YR EFROGYDD ~ W.D.Williams yn cofio

 

MAE'R BOBL sy'n cofio'r cylch­grawn bach Yr Efrogydd yn cyflym brinhau. Megis y dywedodd Goronwy Môn, pan oedd yntau'n alltud:

Dylifiad glowyr ac athrawon i ddeheudir Swydd Efrog, - yn fwy manwl i'r triongl hwnnw o draean gorllewinol y sir enfawr honno sydd rhwng Leeds, Sheffield a Doncaster, ar agoriad y pyllau glo newydd a dwfn cyn ac ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd achos sefydlu'r rhan fwyaf o'r canolfannau Cymreig a enwir ar yr wyneb-ddalen. Dylid gwneud yn glir fod yr achosion yn Carlton (ger Barnsley), Leeds a Sheffield, wedi eu sefydlu gryn dipyn o amser cyn y Rhyfel a nodwyd.

O ochrau sir Fflint, Wrecsam, Coedpoeth a Rhosllannerchrugog pan oedd diffyg gwaith ar ei waethaf yng ngogledd Cymru yn union wedi'r Rhyfel yr heidiodd y mwyafrif mawr o lowyr ac athrawon yno. Gan na allent, ac na freuddwydient bicio'n ôl a blaen i'w cartrefi yng Nghymru, fel y gwneir heddiw, eu harferiad oedd trefnu i gyfarfod mewn cymdeithasau ac mewn cysylltiad ag achosion crefyddol mor aml ac mor rheolaidd ag y gallent. Yr oedd gwarchod eu Cymreictod a glynu wrth eu crefydd yn bwysig yn eu golwg a hynny yn eu gwau yn gymdeithas glos.

Erbyn i ni y dywededig athrawon gyrraedd ac ymsefydlu yno yr oedd y diweithdra a'r caledi wedi goddiwyd y glowyr druain eto. 'Roedd bron bob un o'r rhai a adwaenwn i yng nghylch Hemsworth allan o waith, ac felly yr oeddynt yn falch o gael rhywle i fynd a rhywbeth i'w wneud yn y byd crefyddol a diwylliannol.

Bach iawn oedd eu dogn wythnosol o arian y di-waith, ac yr oedd golwg dlodaidd arnynt hwy a'u teuluoedd. Pur isel oedd cyflog athro hefyd y dyddiau hynny, yn enwedig ar ôl i'r Llywodraeth dolli arnom y 10% abatement heb ofyn caniatâd na chydsyniad neb.

Bu Streic Gyffredinol aflwyddiannus 1926 (o safbwynt y glowyr) yn ergyd drom i'r achosion a'r cymdeithasau Cymraeg yn neheudir Swydd Efrog. Mae'r nodyn trist hwn yn cael ei daro ar bob dalen bron o holl rifynnau'r Efrogydd. Cofiaf y pryder oedd fel cwmwl uwchlaw eglwysi bach a fu'n llewyrchus ar y dechrau fel Askern a Bentley, dau le yn ymyl Doncaster lle'r oedd cannoedd o Gymry.

***

YR OEDD Cymanfa Ganu wedi ei chynnal ers blynyddoedd cyn y rhyfel, mi gredaf, a deuai cantorion iddi o Leeds, Carlton, Featherstone, Huddersfield, Sheffield, Nottingham a Leicester. Dogfen hanesyddol o ddiddordeb i rai ohonom yw'r nodiad ym mhennod Y PWYLLGOR yn yr ail rifyn hwn o'r Efrogydd mai mewn Cymanfa Ganu a gynhaliwyd yn Askern y tarddodd y syniad o ffurfio Pwyllgor Cydeglwysig, a hynny ganol haf 1925.

Da y cofiaf y Gymanfa honno a hynny am ddau reswm. Y cyntaf am i griw ohonom a fuasai'n efrydwyr yng Ngholeg y Brif­ysgol Bangor gael tynnu'n llun ef o'n gilydd; E.W. Roberts, Sheffield (Prifathro Ysgol Fodern Pentrefoelas wedyn), J. Ernest Roberts, Hemsworth, (Prifathro Ysgol Fodern Pendorlan Bae Colwyn wedyn), Alf Williams (Rotherham) llanc o'r Goetre, Bangor, na chofiaf beth a ddaeth ohono wedyn, a minnau, athro ger Huddersfield ar y pryd, yn eu plith.

A'r ail reswm, digwydd mynd i eistedd i sedd yr oedd arni eisoes gopi o Caniadau John Morris-Jones. Wel am syndod! Cyfrol o waith fy hen athro a'm harwr yn fy aros mewn addoldy yn Askern o bob man. Deallais cyn hir eiddo pwy ydoedd: daeth Cadeirydd y cyfarfod i'w 'nôl; ef oedd wedi ei adael yno er cyfarfod y prynhawn. A phwy oedd hwnnw meddech chi? O, wel, Oswald Jones, golygydd y Dewsbury Reporter, brodor o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, brawd i Edgar Jones, y Barri. Cawsom anerchiad gwych ganddo a sgwrs wedyn a arweiniodd i gryn dipyn o gwmnïaeth yn ddiweddarach.

***

A DYFYNNU o'r un bennod eto, "Cynhaliwyd y Pwyllgor cyntaf yn Barnsley Hydref 3, 1925. Yno y dewiswyd y swyddogion a ganlyn: Llywydd, Mr W. Williams Leeds; Ysgrifennydd, Miss G. Williams, Barnsley a ymadawodd ar ôl yr ail bwyllgor i fod yn athrawes yn Ysgol Ganol Conwy. Yn Carlton dewiswyd Miss E.C. Pritchard, Barnsley, i lenwi ei lle. Yn drysorydd dewiswyd Mr Richards, Askern."

Gallaf innau ychwanegu yma fod y ddwy ysgrifenyddes selog a gweithgar uchod wedi hen ddychwelyd ac ymsefydlu yng Nghymru; y gyntaf yw Mrs G. Jones, Farrar Road, Bangor, a'r ail yw Mrs. Griffith, Hen Siop, Edern. Os digwydd iddynt daro ar hyn o lith, bydd yn gysur iddynt fod rhywrai yn dal i'w cofio, ac yn diolch am eu llafur.

A dal at yr un bennod down yn awr at y cofnod pwysicaf o'r cwbl o safbwynt yr ysgrif hon, sef yw hwnnw mai mewn pwyllgor cyd­eglwysig yn Askern, Mawrth 27, 1926, y derbyniwyd awgrym y Cadeirydd mai buddiol fyddai cyhoeddi adroddiad o hanes yr achosion Cymreig, a hynny roddodd fod i'r Efrogydd.

Penodwyd William Williams, Leeds yn Llywydd y Pwyllgor Golygyddol; Trefor Jones, Leeds mab y Caethle,Tywyn a oedd yn ddarlithydd yn y Brifysgol, Leeds, yn Ysgrifennydd a Mr. D. Idris Jones, dyn papur newydd o'r un ddinas â'r ddau arall yn Olygydd. Ac felly y parhaodd y drefn trwy gydol oes y cylchgrawn.

***

MAE'N demtasiwn dyfynnu o Nodiadau’r Eglwysi yn un peth i ddangos sêl y Cymry ar Wasgar a hynny yn wyneb amgylchiadau anfanteisiol tros ben. Sonnir am y Casgliad Mawr a wnaed yn yr eglwysi mwyaf cefnog i gadarnhau a noddi yr achosion gweiniaid. Diddorol iawn hefyd fyddai ail­gynhyrchu'r plan a ddangosai pa bregethwyr (cynorthwyol y rhan fwyaf) a wasanaethai hwnt ac yma. Wyth neu naw o weinidogion o siroedd Efrog a Chaerhirfryn, a rhyw ddwsin yr un o lowyr, gwŷr busnes, darlith­wyr ac athrawon. Ond gan mai â'r cylchgrawn fel cylchgrawn y mae a wnelom mwy pwrpasol fydd ein cyfyngu ein hunain i un sgŵp ac un hysbyseb sy'n ychwanegu'n fawr at ei werth hanesyddol i mi o leiaf.

Y "sgŵp" yw erthygl gynta'r rhifyn hwn (Cyf. I, Rhifyn 2) honno gan hen efrydydd o Goleg Wesleaidd Leeds a ddaeth yn un o brif lenorion Cymru, sef E. Tegla Davies. Yr hysbyseb yw honno sydd ar gefn y ddalen olaf. Gwahoddir chwi i brynu piano Crane & Sons yn 19 Guildford Street, Leeds am 22/6 y mis. Ni ellir deall cyfeiriadau Tegla yn hollol heb air o esboniad ar yr hysbyseb.

Mae'r darllenydd wedi synhwyro yn barod fod un enw yn ymddangos yn amlach na'r un arall, sef yw hwnnw: William Williams, Leeds. Ef yn ddiamau oedd Cymro mwyaf adnabyddus Swydd Efrog yn ystod hanner cynta'r ganrif hon.

Credaf mai un o Ddyffryn Clwyd ydoedd a'i fod wedi bod yn gweithio yn y glofeydd tua St. Helens ac Ashton-in-­Makerfield cyn ymsefydlu yn Leeds fel rheolwr masnach Crane a'i Feibion, gwneuthurwyr a marchnatwyr offerynnau cerdd. Heblaw bod yn ŵr busnes llygadog yr oedd yn bregethwr cynorthwyol, arweinydd corau a chymanfaoedd, pwyllgorwr, cynghorwr a chladdwr heb ei fath. Amdano ef y gelwid ar bob achlysur bron ac ym mhob argyfwng o bwys ynglŷn â'r achosion Cymreig yn Swydd Efrog.

Prin bod eisiau ychwanegu Mai ef oedd tu ôl i'r hysbyseb, nid i ennill cwsmeriaid o'n plith ni, lygod eglwys o Gymry gwasgar, ond yn unswydd i hybu cyhoeddi'r cylchgrawn yr oedd ef ei hun yn fwy cyfrifol na neb arall am roi bod iddo.

Yn awr, a hyn sy'n bwysig, enw'r stryd y trigai William Williams ynddi oedd Meadow Street; a buan iawn y daeth ei aelwyd groesawgar yno yn fan cyfarfod Cymry ieuainc a ddeuai i golegau Leeds.

O Gymru wledig y deuent, wedi arfer clywed enwi pobl wrth eu cartrefi, John Jones Talysarn fel Talysarn a John Williams Brynsiencyn fel Brynsiencyn. Cyn pen dim cafodd William Williams Meadow Street ei alw'n Medo, a hwnnw fu'r enw arno gan bawb yn ei gefn a chan ei ffrindiau yn ei wyneb wedyn.

Credaf mai yn 1929 yr ymddangosodd y rhifyn olaf. 'Roedd y Golygydd wedi bygwth fwy nag unwaith mai marw fyddai ei dynged oni cheid mwy o ysgrif­enwyr ac o brynwyr. Un rheswm am ei dranc oedd y trai a ddilynodd lanw mawr y glowyr a'r athrawon Cymreig i Swydd Efrog o tua 1930 ymlaen.

Erbyn hyn dim ond pedwar canolfan sydd ar ôl yno (neu, o leiaf, bedwar achos crefyddol) sef Carlton, Doncaster, Leeds a Sheffield. Ac ni chlywais fod Efrogydd na dim cylchgrawn arall yn eu cydio wrth ei gilydd.