HOPPWSIAID - YN GYMRAEG gan William Linnard
ADAR prin yw llawlyfrau technegol yn y Gymraeg, a llyfrau ar goedwigaeth yw'r prinnaf oll, o bosib. Hyd y gwn i, dim ond un llawlyfr safonol oedd ar gael yn yr iaith Gymraeg yn y maes arbennig hwn, a hwnnw allan o brint ers canrif o leiaf. Cyfieithiad o'r Saesneg ydoedd, wrth gwrs, a theitl y gwreiddiol oedd Practical Measuring Made Easy, llyfr a ysgrifennwyd gan E. Hoppus, 'surveyor' i Gorfforaeth Yswiriant Llundain, tua 1730.
Cyfres o dablau neu gyfrifyddparod (ready-reckoner) i fesur pren sgwâr ac hefyd 'pren crwn, yr hwn nid yw yn meinhau' a phren 'a fyddo yn meinhau' ydyw Hoppus, fel y gelwir y tablau yn gyffredinol ar lafar. Aeth y tablau Hoppus trwy ugeiniau, onid cannoedd, o argraffiadau Saesneg dros gyfnod o ddwy ganrif a hanner. 'Roedd y teitl yn amrywio ychydig ambell waith, ond daeth yr enw Hoppus i mewn bob tro.
I ddefnyddio'r tablau hyn, mae'n rhaid i'r mesurydd fesur hyd y pren, a'r bedwaredd ran (chwarter) o gylchedd y pren; wedyn, i gael cyfaint ciwbig y pren, mae’n rhaid iddo ddarllen o’r colofnau priodol yn y tablau a chael yr ateb mewn mesuriadau ciwbig, sef troedfeddi, modfeddi a rhannau.
Yn ddiweddar, gyda degoli a metrigeiddio, mae bywyd hir yr Hoppus Saesneg yn dod i ben, ar ôl hanes anrhydeddus o ddwy ganrif a hanner, ac erbyn hyn mae llawer o gopïau ohono ar y farchnad ail-law.
***
TUA diwedd y ddeunawfed ganrif ac yn ystod y ganrif ddiwethaf, ymddangosodd nifer o gyfieithiadau Cymraeg o Hoppus. Mae'r Hoppwsiaid Cymraeg hyn naill ai'n cynnwys y tablau cyflawn, neu o leiaf ddetholiadau ohonynt. Mae'n amlwg fod marchnad dda i'r llyfrau hyn ymhob rhan o Gymru yn y cyfnod hwnnw, gydag adeiladwyr llongau yn galw am bren derw a'r tirfeddianwyr wrthi yn plannu coed.
Dyma fanylion byr o rai o'r Hoppwsiaid Cymraeg: Cyfarwyddiad i Fesurwyr (Marsh, Wrecsam; 1784), Y Mesurwr Cyffredinol (gan Matthew Williams, Caerfyrddin; 1775, 1785, 1810); ac Y Mesurydd Tir a Choed (Gee, 3ydd arg., 1858). Fel arfer, nid yw'r fersiynau Cymraeg yn cynnwys yr enw Hoppus o gwbl.
Rai blynyddoedd yn ôl, deuthum o hyd i gopi o’r Athraw Cymreig ar y Ddwy Droedfedd (gan William Griffith, Caernarfon; 1830), sydd yn cynnwys detholiad bach o’r tablau Hoppus. ‘Roedd y llyfr bach hwn yn guddiedig ymhlith pentwr o hen lyfrau crefyddol Cymraeg (a’r rhain i gyd heb eu cloriau, am ryw reswm!) mewn cornel lychlyd o siop ryfedd o'r enw 'Lilies' ger Aylesbury.
Hen blasdy hardd yw 'Lilies', yn sefyll mewn parc hyfryd, a'r perchennog wedi llenwi ystafelloedd a choridorau'r tŷ a llyfrau ail-law wrth y miloedd.
***
MAE'R Hoppwsiaid Saesneg a Chymraeg yn llyfrau ymarferol. Nid ydynt yn hardd, ac heblaw'r rhagarweiniad, sy'n esbonio braidd yn glogyrnaidd sut i ddefnyddio'r tablau, mae'r llyfrau yn hollol annarllenadwy - colofnau hir o rifau sych.
Arf ymarferol i'r coedwigwr neu'r masnachwr coed ydynt, a dyna'r rheswm am gyflwr truenus y llyfrau sy'n goroesi, gan amlaf. Maent wedi treulio blynyddoedd gorau eu bywyd allan ymhob tywydd, naill ai ym mhoced siaced waith neu ddwylo chwyslyd. Mewn llyfrgell, gwelais enghraifft lle 'roedd y perchennog wedi gwnïo clawr gwydn o ledr ar y llyfr i'w amddiffyn yn erbyn triniaeth arw.
Gyda threigliad amser, y tân neu'r fasged sbwriel oedd tynged rhan fwyaf o'r Hoppwsiaid Cymraeg hyn, bid siŵr. Hoffwn achub o ebargofiant rai enghreifftiau o'r gwahanol fersiynau Cymraeg a gynhyrchwyd. Os oes gan ddarllenwyr Y Casglwr wybodaeth am enghtreifftiau ohonynt a’u lleoliad, hoffwn glywed oddi wrthynt (y cyfeiriad yw 7 Ffordd ****, Radyr, Caerdydd).