CAMPAU TWM SIÔN CATI gan Gomer M.Roberts

YN RHIFYN Awst cyfeiria Mr. Bruce Griffiths at Y Digrifwr. Casgliad o Gampau a Dichellion Thomas Jones, o Dregaron, ... Hefyd Chwedlau Digrif Eraill, – teitl go hir i lyfryn 8 tt., wedi ei argraffu ar bapur gwael yn 1811 ac yn fy nghopi i heb enw argraffydd wrtho. Fel y dywed Mr Griffiths, dyma'r llyfryn cyntaf sy'n croniclo campau a dichellion Twm Siôn Cati.

Yn y flwyddyn 1949, ar dudalennau'r Western Mail, ceisiais roi rhestr o'r gwahanol argraffiadau, yn Saesneg a Chymraeg, o ramant Thomas Llewelyn Jeffery Prichard.

Mewn llythyr yn y Western Mail (2 Rhag. 1949), dywed Mr. Roger Williams, Maesirfon, Llanfair ym Muallt, iddo glywed un o frodorion y dref honno yn tystio (c. 1899) ei fod yn cofio Prichard yn cadw siop lyfrau ail-law yn stryd fawr y dref. Ar ddydd marchnad a ffair gwerthai gannoedd o gopïau o'i lyfr ar Dwm Siôn Cati, a hynny i ffermwyr, gan mwyaf.

    Dyma'r argraffiadau Saesneg:
    1. The Adventures and Vagaries of Twm Shon Catti, ... (Aberystwyth: J. Cox, 1828).

    2. Ail arg., 'Cowbridge: J. T. Jones, 1839'. Ceir rhagair gan yr awdur i'r arg. hwn.

    3. Twm Shon Catti: or the Welsh Robin Hood (Llanidloes, 1858) – gw. Cofiant Humphrey Gwalchmai, ail arg., t. 270.

    4. The Humorous Adventures of the Welsh Robin Hood, commonly known as Twm Shon Catti ... (London: Griffith, Son, & Co., 1869).

    5. Adventures and Vagaries of Twm Shon Catti, alias Thomas Jones, Esq., of Tregaron (Llanidloes: J. Pryse, 1871) – 'third edition with additions, was printed from MSS. left by the Author. Illustrations by Edward Salter' (Cofiant Gwalchmai, t. 270).

    6. The Laughable Adventures of Twm Shon Catty. The Wild Wag of Wales (Cardiff. E. Jones & Son, 1882).

    7. The Surprising Adventures of Twm Shon Catty (Swansea: Cambria Daily Leader Office, 1891).

    8. The Adventures of Twm Shon Catti (alias Thomas Jones, Esq.), a Wild Wag of Wales (Cardiff. Western Mail Ltd., n.d.). Nid yw enw'r awdur wrth hwn. Gelwir ef yn 'sixth edition', ac fe gynnwys rhagair gan 'A.M.' – Arthur Mee, nid hwyrach.

    9. The Comical Adventures of Twm Shon Catty (Thomas Jones, commonly known as the Welsh Robin Hood (Wakefield: William Nicholson and Sons; London: S.D. Edwins and Co. n.d.).

Y mae'n ddigon tebyg mae 'piratical editions' oedd rhai o'r uchod, megis rhifau 4, 6 a 7. Deuwn yn awr at yr argraffiadau Cymraeg:

    1. Difyr-Gampau a Gorchestion yr Enwog Twm Shôn Catti (Llanidloes: John Pryse, 1872). Y cyfieithydd oedd John Evans (Eilonydd). Ceir darluniau Salter yn yr arg. hwn.

    2. Ail. arg. Ni wn i pwy a'i cyhoeddodd, na pha bryd ychwaith.

    3. Trydydd arg. (Bala, H. Evans, 1896).

    4. Arg. arall (Ystalyfera: E. Rees a'i Feibion, 1904).

    5. Difyr-Gampau a Gorchestion yr enwog Twm-Shôn-Catti (Gwron Cymreig) ... (Ferndale: David Davies, d.d.).

Y mae'n ddigon tebyg bod argraffiadau eraill ar gael.