HEN BROFFESOR ~ Huw Walters yn cyflwyno
- Eneiniog fardd o anion - yw Meudwy,
Gem hudol a diddan;
Gwelwch, mae’n Gymro gwiwlan
Yn ein cerdd mae’n frenin cân.
Felly y canodd Trebor Mawddwy i William Owen o Gwmllwchwr ym mhlwyf Llandybie ym 1888. Go brin fod llawer o ddarllenwyr Y Casglwr yn gyfarwydd â'i enw nac ychwaith a'i ffugenwau ('roedd ganddo dri ohonynt - Gwilym Meudwy, Gwilym Glan Llwchwr a Professor William Owen), ond yr oedd William Owen yn un o'r ychydig Gymry a fu byw ar gynnyrch ei awen.
Fe'i ganwyd yn ôl ei hunangofiant sy'n dwyn y teitl ymhongar Ymhob Gwlad y Megir Glew, yn Abercenfi, plwyf Llandybie ar Orffennaf 23, 1841, yn fab i William a Sarah Owen. Brodor o'r Drenewydd ym Maldwyn oedd ei dad-cu, a chrwydrodd y teulu oddi yno i Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth i gadw gweithfa wlân, ac yno ym 1807 y ganwyd y tad.
Bu yntau yn ei dro yn dilyn ei grefft fel gwehydd yng Nghilycwm, Llanwrda a Llanymddyfri cyn symud i'r weithfa wlân yng Nghwmllwchwr ym 1836. Ceir cyfeiriad diddorol gan Watcyn Wyn yn Y Diwygiwr, 1902, lle dywaid fod Gwilym Meudwy yn or-ŵyr i John Owen, Machynlleth (1757-1829), un o lenorion anghofiedig y Methodistiaid cynnar ac awdur y gerdd hir Troedigaeth Athens (1788), y cafwyd ymdriniaeth ddiddorol arni gan Dr Derec Llwyd Morgan yn rhifyn Mawrth 1978 o’r Casglwr.
Prentisiwyd Gwilym Meudwy i saer coed yn ardal y Trap ger Llandeilo ym 1856 ond dychwelodd at ei dad i weithfa wlân Cwmllwchwr ymhen tair blynedd. Bu farw ei dad ym 1865 a'i fam ym 1877, ac mae'n debyg mai yn y flwyddyn hon y troes Gwilym yn llenor ac yn fardd.
***
GŴR BYCHAN, boliog ydoedd yn ôl y llun ohono sydd ar rai o'i lyfrynnau, ac yn ôl y rhai a'i cofiai clunherciai o dŷ i dŷ ar bwys ei ffon a'i lwyth llyfrynnau ar ei gefn. 'Roedd yn ymwelydd cyson a'r hen efail yn y Betws, Rhydaman lle magwyd Jim Griffiths a'i frawd Amanwy, ac fel hyn yr ysgrifennodd Amanwy amdano yn ei golofn wythnosol ym mhapur lleol dyffryn Aman ym 1938:
- "...Clywsom ef lawer tro yn dod at ddrws y gegin gefn yn yr hen gartref,
yn ŵr bychan blonegog, a'i
goes bren yn taro'r droetffordd am yn ail â'i ffon, a lleisiai’n wichlyd Marged Griffiths, mae William
wedi’n halo i 'ma i gael tipyn o fwyd'. Cawsai'r croeso arferol ac eiteddai’n hamddenol yn y gadair
freichiau wrth y tân, tra buasai mam yn paratoi pryd o fwyd iddo. Deuair gorchwyl hwnnw i ben
cyn hir, ac wele'r bardd wrthi am ei fywyd. Ni welais y fath fwytawr erioed! Ni chofiaf linell
o'i rigymau, ond y mae'r argraff a adawodd ei fwyta digymar arnaf yn fyw yn fy nghof o hyd..."
Bu Llanwrtyd a'i ffynhonnau yn gyrchfan poblogaidd gan lowyr a gweithwyr tun dyffryn Aman 'slawer dydd, ac yma hefyd y treuliai Gwilym Meudwy fisoedd yr haf, gan ddychwelyd i Frynaman, Llanelli neu Abertawe bob gaeaf. Ac ar y pererindodau blynyddol hyn y gwerthai'r bardd gynnyrch ei awen danbaid, a bu'n cadw argraffwyr Aberdâr, Ystalyfera, Abertawe, Pontarddulais a Llanelli yn brysur am gyfnod o ryw ddeng mlynedd ar hugain.
Llwyddais i ddod o hyd i ryw ddeunaw o bamffledi a mân lyfrynnau gan Wilym Meudwy, yn ogystal â sicrhau copïau ffotograffig o rai defnyddiau o'i waith sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol a llyfrgell Coleg y Brifysgol Abertawe. Gwn fodd bynnag na welais bopeth o waith y Meudwy hyd yn hyn. Ar wyneb ddalen ei Llon Lenyddiaeth y Gweithiwr ceir y geiriau - "The 32nd pamphlet published by William Owen of Llandebie", ond y mae lle cryf i amau gwirionedd y gosodiad hwn.
Y llyfryn cyntaf o'i waith a welais yw Diliau Mêl (1879), a dywedir mai hwn yw'r "chweched rhifyn o weithiau llenyddol William Owen". Ond ar glawr Y Golofn (a argraffwyd bedair blynedd yn ddiweddarach) fe'n hysbysir mai hwn yw "y trydydd cynyg o weithiau Gwilym Meudwy". Mae'n amlwg felly na ellir dibynnu ar air y crwydryn.
***
OND BETH am gynnwys y llyfrynnau hyn? Maent yn amrywiol a dweud y lleiaf, yn cynnwys dadleuon dirwestol, darnau hunangofiannol, marwnadau, ymddiddanion, hanes teithiau a mân draethodau "ar destynau moesol ac adeiladol". Derbyniai nawdd gan amryw o wŷr mawr y cyfnod a'r rheini'n weinidogion dylanwadol fel arfer, megis Thomas Rees, Abertawe, Watcyn Wyn, David Saunders a W. E. Prytherch.
Tair ceiniog oedd pris y llyfrynnau hyn fel arfer, ond mae'n anodd iawn gwybod sawl copi o bob rhifyn a argreffid. Yn ôl ei ysgrif hunangofiannol yn Odlau Serch (c. 1894) argraffwyd dau gant o gopïau o Rhifyn Llwchwr ym 1892, a mil o gopïau o Amrywiaeth Llên ac Adgof am y Meirw, a Rhyfel y Degwm ym 1891. Y ddau lyfryn olaf hyn, yn ôl tystiolaeth y Meudwy ei hun oedd anturiaethau mwya'i oes. Eto rhaid llyncu'r gosodiad hwn â phinsiaid go lew o halen.
Teithiodd Gwilym ledled y de yn nawdegau'r ganrif ddiwethaf. Treuliodd fisoedd y gaeaf ym 1889/90 ym Mrynaman gan symud oddi yno i Lanelli am gyfnod o dri mis. Symud wedyn i Lansteffan a Llanymddyfri ac i’r ffynhonnau yn Llanwrtyd a Llanfair ym Muallt, gan ddychwelyd i Abertawe yn crwydro o'r naill lety i'r llall dros dymor y gaeaf dilynol. Bu Aberaeron, Caerfyrddin ac Aberhonddu yn gyrchfannau poblogaidd ganddo'n ogystal.
***
CAFODD drafferth fwy nag unwaith druan, wrth grwydro o lety i lety. Diddorol odiaeth yw hanes ei helynt ym Mrynaman ym 1889 lle bu'n lletya gyda theulu o Fethodistiaid selog. Fel hyn yr edrydd yr hanes:
- "...Dau oedd yn cynnwys y teulu, sef gŵr a gwraig yn ymyl 70 oed.
Treuliais bump o fisoedd yn
eithaf hapus yma. Allan bob dydd yn gwerthu llyfrau os byddai yr hin yn caniatáu, a phob dydd
na fuasai’r hin yn ffafriol, i fewn yn myfyrio pyngciau buddiol ac addysgiadol, - felly y mae
gyda'r llenorion mawr yn nghymorth llawforwyn Rhagluniaeth. Diffyg mwyaf pobl yma oedd
ymdrin â materion pobl eraill, a gadael materion eu hunain. Bai mawr ydoedd; dylasai pobl o
synwyr cyffredin wybod pethau gwell. Gwaeth na'r cwbl oedd fod rhai pobl yn y lle hwn, er
mwyn cael digrifwch, yn perswadio benywod a phlant i ddyfod i fewn o bwrpas er aflonyddu
arnaf. Gwaith enbyd oedd hyn : y mae yn ddigon anhawdd cynhyrchu syniadau gwreiddiol, a
gosod yn frawddegau a chael llonyddwch, heb aflonyddu o'u bodd. Yr oedd yno un fenyw
wahanol i'r lleill; gwraig weddw ydoedd ychydig flynyddau sydd er pan gladdwyd ei gŵr. Yr
oedd fel pe buasai am gynyg ei hun; yn canu tôn o weddwdod yn barhaus, sef y dôn honno
sydd gan wragedd gweddwon yn gyffredin os buasent am gael gwŷr. Hyn fu i mi fel lletywr
achwyn ar ei hanfoesgarwch , nid ydoedd i ddyfod i mewn yn rhagor onide y buaswn yn ymadael..."
Ac nid gwragedd gweddwon yn unig a'i poenai, oblegid bu myfyrwyr Ysgol y Gwynfryn yn Rhydaman yn ddrain yn ei ystlys yn ogystal. Ymffrostiai Gwilym bob amser mai efe oedd athro barddol Watcyn Wyn a Gwydderig, ac wrth ei weld yn clunhercian rhwng y ddau fardd tua chyfeiriad Sgwâr Rhydaman un bore, sylw bachog un o fyfyrwyr y Gwynfryn oedd "Wel, dyna beth yw cloffi rhwng dau feddwl!"
Bu'r Meudwy yn un o golofnau'r achos dirwestol yn nyffryn Aman am flynyddoedd lawer, a tharanodd ganwaith yn erbyn Syr Siôn Heiddyn a drwgeffeithiau llaeth y fuwch goch, er iddo, ar ei addefiad ei hun, godi'i fys bach yn gyson ar un adeg cyn iddo ardystio a throi'n ddirwestwr wrth erchwyn gwely angau ei fam ym 1877.
Gallai siarad o brofiad ynglŷn â'r pethau hyn felly, ac fel moesolwr y daeth amryw i wybod amdano. Aeth gohebydd y South Wales Daily Post mor bell â'i gymharu â'r Ficer Prichard ar Fai 9, 1894:
- " . . . One of the most sympathetic listeners at the Cymmrodorion
meeting at Swansea
on Tuesday night was Gwilym Meudwy, who, like Vicar Prichard, is a South Wales moralist,
and, like him, too, seeks to reform his countrymen socially and morally by means of his
immortal ballads. He punctuated the address by many a muffled 'Amen'..."
Ond 'roedd Gwilym yn fardd yn ogystal, ac yn farwnadwr tan gamp. Go brin i neb bardd, ac eithrio D. Onllwyn Brace ( Y pregethwr nid y chwaraewr rygbi) ganu mwy o farwnadau na'r Meudwy. 'Roedd ganddo feddwl mawr ohono'i hun fel awenydd at hynny, fel y dengys teitl llawn un o'i lyfrynnau mwyaf diddorol: 'Ymhob Gwlad y Megir Glew, cyflwynedig i holl blant Ceridwen a charwyr llên a chân. Hanes bywyd y llenor llachar o lannau’r Llwchwr, - sef y galluog a'r enwog William Meudwy Owen (Gwilym Glan Llwchwr), wedi ei ysgrifennu ganddo ef ei hun ar ddymuniad llu o lenorion gorau'r genedl yn Nghymru ac America, ac i'w gyflwyno hefyd yn garedig gan yr awdwr er llesiant i'r oesau a ddêl'.
Ond 'shimpil ddigon' chwedl gwŷr Cwmaman, yw ei rigymau, er i Ifor Glandeuddwr o Lanymddyfri ei lysenwi yn 'Shakespeare y Cymry' ym 1880. Ym 1888 canodd 'Fawlgan i Joseph Morgans Ysw., America', un o blant Brynaman a wnaeth ffortiwn yn Wilkes Barre. Ar ôl seboni gwrthrych y gerdd apelia'r bardd arno i ddylanwadu ar awdurdodau un o Brifysgolion America i gyflwyno gradd D. D. er anrhydedd iddo, oblegid:
- Diau gennyf fod y miloedd
Cymry syn Amerig fawr
A ti dymuniad am gael gweled
Meudwy yn eu plith yn awr;
Fel y byddwyf i ddychwelyd
Wrth fy enw y D.D.,
I fy Ngwalia enedigol
Fyw mewn urddas, parch a bri.
Gwell ymatal rhag dyfynnu rhagor!
***
ONI CHAFODD Gwilym ei urddo'n Ddoethor mewn Diwinyddiaeth fe'i gwnaed yn Athro gan fyfyrwyr y Coleg Coffa yn Aberhonddu flwyddyn yn ddiweddarach ym 1889, a hyn sy'n esbonio paham y cyfeiria ato'i hun fel 'Professor William Meudwy Owen' yn rhai o'i bamffledi.
Crybwyllwyd eisoes mai fel marwnadwr y gwnaeth enw iddo'i hun, a chanodd gerddi coffa i ddegau lawer o hoelion wyth yr enwadau ymneilltuol, gan gynnwys Williams Pantycelyn, Matthews Ewenni, Tanymarian, David Saunders ac Owen Thomas, Lerpwl. Canodd farwnadau hefyd i Tom Ellis o Gynlas, Athan Fardd y llyfrwerthwr hynod o Abertawe, a chân faith i Danchwa Abercarn ym 1876, er na welais gopi ohoni.
Mae'n anodd meddwl am neb fuasai'n awyddus i hawlio'r gorchestion llenyddol hyn fel eiddo personol, ond mewn oes pan oedd llên-ladrad yn rhemp dysgodd y Meudwy trwy brofiad chwerw y dylai ddiogelu ffrwyth ei awen, a dyma paham y ceir 'Entered at Stationers' Hall', 'All Rights Reserved' ac 'Ni ellir argraffu y cyfansoddiadau hyn heb ganiatâd yr Awdwr' ar bob un o'i lyfrynnau. Er hynny pan âi'n fain arno yntau am ddefnyddiau i lanw cyfrol, ni welai ddim o le mewn dwyn eiddo beirdd a llenorion eraill! Ceir darnau o waith Watcyn Wyn, Gwydderig, Athan Fardd, Meiriadog a Dyfed mewn amryw o'i bamffledi.
Er mai enw'r Meudwy sydd ar glawr Llon Lenyddiaeth y Gweithiwr, ei frawd Joseph Pugh Owen yw awdur y mwyafrif llethol o’r darnau sydd ynddo. Addysgwyd J.P. Owen yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan lle graddiodd ym 1865 gan fwriadu cymryd urddau eglwysig, ond cafodd swydd fel athro mewn ysgol fonedd yn Torrington Square, Llundain. 'Roedd yn gyfarwydd i Syr John Rhys ac ef a roes y manylion am chwedl ogof Owain Lawgoch ger Llyn Llech Owain iddo, - fel y cydnebydd yr Athro yn ei glasur Celtic Folklore: Welsh and Manx.
Brawd arall i'r Meudwy oedd John Owen a briododd â chwaer i'r Parch. D. Avan Griffiths, a phlant o'r briodas hon oedd William Pugh Owen a fu'n offeiriad ym Melbourne, Awstralia, a'r Dr. John Griffith Owen a fu'n feddyg llwyddiannus yn Kingston upon Thames. Eto, mab i chwaer y bardd oedd Edmund Owen Rees o San Fransisco a fu'n Gonsyl Prydeinig Nicaragua.
***
YMDDENGYS felly mai Gwilym Meudwy oedd dafad ddu'r teulu, ond chwarae teg iddo 'roedd yn ymwybodol o'i ddiffygion er gwaetha'i ymffrost, fel y dengys ei ragymadrodd i'w Adgofion am y Meirw. Peidiwch criticeisio gormod, meddai 'ond prynwch fel arfer, gan gymrodor sy'n ceisio ei orau i gadw yr iaith yn fyw, a chael ei fywoliaeth yn onest'.
Bu farw yn Rhydaman ar Fehefin 21, 1902, a chladdwyd ef ym meddrod y teulu ym mynwent eglwys y plwyf, Llandybïe. Fel hyn y canodd Watcyn Wyn ar yr achlysur:
- A’i gân a’i bregeth yn ei law
Bu drwy’r, gymdogaeth lawer gwaith.
I’n gweled eto byth ni ddaw,
Mae'r Meudwy'n huno'n fudislaw,
Y bedd yw pen y daith!
***
Yn Dilyn ceir rhestr o'r llyfrynnau a welais. Ceir yr arwydd * wrth y rheini y gwelais gyfeiriadau atynt ond na lwyddais i ddod o hyd i gopïau ohonynt hyd yn hyn. Croesewir ychwanegiadau at y rhestr hon, a byddaf yn falch o glywed gan ddarllenwyr sydd â chopi neu gopïau o waith y Meudwy.
- Marwnad i’r rhai a laddwyd yn Nhanchwa Abercarn, c. 1876/7.
Diliau Mêl, Llanelli, 1879.
Llinellau Coffadwriaethol am J. Matthews, Castell-nedd, Abertawe 1881.
Dwy Ddadl Ddirwestol, Abertawe 1881. Yr Hysbysydd, Aberdâr,1882.
Yr Hysbysydd, Aberdâr, 1882.
Y Golofn, Abertawe, 1883.
*Marwnad i’r deg a laddwyd ym mhwll y Peris, Garnant, Ystalyfera, 1884.
Pryddest ar Ymdrech, Llanelli, 1884.
Tair Galarnad, Llanelli, 1885.
Myfyrion Moesol, Llanelli, c.1887.
Ymhob Gwlad y Megir Glew, Ystalyfera, 1889.
Amrywiaeth Llên ac Adgof am y Meirw, Ystalyfera, 1891.
Rhyfel y Degwm ynghyd a chofnodion o hanes Ammanford, Ystalyfera, 1891.
Marwnad i’r Diweddar Barch. Owen Thomas D.D.,Lerpwl, Pontarddulais, 1891.
Rhifyn Llwchwr, Pontarddulais, c. 1892.
Adgofion am y Meirw, Pontarddulais, c. 1893.
Odlau Serch, Pontarddulais, c. 1894.
Llon Lenyddiaeth y Gweithiwr, Abertawe, c.1895.
Traethawd ar Efengyl Mathew, Rhydaman, 1898.
Seigiau Llenyddol, dim argraffnod, c. 1989.
*Telyn Meudwy.
*Pamphledyn Coffa ar ôl T. Job D.D.,Cynwil.
*Pamphledyn Coffadwriaethol T. E, Ellis A.S.
*Pamphledyn Methodistaidd.
*Was the Sybil a Celtic Oracle?
*Myfyrion Ysprydol, Ystalyfera, c. 1900.