FFRINDIA gan Glyn Ashton
Y DIWEDDAR Athro G.J. Williams, a enynnodd fy niddordeb yng nghyn-berchnogion llyfrau, ac euthum ati i chwilota'n frysiog rai o'r llyfrau ail-law a gawswn. Dyna The Book of Llan Dâv sy'n dwyn enw W.J. Gruffydd, tair cyfrol The Rev. Thomas Charles of Bala a phlât llyfrau Syr Harry Reichel ynddynt, Cynfeirdd Lleyn a fu'n eiddo i Syr J.E. Lloyd, Barddoniaeth Dafydd ab Edmwnd ac enw Syr Ben Thomas yn ei law gymen ynddo, Meddygon Myddfai yn dwyn enw Henry Lewis, a Llyfr yr Homiliau Edward James (arg. 1819) a fu'n eiddo i'r Parchedig A.W. Wade Evans.
Am fy ychydig 'hen' lyfrau, h.y. cyn 1750, nid oes iddynt fawr o gysylltiadau diddorol. Dyna Lyfr Gweddi 1634 a oedd yn eiddo i ryw Hugh Jones, Llidiard y gwenyn, Carnarvon shire, yn 1846, and y mae nodyn pensil diddorol ar y dechrau: "yr ydwyf fi yn ymrwymo yn wirfoddol nad yfaf ddim diod feddwol cyn y Pasg yn y flwyddyn 1848 Thomas X Thomas Ionawr 25 1847".
***
YMFALCHÏAF, fodd bynnag, mewn dyrnaid o lyfrau a chysylltiadau hanesyddol iddynt. Dyna Cambrian Biography William Owen [- Pughe]. Cyflwynwyd y gwaith 'To George Chalmers, esquire, F.R.S. F.A.S.... as a Token of Respect by the Compiler' Y tu mewn i'r clawr blaen gludwyd pais arfau Chalmers, yn dwyn yr arwyddair 'Spero'. Ond y peth diddorol yw fod y 'Compiler', ar ddiwedd y cyflwyniad, wedi torri'i enw - Wm. Owen, h.y. dyma'r union gopi a ddanfonodd William Owen [-Pughe], wedi'i arwyddo, at y gŵr y cyflwynwyd y gwaith iddo.
Yna dyna Esboniad ar Ddeg Pennod Cyntaf Genesis, Bunyan, sy'n dwyn yr enw Robert Davies Nantgl [yn] , h.y. Bardd Nantglyn, a'i law ef hefyd a arwyddodd fy nghopi o Cyfoeth i'r Cymru (arg. 6).
Ond y gwaith a brisiaf fwyaf ydyw Yr Ymroddiad... Morgan Llwyd, 1765, llyfryn prin ddigon, er nad hynny sydd bwysicaf yn fy ngolwg, ond enwau'r cynberchnogion: 'Dafydd Llwyd iw'r Gwir Berchenog y Llyfr Hwn 1769'; 'Elizabeth...'; 'Thomas Edwards'; 'Miss Mary Williams, Chester, 1833'; 'May 25 1789' (yn cyfeirio, mi gredaf, at berchenogaeth y Thomas Edwards uchod); 'Maria'; Jn Lloyd Bettws G: Goch. 1782'; 'Elizabeth Morris Born Decr. 20th - 1760'. Ac yn goron ar y cyfan: 'Y Llyfr hwn a gefais gan wraig John Lloyd or Betws T: E. nant. 1805', yn llaw gain Twm o’r Nant ei hun.
***
BETH AM y gweddill? Er na wn ddim am y llu anhysbys teimlaf fod Herbert Lloyd, Thomas Thomas, Builth, Evan Evans, William Evans, John Jenkins, Rees Jones, a haid o rai cyffelyb, yn hen gyfeillion.
Ond yn fwy na dim, mi hoffwn wybod rhywbeth am Charles Ashton, Ysgubor Newydd, Llawr-y-glyn, Trefeglwys. Nid y Charles Ashton yw hwn, ond un cynt, canys nodir "His Book July 21st 1837' ar Feibl Cymraeg 1836. Ymddengys i'r Charles Ashton hwn fod tan ddylanwad Diwygiad Dafydd Morgan, Ysbyty, canys nodir ar ddiwedd y copi 'Newborn 1859'. Yn 1860 yr oedd yn 'Brynygroes' - ble bynnag oedd hwnnw. A dyna'r cyfan, er y dylid cofio mai yn 1848 y ganwyd yr enwog Charles Ashton.