HEN DRAFODION YR EISTEDDFOD ~
Gomer M.Roberts a'i gasgliad
Y MAE darllenwyr Y Casglwr yn ddigon cyfarwydd â'r cyfrolau sy'n cynnwys trafodion a chynhyrchion yr Eisteddfod Genedlaethol; ond nid mor hysbys, efallai, yw'r llyfrynnau a gyhoeddwŷd yn y ganrif ddiwethaf sy'n cynnwys cynhyrchion yr eisteddfodau lleol. Y mae'r rhain yn dra diddorol, ac erbyn hyn y maent yn ddigon prin.
Ar hyd y blynyddoedd fe brynais lawer ohonynt mewn siopau ail-law, gan lwyddo i gael rhai ohonynt am ychydig geiniogau neu sylltau. Y mae'n syndod fod rhai ohonynt yn gynnyrch eisteddfodau bychain mewn pentrefi diarffordd. Y mae'n amlwg fod cystadlu brwd ar y testunau, a bod gwerthu ar y cynhyrchion ar ôl hynny.
Perthyn rhai ohonynt i flynyddoedd cynnar y ganrif, ac y mae gennyf ddau o'r rheini wedi eu cydrwymo â Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain lolo Morganwg (Abertawy: J. Williams, 1829) - cyfrol, gyda llaw a fu'n eiddo "Evan Jones, sef leuan Gwynedd; Ei oed fydd 17 mlwydd y 5ed Dydd o Fedi, 1837".
Y gyntaf yw Ffrwyth yr Awen (Aberhonddu: Wm. Williams, 1823), sy'n cynnwys "Awdlau, Cywyddau, ac Ynglynion" a anfonwyd i Eisteddfod Gwent, Medi 1822, a gynhaliwyd yn Aberhonddu. Ymhlith y beirdd buddugol ceir Gwilym Cawrdaf, John Howells, Thomas Jones (Llundain), Pedr Fardd, John Rowlands (Pentir), Daniel Ddu o Geredigion, a Ieuan Glan Geirionydd.
Yr ail yw The Gwyneddion (Chester: T. Griffith, 1830), sef trafodion a chynhyrchion "the Royal Denbigh Eisteddfod", Medi 1830. Ymhlith y traethodau buddugol ceir un ar "The Flintshire Castles" (Edward Parry, Caer), ac un arall ar 'Angenrheidrwydd Cyfraith i gynnal Moesau Da' (Parch. Samuel Roberts, Llanbryn-mair), Ymhlith y beirdd buddugol ceir Gwilym Peris, Robert Parry (Eglwys-fach), Edward Hughes (Bodfari), Alun (yr alarnad enwog i'r Esgob Heber), Samuel Evans (Caerwys), Gwilym Hiraethog a Bardd Nantglyn. Y mae hon yn gyfrol sylweddol, 178 o dudalennau.
***
LLYFRYN prin bellach yw Cyfansoddiadau Gwobrwyol (Machynlleth: A. Evans, 1854) cyfarfod cystadleuol Cymdeithas Lenyddol Aberhosan, Ebrill 1854. Cynhwysir ynddo gerddi buddugol o waith Gwilym Cyfeiliog, Ieuan Dyfi, &c., a thraethodau ar gymwysterau gofynnol athraw Ysgol Sul. Cyfrol mwy uchelgeisiol yw Aeron Afan (Caerfyrddin: Wm. Thomas, 1855), cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Iforaidd Aberafan, Mehefin 1853.
Ceir yn y gyfrol draethodau meithion ar Ddaeareg (John Morgan, Llanymddyfri), 'Dechreuad a Chynnydd Gweithiau Cwmafan' (John Rowlands, Cwmafan), 'Maes Glo Deheudir Cymru' (Mathetes), a 'Bywyd a Gorchestion Caradawc ab lestyn' (Ed. Lewis, Pont-y-pridd). Y beirdd buddugol yw Llawdden, Lleurwg ac Islwyn.
Cyfrol nodedig, am ei bod yn cynnwys llawer o hanes lleol, yw Detholiad o'r Cyfansoddiadau Buddugol (Llanelli: J. Thomas, 1857) Eisteddfod Llanelli, Gorffennaf 1856. Ceir ynddi 'Hanes Llanelli' (D. Bowen, Llanelli), 'Hanes y Felinfoel' (W. George, Y Felin-foel), a 'Hanes Pontyberem' (Stephen Evans, Cilcarw). Rhai o'r beirdd buddugol oedd Ellis Wyn o Wyrfai, Dewi Mai, Gwilym Teilo, Calfin, Gwilym Mai, Lleurwg ac Ifor Cwm-gwys.
Nid oes gymaint â hynny o hanes lleol yn Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Ystalyfera (Abertawy: E. Griffiths, 1860), Medi 1859; ond i'r sawl a ymddiddora mewn diwydiant ceir traethodau meithion ar 'Yr achos athronyddol o'r tanddaearol danchwa' (Parchn. G. Havard, ac E. Edwards, Bryn-mawr), a 'Dylanwad Glanweithdra a Thaclusrwydd yn annedd y gweithiwr' (E. Edwards eto).
Traethawd diddorol yw'r un ar hanes y cwdyddion, y brodyr a deithiai ar hyd a lled y wlad i werthu clociau, te a brethyn, 'a'r niwed a ddeillia i ni fel cenedl o ymdrafod â hwynt' (D. R. Lewis, Aberdâr). Y mae yma hefyd 'Chwedldraeth', sef 'William Morgan; neu Wobr Diwydrwydd' (J. Davies, Llangennech), a thraethawd 'Er rhoddi cyfarwyddyd i'r Puddlers i adennill eu hanrhydedd cyntefig' (Parch. T. Williams, Ystalyfera). 'Traethawd ar Ddewiniaeth' hefyd o’r eiddo Lewis Rowland, Cwmtwrch.
Y beirdd buddugol yw Phillip Morgan, Treforys, Gwilym Mai, Lleurwg, Ifor Cwm-gwys, D. L. Moses, Brynaman a Chynddelw, &c.
***
CYHOEDDWYD Detholion (Caerfyrddin: Ben Jones, 1859) o gyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Cynwyl Gaeo, Awst 1858, yn llyfryn hylaw sy'n cynnwys traethodau ar 'Yr Ogofau ac Afon Cothi' (J. Morgan, Llundain), 'Gwelliadau mewn Amaethyddiaeth' (J. Hopkins, Llandeilo ac E. Jones, Crug-y-bar), a 'Peroriaeth Eglwysig' (Parch. D. Lloyd Isaac, Llangathen), Ceir ynddi gynnyrch y beirdd hefyd, sef Gwilym Teilo a Gwilym Marles, &c.
Cyfrol gyfoethog yw Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Llanbedr (Aberystwyth: D. Jenkins, 1860), Alban Hefin 1859. Ceir ynddo draethodau ar 'Hanes Llanbedr a'r Gymmydogaeth' (Parch. D. Lloyd Isaac, Llangathen), 'Milisia Sir Aberteifi' (T. Rhydderch, Pumsaint), a 'Fferylliaeth Amaethyddol' (D. P. Davies, Pumsaint). Ceir rhai enwau cyfarwydd ymhlith y beirdd, sef Cunllo (o Rydlewis), D. L. Moses, Gwilym Mai a Gwilym Marles. Ceir yma dôn gynulleidfaol arobryn, Llanbedr, o gyfansoddiad 'Mr Lewis, Llanrhystid'.
Y nesaf, o ran amser, yw Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Castellnewydd Emlyn (C. N. Emlyn: J. R. Davies, 1860), Gorffennaf 1859, sy'n cynnwys traethawd hir o waith Gwynionydd ar 'Hanes Castellnewyddyn-Emlyn, Trefhedyn, a'r Amgylchoedd'.
Ceir yn y gyfrol hefyd draethodau ar 'Rheoleiddio Amser Llafur y Gweithiwr' (J. R. James, Aberteifi), 'Prydlondeb yn Mhob Peth' (Parch. E. Roberts, Basaleg). Beirdd yr eisteddfod hon yw Gwilym Marles, Meilir Môn, a Rhisiart Ddu o Wynedd. Cafwyd 23ain o donau, i'w beirniadu gan Ieuan Gwyllt, a rhannwyd y wobr rhwng Alaw Ddu a T. Davies, Pont-y-pridd.
Llyfryn bychan iawn (16 tt.) yw Rhosyn Ffrwdwyllt (Caerfyrddin: W. M. Evans, 1869), cyfansoddiadau buddugol Eistedd ‑ Eisteddfod Bryntroedgam (get Aberafan), Gorffennaf 1869, a beirdd lleol - Dewi Afan, Gwilym Ffrwdwyllt a'r Parch. H. Gwerfyl James, Treforys, oedd y buddugwyr.
Y Berllan (Cwmafan: D. Griffiths, 1870), yw teitl cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Maesteg, Medi 1869. Ymhlith y traethodau ceir un ar 'Lysieuaeth Plwyf Llangynwyd' (Thomas Evans), ac un arall ar 'Daeareg Dyffryn Llyfnwy' (D. Bowen, Maes-teg). Y beirdd buddugol yw J. E. Jenkins (Ystradyfodwg), Dewi Afan, Watkin Hughes (Glynebwy), Ll. Griffiths (Glan Afan), Athan Fardd, R. Coslet (Pont-y-pridd),&c.
***
BU NIFER o eisteddfodau yn Aberdâr yn y cyfnod yma, a chasglwyd eu cynhyrchion at ei gilydd yn Gardd Aberdâr (Aberdâr: W. Lloyd, 1872), 'cyfansoddiadau buddugol yn dal cysylltiad â phlwyf Aberdâr a'r Cylchoedd', Ceir yn y gyfrol ddau draethawd gwerthfawr ar hanes plwyf Aberdâr, gan T. D. Llewelyn a J. J. Jones, ill dau o Aberdâr, ynghyd â chofiannau i Thomas Glyn Cothi (J. Rees, Merthyr Tudful) a Lodwick y Töwr (Y Carw Coch).
Y beirdd y tro yma yw Ifor Cwm-gwys, leuan ap Iago (Pont-y-pridd - 'Hen Wlad fy Nhadau’), Carw Dâr, Alaw Goch, Robyn Ddu Eryri, &c., &c.
Gemau Margam (Aberafan: T. Jones, 1873) yw teitl cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Agoriad Neuadd y Gweithwyr, Tai-bach, Hydref 1872, 'dan nawdd cymdeithasau dyngarol Taibach'. Wele deitlau'r traethodau buddugol: 'Y Daioni sydd yn deilliaw oddiwrth y Cymdeithasau Dyngarol' (W. Davies, Aberdâr), 'Taibach, yr hyn oedd, yr hyn yw, a'r hyn a ddylai fod' (Parch. R. Morgan, Aberafan).
Ceir yma hefyd gynhyrchion y beirdd - Carnelian, Dewi Afan, Gwilym Glan Llwchwr (o Landybie), Rhydderch ap Morgan, a Dyfedfab (Aberdâr - 'Dyfed', ar ôl hynny). Ceir yma dôn hefyd, Berton, gan Rees Williams.
***
CAFWYD cyfres o eisteddfodau yng Ngharmel, Treherbert, yn 1870-74, a chyhoeddwyd y Cyfansoddiadau Buddugol gan Wasg Daniel Davies, Treherbert yn 1875. Ceir yn y gyfrol draethodau ar 'Effeithiau Niweidiol Tymher Ddrwg' (D. John, Ffynnon Taf), a'r 'Cynllun mwyaf effeithiol i ddwyn allan eisteddfodau Cymru yn llwyddiannus', &c. (Parch. J. Eiddon Jones, Llanrug). (Gallai'r olaf, efallai, fod yn gymorth mawr i bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol!)
Peth newydd iawn, mewn eisteddfod, oedd 'Chwareugerdd Gyssegredig ar hanes Job' - drama fydryddol, a'r buddugol oedd y Parch. R. Morgan (Rhydderch ap Morgan), Aberafan. Ymhlith y beirdd ceir enwau cyfarwydd, megis Brynfab a Watcyn Wyn.
Yn olaf, ond nid y lleiaf ei gwerth ar fy silffoedd, yw Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gadeiriol Sarn Meillteyrn (Pen-y-groes: G, Lewis, 1884), Awst 1883. Prif gynnwys y gyfrol hon yw traethawd gwerthfawr y Parch. W. O. Evans, Nefyn, 'Beirdd a Llenorion Lleyn o amser Esgob Rowlands hyd farwolaeth Owain Lleyn.'
Dyma destunau traethodau eraill: 'Anhebgorion gwraig amaethwr' (Miss Ellen Jones, Llanarmon - gobeithio'n wir iddi gael ffermwr yn ŵr), 'Yr angenrheidrwydd o gael rheilffordd trwy Leyn' ('Navvy'). Ymhlith y beirdd ceir Tudno Jones ac lolo Trefaldwyn.
Diau fod llawer o drafodion a chyfansoddiadau buddugol eisteddfodau'r 19eg ganrif wedi eu cyhoeddi'n llyfrynnau neu gyfrolau hylaw, yn y De a'r Gogledd; ond dyma'r rhai a gesglais i ar hyd y blynyddoedd.