LLESTRI GLAS A GWYN gan Alys Mostyn
RAI blynyddoedd yn ôl digwyddais weld, mewn siop hen bethau yn Aberystwyth, ddysgl ac arni lun o lew ffyrnig, a dau ddyn bach yn ceisio dianc rhagddo. 'Roedd y llun mor ddoniol fel y bu'n rhaid imi brynu'r ddysgl. Meddai'r hen wraig a biau'r siop, "A welsoch chi'r ddysgl â glo˙nnod byw arni? Fe wnaed honno yn Abertawe". Wrth gwrs bu raid imi brynu honno hefyd. A dyna sut y dechreuodd fy nghasgliad o lestri glas a gwyn.
Ychydig iawn o gasglwyr llestri glas a gwyn oedd i'w cael bymtheng mlynedd yn ôl, a digon hawdd oedd dod ar draws esiamplau gwych am ychydig iawn o arian. Erbyn heddiw mae cyn gymaint o gasglwyr fel y gellid ffurfio "Cymdeithas Cyfeillion y Glas" a sefydlwyd er mwyn cofrestru'r cannoedd o wahanol batrymau a lluniau a geir ar lestri glas a gwyn. Ychydig iawn a welir yn y siopau heddiw.
Beth sydd mor arbennig ynghylch y llestri glas a gwyn yma, a pha fodd y gellir gwahaniaethu rhyngddynt a "phatrwm yr helyg" (willow pattern) a gynhyrchid mor helaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac yn wir hyd heddiw? Fe wnaethpwyd y llestri a gesglir am ddeugain mlynedd yn unig, sef rhwng 1800 a 1840. Mae'n bosibl eu hadnabod wrth eu dal tua'r golau a gweld y sglein ar eu wyneb sy'n codi a disgyn fel olion tonnau'r môr ar dywod.
Mae rhai ag enw'r crochenydd arnynt, yn arbennig gwaith Spode a Rogers. Anfynych, ysywaeth, y byddai crochendai Abertawe yn marcio eu cynnyrch. Ond fe wnaed nifer fawr o lestri cyffredin, yn ogystal â phorslen, yn y ddau grochendy - y Cambrian a'r Glamorgan.
***
Y MAE hanes y dull o gynhyrchu'r llestri glas a gwyn yn ddiddorol. Ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, o ganlyniad i ffyniant diwydiant, ac agor gweithfeydd newydd, tyfodd y trefi, a daeth y dosbarth canol i fod. 'Roedd y masnachwyr cyfoethog yn codi tai newydd ac yn magu teuluoedd mawr, a gofynnid am lestri cryf a deniadol ar eu cyfer.
Tua diwedd y ddeunawfed ganrif dyfeisiodd Josiah Spode fath ar grochenwaith a oedd yn brydferth, yn gymharol rad, ac yn ddigon cryf i wrthsefyll eu trin gan y forwyn fach. Gelwir y math yma o grochenwaith yn underglaze pottery - sef llestri â llun neu batrwm o dan y sglein.
Craswyd y llestri am y tro cyntaf, heb batrwm arnynt, mewn popty pwrpasol. Yna, tynnid llun arbennig trwy ei ysgythru ar blât o gopr, ei orchuddio â sudd glas, a phwyso papur arbennig ar y plât copr. 'Roedd y patrwm yn awr ar y papur, a gellid pwyso hwnnw ar y ddysgl neu'r cwpan y dymunid ei addurno. Wedi hynny cresid y llestri unwaith eto mewn popty eithriadol o boeth (glost oven).
Wedi llawer o arbrofi, darganfuwyd mai glas oedd yr unig liw a fedrai wrthsefyll gwres y ffwrnais yn llwyddiannus. Erbyn tua 1840 darganfuwyd ffordd i sgleinio llestri â lliwiau eraill arnynt yn foddhaol; a dirywiod y llestri glas a gwyn.
***
0 BLE daeth y lluniau a'r patrymau hyfryd a welir ar y llestri hyn? Ar y dechrau, copďwyd y lluniau Tseineaidd a addurnai'r llestri a fewnforiwyd yn eu miloedd o'r Dwyrain Pell yn ystod y ddeunawfed ganrif, pan ddaeth yfed te yn ffasiynol ymysg y cyfoethogion. Fe welir elfennau Tsieineaidd yn y patrwm sydd ar y ddysgl o Abertawe - yr afon a'r bont, y coed a'r adeilad, a'r border ffurfiol. (Ni safonwyd "patrwm yr helyg" hyd yn ddiweddarach - ac ni ŵyr neb pwy a'i dyfeisiodd, nac o ble y daeth y stori ddifyr sy'n ceisio ei esbonio - nid o Tseina, mae'n sicr.)
Blinwyd ymhen amser ar y lluniau Tsieineaidd hyn, a gofynnid am rywbeth newydd. Dyfeisiodd Spode a chrochenwyr eraill bob math ar lun a phatrwm, yn cynnwys blodau ac adar, afonydd ac anifeiliaid. Gwnaeth crochendy Glamorgan lun anghredadwy o'r ddwy ferch fonheddig o Langollen, yn marchogaeth mewn dyffryn â chastell ar y naill law, a melin wynt anferth ar y llall. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau gwych ar y pryd gyda lluniau o bobl a themlau'r Dwyrain Pell, neu deithiau trwy Asia Leiaf a'r Aifft, neu gampau hela bwystfilod gwyllt yn India.
Byddai'r crochenwyr yn copďo’r lluniau hyn ar eu llestri, gyda border o lewod ac eirth. Dyfeisiwyd llun gwahanol ar gyfer y platiau bach a'r platiau mawr, y dysglau a'r jwgiau, ond yr un fyddai ymyl y darlun ar bob un o lestri'r dinner service.
Mae ymyl y plât yn bwysig, er mwyn adnabod y crochendy. 'Roedd llunwyr y patrymau yn copďo ei gilydd yn ddigywilydd, ac weithiau ni ellir darganfod yn mhle y gwnaethpwyd y llestri onibai am y border.
***
WEDI rhai blynyddoedd o gasglu deuthum ar draws llun o blasdŷ Llanbrân ar un o'r platiau. Byddai'r crochenydd weithiau yn rhoi ei enw, ac enw'r olygfa, ar gefn y plât, nid yn gywir bob amser - (ple, er enghraifft, mae Dalberton Tower?) Ond, hyd y gwelwn, 'roedd enw Llanbrân yn gywir. Ond ple 'roedd Llanbrân? Wedi tipyn o chwilota, darganfűm mai plasty ger Llanymddyfri ydoedd, a'r teulu yn hynod am eu lletygarwch. Ond erbyn hyn mae wedi diflannu'n llwyr.
Mae gennyf lun hyfryd, hefyd, a Blas Gogerddan, cyn ei amgylchynu gan adeiladau'r Plant Breeding Station. Byddai crochenwyr fel Hall, ac Adams, o Swydd Stafford yn copďo'r lluniau o gyfrolau a gyhoeddwyd ddechrau'r ganrif ddiwethaf yn rhoi hanes a llun rhai o dai mawr y cyfnod - un ohonynt oedd Castell Gyrn, ger Llanasa yn Sir Fflint, ac y mae gennyf lun bach ohono wedi ei amgylchynu gan forder gwych o ffrwythau mawr, a'r lliw yn las tywyll iawn.
Gwelir, felly, fod pethau o ddiddordeb i Gymry i'w cael ar wahân i'r llestri a wnaethpwyd yn Abertawe a Llanelli. Ys gwn i ym mha faint o gartrefi Cymru yr erys rhai o'r llestri hyn - a'r teulu, efallai, heb sylweddoli eu gwir werth?