LLAFUR PERFFEITHYDD ~
Brynley F.Roberts ac ysgolheictod
MARTHA o ysgolhaig oedd Richard Ellis. Ni ellir amau ei ddiwydrwydd, ei ymroddiad, nac yn wir ei ddysg, ond gan mor drafferthus ydoedd ynghylch cynifer o fanion trefniadol, ychydig a gynhyrchodd wedi oes o weithio dyfal.
Gŵr o Aberystwyth ydoedd, yn honni perthynas yn yr achau ag Ellis Wynne, y Bardd Cwsg. Ganwyd ef, y trydydd o bump o blant, yn 1865, ac wedi cyfnod yn ysgol David Samuel bu'n tiwtora ac yn dysgu'n lleol wedi claddu ei dad. Ond yn 1898 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, ar ysgoloriaeth a enillasai rai blynyddoedd cyn hynny, ac ymfwrw i'r bywyd academaidd a chymdeithasol Cymreig.
Wedi graddio mewn Hanes bu'n gweithio am rai blynyddoedd ar destunau Cymraeg Canol, hanes a phalaeograffeg, gydag ysgolheigion megis Syr John Rhys, Syr O.M. Edwards, R.L. Poole ac eraill. Rhydychen fu'r fan hyfrytaf yn ei fywyd. Hanes Cymry Rhydychen trwy'r oesau oedd un o'i ddiddordebau pennaf, a lluniodd ysgrif Saesneg ar 'Oxford and Wales' sy'n dangos mor drylwyr yr oedd wedi treiddio i gyfoeth dihysbydd llyfrgell Bodley.
Daeth dyddiau difyr yr ymchwilio i ben a rhaid oedd ymgynnal mewn ffordd arall. Ymadawodd â Rhydychen yn 1907 wedi cael swydd yn Llyfrgell Cymraeg Coleg Aberystwyth, yn olynydd i J. Glyn Davies, ac oddi yno aeth, yn 1909, i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Nid oedd Syr John Ballinger, y Llyfrgellydd, gyda'r hawsaf o wŷr i weithio gydag ef. Ystyriai Richard Ellis ei fod yn cael ei drin yn is na gwas, a 'does rhyfedd ei fod wedi llunio mwy nag un ysgrif yn gwawdio boneddigeiddrwydd a dysg ei Bennaeth, a gwneud mwy nag un sylw'n dilorni ei effeithiolrwydd (er na fentrodd gyhoeddi'r rhain).
Cafodd yn T. Gwynn Jones ysbryd cydnaws â'i eiddo ef, a rhannai'r ddau gyfaill lawer gofid ac aml gyfrinach yn y cyfnod hwn yn eu hanes. Lluniodd T. Gwynn Jones ysgrif hyfryd iddo yn Cymeriadau a cherdd goffa, 'Amod' yn Manion. Nid oes cyflwyniad i'r cywydd 'Nyth Gwag (Bro Gynin, Rhagfyr 1910)' yn Manion, 41-45, ond mewn copi o’r gerdd yn llaw'r bardd, a gadwyd ymhlith papurau Ellis yn Llyfrgell Hugh Owen, Coleg Aberystwyth, ceir 'I'r Nyth Gwag Ym Mro Gynin. Cyflwynedig i'r Pererinion, Mawrth 19, 1910. T. Gwynn Jones a'i cant. I'r cyfaill R.E.'
Drafft cynharach o'r cywydd yw hwn, fel y dengys y dyddiadau sydd wrth y ddau fersiwn: Y mae beth yn hwy, a heb yr ystwythder na'r caboli ymadrodd a welir yn nhestun Manion.
***
PRIF faes ymchwil Richard Ellis gydol ei fywyd oedd hanes bywyd a gwaith Edward Lhuyd, un o'r Cymry mwyaf y cysylltwyd ei enw â Rhydychen erioed. Er mwyn treulio'i holl amser yn gweithio ar y project enfawr o lunio bywgraffiad ohono ac argraffiad o'i lythyrau, ymddiswyddodd Ellis o’r Llyfrgell Genedlaethol gan ddychwelyd i fyw i Rydychen yn 1912.
Y mae swm y nodiadau a adawodd ar ei ôl, y ffeiliau, y cardiau a'r slipiau, y crynodebau a'r mynegeion, yn rhyfeddod; ond meant yn dristwch hefyd, oherwydd mae'n amhosibl i neb adeiladu ar sail ei waith a rhaid i bwy bynnag sy'n gwneud yr un gwaith droedio'r un llwybrau'n union ag ef gan ail-wneud yr holl waith.
Perffeithydd oedd na allai adael dim o'i law nes cael pob ffaith a phob cyfeiriad yn daclus i'w lle. Ei drefnusrwydd ei hun a dagodd ei ymchwil, oblegid gyda threigl y blynyddoedd aeth i boeni mwy am fethod ei chwilota nag am ei gynnwys.
Mewn gwirionedd, y mae ffrwyth weladwy Ellis ar Edward Lhuyd ar gael mewn erthygl a luniodd yn gynnar yn ei yrfa ac a gyhoeddwyd yn Trafodion y Cymmrodorion yn 1906-7. Wedi agor maes mewn ffordd mor effeithiol disgwyliai ysgolheigion yng Nghymru a Lloegr weld canlyniadau ymchwil bellach Ellis.
Cafodd gefnogaeth ymarferol gwŷr dylanwadol, Syr John Rhys, J.H. Davies, Vincent Evans, Edward Owen, yn eu plith: addawodd yntau ymroi i ddwyn y gwaith i derfyn. J.H. Davies a’i rhoes ar ben y ffordd a dangos iddo sut oedd mynd ati. Eglurodd iddo pa fodd y trefnasai ef argraffu The Morris Letters yn naw o rannau, sut y llwyddasai i gasglu tanysgrifwyr. Rhoes restr ohonynt i Ellis a dod ag ef i gyswllt â Fox, Jones & Co. (Rhydychen), argraffwyr llythyrau'r Morrisiaid. Hwy a argraffodd i John Davies, cyd-weithiwr Richard Ellis yn y Llyfrgell Genedlaethol, ei adargraffiad ef o Dwy Gerdd o waith Ifan Llwyd... M, DCC, LXXIII, (50 o gopïau, Fox, Jones a'u Cwmni, Rhydychen, 1912).
Yn 1912 rhoes y cwmni amcangyfrif o'r gost iddo, £3.15.0 am 16 tudalen argraffiad o 250 copi, £4.4.0 am 500 copi, £5.12.6 am 1000 copi, ac anfonwyd iddo sampl o un ddalen. A'r ddalen honno yw'r unig ran o bentwr adysgrifiadau Ellis a argraffwyd erioed, cofgolofn drist i gyfle a gollwyd.
Dychwelodd Ellis i fyw i Aberystwyth tua 1922, ond bu farw'n ddisymwth pan oedd yn ymweld â Rhydychen yn 1928. Nid oedd nes at gyhoeddi dim o'i ymchwil y pryd hynny nag y buasai bymtheng mlynedd ynghynt.
***
YN llyfrgelloedd Aberystwyth a Rhydychen y treuliodd Richard Ellis gyfran helaeth o'i fywyd. Casglodd swm o wybodaeth am bob math o bynciau - cyfenwau, tafodieithoedd, sipsiwn, Cymry Rhydychen, hanes yr ail ganrif ar bymtheg, ac nid oes amheuaeth na ddaeth yn fwy cyfarwydd na neb o'i flaen â'r deunydd Cymraeg a Chymreig sydd yn llyfrgell Bodley.
Nid llawysgrifau'n unig a'i denai, ond llyfrau print a phob math o argraffu. Yr oedd ganddo lygaid i werthfawrogi argraffu cain a 'thrwyn' i ffureta deunydd diddorol. Daw'r ddeubeth at ei gilydd mewn cyfres o 'facsimiles' gwych iawn a gyhoeddodd ar ei gost ei hun rhwng 1903 a 1907. Yr oedd wrthi'n cyhoeddi llythyrau rhai o Gymry Rhydychen (Ellis Wynne, Thomas David, Henry Vaughan), yn Cymru 1902, 1903 a 1904, a thua'r un adeg aeth ati i gynhyrchu copïau cain o ddeunydd tebyg.
Rhagfyr 11, 1903, cyhoeddodd 50 copi, 3/- yr un, o Facsimiles of Letters of Oxford Welshmen: clawr papur a cheir taflen wedi'u plygu (royal folio) a'u gwnïo, gyda facsimile o lythyr ar bob dalen. Yng ngeiriau'r garden hysbysebu a anfonodd i brynwyr posibl, 'The Letters, reproduced in Collotype Facsimile, are printed on Whatman paper, 9¾" x 12", and stitched in Van Gelder hand-made paper covers'. Ceir chwech o lythyrau: 1. Henry Vaughan i John Awbrey, 9 Hydref, 1694 (disgrifiad diddorol o weledigaeth bugail tlawd o Gymro o'r awen), 2. Yr Archesgob Sancroft, 4 Mai, 1683, 3. Edward Lhuyd i John Awbrey, 13 Hydref, 1693, 4. Ellis Wynne i Edward Humffreys, 9 Mawrth 1720, (ar henebion Harlech a Maentwrog), 5. Edward Samuel i Edward Lhuyd, 1 Mawrth, 1703, yn galw sylw at ei lyfr newydd sydd yn y wasg (sef Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr, 1704), 6. Moses Williams i William Bowyer, 24 Hydref, 1737.
Yn Ebrill 1904 cyhoeddwyd, am 3/- yr un, An Elizabethan Broadside in the Welsh Language being a Brief Granted in 1591 to Siôn Salisburi of Gwyddelwern, Meirionethshire, un daflen royal, a chlawr papur. Lluniodd Ellis air i egluro cefndir a phwrpas y 'brief', sef hawl Siôn Salisburi i fynd at ei gymdogion i geisio eu cymorth ymarferol iddo yn ei gyni, a chyda'r facsimile (a dynnwyd o un o lawysgrifau Lhuyd) cyhoeddodd gyfieithiad Saesneg.
Nid chafwyd anhawster i werthu'r setiau hyn, ac yn y rhestr o danysgrifwyr gwelir enwau rhai o brif ysgolheigion Cymraeg y dydd, e.e. Glyn Davies, Llywarch Reynolds, D.R. Thomas, John Fisher, Kuno Meyer, Thomas Powell, John Sampson, J.E. Lloyd, R. Jenkyn Jones, Ernest Hughes, O.M. Edwards, J.H. Davies, Gwenogvryn Evans, G. Eyre Evans (yn gyfnewid am ei Cardigan Court Leet), Syr John Williams, Edward Edwards, Thomas Shankland, Edward Anwyl.
Gwerthwyd 52 o gopïau o'r Elizabethan Broadside i danysgrifwyr, a 56 o gopïau o'r Llythyrau, (er gwaethaf yr honiad mai hanner cant yn unig a argraffwyd).
***
Y TRYDYDD yn y gyfres yw facsimile o Carol o gyngor yn galennig ir Cymru 1658, Mathew Owen: un daflen wedi'i phlygu (royal folio) a chlawr papur wedi'i wnïo.
Ym Medi 1907 yr ymddangosodd hwn, a 15 copi yn unig a argraffwyd. Yr un wasg a argraffodd y tri facsimile ac y mae'r cloriau'n unffurf, ond nid oes imprint i ddangos pwy oedd yr argraffwyr. Pwy bynnag oeddynt - un o weisg Rhydychen yn ddiau - gwnaethant waith hynod lân a syber gan gynhyrchu copïau facsimile gwirioneddol dda y mae'n bleser eu trafod.
Ni welais unrhyw un o'r tri ar werth yn unman erioed. Diddorol fyddai gwybod pa nifer o gopïau o'r gyfres gyfan neu o eitemau unigol sydd ar gael a pha sawl gopi sydd mewn casgliadau preifat.
(Yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Aberystwyth y mae papurau Richard Ellis, a diolchir i'r Llyfrgellydd am ei ganiatâd i'w defnyddio.)