CROCHANNAU - A CHYMRU gan Idwal Wyn Jones
RHYW unwaith yn y pedwar amser y clywch chi am blât yn cael ei werthu am £2,000 fel y gwelsom yn y rhifyn diwethaf o'r Casglwr. Yn fuan ar ôl darllen y stori ddiddorol am y plât o Nantgarw fe glywais am werthu capel - model bychan o gapel mewn tsieni Goss - a'i brynu am £1,200,000!
Un o'r crochenwyr enwocaf yn ei gyfnod oedd William H. Goss (1833-1906) o Stoke-on-Trent. Dyma'r gŵr a aeth ati i gynhyrchu porslen a oedd mor denau fel y medrech weld golau drwyddo. Daeth bri i’w benddelwau o'r enwogion. Er enghraifft, gofynnir canpunt heddiw am benddelw John Bunyan.
A dyna'r gyfres o Fythynnod a greodd; gwerthwyd Bwthyn Tywysog Llewelyn ddechrau 1979 am £65.00, ond cafwyd pymtheg punt yn ychwaneg am Fwthyn Lloyd George (Llanystumdwy). Credir erbyn heddiw mai tua 1887 y dechreuodd werthu tegins rhatach, yn bennaf ar ffurf cerfluniau.
Tra'r oedd William H. Goss yn cael hwyl ar gasglu mêl i'r cwch, daeth nifer o gwmnïau eraill i gystadlu yn yr un maes. Ymhlith y rhai mwyaf diddorol o safbwynt cyhoeddi arfbeisiau Cymreig gellir enwi Arcadian, Grafton, Gemma, Shelley, Swan, J. B. & C a Victoria. Yn union fel y dywedir am y crefftwyr yn yr Apocryffa: "pob un a gais fod yn gelfydd yn ei waith."
Pwy, tybed, oedd W.H. Williams o Gaergybi a lwyddodd i ddenu cwmni Grafton i Gymreigio'u tegins? Tra bo William H. Goss yn bodloni dangos arfbais Caergybi gan roi Holyhead odano, llwyddodd Williams i gael yr un arfbais yn union gyda SANT CYBI mewn llythrennau eglur yn lle Holyhead. Mentrodd Williams osod arfbais y Sant ar gefn y mochyn bach tsieni dela' welsoch chi! Syniad digon gwreiddiol o gofio'r hen fabinogi am foch Môn!
***
GORCHEST fwy diddorol na hyd yn oed eiddo'r Williams o Fôn oedd camp Thos. Roberts o Faentwrog. Ym 1907 (blwyddyn ar ôl marw Goss) cafodd afael ar Gwmni Swan o Loegr i roi arfbais Maentwrog ar degan tsieni mewn pedwar lliw: coch, melyn, gwyrdd a glas ar gefndir gwyn. Mae'r darn hwn yn unigryw am ei fod yn uniaith Gymraeg (gweler y lluniau) gyda 'Hynafiaethau Maentwrog' wedi eu gosod yn gain ar y cefn. Mae'n ddiamau bod enghreifftiau tebyg ar gael yn rhywle.
Gwerthid y nwyddau hyn yn ôl pob tebyg yn y ffeiriau a'r marchnadoedd yn ogystal ag yn y siopau. Mae rhywun yn medru deall gosod enwau'r dinasoedd a'r trefi arnynt, ond meddyliwch am bentrefi fel Carreglefn (Môn) a Maentwrog (Meirion) yn cael eu hanfarwoli mewn dull mor brydferth.
Y mae boneddiges ym Meddgelert yn cofio'n dda fel y byddai hi'n gwerthu dwsinau o degins tsieni Wilton i'r ymwelwyr a ddeuai i'w siop yn ugeiniau cynnar y ganrif hon. Slogan ar ffurf hysbyseb ddoniol a geid arnynt: Felix The Film Cat Comes to BEDDGELERT - gyda llun y cwrcyn du uwchben y geiriau - ac ar y cefn mewn cylch: Pathe Presents Felix the cat in Everybodys Film Review.
Ddaeth Felix ddim i Feddgelert! Ond bu cwmni Wilton a'r siopwraig ar eu hennill wrth werthu'r nwyddau hyn i bobol a garai swfynîyr digri. Braidd yn ddiddychymyg oedd yr hysbyseb: byddai stori Gelert y ci yn fwy addas mae'n siŵr. Ond dyna fo, peth fel 'na ydy busnes ynte. 'Doedd pawb o efelychwyr ffasiwn Fictoria ddim mor fentrus â Thomas Roberts o Faentwrog.