SILFFOEDD GWAG - Y Golygydd

OS ASTUDIWCH ein hysbysebion fe welwch y bydd arwerthiant fawr ar lyfrau ail-law ar faes y Brifwyl yng Nghaernarfon eleni. Ac, yn wir, mae'r fasnach lyfrau ail-law yng Nghymru mewn sefyllfa ddiddorol - os mai dyna'r gair priodol.

Y dyddiau hyn y mae yna fri mawr ar gasglu pob math o bethau - un o'r pethau diweddaraf i ddenu prynwyr yw dodrefn a wnaed o goed bambŵ yn oes Fictoria. Ac nid yn unig mae'r meysydd yn lledaenu, ond mae'r prisiau'n codi i'r entrychion.

Yng Nghymru, ac yn y fasnach lyfrau ail-law yr ydym yn dechrau teimlo effeithiau'r chwyldro a fu yn ein parlyrau. Gyda byd gwell, mwy o arian a dyfodiad y teli fe wariodd pobl arian gloywon ar eu tai ac mi fu yna spring-clinio na welwyd ei fath. Aeth trysorau i'r domen, gan gynnwys hen recordiau (ac mae yna gasglu mawr ar recordiau 78), hen gylchgronau, y darnau cerddorol oedd yn sedd y piano, a hen lyfrau. Ychwanegwch y ffaith fod gweinidogion - y bobl a gadwai lyfrgelloedd da - yn prinhau, ac fe gewch rai o'r rhesymau pam mae llyfrau Cymraeg ail-law yn mynd yn fwy a mwy anodd eu cael.

Profiad y llyfrwerthwyr yw ei bod yn mynd yn fwy anodd i ail-stocio eu silffoedd o flwyddyn i flwyddyn ac arwyddion pendant o hirlwm erbyn hyn.

Yn y cyfwng yma gallasai'r CASGLWR fod yn help mawr i gadw'r prynwyr a'r gwerthwyr mewn cysylltiad ‚'i gilydd. Medr y darllenwyr ddefnyddio'r cylchgrawn yma i hysbysu eu gofynion ac i wneud eu hymholiadau yn rhad ac am ddim. Beth amdani?

Yn gyffredinol mae sefyllfa ariannol Cymdeithas Bob Owen yn iach - er bod rhai ohonoch yn ddifrifol o hwyr yn taluír tanysgrifiadau; ond anghofrwydd ac nid diffyg diddordeb yw'r rheswm am hynny.

Yn araf, araf mae'r cylchrediad yn codi - o ddau gant a hanner y rhifyn cyntaf i well na chwe chant y rhifyn hwn. Y freuddwyd yw medru cyrraedd y mil, ac nid yw hynny'n amhosibl.

Gyda llaw, nid yn anystyriol y cyhoeddir y faled led-fasweddol sydd yn y rhifyn hwn, ac na ddigied un ohonoch. Mae'n enghraifft ddigon diniwed o ganu maswedd Cymraeg, a oedd yn weddol gyffredin yn y cyfnod, er y tynnwyd cryn orchudd tros y maes. Ac os darllenwch hefyd yr erthygl ar Bro Gwalia, sydd hefyd yn fardd di-chwaeth yn ei ddiniweidrwydd llenyddol, cewch gipdrem slei ar beth o ddiddanwch gwerin tre' Caernarfon yn y ganrif o'r blaen.

Ac, yn olaf, y diolchiadau. I'r swyddogion, wrth gwrs, am ymdrech deg iawn. Ac i'r cyfranwyr - dyrnaid ardderchog o bobl gymwynasgar, parod er gwaetha' eu prysurdeb. A - beth am eich cyfraniad chi - mae'n rhaid fod gennych rywbeth bach neu fawr i'w ddweud, neu ni fuasech yn darllen hyn o eiriau. Ac ni fwriedir cyfyngu'r cyfraniadau i lyfrau yn unig, canys mae mawr angen trafod a choleddu a chasglu pob trysor sy'n perthyn i ni'r Cymry.

Ac - yn derfynol - bydd y trydydd argraffiad o Bywyd Bob Owen allan cyn yr Eisteddfod, a hynny am yr un pris hefyd, sef £3.