Y GEMAU SYDD GYDA'R GWYMON ~
Gair Bruce Griffiths tros yr hen ganrif

CANRIF o rwtsh sych-dduwiol: dyna oedd y ganrif ddiwethaf i mi, a dyna yw, yn ddiau, i nifer ohonom o hyd. Pwy na fu'n turio'n ddiobaith trwy domenni o hen gofiannau i bregethwyr, o esboniadau, o bregethau, o draeth­odau moeseglyd, o farddoniaeth hirwyntog a barddonllyd yn arddull waethaf W.Owen Pughe, ac o lyfrau hanes gan rai a lyncodd syniadau hanner-pan Ab Ithel ac Iolo Morganwg heb binsiad o halen? Pwy ar y ddaear a brynai'r llyfrau hyn? Pwy ar y ddaear a allai eu darllen?

Ond tybed nad darlun cam­arweiniol a roir gan y silffoedd yn gwegian dan y sbwriel llychlyd hwn? Wedi'r cwbl, dyma'r pethau a ystyrid yn 'barchus' neu’n 'ddyrchafol', a gedwid yn ofalus gyda'r Beibl a'r llyfr emynau mewn cwpwrdd gwydr. Oherwydd hyn, a'u rhwymiad caled, maent wedi goroesi dau ryfel byd.

Ond bellach deuthum i sylweddoli y bu llenyddiaeth ysgafnach, fwy poblogaidd, a llai parchus weithiau. Yn anffodus, pethau bychain mewn clawr papur oeddent, a hwythau felly yn fyrhoedlog. Dyma oes aur y baledi a'r almanaciau a werthid fesul miloedd, ac a deflid yn fuan wedyn. Cynhwysai'r almanaciau straeon byrion, hen chwedlau, diarhebion, arwyddion tywydd a phob math o bytiau diddorol. Dyma'r unig beth a ddarllenai llawer. Ond faint ohonynt a welsoch chi mewn siop ail-law?

Meddaf ar gopi o lyfryn hynod ddifyr: Y Mynegfys, gan J. Saunders, Caerfaddon (Bath), a argraffwyd ac a gyhoeddwyd ganddo yn y ddinas honno. Casgliad yw o ddifyrion, posau, rysitiau, ffeithiau hynod, straeon doniol, pytiau o wybodaeth gyffredinol ac ymarferol.

A darllen rhwng llinellau'r rhagymadrodd, gellir synhwyro i'r awdur syrffedu'n lân ar sych­dduwioldeb oes Victoria: "Ein pwynt o’r dechrau i'r diwedd yw difyrru, ac yna taflu i mewn... ryw hint fach addysgiadol. Os nad dyma'r ffordd oreu i addysgu; yn sicr, dyma'r ffordd felusaf... Gallwch wrando ar bregeth, darlith, neu araeth... ond erbyn eich bod wedi cyrraedd adref, syndod mor lleied sydd wedi aros yn eich cof. Ar y llaw arall, ar ôl darllen, neu glywed, chwedl fach gryno a thrawiadol, a hynny ddim ond am un waith, gallwch ei hail-adrodd, air am air, i'ch cyfeillion..."

Bid siŵr, yr oedd croeso ar ran y werin i rywbeth cryno a difyr bryd hynny llawn gymaint ag y sydd heddiw. Er yr holl daranu yn erbyn "hen arferion ofer a llygredig y Cymry", ni fu anter­liwtiau Twm o'r Nant yn hir allan o brint yn ystod y ganrif, er peidio'r arfer o’u perfformio.

***

BU MYND cyson ar anturiaethau yr hen wag arall - Twm Siôn Cati. Hyd y gwn i, y llyfryn cyntaf amdano oedd: Twm Siôn Catti. Y Digrifwr. Casgliad o Gampiau a Dichellion T. Jones... (Caerfyrddin 1811) (tt.8), and ni ddaeth i fri nes i Thomas Jeffrey Llewelyn Prichard, Aberystwyth, gyhoeddi rhamant Cymraeg braidd yn hwyr yn y dydd: Difyr­Gampau a Gorchestion... Twm Shôn Catti (J. Pryse, Llanidloes, 1872).

Dyna'r adeg yr aethpwyd ati i gasglu ac i gyhoeddi hen chwedlau gwerin ac ofergoelion difyr. Enghraifft gynnar oedd gwaith Peter Roberts, Llanarmon: The Cambrian Popular Antiquities (London, 1813): buan y cafwyd cyfieithiad Cymraeg: Yr Hynafion Cymreig... (Caerfyrddin, 1823). Nid oedd yn llyfr rhad:

Ei atyniad arbennig i mi yw'r platiau sy'n darlunio Drychiolaeth, Y Gwahoddwr, y Gwyntyn ac yn y blaen. Gwaith yr artist Huw Hughes, Llandudno, oeddent, nid platiau a fenthyciwyd oddi wrth lyfr Saesneg; peth digon anghyffredin yr adeg hynny (gweler yr ysgrif ar Hugh Hughes yn y Casglwr Rhif 5).

Yn ddiweddarach, cafwyd casgliadau poblogaidd megis Cymru Fu Isaac Foulkes (1862­-3-4). Prinnach, a llai hysbys yw Ystên Sioned D. Silvan Evans a John Jones (Ivon) (Gwrecsam, 1882). Prinnaf oll, erbyn hyn: Ofergoelion yr Hen Gymry y Parch. T. Frimston (Llangollen, d.d.).

Ni wn sut yr oedd hi yn y De; ond yn y Gogledd, porthid yr awydd am straeon cyffrous neu anhygoel gan weisg Caernarfon a Llanrwst yn bennaf. Cyhoeddodd Humphreys Caernarfon gant naw deg dau llyfryn ceiniog. Fe'u ceir wedi eu rhwymo yn un gyfrol, dan y teitl: Llyfr Gwybodaeth Gyffredinol. Fel llyfrynnau ar wahân, maent yn brin. Yn y Cynwysiad i'r casgliad, mae absenoldeb iachusol fawn o’r sych-dduwiol.

Ceir hanes arwyr hanesyddol, anturiaethau teithwyr, rhyfeloedd, hen chwedlau, rhamantau, trychinebau, meddyginiaethau rhyfeddol, y dyfeisiadau diweddaraf, ac yn y blaen. Dyna bethau y gallai pacmon yn hawdd eu gwerthu o ffarm i ffarm, mewn ffair a marchnad.

Yn yr un dref y cyhoeddwyd: Daroganau a Phrophwydoliaeth Hynod a Rhyfeddol y duwiol ar dysgedig JAMES USHER, Dim Archesgob Armagh... a Phroph­wydoliaeth Ryfeddol y nodedig ROBERT NIXON, o Swydd Gaer Lleon... (Caernarfon, Peter Evans, d.d.). Er gwaethaf y taranu yn erbyn ofergoelion o bob math, yr oedd mynd, mae'n rhaid gennyf i, ar lyfrau'n trafod darogan a dewiniaeth.

Sut arall mae esbonio'r ffaith i'r almanaciwr Robert Roberts gyhoeddi clamp o lyfr (tt.480) yn dwyn y teitl: Seryddiaeth, neu Lyfr Gwybodaeth, yn dangos Rheoliad y Planedau ar Bersonau Dynion... wedi ei gasglu o hen ysgrifeniadau Cymreig, gyda pheth o'r Saesonaeg... (Llanrwst: Arg. gan John Jones, dros yr awdur, d.d.) (? tua 1830).

Nid yw namyn talp o’r ofer­goeledd mwyaf, yn cynnwys cyfarwyddyd ar sut i dynnu cylchau a chodi cythreuliaid, sut i ddarganfod lleidr ac i ennill gŵr neu wraig. Yn anffodus, neu'n ffodus efallai, fe wnaeth yr awdur neu'r cysodydd 'smonaeth o'r swynion anghyfiaith, a oedd mewn Lladin, Groeg, Hebraeg, neu gymysgedd o’r tair iaith. Ni fyddent felly wedi gweithio pa un bynnag, neu fe fuasai hanes cefn gwlad Cymru yn bur wahanol!

Ys gwn i beth oedd yr 'hen ysgrifeniadau Cymreig'?

***

O LANRWST hefyd y daeth Bywyd Hynod DR JOHN FAUSTUS, Ser-Ddewin a Swynwr: yn dangos y moddion a ddefnyddiwyd ganddo i GYFODI Y DIAFOL, yr hwn a roddodd iddo alluoedd swynawl rhyfeddol ar yr amod iddo gael ei ENAID A’I GORPH... (&c) (a'i) FARWOLAETH DDYCHRYNLLYD ...(&c) Llanrwst: Arg. gan Hugh Jones, dros R. Jones, Llyfr­werthyd (d.d., rhwng 1839­42).

Bu mynd mawr ar chwedl y dewin hwn, ganrifoedd ynghynt, yn yr Almaen ac yn Lloegr, ac enwogwyd ef yn nrama Christopher Marlow a chan Goethe.

Ond ni wyddwn am fersiwn Gymraeg, a syndod oedd gweld un mor ddiweddar â chanol y ganrif ddiwethaf. A chyn gadael y dewiniaid, syndod imi hefyd yw na fu erioed, hyd y gwn, lyfryn Cymraeg ar orchestion dewin enwocaf Cymru, y Dr. John Dee.

***

ARWYDD arall o'r diddordeb mewn pethau cyfriniol yw llyfr­ynnau megis: Gweledigaethau Dirnadwy, neu DDEHONGLIAD BREUDDWYDION... (gydag) ychydig o REOLAU perthynol i Gariad a Phriodas i Bobl leuainc. Gan S. Jones, Llanrwst: Venedocian Press (d.d., tt.67). Yn ogystal â dehongli breuddwydion, dengys hefyd sut i ddarllen cledr y llaw, ac ambell beth arall buddiol, e.e. 'I wybod a fydd merch yn wyryf ai peidio'. Mae gennyf Lyfr Breuddwydion arall mwy sylweddol (tt.152) heb arno ddyddiad nac enw gwasg heblaw 'Cyhoeddedig dros llyfrwerthwyr'.

Yn yr un dosbarth rhaid rhestru: LLYFR GORCHESTION Yr Enwog Aristotle, ynghyd a Swyddogion, Ser/Ddewiniaid, Meddygon, a Philosophyddion eraill. Wedi eu cyfieithu o'r Saesoneg. Amlwch: D. Jones (d.d.). Er gwaethaf y teitl rhwysgfawr, llyfryn tenau o ryw 16 tudalen yw. (Mae fy nghopi i - yr unig un a welais erioed - yn fyr o un tudalen.)

Ei gynnwys yw cyfres o gwestiynau ac atebion, megis 'Paham y mae gan ddynion fwy o ddannedd na benywod?' Paham y mae dynion yn tisian?' 'Paham y mae gan ddyn yr arogl waethaf o bob creadur?' ac yn y blaen, a godwyd o’r cyfieithiadau meithach o lyfr y ffug-Aristotlys ar grefft y fydwraig, y cyfeiriwyd atynt mewn rhifyn cynharach o'r Casglwr.

Yn amlwg, nid ar sail y wybod­aeth feddygol ynddo, na chwaith gyfaredd yr arddull - (cyfieith­iadau clogyrnaidd ac annealladwy ydynt) y byseddid y gweithiau hyn gan weision a morwynion ffermydd.

Yr oedd ynddynt luniau o blentyn yn y groth, ac o fam yn esgor; yr oedd ynddynt hanesion a darluniau angenfilod a anesid o bryd i'w gilydd: plentyn â phedair braich a dau ben, plentyn ag iddo hanner isaf blaidd; plentyn ag iddo adenydd, hanner isaf pysgodyn, ac un grafanc anferth yn lle traed. Mae gennyf gopi o'r testun Saesneg gwreiddiol (London, Clifton Chambers & Co. d.d.) sy'n cynnwys union yr un lluniau.

Yn niffyg nofelau Cymraeg gwreiddiol, ac er gwaethaf y rhagfarn yn erbyn 'ffug-lenyddiaeth', troai'r werin yn awchus at gyfieithiadau i'r Saesneg: yn enwedig hanes dynion drwg. Dyna ichi Hanes Bywyd a Marwolaeth Judas Iscariot (Llanrwst: John Jones, 1839). Gan nad oes fawr o son am gefndir Judas yn y Beibl, o ba ffynonellau apocruffaidd, tybed, y tarddodd yr hanes amdano?

Wedyn dyna Hanes Richard Turpin, y Lleidr Pen-Ffordd Hynotaf a ymddangosodd yn yr oesoedd diweddaf... (gyda) Cyflawn Hanes o Brawf, Ei DDIENYDDIAD a'i GLADDEDIGAETH...(&c) (Llanrwst: John Jones, d.d.). Cynhwysa'r trigain tudalen nifer o ysgythriadau cyffrous: Ogof Turpin; Turpin yn ymosod ar ryw druan; ar gefn ei geffyl; mewn cadwyni yn ei gell; ac, yn olaf, llun o'i gorff, a mwgwd dros ei ben, ar y grocbren o flaen torf. Adargraffwŷd union yr un testun gan Gwmni'r Rhondda Leader (Tonypandy, d.d.) gan Breuddwyd Eugene Aram Tom Hood o gyfieithiad y Parch. D.L. Pughe; ond heb y darluniau.

***

GAN AROS ym myd y llofruddion: peth prin trybeilig, mi dybiwn i, yw hanes prawf ar lofrudd o Gymro, yn Gymraeg. Ond dyna a geir yn Y Llofruddiaeth gerllaw Roe (h.y. Y Ro Wen, ger Conwy) (Caernarfon: W. Owen, 1853). Nid yw'n ddim llai nag adroddiad verbatim o'r croesholi a'r atebion yn achos y prawf ar John Roberts a gafwyd yn euog o ladd Jesse Roberts, ac a grogwyd. Ar derfyn y llyfr ceir "Ei gyffesiad olaf".

Yr oedd y mwyafrif o'r tystion yn Gymry uniaith, 'rwy'n meddwl, ond Saeson oedd yn erlyn ac yn amddiffyn. Ai cyfieithiad oedd o adroddiad mewn papur newydd?

Ar y copi a welais i (ym meddiant J. Elwyn Hughes) y mae rhifau bob hyn a hyn sy'n dangos iddo gael ei gyhoeddi fesul rhan: ac eto nid yw ond pedwar tudalen ar hugain. A ymddangosodd mewn cylchgrawn neu bapur newydd? A fu gohebydd yn y llys yn nodi pob gair?

0 brynu baled, gellid darllen am lofruddiaethau erchyll iawn, megis: LLOFRUDDIO CYFAILL, a gorfod bwyta ei gnawd rhag marwolaeth. HANES GALARUS Am y dioddefiadau mwyaf dychrynllyd ac y clybuwyd sôn amdanynt erioed, oddiar dir na môr. Tôn: Morgan Bach (Amlwch: D. Jones, d.d.) (? 1884).

Ar y cychwyn ceir crynhoad mewn rhyddiaith o hanes y llong Mignonette yn suddo, y criw yn dioddef am bythefnos mewn cwch bychan, ac yna'n penderfynu tynnu y byrra'i docyn i ddewis un a ledid yn aberth er mwyn i'r lleill gael byw.

Prin bod y faled (gan Hugh Roberts, Pererin Môn) yn gallu gwneud cyfiawnder a'r hanesyn gwirioneddol drist hwn. Fe barhaodd yr arfer o gyhoeddi baledi o'r fath hyd at ddechrau'r ganrif hon: mae copi gennyf o faled: Dienyddiad y Dr. Crippen; Am lofruddio a darnio ei wraig a'i chladdu yn seler ei dŷ (tt. 4, heb enw awdur, gwasg na dyddiad) (? 1910). Tybed ai hon oedd yr olaf o'i math?

***

BU MYND cyson ar antur­iaethau'r hen Robinson Crusoe dewr: argraffiad bach plaen, clawr papur o wasg John Jones (Llanrwst, 1857); argraffiad harddach, mwy swmpus, o wasg Humphreys, Caernarfon, mewn cloriau caled, gyda llun o Crusoe yn ei het flew, a'r teitl, i gyd mewn aur, ar ei feingefn. Mae catalog maith a syfrdanol o gynhyrchion eraill y wasg yn y cefn.

Cyhoeddodd Humphreys gyfieithiad o Vicar Wakefield Goldsmith - llyfr bach del, coch, a llythreniad aur ar ei glawr caled; yn fy nghopi i gludwyd papuryn yn tystio iddo berthyn i Lyfrgell Fenthycol Ysgol Sabbothol Glanwydden. Pentref bychan yw Glanwydden, rhwng Llandudno a Bae Colwyn. A oes achos yno o hyd, tybed? A oes yno Gymry, hyd yn oed? Cyhoeddwyd addasiad arall o’r un nofel, sef Bywyd Hen Berson Llandedwydd gan Reece & Evans, Caernarfon, yn 1875.

Gan nad oes llyfryddiaeth gyflawn o gynnyrch y ganrif ddiwethaf, 'does wybod pa drysorau a all ddod i'r fei o hyd. Yr oedd deunydd darllen y werin yn fwy amrywiol, ac yn fwy diddan, nag a dybiwn ni fel arfer. Yn sicr, nid wyf ond prin wedi crafu wyneb y maes, a esgeuluswŷd gan haneswyr ein llên i raddau helaeth. Ond gwn fod casglwyr eraill wedi arbenigo yn y maes, a gobeithio y cawn arlwy o'u gwybodaeth ganddynt.