HUGH HUMPHREYS, ARGLWYDD YR INC ~
Braslun gan Maldwyn Thomas

HUGH HUMPHREYS oedd y mwyaf anturus a dyfeisgar o holl argraffwyr a chyhoeddwyr annibynnol Caernarfon yn ystod y ganrif ddiwethaf. Dechreuodd ar ei yrfa yn Nhn y Bont, ond symudodd ir Maes yn fuan, gan adeiladu ei gampwaith y 'Pater Noster Buildings', ar gongl y maes ac ar geg y Bont Bridd. Gŵyr y cyfarwydd am arwyddocd enwau'r mannau hyn yn hanes yr iaith a'r eisteddfod.

Un o hogia'r dref oedd H.H., ganwyd ef yma yn 1817, ac yma y gweithiodd ar hyd ei oes. Gŵr llyfn a llygadog oedd H.H., gŵr hirben, gŵr busnes '. . . peidiwch gwneud dim am ddim ... os yw rhywbeth yn werth ei wneud y mae arian yn y peth' oedd ei gyngor cyson i'w gydnabod.

Prentisiwyd ef gyda Peter Evans, un arall o argraffwyr hynod Caernarfon; buasai Evans yn ei dro yn brentis gyda Thomas Roberts, y Pendist, argraffydd cyntaf y dref. Yr oedd yn yr olyniaeth, ac ymfalchai oherwydd hyn. Ymfalchai'n naf a chyhoeddus oherwydd ei fusnes a'i fasnachdy eang, ac ymfalchai oherwydd ei statws fel cyflogwr nifer sylweddol o'i gyd-drefwyr.

Erbyn 1860 hysbysai ei hun fel 'Publisher, Bookseller, Stationer, and PRINTSELLER To Her Majesty Queen Victoria.' Yr oedd yn barod am bob cyfle i elwa, a phwysicach na hyn, yr oedd hefyd yn fodlon defnyddio technegau a oedd yn newydd yn swyddfeydd argraffu Cymru megis ysgythru oddi ar blatiau dur a chopr. Bu'n ymwneud llawer iawn ffotograffiaeth hefyd ac yr oedd ganddo stiwdio dynnu lluniau yn y 'Pater Noster':

'A First Class PHOTOGRAPHIC STUDIO... Public men including Bards, Literary Characters ... Musicians ... are all . . . invited to pay a visit ... as H.H. intends forming a Gallery of WELSH CELEBRITIES. Welsh Costumes (on hire) for Ladies wishing to be taken in the same.'

***

GYDA'R blynyddoedd llifodd anrhydeddau cyhoeddus Caernarfon i ran yr argraffydd, bu'n Wesla blaenllaw trwy gydol ei oes, a chodwyd ef yn flaenor yn Ebeneser; bu'n aelod o gyngor y dref am ugain mlynedd, a chafodd dymor yn y faeroliaeth (1876-77).

Ar gyfer Eisteddfod Caernarfon yn 1877 y codwyd y Pafiliwn Mawr, ac yr oedd H.H. yn un o ddeuddeg o gyfarwyddwyr cyntaf cwmni'r adeilad. Ceidwadaeth oedd ei wleidyddiaeth, a bu'n annerch ar lwyfan etholiad trefol a seneddol ar un adeg. Yr oedd yn ddigon cyhoeddus fel Ceidwadwr a meistr gwaith yn ystod etholiad cyffredinol 1880 i un gŵr gyfeirio ato a'r geiriau hyn:

'Votiwch i Mr H. Humphreys a thri ugain awr yn wythnosol.'

Bu farw H.H. ar 2 Mai 1896, wedi gyrfa faith fel impresario Anghydffurfiaeth ddiwylliannol hen sir Gaernarfon.

***

CYLCHGRONAU H. H.

(1) Humphreys' General Advertiser, - y 'Telegraph', mae'n debyg. Yn l 'Gwyneddon', a 'Gwyneddon' yn unig, sefydlwyd wythnosolyn ceiniog (1d) y Telegraph gan H.H. 'yn fuan' ar l cychwyn Yr Herald Cymreig yn 1855. Newyddiadur yn ystyr gyfyngaf y gair oedd hwn, heb ddim ond newyddion ar ei dudalennau. Bu farw'r Telegraph yn l 'Gwyneddon', oherwydd i H.H. ganfod ' . . . ffordd fwy rhagorol i wasanaethu ei wlad ac i ymgyfoethogi.' Mae'r Telegraph wedi bod yn ddirgelwch mawr yn hanes y gweisg Cymraeg am gan mlynedd bron.

Nid oes yr un copi o'r Telegraph ar gael yn un man, hyd y gwn. Wrth gwrs ni ellir anwybyddu sylwadau 'Gwyneddon' yn llwyr, eithr yn rhyfeddol, deuthum ar draws cyhoeddiad tebyg iawn i'r Telegraph, cyhoeddiad nad oes cyfeiriad ato yn y llyfrgelloedd, am a wn i. 'Rwyf am awgrymu yma mai Humphreys' General Advertiser oedd y Telegraph y cyfeirir ato gan 'Wyneddon.'

Argraffwyd a chyhoeddwyd y General Advertiser gan H.H., ef oedd perchennog y misolyn hwn, a ymddangosodd yn rheolaidd o 1 Medi 1852, o leiaf, hyd 1 Awst 1853. Ceiniog, (1d), oedd ei bris, a'i bwrpas oedd cyflwyno newyddion, hysbysebion ac amseroedd trenau'r Gogledd ar gyfer y darllenwyr. Nid oedd iddo liw gwleidyddol. Gyda llaw, y mae hi'n ddiddorol nodi bod y rhifynnau prin hyn o'r General Advertiser wedi eu rhwymo mewn casgliad o gyhoeddiadau sy'n cynnwys y gair 'Telegraph' yn eu teitlau megis yr Oxonian Advertiser, Railway Telegraph, And Local Monthly Almanac.

(2) Amddiffynydd Y Ffydd A'r Cyfansoddiad Wesleyaidd. Ymddangosodd dau rifyn, un yn 1853 a'r llall yn 1854, ond bwriadwyd ef fel chwarterolyn 'afreolaidd'. Y Parch. William Rowlands, 'Gwilym Lleyn', oedd y golygydd, H.H. oedd yr argraffydd, yr oedd y ddeuddyn yn gyfrifol am werthu'r cylchgrawn. Tair ceiniog (3d) oedd ei bris, ni wn os oedd y cyfundeb yn noddi'r cylchgrawn ai peidio. Credai Gwilym Lleyn mai ymosod oedd yr amddiffyniad gorau, a hyrddiodd y cylchgrawn yn erbyn rhai o'r enwadau eraill: 'Y mae gwenwyn aspiaid yn cael ei daenu . . . gan Weisg isel ac ymyrgar yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr; taener hefyd y feddyginiaeth; neu yn hytrach y pills carthol hyn . . .' Llwyddodd y cyhoeddiad drycinog hwn hefyd i ddianc trwy rwyd haneswyr y Wasg Gymraeg.

(3) Cyfaill y Gweithiwr. Un rhifyn yn unig a ymddangosodd, sef hwnnw yn Chwefror 1854. John Morris o Ffestiniog oedd y golygydd a'r cyhoeddwr, H.H. oedd yr argraffydd. Tair ceiniog (3d) oedd ei bris. Cyfrwng trafodaeth ar agweddau ar 'Lafur' oedd amcan y cyhoeddiad, ond nid oedd gweithwyr siroedd Caernarfon a Meirion yn aeddfed ar gyfer sylwadau mwyn a chymedrol y golygydd. A diau bod cynnwys y cylchgrawn yn ormod o bilsen i H.H. y meistr '. . tri ugain awr...' yr wythnos i'w llyncu.

(4) Yr Ymofynydd. Misolyn a argraffwyd gan H.H. o Ionawr 1861 hyd Ragfyr yr un flwyddyn. Nid ymddengys mai ef oedd y cyhoeddwr, ni wn pwy oedd ei olygydd, na faint oedd ei bris. Cylchgrawn crefyddol ar gyfer oedolion oedd hwn, ond nid oedd ynddo unrhyw newyddion enwadol.

(5) Golud Yr Oes. H.H. a fu'n llwyr gyfrifol am y misolyn hwn, o'r rhifyn cyntaf ym Medi 1862 hyd yr olaf yn Rhagfyr 1864. Chwecheiniog (6d) oedd ei bris. Dyma'r mwyaf uchelgeisiol o'r cylchgronau a ymddangosodd o swyddfa'r Pater Noster, yn arlwy . . . 'i Lenyddiaeth, Cerddoriaeth, Celfyddyd, Addysg, Gwladgarwch a Chrefydd. . .' Mae ei deitl yn arwyddocaol; disgrifiodd H.H. ei gyhoeddiad fel ' . . . ariandy cyffredinol . . .' lle gellid diogelu trysorau llenyddol y wlad.

Y geiniog oedd piau hi yn gyson, a pheidiodd H.H. chyhoeddi'r cylchgrawn er iddo gyrraedd gwerthiant misol o 3,000 o gopau yn 1863. Ymddengys mai'r prif reswm am iddo roi'r gorau i Golud Yr Oes oedd bod y cylchgrawn yn ei rwystro rhag cyflawni gwaith arall, rhag cyhoeddi '... llyfrau yr oeddym wedi penderfynu eu dwyn allan o'r wasg, ac wedi gwario ugeiniau o bunnau yn eu paratoad at hynny.' Dyma, mae'n debyg, y cyfeiriad a gam-briodolwyd gan Wyneddon parthed y Telegraph dirgel. Gw. (1) uchod.

Y 'llyfrau' oedd y 'Llyfrau Ceiniog' enwog, wrth gwrs. Yr oedd cychwyn cyhoeddi y gyfres gyntaf yn golygu dewis rhwng ychwanegu yn fawr at rif yr argraffwyr yn y swyddfa, neu roi'r gorau i Golud Yr Oes. Yn l ei elfen, dewisodd H.H. droedio llwybr yr elw.

Y mae nifer y teitlau a gyhoeddwyd gan H.H. yn ei 'Lyfrau Ceiniog' yn tystio'n hoyw am y galw am lyfrau Cymraeg a fodolai o 1860-1890. Llwyddodd i sicrhau masnach eang iw lyfrau, yr oedd yn bregethwr Wesleaidd adnabyddus, a manteisiai ar ei ymweliadau gwahanol ardaloedd trwy Gymru er mwyn dod a chynnyrch ei wasg i sylw'r cyhoedd. Cyhoeddodd ac argraffodd lawer o lyfrau heblaw 'Llyfrau Ceiniog', eithr y gyfres hon oedd coron ei yrfa fel perchennog y 'Pater Noster'.

Bwriad H.H. ar y cychwyn oedd cyhoeddi ac argraffu tri llyfr arbennig, gydag un o'r llyfrau yn ymddangos bob mis, sef: Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwsia, Hanes Pio Nono (Pius y Nawfed), Hanes a Bywyd a Chyfeiliornadau Mahomet, yr Arch-dwyllwr. Ei fwriad wedyn oedd cyhoeddi teitl newydd bob wythnos, llyfrau a fyddai'n unedau hunangynhaliol ac annibynnol, ond y byddai rhif ar bob llyfr er mwyn dangos trefn y cyhoeddi. Ceiniog (1d) fyddai pris pob llyfr, ac yr oedd H.H. yn addo y byddai prif ysgrifenwyr Cymru ymhlith awduron ei lyfrau. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau ar bynciau hanesyddol yn y gyfres gyntaf, megis: Y Pla echryslon a fu yn Llundain, a'r Tn mawr a'i dilynodd. Yn yr un gyfres hefyd cyhoeddwyd llyfrau ar natur fel: Y Ffordd oreu i fagu Adar dofion, Gwenyn, &c, ac ar ddarganfyddiadau gwyddonol megis: Yr Agerbeiriant ar Dir a Mr, - Watts, Symington, a Stephenson. Adlewyrchwyd chwaeth y cyfnod, a gyrfa H.H., yn y llyfrau hynny a bwysleisiai ddiwydrwydd, megis: Hanes Dynion a ymddyrchafasant ir Safle uchaf trwy Hunanlafur a Diwydrwydd, a hwn: Y ffordd i bawb gael digon o Arian, a Chynghorion i Wŷr a Gwragedd.

Gwerthwyd tros saith can mil o gopau o'r gyfres gyntaf hon, ac aeth H.H. rhagddo i baratoi cyfres wythnosol newydd, gan anelu at nod o naw deg chwech o deitlau.

Nid oedd yn gyhoeddwr delfrydol cyhuddwyd ef o ymyrryd ag arddull ac ag orgraff rhai o'r llyfrau y bu'n gyfrifol amdanynt, ac nid oedd safon ei argraffu '. . . cystal ag y buasai dymunol.. .' bob amser.

Eithr mn lwch y cloriannau ydyw pethau fel hyn. Bu H.H. a'i wasg yn llinyn arian yn hanes y wasg yn nhref Caernarfon, ac yr oedd cyhoeddi Golud Yr Oes a'r 'Llyfrau Ceiniog' yn dangos yn eglur ehangder ei weledigaeth fel cyhoeddwr. Mwy na hyn '. . . hen argraffwyr Cymru ... megis Hugh Humphreys ... a gadwodd lamp llenyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhag diffoddi.'