ADNABOD YR HEN LUNIAU gyda Iwan Meical Jones
JOHANN Gutenberg sy'n cael y clod am ddechrau'r grefft o argraffu yng Ngorllewin
Ewrop. Tua 1455 cyhoeddodd y llyfr cyntaf i’w argraffu gyda theip lle gellir
newid y llythrennau unigol o gwmpas. Ond mae hanes datblygiad argraffu llawer
mwy cymhleth a diddorol na hyn. Fe'i gwelir orau yn y dulliau a ddefnyddiwyd i
argraffu lluniau.
TORLUN PREN
DECHREUODD y Sineaid argraffu tua'r 6ed ganrif, ond yn y 14eg ganrif y dechreuwyd argraffu
yn Ewrop. Torri ar bren oedd y dull cynharaf. Torrir tameidiau allan o ddarn o
bren gwastad, wedyn rhoir inc dros y bloc pren a gwesgir darn o bapur arno. Gadewir
inc ar y papur lle na thorrwyd darnau allan o'r bloc. Yn y 14eg ganrif
defnyddid y dull hwn i baratoi tudalennau o deip yn ogystal â lluniau. Gwaith llafurus,
manwl ydoedd.
Torlun pren ohono'i hun o waith Ellis Owen Ellis o Abererch (Ellis Bryn Coch 1813-1861). Yr oedd yn arlunydd pur fedrus ac wedi cyfnod yn Llundain aeth i Lrepwl ac yno cwblhaodd waith mawr - darlun mawr pedair troedfedd wrth ddwy droedfedd mewn 'crayon' o oddeutu cant o feirdd a llenorion Cymru. Prynwyd y llun - Oriel y Beirdd - am gan gini gan Gwilym Tawe, ond, ysywaeth, mae'r darlun wedi mynd ar ddifancoll. |
Pan ddarganfuwyd sut i wneud teip symudol gwnaed gwaith yr argraffydd yn llawer haws, ond yr oedd yn rhaid dal at yr hen ddull o argraffu lluniau. I wneud y 'torluniau pren' hyn defnyddid graen ochr y pren fel arfer. Yn ddiweddarach gwnaed lluniau manylach drwy ddefnyddio'r graen pen, ond drwy wneud hynny collwyd peth o gymeriad a chryfder y torluniau pren cynnar.
Proses relief, neu 'uwch-wyneb', yw torri ar bren. Hynny yw, y mae'r inc yn
aros ar ddarnau sy'n uwch na gweddill y bloc. Mewn proses intaglio, neu 'is-wyneb',
y mae'r inc yn is na wyneb y bloc: mae'n aros mewn tyllau a sianelau ynddo. Math
arall o broses yw proses planographic, neu 'arwyneb', lle mae'r inc yn gorwedd
ar rai mannau'n unig o wyneb llyfn y bloc. Y mae bron iawn bob proses argraffu
naill ai yn broses uwch-wyneb, is-wyneb neu arwyneb.
YSGYTHRU AR GOPR
TUA CANOL y 15fed ganrif yn yr Almaen dyfeisiwyd ffordd newydd o argraffu:
ysgythru ar gopr. Proses is-wyneb ydyw. Y mae'r ysgythrwr yn torri sianelau
a thyllau bychain ar wyneb plât o gopr, yna'n rhoi inc ar y plât a'i sychu
fel bod inc yn aros yn y tyllau a'r sianelau ond nid ar wyneb llyfn y plât.
Wrth wasgu papur at y plat, gwthir y papur i mewn i’r sianelau nes iddo
gyffwrdd a'r inc.
Gall argraffydd ddefnyddio bloc pren ynghyd â theip symudol, ond os myn ddefnyddio bloc is-wyneb, fel ysgythriad copr, rhaid iddo incio a sychu'r plat yn lân rhwng pob un argraff. Fel arfer fe wneid y lluniau ar wahân i'r teip a'u rhwymo i mewn i’r llyfr yn ddiweddarach.
Er gwaetha'r anfantais fawr hon daeth ysgythru ar gopr yn boblogaidd. Daeth y
broses i Loegr yn y 16eg ganrif ond yn Ffrainc a'r Almaen y gwnaed y gwaith
gorau. Erbyn canol y 16eg ganrif yr oedd ysgythriadau wedi cymryd lle torluniau
pren bron yn llwyr.
ETCHING
MAE nifer o wahanol brosesau is-wyneb: mezzotint, etching (neu 'sur-luniad'),
drypoint ac aquatint. O ran dyddiad, yr agosaf at ysgythru yw etching. Dyfeisiwyd y dechneg yn yr Almaen yn nechrau'r 16eg ganrif. Defnyddir ffordd
newydd o wneud y tyllau yn y plât copr.
Cyn dechrau rhoddir haen o gŵyr dros wyneb y plât. Tynnir llun yn yr haen gyda phwynt caled o ryw fath ac yna trochir y cyfan mewn asid. Ni all yr asid frathu i mewn i'r plât lle mae'r gŵyr, ond nid oes cŵyr lle bu'r arlunydd yn darlunio ac yno fe all yr asid dorri rhychau a thyllau yn y plât. Gellir tynnu'r plât o’r asid , darlunio mwy, a'i throchi eto os dymunir.
Prif fantais y dechneg yw bod yr arlunydd yn tynnu llun mewn deunydd llawer
mwy meddal a 'rhydd' na chopr. Bu'n boblogaidd yn y 16eg a'r 17eg ganrif ac ers
hynny mae nifer o arlunwyr wedi'i defnyddio, ond fel arfer mwy fel techneg
arlunio na phroses argraffu masnachol. Rembrandt (1606-1669) yw meistr yr etching.
MEZZOTINT
TECHNEGAU argraffu llinellau yw'r ddwy dechneg is-wyneb y soniwyd amdanynt. Tua diwedd yr
17eg ganrif dyfeisiodd milwr Almaenig o'r enw Ludwig von Seigen y mezzotint - techneg
sy'n argraffu graddau o lwyd tywyll a golau.
Unwaith eto dechreuir ar y gwaith gyda phlât copr. Gyda theclyn arbennig, fe wneir wyneb y plât yn dyllog drosto. Pe cymerid argraff nawr ceid llun hollol ddu. Ond gellir gwastatáu rhannau o'r wyneb nes bod y rhannau hynny yn dal llai o inc na'r rhannau tyllog ac felly'n argraffu'n oleuach. Fel hyn gall yr arlunydd gyrraedd at blât a fedr roi graddau o lwyd.
Gwaith hir yw paratoi plât mezzotint, ond daeth y dechneg yn boblogaidd
iawn ar gyfer portreadau, a defnyddiwyd tipyn arni o'r 17eg ganrif hyd
ddechrau'r 19eg ganrif.
AQUATINT
TECHNEG is-wyneb arall sy'n cyfleu graddau o dywyll a golau yw'r aquatint. Datblygiad o'r
etching ydyw. Defnyddir powdr resin yn yr haen ar wyneb y
plât; gall peth o'r asid frathu'r plat drwy'r haen a gellir cael llwyd
golau neu dywyll drwy adael i'r asid frathu gwahanol rannau o'r plât am
amser byr neu hir.
AQUATINT o Gastell Caernarfon o waith J.Hassell a gyhoeddwyd ar ddydd Calan 1806. |
Y mae rhyw ansawdd brith nodweddiadol i'r aquatint ac y mae'n weddol hawdd ei adnabod. Oes aur yr aquatint oedd oes aur dyfrlliw hefyd: diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyfeisiwyd y dechneg yn Ffrainc gan arlunydd o'r enw Le Prince, tua canol y 18fed ganrif.
Y stori yw mai Syr Watkin Williams Wyn a brynodd y gyfrinach ac a'i rhoddodd
i Paul Sandby, arlunydd sy'n enwog am ei waith arloesol gyda'r dechneg ac a wnaeth
nifer o luniau yng Nghymru.
YSGYTHRU AR BREN
TRA'R oedd y prosesau is-wyneb - ysgythru, etching, mezzotint ac aquatint mewn
bri, parhâi rhai i wneud torluniau pren ar gyfer llyfrau rhad. Yn ail banner y
18fed ganrif ail-godwyd y torlun pren i fri gan waith un dyn, Thomas Bewick. Yn
lle torri ar ochr y pren defnyddiodd raen pen y pren, gan dorri gydag offer
ysgythru.
Gelwir y lluniau hyn yn 'ysgythriadau pren', enw sydd braidd yn gamarweiniol
gan mai uwch-wyneb ydyw ac nid is-wyneb fel ysgythriadau copr neu ddur. O ddyddiau
Thomas Bewick ymlaen ysgythriadau pren oedd lluniau papurau newydd a llawer o lyfrau.
Defnyddid copr neu ddur ar gyfer y llyfrau gorau.
YSGYTHRU AR DDUR
AR DDECHRAU'R 19eg ganrif darganfuwyd sut i ysgythru ar blât dur, a daeth dur yn
fuan iawn i gymryd lle copr. Y fantais fawr oedd bod dur yn galetach na chopr
ac felly nid oedd yn treulio mor gyflym yn y wasg. Y mae dur yn well ar gyfer
gwaith manwl hefyd, ond y mae i ysgythriad dur ryw stiffrwydd nas ceir mewn
ysgythriad copr.
Y LITHOGRAFF
BU ysgythriadau pren a dur yn cydfyw yn ystod y 19eg ganrif. Ond tua diwedd y
18fed ganrif darganfuwyd proses hollol newydd, gan Almaenwr eto. Aloys Senefelder
oedd y gŵr a ddyfeisiodd yr unig dechneg ar-wyneb wir lwyddiannus, sef y lithograff.
Mewn proses ar-wyneb nid oes tyllau na chodiadau ar y plât, dim ond un wyneb
gwastad.
LITHOGRAFF o Gastell Caernarfon o ddarlun Hugh Hughes, oddeutu 1836. Mae'n anarferol am ei fod yn dangos tu fewn i'r Castell. 'Roedd Hugh Hughes yn frodor o Ddyffryn Conwy ac yn fwy adnabyddus oherwydd ei doriadau pren, a'i gasgliad The Beauties of Cambria (1823). |
I wneud lithograff y mae'r arlunydd yn tynnu llun ar garreg wastad gyda sialc seimllyd. Wedi gorffen y darlun fe wlychir y garreg â dŵr, a thra mae'n dal yn wlyb fe roddir inc seimllyd drosti: mae'r inc yn glynu ar y sialc ond nid ar y rhannau gwlyb di-sialc. Felly pan wesgir papur ar y garreg, y rhannau a sialc arnynt sy'n trosglwydo inc i'r papur.
Nid yw 'plat' y lithograff yn treulio'n gyflym fel plat yr ysgythriad copr ac nid oes unrhyw gam cysylltiol ychwanegol rhwng darlun gwreiddiol yr arlunydd a'r patrwm a argreffir.
Yn ystod y 19eg ganrif daeth y lithograff yn boblogaidd, a datblygwyd nifer o
dechnegau mwy cymhleth ohono, fel y lithograff trosglwydd, lle gall arlunydd wneud
llun ar bapur arbennig a'i yrru i'r argraffydd i'w drosglwyddo i'r garreg i'w argraffu.
Gwnaeth Picasso ffortiwn go dda fel hyn.
DULLIAU FFOTGRAFFIG
TUA CHANOL y 19eg ganrif gwnaed darganfyddiadau pwysig ym myd y camera, ac erbyn diwedd
y ganrif yr oedd gwahanol ddulliau ffotograffig yn bygwth yr hen dechnegau llaw
o baratoi lluniau i'w hargraffu. Yr oedd datblygiad yr half-tone tua 1890 yn
arbennig o bwysig.
Drwy'r broses half-tone gellir newid llun camera yn llun sydd wedi'i wneud o filoedd o ddotiau bychain.
Drwy newid maint y dotiau fel arfer y cyflëir gwahanol raddau o dywyll a golau.
Gellir rhoi llun half-tone ar y bloc argraffu a defnyddio cemegau naill ai i wneud
tyllau yn yr wyneb lle mae'r dotiau. (ar gyfer proses is-wyneb) neu wneud i'r dotiau
sefyll yn uwch na gweddill y plât (ar gyfer proses uwch-wyneb).
HEDDIW
HEDDIW defnyddir nifer o wahanol ddulliau argraffu. Y mae rhai papurau newydd yn
dal i ddefnyddio proses uwch-wyneb fel letterpress. Gellir defnyddio compiwtor i
ffurfio llinellau'r teip o fetel toddedig, neilon, neu rwber. Defnyddir y
dechneg is-wyneb photogravure ar gyfer y cylchgronau lliw dydd Sul.
Datblygiad o'r lithograff yw offset litho; defnyddir plat zinc neu aliwminiwm yn lle
carreg ac yn lle gwasgu papur yn syth ar y plât defnyddir roler rwber i drosglwyddo
inc o'r plât i'r papur. Dyma'r broses a ddefnyddir i gynhyrchu'r Casglwr a'r rhan fwyaf o’r papurau bro.
YFORY
HEDDIW y mae dulliau ffotograffig a mecanyddol wedi llwyr feddiannu'r argraffdy.
Dim ond darlunwyr sy'n mentro ar yr hen dechnegau llaw. Ond y mae argraffdai
masnachol y dydd yn rhoi gwasanaeth rhatach, cyflymach a gwell nag erioed o’r blaen.
Ni fydd prosesau argraffu byth yn cyrraedd perffeithrwydd digyfnewid, ac ymhen amser bydd prosesau mwyaf poblogaidd heddiw - letterpress, gravure ac offset litho - mor hen ffasiwn ag yr aeth ysgythru ac aquatint i ni.