COCOSFARDD CAERNARFON gan Bedwyr Lewis Jones

BARDD yr hen Ben-Cei yng Nghaernarfon ychydig dros gan mlynedd yn ôl oedd Bro Gwalia. Adeg lansio sgwner newydd byddai Bro yno gyda phennill addas ar gyfer yr achlysur, yn dymuno'n dda i'r llong ac i’w chapten.

Byr fyddai'r cyfarchion barddol hyn gan amlaf, dim ond pedair llinell. Galwai Bro hwy'n englynion, ond yn nifer eu llinellau yn unig yr oeddynt yn debyg i englyn, - hwn, er enghraifft, i'r sgwner 'Evelina':

Hawliai ambell achlysur gyfarchiad hwy. 'Llinellau' oedd term Bro am y cyfarchion mwy uchelgeisiol hynny.

John Rowlands oedd enw iawn y prydydd, a dyna hynny o ffeithiau bywgraffyddol a wn i amdano ac eithrio iddo gyhoeddi dau lyfryn o'i gerddi. Y Blwch Cuddiedig oedd y cyntaf o’r rheini, llyfryn 36 tudalen a argraffwyd yn 1860 gan L. Jones yng Nghaergybi. Lewis Jones, arloeswr y Wladfa ym Mhatagonia oedd yr argraffydd. Bwriasai ef ei brentisiaeth yn brintar yng Nghaernarfon cyn symud yn 1857 i Gaergybi a mentro arni gyda'i bartner Evan Jones yn argraffydd a chyhoeddwr yn y dre honno.

Y ddau yma a gychwynnodd Y Punch Cymraeg yng Nghaergybi yn 1858 a'i gyhoeddi yno am dair blynedd; ar un adeg gwerthent wyth mil o gopïau ohono bob pythefnos. Buasai Lewis Jones yn adnabod Bro Gwalia yng Nghaernarfon; buasai wrth ei fodd yn cael argraffu llyfryn o 'weithiau prydyddawl' mor hynod â'r Blwch Cuddiedig.

***

AIL LYFRYN Bro oedd Y Trysor Barddonawl 1864, cyfrol glawr papur 48 tudalen. Yng Nghaernarfon gan Hugh Humphreys yr argraffwyd hon. Ar du mewn y clawr cefn fe ddisgrifir ei chynnwys, yn drawiadol a digon cywir, fel. "barddoniaeth o bob lled, hyd ac o bwysau"! Ar ei dechrau mae apologia hynod gan yr awdur. Nid yw am ddweud dim "mewn ffordd o ganmoliaeth" i'r cerddi ac eithrio, hyn, meddai, - "fod lluaws o honynt wedi eu barddoni ar gyfer amryw gystadleuaethau pwysig; ac yn eu plith gallaf nodi Eisteddfod Fawr Genedlaethol Caernarfon; ac er nas gallaf ymffrostio fod yr un o honynt wedi ennill gwobr, eto gallaf ddywedyd oddiar sicrwydd, fod fy meirniaid yn eu rhestru yn uchel ym mhob cystadleuaeth, ond eu bod yn anghytuno â'r awdur o berthynas i nifer y sillau yn y llinellau, hyd y cyfansoddiadau, a rhyw fân bethau dibwys eraill."

Argraffu'r llyfrynnau yn unig a wnaeth Lewis Jones a Hugh Humphreys, 'dros yr awdur'. Bro ei hun oedd yn cyhoeddi. Ef ei hun, hefyd, a'u gwerthai, am chwecheiniog y copi. Ond yr oedd ganddo ei noddwyr. Eben Fardd oedd un ohonynt; lluniodd ef englyn yn cymeradwyo'r Blwch Cuddiedig a'i awdur.

Tri arall oedd Eos Arfon, Ieuan Glan Gwyrfai a'r 'deryn brith hwnnw Robyn Ddu Eryri'. Y rhain a thynwyr coes llengar eraill tua Chaernarfon, mae'n siŵr gen i, oedd ynglŷn â threfnu i anrhegu Bro yn Rhagfyr 1862 â darlun ohono'i hun wedi ei baentio gan yr arlunydd Ap Caledfryn:

Derbyniodd Bro rôl arall yn 1865, un grand ac enw Alfred Tennyson wrthi. Mae hanes y sgrôl hon wedi ei gofnodi gan J. Glyn Davies, - gŵr a feddyliai'r byd o Bro Gwalia a'i gerddi llongau, fel y gallesid disgwyl.

Roedd tad Glyn Davies a Hugh Owen yn aros yn y Tŷ Coch ar gwr Caernarfon, ac roedd parti mawreddog yno. Trawyd ar syniad i ddiddori'r gwahoddedigion, sef gwadd Bro yno a'i urddo. Cafwyd gafael ar rolyn o femrwn, llythrennu ar hwnnw dystysgrif yn datgan campau'r prydydd, a rhoi enw Alfred Tennyson ar y gwaelod. Aed i gyrchu Bro. Daeth yntau yn ei siwt orau.

Yn Tŷ Coch fe'i derbyniwyd gan un o'r cwmni yn cymryd arno mai Tennyson ydoedd. Daethai ef yno, meddai, yn unswydd oddiwrth y frenhines i dderbyn Bro yn aelod anrhydeddus o'r Association of the Bards of the United Kingdom ac i gyflwyno tystysgrif iddo.

Llyncodd y bardd y cwbwl. Pa ots am ddylni beirniaid mewn eisteddfod os oedd Tennyson ei hun yn gwybod am ei waith ac yn ei gymeradwyo! Roedd Bro wedi gwirioni. Adroddodd ddetholiad o'i gerddi, gan gynnwys ei hirathoddaid enwog i’r Robin Goch:

Pan gyrhaeddodd Bro yn ei ôl i'r dref dangosai'r dystysgrif i bawb a adwaenai. Un o'r rhai a'i gwelodd oedd golygydd Yr Herald. Cadwodd hwnnw hi a'i dwyn i'w swyddfa i'w harchwilio. I ffwrdd â Bro tua'r cei i gwyno. Cyn pen dim yr oedd yn ei ôl yn swyddfa'r golygydd a chriw o hogiau'r cei i'w ganlyn yn hawlio ei systifficat. Fe'i cafodd ac fe'i cariwyd yn fuddugoliaethus ar ysgwyddau ei gyfeillion, a'r rhôl yn ei law, tua'i gartref.

***

FEL Y Bardd Cocos yn ddiweddarach, ond heb lawn cymaint o ddiniweidrwydd athrylithgar i'r creadur hwnnw, canodd Bro Gwalia yntau i'r teulu brenhinol ac i bynciau dramatig mawr fel drylliad y Royal Charter a'r Great Eastern. Canodd hefyd i'r pedwar llew ar Bont Britannia ac i Farcwis Môn:

A chanodd i bob math o greaduriaid. Dyma, er enghraifft, ei gerdd i'r zebra:

a dyma'i 'Englyn Bob Tipyn i'r Pryf Copyn':

Adroddai Bro y cerddi hyn a'u tebyg ar goedd gydag arddeliad. Yn nhre Caernarfon yr oedd yn ffefryn ac yn gymeriad. Ei englynion a'i linellau adeg lansio llongau oedd ei arbenigrwydd. Am y rheini yr urddwyd ef yn "fardd llawryfol" hogiau'r hen Ben-Cei yn nyddiau'r llongau hwyliau.