FY NEWIS I gan Dafydd Guto Ifan
GADEWCH i mi ddweud ar y cychwyn fan hyn nad yw pob hen gyfrol a allasai fod gennych yn drysor. Ond diau fod yna ambell i lyfr yn eich meddiant na fuasech, am amryfal resymau, yn ei werthu am bensiwn, nac yn medru rhoi pris arno chwaith - dim ond ei ystyried yn amhrisiadwy i chi. Dyma un neu ddau o'r rheini.
Yn gyntaf - Ardudwy a'i Gwron ... David Davies (Dewi Eden), Harlech. Cyh. J.D.Davies Swyddfa'r Rhedegydd, Blaenau Ffestiniog (1914) 216t.
Dyma gyfrol hawdd ei darllen sy'n cynnwys lluniau du a gwyn tra diddorol - fel enghraifft, ysgol ddyddiol Cwm Nantcol sy' wedi ei chau ers tro byd.
Yn y bennod gyntaf ymdrechir yn bur lwyddiannus i olrhain hanes a thurio i gefndir daearyddol Ardudwy. Ymdrinir a nodweddion y cantref - llannau, ffynhonnau, llynnoedd, afonydd, mynyddoedd.
Yna ceir hanes y Cyrnol John Jones, Maesygarnedd a arwyddodd y gorchymyn i ddienyddio Siarl y Cyntaf. Mae'n resyn i'r Cyrnol gael cyn lleied o sylw gan ein bywgraffwyr, er i Deledu Harlech, yn hwyr y nos rai blynyddoedd yn ôl, gyflwyno cyfran o'i fywyd. Ac yn 1978 yn ei nofel Y Flwyddyn Honno datgelodd Dyddgu Owen wybodaeth am "y cwlwm" a ffurfiwyd yng Nghwm Nantcol i amddiffyn yr hen wron brwd.
Ond, cyn belled yn ôl â 1914 yr oedd Dewi Eden yn ymwybodol o bwysigrwydd yr hen wrthryfelwr, ac fe dorrodd yr awdur dygn yma gwys newydd ym maes cofnodi a chyflwyno hanes lleol.
***
MAE'R ail gyfrol a drysoraf yn cyflwyno beirdd. Pwy, fel enghraifft, oedd Gweryddon, Bardd y Môr? Mae'r ateb, a llawer ateb arall, yn y gyfrol Beirdd Meirion, Cyfres Athrawon Meirion Rhif 3, gyda rhagymadrodd gan R. Williams Parry. Cyh. J. Davies a’i Gwmni, Blaenau Ffestiniog (1932) tt.36.
Paratowyd y gyfrol ar gyfer disgyblion yr Ysgol Fawr gan nifer o athrawon o fawr weledigaeth megis Edmund D. Jones (cyn-brifathro Ysgol Ramadeg y Bermo) a D. J. Williams, Llanbedr.
Hyd yn oed heddiw mae'r math yna o lawlyfr yn brin yn ein hysgolion, ac mae'r gyfrol yma o'r tridegau yn drysor i mi.