Y CASGLWR O FÔN ~ Dafydd Wyn Wiliam yn trafod

SEFYDLU Cymdeithas Bob Owen a'm denodd i ymchwilio i hanes Richard Hughes. Trwy garedigrwydd cyfaill, y deuthum i gyswllt ag un o ddisgynyddion chwaer i wraig y casglwr llyfrau. Cefais ganiatâd caredig i alw mewn tŷ gwag yn Llanfair Pwll­gwyngyll ar Ynys Môn a chymryd oddi yno unrhyw lyfrau neu law­ysgrifau a fynnwn a oedd yn ymwneud â Richard Hughes.

Nid oeddwn i ar y pryd yn rhydd i deithio i Fôn a rhoddais gomisiwn i'm priod, bendith arni, i alw yn y tŷ a rhoi popeth printiedig mewn sachau a'u diogelu nes i mi gael cyfle i'w gweld. Ymhen y rhawg yr oeddwn ym Môn.

Gelwais yn y tŷ gwag yn Llanfair Pwllgwyngyll a chribinio'n fanwl trwy'r pentwr ysbwriel a grynhowyd i un ystafell ar gyfer ei daflu ymaith. Nid oedd yno ddim byd o ddiddordeb i mi ac eithrio llun bychan o Richard Hughes. Euthum ymlaen i Fodedern, ac yno yr oedd rhyw gant a hanner o lyfrau amrywiol a fu unwaith yn llyfrgell Richard Hughes ac a gymerwyd o'r tŷ yn Llanfair Pwllgwyngyll.

Gwaetha'r modd, yr oedd cloriau'r llyfrau yn nofio gan leithder. Crynhoais hwy ynghyd a'u hestyn yn rhad rodd i wŷr y lori ludw. Pethau digon dibwys a chyffredin oeddent. Fodd bynnag, yr oedd gyda'r llyfrau un llawysgrif hynod, sef catalog Richard Hughes o gynnwys ei lyfrgell. Yr oeddwn uwchben fy nigon!

***

CEID unwaith 542 o dudalennau yn y catalog sy'n mesur 8" ar draws a 13" o hyd. Gwaetha'r modd, fe rwygwyd ymaith tua 250 ohonynt and yr oedd llawer o'r rheini yn dudalennau glân. Rhestrodd Richard Hughes deitlau ei lyfrau mewn llaw dwt gan roi enwau'r awduron yn flaenaf.

Dilynai drefn y wyddor a cheir rhif ar gyfer pob llyfr. Er enghraifft, D54 yw: Davies, Dr. John, Mallwyd - Grammar of the Ancient British Language. Nifer y llyfrau yn adran D yw 150 a chyfetyb rhif y catalog i'r rhif a ysgrif­ennai Richard Hughes oddi mewn i glawr blaen y llyfr. Un rhif a roddai ar gyfer cyfres o gylchgronau. Er enghraifft C129 yw holl rifynnau'r Cymru Coch.

Rhestrwyd dros 3,000 o lyfrau yn y catalog llawn ac o gofio bod cyfres o gylchgronau wedi ei chynnwys dan ambell rif fe amcangyfrifaf fod o leiaf 5,000 o gyfrolau yn llyfrgell ffermdy Tŷ Hen Isaf ger Llannerch-y-medd. Arferai Richard Hughes roi ei enw ar bob cyfrol ac ambell waith ychwanegai frawddeg i ddynodi blwyddyn a man ei eni ac enwau ei rieni.

Nid llyfrau Cymraeg yn unig a heliai. Ceid ar silffoedd ei lyfrgell lyfrau Saesneg a Lladin ac ambell un fel L80 'Llyfr mewn iaith a llythrennau na wyf yn ei gwybod'. Ymhlith ei lyfrau Cymraeg cynnar yr oedd Testament Salesbury (1567) - talodd 7 gini amdano; Homiliau (1606); Beiblau (1620 a 1690); Llyfr Gweddi Gyffredin (1664); Holl Ddyled-swydd Dyn (1672). Dywaid Thomas Richards (yn y North Wales Chronicle 20 Mawrth 1931) fod copi o’r Beibl Bach (1630) wedi cyrraedd Bangor ymhlith llyfrau Richard Hughes. Nid oes gofnod am y gyfrol hon yn y catalog anghyflawn.

At hyn, yr oedd gan Richard Hughes tua 140 o lyfrau Cymraeg o’r XVIII ganrif. Wrth gwrs, i'r ganrif ddilynol y perthynai'r mwyafrif o'i lyfrau. Am ei lyfrau Saesneg, perthynai tua 51 i'r XVIIg. a thua 72 i'r XVIIIg. Y gyfrol Saesneg gynharaf a feddai oedd copi anghyflawn o Feibl Cranmer (1540). Parhai i chwanegu at ei gasgliad yn ei henaint, oherwydd, ac yntau'n 87 oed, fe gofnododd yn ei gatalog mewn llaw grynedig gyfrol J.H. Davies, The Letters of Goronwy Owen (1924).

***

NID RHESTR foel o lyfrau a geir yng nghatalog Richard Hughes. Dyry bob math o wybodaeth annisgwyl a diddorol ynglŷn â'r cyn-berchnogion a'r pris a dalodd ef am y llyfrau. Gwyddys iddo etifeddu tua 41 o lyfrau a llyfrynnau ar ôl John Hughes, ei dad, ac wrth eu cofnodi fe ychwanegodd 'eiddo fy nhad' ar gyfer pob un. Y mae nifer o'r rhain yn gynnyrch gweisg Môn ac yn anodd iawn eu cael heddiw. Cafodd rai llyfrau hefyd gan ei ewythr, Richard Jones.

Derbyniodd 'Cook's Guide to Paris (1897)' yn rhodd 'gan Miss Hay a Miss Park pan oeddem gyda hwy yn Paris.' Rhwng y Pasg a'r cynhaeaf gwair bob blwyddyn, byddai Richard Hughes a'i briod yn crwydro'r gwledydd. Bu yng ngwlad Canaan yn 1906. Ai hwnnw oedd y tro y dug adref y botel honno o ddŵr o Afon Iorddonen? Bu cynnwys y potel honno yn destun syndod i'r Monwys am flynyddoedd.

Ceid yn llyfrgell Richard Hughes doreth o esboniadau Beiblaidd a diau iddo fel athro Ysgol Sul cydwybodol bori ynddynt. Eglura i ni beth o hanes ei gopi o 'Esboniad James Hughes Llundain (1846)' fel hyn: 'Daeth i feddiant fy Mam ar ôl marwol­aeth ei brawd William Owen Tan y Felin Llanddyfnan hwn a laddwyd trwy i Careg fawr ar y Cae y dywededig le syrthio arno pan oedd yn clirio o'i chwmpas a'i ladd yn y fan Ionawr 8fed. O.C. 1849. Ei Oed 34.'

Rhydd sylw diddorol ar gyfer pum cerdd sy'n dangos bod y baledwyr gynt yn canu ar stryd­oedd Llangefni: "Dywed Margaret fy chwaer pan clywodd fy Nhad hen ŵr yn Canu 'Marwolaeth fy Mam' iddo codi oi welu ir ffenestr iw clywed, er nad oedd fawr o, amser er pan oedd wedi gael strôc ysgafn."

Efallai mai'r cofnod rhyfeddaf a geir yn y catalog yw hwnnw ar gyfer un gyfrol o lythyrau James Hervey: 'Cafwyd y volum hon o dan cerrig mewn Coed yn ymyl Eglwys Llandusulio, gan Richard Humphreys Menai Bridge.' Yr oedd y gyfrol hon ymhlith y rheini a gymerwyd o'r tŷ yn Llan­fair Pwllgwyngyll. Wrth edrych arni gallech daeru bod rhyw gi mawr barus wedi treulio oriau i'w chnoi. Fe'i teflais i'r bin sbwriel.

***

CRYNHODD Richard Hughes ambell lawysgrif i'w lyfrgell, ac ar ôl ei farw aeth y rhain hefyd i Lyfrgell Coleg Bangor. Prynodd rai ohonynt ym Mhlas Downing ger Treffynnon, 26 Mai 1913. Bu hefyd yn arwerthiant Plas Llan­faelog ym Môn, 26 Chwefror 1910, lle y talodd seithbunt am 'Crwth a Thelyn...', llsgr. sydd erbyn hyn yn ein Llyfrgell Gen­edlaethol. Fe ddigwydd bod gennyf fi ddiddordeb yn y llsgr. hon sy'n perthyn i Fôn. Ym­ddengys bod J.H. Davies wedi ei phrynu gan Richard Hughes a'i rhoi wedyn i'r Llyfrgell. - gw. North Wales Chronicle 25 Chwefror 1910.

Adroddir yn yr Eco Cymraeg 27 Awst 1910 fod Richard Hughes yn un o'r 'prif brynwyr' mewn arwerthiant o dros 700 o ‘lyfrau prin a gwerthfawr Walter Pritchard'. Enwau'r prynwyr eraill oedd y Parch. T. Shankland, Mr. G. Williams, Rhuthun, Mr D. Roberts Blaenau Ffestiniog a Mr Jones Caer. Dyry'r manylion hyn gipolwg i ni ar weithgarwch Richard Hughes yn dilyn arweith­iannau i brynu llsgrau a llyfrau.

Ar ddiwedd y catalog gwelir rhestr o'r llyfrau a roddwyd ar fenthyg ynghyd â'r dyddiad y dychwelwyd hwy. Benthyciodd Bob Owen rai llyfrau gan Richard Hughes. Ychydig o Hanes y Diweddar Barchedig Lewis Rees (1812) oedd un ohonynt, ac fe'i dychwelwyd. Am un arall o'r llyfrau, na wyddys ei deitl, fe gofnododd Richard Hughes: 'un llyfr eto ganddo heb ddod yn ôl.' Onid yw hyn yn dystiolaeth am anghofrwydd nodweddiadol y gwir gasglwr?

Os carech gael rhagor o wybod­aeth am gynnwys llyfrgell y casglwr o Fô6n, ewch tua Llyfr­gell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Yno y mae'r catalog erbyn hyn. 'Rwy'n siŵr y cewch gymaint o bleser ag a gefais i o'i fodio, onid mwy!