1902 y cyflwynodd Cory y llyfrau cynnar yma i'r llyfrgell ac yn yr un flwyddyn fe brynodd y pwyllgor lyfrgell arall, sef llyfrgell Wooding. Cadw siop y pentre yn Beulah, Sir Frycheiniog oedd bywoliaeth David Lewis Wooding. Bu ef yn casglu llyfrau er pan oedd e'n ifanc iawn, ac mae'n debyg y medrech chi gyfnewid llyfrau yn y siop am nwyddau neu am arian. 'Roedd dros hanner y pum mil o lyfrau yn ei lyfrgell yn Gymraeg neu yn ymwneud â Chymru.

Ymhlith yr ychydig lawysgrifau mae'r un hynod honno o waith Edmund Jones, y Transh, Pont-y-pŵl, ("Yr Hen Broffwyd"), yn dwyn y teitl A Relation of numerous and extraordinary apparitions of spirits, good and bad. 'Roedd casgliad Wooding hefyd yn cynnwys nifer o farwnadau, almanaciau a baledi.

Daeth copi o'r Testament Cymraeg cyntaf (1567) i law drwy ewyllys Deon Tyddewi, sef David Howell ("Llawdden"), ym 1903. Buasai Howell yn ficer Eglwys Sant Ioan, Caerdydd rhwng 1864 ac 1875, a bu farw yn Nhyddewi ar y pymthegfed o Ionawr, 1903.

Mae enw Dafydd Morganwg yn wybyddus i lawer o garwyr llên yng Nghymru. Bu David Watkin Jones, (a rhoi iddo ei enw bedydd) yn eisteddfodwr llwyddiannus iawn, a hefyd yn gyfrannwr helaeth i gylchgronau megis Y Geninen a Cymru (Owen Jones). Ef yw awdur Yr Ysgol Farddol, y gwerslyfr barddonol a gyhoeddwyd gyntaf yn 1869, Hanes Morganwg (1874) a'r Ysgol Gymreig, llyfr gramadeg a gyhoeddwyd ym 1879. Bu hefyd yn olygydd y golofn Gymraeg yn y papur wythnosol y Cardiff Times am flynyddoedd lawer, a gwnaeth ef (ac eraill megis Ifano Jones a Wil Ifan, i enwi dim and dau, a fu hefyd mewn swyddi cyffelyb ar bapurau eraill yn y ddinas) gyfraniad gwerthfawr i lenyddiaeth Gymraeg drwy'r cyfrwng hwn.

Bu farw yng Nghaerdydd ar y pumed ar hugain o Ebrill, 1905 ac yn y flwyddyn honno fe brynodd Arglwydd Merthyr o Senghenydd (Syr William Thomas Lewis) bapurau a llyfrau Dafydd Morganwg a'u cyflwyno i'r llyfrgell. 'Roedd tua dwy fil o eitemau yn y casgliad, rhai ohonynt yn gyfrolau prin iawn o farddoniaeth ac emynau Cymraeg.

Yn yr un flwyddyn fe ddaeth llawysgirfau Cymraeg o Neuadd Baglan, ddwy ar bymtheg ohonyn nhw, i feddiant y llyfrgell drwy haelioni R.W. Llewellyn. Ymysg y rhain mae cyfrol yn cynnwys barddoniaeth Dafydd Benwyn, Llyfr Achau go arbennig a hefyd gytundeb priodas Ann Thomas, y Ferch o Gefn Ydfa.

Ar wahân i'r rhoddion hyn, 'roedd y pwyllgor yn dal i brynu casgliadau; – ym 1907 fe sicrhawyd llyfrau a llawysgrifau David Williams, Waunwaelod, ger Caerffili, sylfaenydd y Royal Literary Fund. Daeth nifer o gasgliadau bychain i law yn ystod y blynyddoedd nesaf, – 'doedd dim byd yn arbennig iawn yn eu cynnwys; dim ond eu bod yn ein hatgoffa o barch a haelioni pobol tuag at y llyfrgell.

***

Y CASGLIAD nesaf o bwys i ymgartrefu yn y llyfrgell oedd llawysgrifau'r Hafod, rhodd Edgar Edwards. Mae'r rhain wedi eu cofnodi gan Gwenogfryn Evans yn adroddiad y Comisiwn ar Lawysgrifau Hanesyddol. Ar un adeg 'roedden nhw'n rhan o lyfrgell Edward Llwyd, ac ar ôl bod ym meddiant Syr John Sebright fe'u prynwyd gan Thomas Johnes o'r Hafod Uchtryd yng Ngheredigion. Mae tair o'r llawysgrifau ymhlith y cynharaf o lawysgrifau Cymraeg, ac mae yna un casgliad pwysig o gywyddau Dafydd ap Gwilym.

Mae yna ddau gasgliad gwerthfawr o gerddoriaeth gynnar wedi dod i feddiant y llyfrgell. Ym 1919 fe brynodd Bonner Morgan gasgliad o gerddoriaeth o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, eitemau a gasglwyd gan Syr Herbert Mackworth o'r Gnoll, Castell Nedd.

Mae yn y casgliad hwn 52 0 lawysgrifau, 160 o weithiau printiedig, a 200 o ganeuon, gan gynnwys 10 sgôr gyflawn o operâu Eidalaidd cynnar. Ym 1924 y daeth y casgliad arall, sef casgliad T.E. Aylward, i'n meddiant. Bydd y ddau gasgliad yma yn gnewyllyn gwych i ffurfio llyfrgell gerddorol arbennig.

Fe ddaeth rhai llawysgirfau pwysig o arwerthiant Abaty Singleton, Abertawe ym 1919 hefyd. Ymhlith y rhain mae yna lawysgrif yn llaw Llywelyn Siôn o Langewydd sy'n cynnwys yr unig gopi cyflawn a oroesodd o'r tair rhan o Drych Cristnogawl (Gruffydd Robert), a chyfieithiad o Dives and Pauper, gwaith Henry Parker, o argraffiad 1493 gan Richard Pynson.

Cyfrol bwysig arall yw Llyfr Simwnt Fychan, yr achwr o Ddyffryn Clwyd; cyfrol sy'n cynnwys arweddion mewn lliw yn perthyn i arfbeisiau bonedd yn ogystal â gwaith achyddol. Yn y casgliad hefyd 'roedd yna ddau draethawd o gyfnod y Rhyfel Cartref, The Welsh Foot Post a A declaration by Sir Thomas Middleton in 1644 - mae gennym gasgliad sylweddol o'r traethodau hyn bellach.

"Hynafiaethydd, hanesydd lleol a chasglydd llên gwerin" yw disgrifiad Mr D. Myrddin Lloyd o Thomas Christopher Evans (Cadrawd) yn Y Bywgraffiadur Cymreig. Gydol ei oes bu Cadrawd yn casglu, copïo, mynegeio a chofnodi. Llawysgrifau, llyfrau toriadau a phapurau gwreiddiol yn bennaf yw cynnwys y casgliad o'i eiddo ef a gyflwynwyd gan ei weddw ym 1920. Nid casglu papurau a llyfrau yn unig a wnâi Cadrawd; - 'roedd yn ei dŷ hefyd bob math o hen ddodrefn a hen offer fferm a chrefft, ac mae llawer o'r rheini 'nawr yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

***

NID AM eu cynnwys yn unig y mae rhai o'r casgliadau yn nodedig. Daeth un casgliad i law ym 1923, wedi ei gyflwyno gan Syr Henry Webb o Lwynarthan yng Ngwent, sydd yn nodedig am ei rwymiadau yn hytrach nag am ei gynnwys. Mae'n gasgliad o gant o gyfrolau wedi eu rhwymo'n gain ac yn gelfydd; yn enghreifftiau o rwymiadau Saesneg a thramor rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dyma gyfle hefyd i grybwyll y gweddill o'r rhwymiadau cain sydd yn y llyfrgell, ac i son am yr enghreifftiau lawer o gynhyrchion gweisg preifat sydd ynghadw yn y llyfrgell, - gweisg sy'n enwog am eu hargraffu cain,- gweisg fel y Kelmscott, Eragny, Doves, Ashenden, Vale a'r Golden Cockerel, a heb anghofio wrth gwrs am Wasg Gregynog. Yn ystod cyfnod Harry Farr fel prif lyfrgellydd y daeth y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn i’n meddiant.

Casgliad arbennig o bwysig yw'r un o lyfrau plant cynnar sydd yn ein gofal. Mae yn y casgliad hwn sawl copi o lyfrau Beatrix Potter wedi eu llofnodi ganddi. Ychwanegwyd 73 o eitemau at y casgliad ym 1927, rhodd Mrs H.M. Thompson, a rhoddodd Mrs E.S. Tregelles 42 o lyfrau plant yn yr un flwyddyn i chwyddo'r casgliad. Mae'r llyfrau sy'n ennill gwobrau Carnegie a Kate Greenaway bob blwyddyn yn cael eu hychwanegu hefyd yn eu tro.

***

HOFFWN cyn terfynu sôn mwy am Syr Thomas Phillipps, Middle Hill a’i gasgliadau. Yr oedd Syr Thomas yn ŵr arbennig mewn llawer ystyr, - prynwr casgliadau 'niferus, gwerthfawr ac amrywiol' yn ôl ysgrif Syr W. Llewelyn Davies arno yn Y Bywgraffiadur Cymreig. 'Roedd yn argraffydd hefyd, - 'roedd ganddo ei wasg argraffu ei hun yn Middle Hill, gwasg a sefydlwyd er mwyn hwylustod i ysgolheigion, ac fe gafwyd llu o gyhoeddiadau o'r wasg hon yng nghwrs y blynyddoedd, amryw ohonynt o ddiddordeb Cymreig.

Ym 1862 symudwyd y llyfrgell â'r wasg i Thirlestaine House, Cheltenham, lle bu Syr Thomas farw ym 1872. Dywedir iddo gasglu dros 60,000 o lawysgrifau, ac 'roedd tua 1,461 o'r rhain gyda chysylltiadau Cymreig. Fe ddechreuwyd gwerthu'r casgliad ym 1886 ac nid ydys eto wedi gorffen gwerthu. Pan glywyd sôn ym 1895 bod y llawysgirfau Cymreig i gael eu gwerthu, fe benodwyd y Llyfrgellydd Ballingrer a'r Athro Thomas Powell (Athro Celteg Coleg y Brifysgol, Caerdydd ac aelod gwerthfawr o bwyllgor y llyfrgell am lawer blwyddyn), i fynd i archwilio'r casgliad.

Wedi penderfynu prynu, y cwestiwn wedyn oedd, - o ble oedd yr arian i ddod? Wel unwaith eto daeth y cyhoedd i'r bwIch drwy danysgrifio ychydig llai na hanner y pris o £3,500, ac fe roddodd Ardalydd Bute £1,000. Fe dalwyd gweddill y ddyled dros gyfnod o ddeng mlynedd. 0 gofio mai tua £650 y flwyddyn oedd yn cael ei wario ar lyfrau yr adeg honno, mae'n rhaid canmol y pwyllgor am ei weledigaeth, - fel y dywed A.L. Munby yn ei lyfr Phillipps Studies (1960), nid yw pwyllgorau fel rheol yn penderfynu ac yn gweithredu fel hyn bron dros nos. Mae'n anodd meddwl y digwyddai'r fath beth heddiw.

Gem y casgliad wrth gwrs yw Llyfr Aneirin, un o lawysgirfau llenyddol cynharaf Cymru. Oni bai iddi grwydro o lyfrgell Hengwrt (lle'r oedd hi ar un adeg ym meddiant Robert Vaughan), a mynd drwy sawl pâr o ddwylo cyn i Syr Thomas Phillips ei phrynu oddi wrth Thomas Price (Carnhuanawc), mwy na thebyg mai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth y byddai Llyfr Aneirin heddiw, a'n braint ni heddiw yn Llyfrgell Caerdydd yw cael trysori'r llawysgrif hon. Fe ddywedodd yr Athro Ian Jack yn ei lyfr Sources of History: Medieval Wales (1972) i dref Caerdydd, drwy brynu'r llawysgrif hon, greu llyfrgell genedlaethol de facto yng Nghaerdydd.

Ac wrth derfynu, fe hoffwn sôn am rai o'r cyhoeddiadau sy'n seiliedig ar y casgliad Cymraeg yn y llyfrgell. 'Rwyf wedi trafod eisoes y catalog a gyhoeddwyd ym 1898, felly 'does dim eisiau dweud rhagor am hwnnw. Wyth mlynedd yn ddiweddarach fe gyhoeddwyd The Bible in Wales. Mae'r llyfr mewn dwy ran, yr hanner cyntaf yn draethawd ar hanes y Beibl yng Nghymru ac yn rhoi darlun manwl o'r gwahanol argraffiadau o'r ysgrythurau yn yr iaith Gymraeg.

Gwaith Syr John Ballinger yw'r traethawd hwn. Cynnwys ail hanner y gyfrol yw llyfryddiaeth lawn o bob argraffiad Cymraeg o'r ysgrythurau o Destament Salesbury ym 1567 hyd at yr argraffiadau a gyhoeddwyd ym 1900, dyddiad cau'r rhestr. Sail y llyfryddiaeth oedd yr arddangosfa a drefnwyd yn y Llyfrgell Gyfeiriadol rhwng mis Mawrth a mis Medi 1904 i ddathlu canmlwyddiant y Gymdeithas Feiblau Frutanaidd a Thramor. Nid eiddo Llyfrgell Caerdydd oedd pob un o'r llyfrau yn yr arddangosfa, - 'roedd nifer o unigolion yn ogystal â sefydliadau wedi benthyca copïau i'w harddangos.

Cafwyd copi o bron iawn bob argraffiad o'r ysgrythurau o fewn ffiniau'r trefnwyr i'w harddangos. Ifano Jones oedd yn gyfrifol unwaith eto am baratoi'r llyfryddiaeth gyda'r disgrifiadau llyfryddol manwl o bob eitem.

Mae'r llyfr nesaf yn llyfr sydd ynddo'i hun yn ddigon o dasg i gadw rhywun yn brysur am oes. Dyma'r gwaith mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gysylltu ag enw Ifano. Teitl y gyfrol yw A History of printing and printers in Wales to 1810 a chyhoeddwyd hi gan William Lewis yng Nghaerdydd ym 1925. Mae'n cynnwys gwybodaeth atodol am argraffwyr, yn enwedig argraffwyr Sir Fynwy, hyd y flwyddyn 1923, ac mae'r pump atodiad yn unig o werth amhrisiadwy i lyfryddwyr a llyfrgellwyr (a chasglwyr!), heb son am y wybodaeth enfawr a geir yng nghorff y gwaith am y gweisg a'u cynhyrchion.

O bryd i'w gilydd fe gynhelir arddangosfeydd o hyd yn y llyfrgell, ac weithiau fe gyhoeddir llyfrynnau i gyd-fynd a'r rhain. Er enghraifft, adeg Gŵyl Ddewi 1963 fe fu arddangosfa o nofelau Cymraeg ac fe baratowyd rhestr yn dwyn y teitl Nofelau Cymraeg 1900-1962. Ynddi fe geir rhestr o nofelau Cymraeg rhwng y blynyddoedd 1900 a 1962 dan enw'r awdur yn nhrefn yr wyddor, ac yn rhoi gwybodaeth am ffynonellau adolygiadau ar bob nofel. Ar y dechrau ceir llyfryddiaeth fer o'r nofel Gymraeg fel ffurf lenyddol.

Mae cynlluniau ar droed i adeiladu pencadlys newydd i Lyfrgell Sir De Morgannwg, ac y mae pob gobaith y bydd hon ar ei thraed o fewn tua chwe blynedd. Fe fydd cyfle yn honno i wneud, cyfiawnder â'r casgliadau i gyd a digon o le (gobeithio!) a chyfleusterau arbennig i arddangos rhai o'r trysorau sydd gennym, a medru dangos i'r oesoedd a ddêl y gogoniant a fu.