PRYNU LLYFRAU YNG NGHROESOR ~
Yng nghwmni Alun R.Edwards
GWIR Y dywedodd ei Weinidog ddydd angladd Bob Owen fod pobl y de yn gofyn, "Ple mae Croesor, dywedwch?" Yr oedd Llyfrgellydd y Sir yn un ohonynt hyd Mai 1959 pan gafwyd gwahoddiad i fynd yno a phrynu llyfrau a fyddai o fudd i'r casgliad lleol yng Ngheredigion. Ni chaniatâ gofod i mi adrodd y stori wrth gefn y cynnig hael hwn. Digon dweud i minnau gael y fraint o ddatod ei esgidiau a’i hebrwng i berfedd Ceredigion ganol gaeaf cyn mentro gofyn y ffafrau mawr!
"Rhwng Mantwrog a Phenrhyndeudraeth a than fwa yn Llanfrothen", oedd gorchymyn Bob Owen. Ond bu raid gofyn fwy nag unwaith cyn cyrraedd y tŷ mawr yn ymyl y capel. Gadawsom y car ger y gornel ac araf gerdded i fyny'r grisiau cerrig a arweiniai i'w gartref. Gwelsom drwy'r ffenestr bapur newydd yn cael ei droi. "Bob Owen yn darllen y Liverpool Daily Post," meddwn. Ond cyn i'r papur ddisgyn yr oedd y gwron hwnnw wrth y drws a'r llais treiddgar yn llawn croeso.
"Tyrd i mewn," meddai, "pwy bynnag sydd gyda thi."Egluro mai Norman Roberts, fy nirprwy ydoedd. 'Roedd Mr Roberts yn frodor o Gaernarfon a buan y cafwyd gwybod fod Nel yn dod oddi yno hefyd. "Nel”, gwaeddodd, "tyrd 'ma i gyfarfod y ddau yma". Daeth Nel gan ymddiheuro na chafodd amser i dacluso, er yr ymddangosai i ni yn drwsiadus ddigon.
I mewn â ni i'r ystafell ffrynt i gyfarfod darllenydd y Liverpool Daily Post. Yno 'roedd wyneb a thalcen arbennig - un hir a gwelw, llwydaidd a dau lygaid bach fel llygoden. Clywsom lais gwichlyd yn llawn o hiwmor sych a rhyw elfen o oglais ynddo. Neb llai na'r Dr. Thomas Richards a oedd yn treulio ychydig wyliau gyda Bob Owen. 'Roedd "Doctor Tom", chwedl Bob Owen, yn ei afiaith y prynhawn hwnnw.
***
CHWARAE teg i Bob, 'roedd eisoes wedi dethol y llyfrau oedd yn dwyn perthynas â Sir Aberteifi ac wedi eu prisio hefyd. Synnais braidd fod prisiau y sypiau cyntaf mor rhesymol - naw ceiniog, swllt a swllt a thair am lyfrynnau bychain. Ddywedais i ddim, dim ond canmol fy lwc wrthyf fy hun. A oeddwn wedi camfarnu Bob Owen? Ond 'roedd Dr. Tom fel petai yn darllen fy meddyliau fel llyfr.
"Gwyliwch chwi Bob Owen," meddai'r llais sgrechlyd. "Hen wag, fe ddechreua yn isel isel. Byddwch yn cael bargeinion mawr. OND..." Codi ei lais ar yr "ond" mewn modd na fedrai neb ond Dr. Tom ei wneud. Yna'n stopio'n sydyn a thanio'i bibell fel petai popeth drosodd. Bob Owen yn clywed y cyfan, wrth gwrs. Ar ôl cael mygyn ychwanegodd y Doctor, "Bydd Bob wedi anfarwoli ei enw ar bob llyfr a phamffledyn". Nid oeddwn wedi sylwi ar hyn nes dywedodd y Doctor, ond gwir y peth. 'Roedd hyn yn ormod i Bob.
" 'Rargian pam lai", taranai. "Rhaid sicrhau anfarwoldeb rhyw ffordd. Byddant yn gwybod ymhen pedair canrif a rhagor mai o Lyfrgell Bob Owen y daeth y llyfrau yma".
"Druan ohonoch," meddai'r Doctor, "mae'r llyfrgellwyr yma wedi codi yn rhy fore i chwi. Mae gyda nhw bob math o bethau i rwbio'r marciau i ffwrdd".
"Bobol", meddai Bob, "Bu'n storm enbyd rhyngdda i a Syr William Davies y Llyfrgell Genedlaethol ynghylch ysgrifennu enw ar lyfr. 'Roedd o yn erbyn amharu'r llyfrau. Ond fy llyfrau i oedan nhw ac onid oedd hawl neno'r Tad i wneud fel y mynnwn â'm heiddo?"
"O cewch, fe gewch chi 10% disgownt am y rhain", meddai Bob, "Byddaf i yn eithaf teg tuag atoch. Gwnewch chi ddwy golofn, un gyda discownt a'r llall yn net."
"Hen wag," llefarai'r Doctor ar ei draws.
"Ydw 'rwy'n eitha teg, dim 'run fath â rhai siopau ail-law yng Nghymru. " Yna yn melltithio rhai ohonynt gan adrodd storïau pur stormllyd am a fu rhyngddo a hwynt.
Wrth fynd drwy'r llyfrau bob un ac un stopiodd yn sydyn. "Ew na - 'dwy ddim yn meddwl y gwertha i hwn. Copi prin iawn."
Camodd yn ôl ddau neu dri cham cyn rhuthro ymlaen fel hwrdd ifanc. "Reit o, fe'i cewch, 30/- net."
'Roedd llawer o'r llyfrau dethol yn y llofft a bu raid eu cludo i lawr mewn parseli. Wrth weld y tri ohonom, dyna sylw sych y Doctor, "Fydd dim llawer ar ôl," pwyslais ar y gair "llawer" wrth gwrs.
***
BÛM WRTHI drwy'r prynhawn, yn bargeinio ambell dro, neu ddadlau pryd arall ynghylch cysylltiad awdur â'r Sir. Troi i'r Bywgraffiadur Cymreig am gadarnhad, ond anaml y methai Bob. Ac er cymaint y gwnâi'r Dr. Tom oglais, cymerai Bob y cyfan gyda mawr fwynhad. Bob hyn a hyn, os byddai'r Doctor yn ddistaw, gofynnai Bob iddo, "Yda chi'n gyffyrddus rŵan Doctor?" Hawdd gweld gymaint yr edmygai ef gyn-lyfrgellydd Coleg Bangor.
Soniwyd rhywbeth am ysgrifau Bob Owen yn Y Cymro, oedd newydd orffen ar y pryd.
"Iechydwriaeth mawr ar eu holau," oedd sylw chwareus Dr. Tom. Amser te bu rhagor o dynnu coes. Bob Owen yn sôn am wendidau rhai dynion amlwg y genedl.
"Gwendid Bob yma", meddai'r Doctor, "yw ei fod yn gwrando ar bopeth a glyw ac yn eu pentyrru at ei gilydd yn bethau mawr."
Soniwyd rhywbeth am Dr. Griffith John Williams. "Mae Griffith John yn hanner duw gyda Bob yma". Bob Owen yn sôn am yr ystorm fawr yn Eisteddfod Bae Colwyn. Anfonodd ysgrif hir i mewn a chael i'r feirniadaeth gael ei thraddodi hanner awr cyn iddo gyrraedd. 'Roedd yr Athro o Gaerdydd wedi atal £20 o'r wobr. Nid rhyfedd ei fod yn gacwn gwyllt.
"A phetaech wedi cyfarfod yr Athro Griffith John Williams byddech fel oen bach."
"Na fyddwn. Na fyddwn. Yr oeddwn yn lloerig grac."
"Piti! Piti!" oedd sylw olaf y Doctor ar y pwnc...
Dywedwn ninnau bellach - mwyaf piti colli dau mor wreiddiol mor agos i'w gilydd. Ni wêl Cymru eu tebyg byth mwy.
(Allan o 'Noddwr Llyfrau Cymraeg' 1962)