HELA'R HEN FALEDI gyda Gerald Morgan

DWY geiniog yr un a delais am y baledi Cymraeg cyntaf imi eu prynu - yn siop Griffs, Llundain, ddeunaw mlynedd yn ôl. Tair o daflenni bach brau o wasg John Jones, Llanrwst, oeddynt - a hwy fu cyfanswm fy nghasgliad Cymraeg am sbel. Ychydig cyn hynny 'roeddwn wedi prynu llyfryn o faledi Saesneg, A Garland of New Songs...Newcastle upon Tyne: Printed by J. Marshall, in the Old Flesh Market. Where may also be had, a large and curious Assortment of Songs, Ballads, Tales, Histories, Etc. Llyfryn bach wyth tudalen ydyw, gyda llun gwael o angladd ar yr wyneb-ddalen. Telais bunt a chweugain amdano; tybiaf erbyn hyn y byddai'r pris yn ddecpunt.

Fe wyddwn ychydig am faledi am fy mod wedi dilyn cwrs Llen­yddiaeth Saesneg. Telir cryn sylw mewn cyrsiau Saesneg i'r baledi traddodiadol - hynny yw, y rhai a gasglwyd oddi ar lafar gwlad yn ystod y dau can mlynedd diwethaf.

Rhwng 1882 a 1898 cyhoeddodd yr Athro F.J. Child o'r Unol Daleithiau, gasgliad anferth, The English and Scottish Popular Ballads, mewn pump cyfrol. Cynhwysodd bob testun oedd ar gael o bob baled draddod­iadol, tri chant a phump ohonynt. Gelwir y rhain gan bawb erbyn hyn yn "Child Ballads". Y mae baledi megis Sir Patrick Spens, Lord Randal, The Unquiet Grave a The Demon Lover yn perthyn i'r dosbarth.

Nid oedd Child yn cymryd sylw o’r baledi a argraffwyd ac a werthwyd mewn ffair a marchnad yn Lloegr ers dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd Child hefyd yn anwybyddu agweddau eraill ar y baledi traddodiadol eu hunain. Ni thalodd sylw i'w cefndir cerddorol; ni wyddai fod miloedd o bobl ym Mhrydain ac America yn dal i ganu'r baledi hyn, mewn fersiynau gwahanol, ac ni wyddai fod rhai o bobl gyffredin America yn creu baledi traddodiadol newydd, megis John Henry a Frankie and Johnnie.

Nid yw'r baledi Child o bwys mawr i ni yng Nghymru; gwaetha'r modd, ni cheir ond dyrnaid ohonynt yn Gymraeg, megis Ble buost ti neithiwr fab annwyl dy fam? neu Cân y Cwcwallt, ac nid yw'r rheiny o’r un safon lenyddol a'r goreuon yn Saesneg.

***

Y MAE'R faled argraffedig, ar y llaw arall, o bwys yn hanes cerdd­oriaeth a llenyddiaeth Gymraeg, er nad yw'n bosibl olrhain ei chychwyn. Dechrau hanes argraffu baledi Cymraeg yw taflen fach yng nghasgliad Samuel Pepys yng Ngholeg Magdalen, Caergrawnt. Byd y bigail yw teitl y gerdd, a argraffwyd rhwng 1619 a 1640. Rhaid bod argraffwyr eraill wedi argraffu baledi yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, ond rhaid aros hyd y ddeunawfed ganrif cyn y ceir toreth ohonynt.

Yn ei Lyfryddiaeth o faledi'r ddeunawfed ganrif, rhestrodd J.H. Davies 759 o faledi, y rhan fwyaf ohonynt yn wyth tudalen, ychydig yn bedair ac ambell un yn faled-daflen - sef un darn o bapur, heb ei blygu, a'r argraffu ar un ochr. Y mae baledi yn frau iawn, a rhaid bod cannoedd wedi diflannu am byth.

Y mae eraill na welodd J.H. Davies mohonynt yn dod i'r golwg o dro i dro. Er enghraifft, daeth casgliad o faledi i'r Llyfrgell Genedlaethol cyn yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys 22 o faledi o'r cyfnod 1752-1763. Naw yn unig oedd yn rhestr J.H. Davies.

Gwaetha'r modd, y mae baledi'r ddeunawfed ganrif yn bethau prin iawn i gasglwyr heddiw. Bu un cyfaill i mi'n ddigon ffodus i daro ar gasgliad o faledi Dafydd Jones, Trefriw, ond ni chefais ond un faled o'r ddeunawfed ganrif yn ystod fy nghyfnod o gasglu pethau'r cyfnod.

Baledi'r bedwaredd ganrif ar bymtheg piau hi felly; y mae rhyw ychydig eto ar gael yma a thraw; y maent yn ddiddorol, ac nid yw'r ysgolheigion ond wedi dechrau gweithio arnynt.

***

LLIFODD baledi o weisg Cymru rhwng 1810 a 1880. Caernarfon, Bangor, Amlwch, Abergele, Trefriw/Llanrwst, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe, Aberdâr - dyna ond rhai o'r canolfannau. Ceir miloedd yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, ac y mae casgliadau sylweddol eraill ym Mangor a Chaerdydd. Bûm wrthi'n rhestru'r baledi a argraff­wŷd gan John Jones sydd yn Aberystwyth. Rhwng 1817 a 1825 yn Nhrefriw y mae 64, a rhwng 1825 a 1865 yn Llanrwst y mae 324 - a rhaid bod cannoedd eraill nas gwelais hyd yn hyn.

Cyhoeddwyd y baledi hyn mewn amryw ffyrdd. Weithiau byddai'r bardd yn talu i'r argraff­ydd am wneud y gwaith drosto. Dro arall byddai llyfrwerthwr crwydrol yn talu'r argraffydd. Dro arall byddai'r argraffydd ei hunan yn gyfrifol am benderfynu argraffu neu ail-argraffu cerdd. Nid oedd neb yn parchu hawlfraint.

Byddai John Jones, Llanrwst, yn arfer argraffu dwy fil o unrhyw faled ar y tro, a'u gwerthu i'r llyfr­werthwyr neu'r beirdd am swllt y cant. Ystyriai fod "y cerddi" yn talu'n well iddo nag unrhyw gyhoeddi arall, er mai dwy bunt fyddai ei enillion o'r ddwy fil. Byddai'r gwerthwyr yn eu gwerthu am geiniog yr un.

Cyn 1815 y mae baledi wyth dudalen yn fwy cyffredin na'r rhai pedair tudalen, ond wedi hynny y mae'r rhai wyth dudalen yn brin. 'Rwyf yn tybio mai effaith chwyddiant oedd hynny; er mwyn dal i ofyn ceiniog am faled, rhaid torri ar faint y papur (a oedd yn fwy costus na llafur yr adeg honno).

Dywedir fod Richard Williams (Dic Dywyll) wedi gwerthu bron i ddwy fil o faledi mewn diwrnod ym Merthyr Tydfil - wyth bunt! Ond mae'n debyg iddo dalu dwy bunt amdanynt os oedd argraff­wyr y De yn codi'r un pris â John Jones.

Ond byd digon helbulus oedd byd y baledwyr. Bu farw Ywain Meirion yn dlotyn ym 1868; ni wyddom amser na lle marw Dic Dywyll (tua 1862); y tloty oedd diwedd Abel Jones, yr olaf o'r prif ddatgeiniaid, ym 1901.

Erbyn hynny 'roedd y traddod­iad mewn adfeilion; yr unig faledi newydd oedd yn ymddangos oedd gwaith Evan Williams, bardd ac argraffydd ym Mangor. cyhoeddodd hwnnw gyfres o faledi ar bynciau megis y llofrudd Crippen (1910), suddo'r Titanic a'r Lusitania, brwydrau'r Rhyfel Mawr, a'r Chwyldro yn Rwsia ym 1917. Eithriad oedd Evan Williams - ac eithriad yr hoffwn wybod mwy amdano, os oes gan unrhyw ddarllenydd gymorth i'w gynnig.

***

WEITHIAU, y mae'r casglwr yn medru prynu'r baledi yn eu cyflwr gwreiddiol - yn daflenni bach rhydd. 'Rwy'n sicr fod ambell lyfrwerthwr wedi taflu baledi rhydd i'r fasged gyda'r mân sbwriel droeon cyn hyn. Weithiau, daw baledi i'r golwg mewn cyfrol­au "Amryw".

Teimlaf yn gryf yn erbyn chwalu cyfrolau Amryw. Gwn am gyfrol o faledi wedi eu cyd­rwymo yn y Llyfrgell Gened­laethol, y rhan fwyaf ohonynt o Wasg John Jones, a'r gweddill heb enw argraffydd. Oherwydd tystiolaeth arall, ac oherwydd y cyd-rhwymo, y mae modd priodoli'r cyfan i wasg John Jones.

Serch hynny, y mae cyfrolau Amryw yn broblem weithiau. Telais dair punt am gyfrol Amryw drwchus un tro, oherwydd 'roedd ynddi un farwnad o wasg Llan­rwst - pedair tudalen ddrud iawn.

Cefais hyd i gopi o Blodau Dyfed (1824) mewn siop hen bethau yn Aberystwyth, flynydd­oedd yn ôl. 'Roedd pedair tudalen ar ddeg o'r gyfrol ar goll, ac eto fe fynnai'r hen gleiriach oedd biau'r siop godi punt am y gyfrol. Ond nid oedd gennyf ddewis; wedi eu rhwymo yn y cefn 'roedd chwech o faledi o Lanbedr-pont-Steffan, Caerfyrddin ac Aberystwyth, a minnau heb yr un faled o'r de yn fy nghasgliad yr adeg honno.

Y peth prinnaf oll, efallai, yw bwndel bach o faledi wedi eu cyd­rwymo at wasanaeth y cantor baledi ei hun. 0 leiaf, dyna'r unig esboniad y medraf ei gynnig dros ambell gasgliad budr a charpiog a welais. Bron yr un mor brin yw'r baledi-taflen-fawr. Y mae gennyf nifer o faledi-un-daflen a'r rheiny'n weddol fychan, ond hyd yn hyn ni chefais yr un o rai mawr John Jones, Llanrwst, neu Isaac Thomas, Aberteifi, sy'n debyg i bosteri, gyda mwy o le i'r lluniau nag i'r gerdd. Yr un orau o'r math hwn sydd gennyf yw taflen farwnad i'r Frenhines Victoria, gyda'i llun yn llenwi hanner y daflen gwaith Evan Williams, Bangor.

***

ERBYN hyn, llwyddais i sicrhau copïau o lawer o'r baledi mwyaf poblogaidd o'r ganrif ddiwethaf, megis Myfyrdod ar y Cloc yn Taro, Can Hiraethlon Dai’r Cantwr, Cân y Blotyn Du ac yn y blaen. Mae gennyf rai enghreifft­iau o waith prif faledwyr y ganrif - Ywain Meirion, Dic Dywyll, David Jones Llanybydder a Levi Gibbon; nid oes gennyf ond un daflen fechan iawn o waith Abel Jones, hyd yn hyn. Nid oes gobaith sicrhau casgliad mor sylweddol â'r rhai a wnaethpwyd ar ddechrau'r ganrif, ond er hynny y mae pethau difyr yn dal i ddod i law.

Bûm yn ddigon ffodus i gael hyd i fwndel bach o bethau'n perthyn i gyfnod olaf un y faled ar ddechrau'r ganrif hon. Yn eu plith roedd Penillion ar Helynt Chwarel y Penrhyn, Can o Gydymdeimlad â'r Coliar yn ei sefyllfa dlawd a gwasgedig, Cân Newydd y Rhyfel. Gwroldeb Bechgyn Lleyn ac Eifionydd, a thaflen cân am Rations y Bwyd! Yn ddiweddar iawn cefais yn rhodd gan gyfaill gerdd ar ddarn o gerdyn, I Goffa am Danchwa Gresford (1934).

Awgrymais uchod nad oedd yr ysgolheigion ond wedi cychwyn gweithio ym maes baledi'r ganrif ddiwethaf. Yr arloeswr mwyaf oedd Syr Ben Bowen Thomas. Cyhoeddodd restri o gerddi gan y prif faledwyr; a chyhoeddodd ddwy gyfrol, Baledi Morgannwg (1951) a Drych y Baledwr (1958). Nid yw'r gyntaf o ddiddordeb i bobl Morgannwg yn unig - y mae'r rhagair a'r nodiadau yn werthfawr i bawb sy'n ymddiddori yn y maes. Yn yr ail gyfrol, astudiodd y goleuni a geir gan y baledi ar fywyd y ganrif ddiwethaf. Y mae'n dal yn werth­fawr iawn, er gwaetha'r diffyg dyfynnu ffynonellau.

Y mae Mr Tegwyn Jones wedi cyhoeddi cyfrol arloesol bwysig a difyr, Hen Gerddi Ffair (1973), ac y mae ei astudiaeth o Ywain Meirion yn y wasg. Deallaf fod Pwyllgor Clasuron yr Academi Gymreig yn bwriadu noddi casgliad o faledi. Ond erys gwaith difyr ac amrywiol i'r sawl a chanddo'r amser a'r awydd i astudio'r hen faledi.