GUTENBURG A'I FEIBL ~ Dim copi gan Huw Edwards
TRIST YW gorfod cofnodi'r ffaith ddiflas fod aelodau Cymdeithas Bob Owen wedi colli cyfle gwych yn ystod y misoedd diwethaf. 'Rwy'n cyfeirio, wrth gwrs, at y ffaith i gynifer â thri chopi o Feibl Gutenberg gael eu gwerthu y llynedd (fel arfer, rhyw unwaith bob deng mlynedd y daw copi ar werth). Yn anffodus ni ddaeth yr un copi i Gymru - er y gellid bod wedi prynu un yn rhwydd am cyn lleied â miliwn o bunnau!
Gwerthwyd y cyntaf ym Mawrth 1978 (copi anghyflawn) i Amgueddfa Gutenberg ym Mainz am $1.8m (tua £915,000). Wedyn, yn Ebrill, gwerthwyd un o'r un ar hugain o gopïau cyflawn sydd ar gael o hyd mewn ocsiwn gyhoeddus yn Efrog Newydd am £2m (tua £1,050,000). Fe'i prynwyd ar ran Amgueddfa Stuttgart.
Dyma'r tro cyntaf ers hanner can mlynedd i gopi o’r llyfr hwn gael ei werthu mewn ocsiwn a hwn oedd y pris uchaf a dalwyd erioed mewn ocsiwn am lyfr argraffedig (y pris uchaf cyn hyn oedd £194,000 am gopi o Birds of America, gan J.J. Audubon).
Gwerthwyd y trydydd copi ym Mehefin gan Bernard Quaritch, y llyfrwerthwr o Lundain. Fe'i prynwyd gan Brifysgol Texas am $2,400,000 (£1,320,000). Yn rhyfedd iawn bu'r copi hwn trwy ddwylo Quaritch sawl gwaith o'r blaen. Fe'i prynwyd mewn ocsiwn ym 1858 am £595 ac ym 1887 am £2,650. Gwerthwyd ef wedyn i deulu Pjorzheimer, ym 1923 am £8,500.
***
TEG GOFYN beth sydd mor arbennig yn y llyfr hwn a phwy oedd y gŵr a'i hargraffodd? Eurych ym Mainz oedd Johann Geusfleisch zum Gutenberg. Ganwyd ef rhwng 1394 a 1399 a dechreuodd arbrofi gyda gwaith argraffu pan oedd yn alltud gwleidyddol yn Strasbourg tua 1440. Dychwelodd i Mainz ac, erbyn 1450, yr oedd wedi perffeithio'r ddyfais o argraffu, a defnyddio teip symudol.
Prif gynnyrch gweithdy Gutenberg oedd y Beibl 42 - llinell a argraffwyd ganddo rhwng 1452 a 1455. Credit iddo argraffu cyfanswm o ryw 200 copi o'r llyfr hwn. Aeth i drafferthion ariannol ym 1455 a gwerthwyd y rhan fwyaf o'i offer.
Rhoddodd Gutenberg y gorau i argraffu ar ôl 1460 - mae'n debyg am iddo fynd yn ddall. Cafodd bensiwn gan Archesgob Mainz ym 1465 a bu farw ym mis Chwefror 1468. Pwysigrwydd Beibl Gutenberg, felly, yw mai hwn oedd y llyfr cyntaf o unrhyw bwys i'w argraffu trwy ddefnyddio teip symudol.
***
NID Gutenberg oedd y cyntaf i sylweddoli'r angen am gynhyrchu llyfrau ar raddfa eang. Erbyn y bymthegfed ganrif 'roedd llu o gopïwyr proffesiynol yn ennill bywoliaeth dda trwy gopïo llyfrau ar ran llyfrwerthwyr a chasglwyr cyfoethog.
Nid Gutenberg oedd y cyntaf i ddyfeisio argraffu ychwaith - bu'r Tseineaid yn gwneud hynny ers mil o flynyddoedd. 'Roeddynt yn ysgythru pob llythyren ar ddarn o bren ac yn argraffu o hwnnw.
Gwyddys, hefyd, fod y Tseineaid wedi defnyddio rhyw fath o deip symudol, wedi'i foldio allan o glai neu'i gerfio ar ddarnau bychain o bren caled, tua phedwar can mlynedd cyn geni Gutenberg.
***
NID OES sicrwydd mai Gutenberg oedd y cyntaf i ddefnyddio teip symudol yn y Gorllewin. Mae'n debyg fod arno lawer o ddyled i ddyfeisgarwch ei gynorthwywr, Peter Schoffer. Gwyddys, beth bynnag, nad oedd Gutenberg ond yn un ymhlith llawer a geisiai greu'r hyn a alwant hwy'n "sgript artiffisial" yn ystod y cyfnod hwn.
Ceisient ddarganfod dull cyflymach i atgynhyrchu llawysgrifau na hen ddull y copïwyr traddodiadol. Dyna paham y gwnaed llythrennau'r teip cyntaf mor debyg ag oedd yn bosibl i'r sgript a ddatblygwyd dros y canrifoedd gan y mynachod.
Honnir yn aml mai gŵr o'r enw Laurensz Jansz Coster (1405-84), o Haarlem yn yr Isalmaen, oedd y cyntaf i ddyfeisio ac i ddefnyddio teip symudol yn Ewrop.
Ond os oedd rhywun wedi argraffu llyfrau o grefftwaith amrwd a chyntefig yn Holand cyn amser Gutenberg, rhaid i bawb gydnabod iddo ef wella cymaint ar arbrofion carbwl ei ragflaenwyr nes ei fod yn haeddu'r clod am ddyfeisio argraffu fel 'rydym ni'n deall y term.
Pwy bynnag biau'r clod, yr hyn oedd yn chwyldroadol yn y broses newydd oedd nid yn unig y posibilrwydd o gynhyrchu nifer mawr o gopïau unfath yn gyflym ond hefyd medru golygu a chywiro'r testun.
Agorodd hyn y drws, nid yn unig i gynhyrchu llyfrau, ond hefyd bamffledau, almanaciau a phob math o "effemera" arall. Arweiniodd hyn yn ei dro i holl faes hysbysebu a chyhoeddusrwydd ar lefel torfol ac i bapurau newydd ein hoes ni.
***
Y CYNTAF a'r pwysicaf o ddyfeisiadau Gutenberg, felly, oedd teip symudol o ansawdd da a chywir y gellid ei gynhyrchu ar raddfa helaeth ac wedyn ei gyfuno'n rhwydd yn ôl y galw, ar gyfer argraffu.
'Roedd angen miloedd o lythrennau ar gyfer llyfr. Golygai hyn greu mold ar gyfer pob llythyren ac wedyn arllwys plwm tawdd i'r mold er mwyn cynhyrchu'r teip. Wedyn, gellid gosod y teip ar y 'maen' a chael arwynebedd argraffu unffurf a gwastad.
Ond ni fyddai argraffu wedi bod yn bosibl heb ail ddyfais Gutenberg sef math o inc a lynai wrth y teip metalaidd a throsglwyddo i'r papur. 'Roedd angen rhywbeth gwahanol iawn i'r inc a ddefnyddid ar gyfer argraffu â blociau o bren. Yn y diwedd defnyddiodd Gutenberg inc a wnaed o liw addas a falwyd ac a gymysgwyd â farnais olew had llin (linseed-oil varnish).
Yr oedd papur eisoes ar gael ac mae'n debyg iddo addasu'r math o wasg sgirw (a ddefnyddiwyd ers canrifoedd ar gyfer gwasgu llieiniau neu wasgu'r olew o ffrwyth yr olewydd) ar gyfer yr argraffwasg.
'Roedd ei gamp o gyfuno a chreu synthesis o'r holl ddatblygiadau hyn yn un wirioneddol ryfeddol. Ar ôl cyfnod o arbrofi, na wyddom ddim amdano, llwyddodd i gyrraedd safon o effeithiolrwydd technegol na ragorwyd arno am fwy na thair canrif.