CYFROLAU HYNOD a welodd Melfyn R. Williams

RHAID cyfaddef erbyn hyn, o dreulio oriau hir mewn siopau hen lyfrau, yn bodio llyfrau "Amryw ac eraill" bod y Cymry wedi bod wrthi'n ddygn yn llenwi anghen­ion darllen y Genedl. Yn sicr ddigon, mae'r ganrif ddiwethaf wedi cael ei dirmygu a'i hesgeuluso'n ddybryd yn ei llen­yddiaeth. Ac yn y maes gwydd­onol, ychydig iawn o bobl sy'n sylweddoli bod yna dros 450 o gyfrolau, ar bron bob cangen o'r gwyddorau, wedi'u cyhoeddi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy'n rhoi dros bedair cyfrol y flwyddyn inni!

Ond peidiwch â chynhyrfu dim; 'dydw i ddim yn bwriadu trafod y rhain i gyd yn y gofod sydd gennyf. Yn hytrach, mi ddewisaf rai sydd, yn fy nhyb i yn arbennig oherwydd eu hynodrwydd.

Rai blynyddoedd yn ôl, cefais afael mewn llyfryn pedair tudalen ar hugain dan y teitl Y Nitro-Glycerine (Powdwr Oil) - Pa beth ydyw? gan y Parchedig Taliesin T. Jones, F.G.S. ac a argraffwyd gan D.J. Thomas, Ffestiniog ym 1869. Darlith a draddodwyd gan yr awdur ym Marchnadfa Blaenau Ffestiniog ar nos Iau, Awst 19, 1869 yw corff y llyfryn. Synnais, braidd, wrth feddwl bod darlith mor wyddonol yn cael ei thraddodi yn Ffestiniog o bob man. Ond fe geir ateb i hyn ar gychwyn y llyfryn:

Fe â'r awdur drwy adeiladwaith cemegol y powdr du, y cotwm gwn a'r nitro-glycerin, ac fe rydd y cefndir hanesyddol iddynt. Mae'n esbonio y gwahanol ddeddfau cemegol, fel Deddf y Cydfesurau Deffiniol (Law of Definite Proportion) a Deddf y Cydfesurau Lliosrifol (Law of Multiple Proportion). Awgryma'r awdur hefyd dermau gwyddonol fel gwrth-hyrddiad gronynnol am molecular repulsion, hedoli am volatilize a temigion am atoms.

Bu'r Parchedig Taliesin Jones yn weithgar iawn yn y byd gwyddonol gan iddo hefyd ysgrif­ennu'r Traethiadur Gwyddorol a gyhoeddwyd ym 1869. Dyma gyfrol sylweddol sy'n trafod y gwahanol ganghennau o'r gwydd­orau.

***

LLYFRYN arall sy'n dra gwahanol i unrhyw un arall sy'n fy meddiant yw Crynodeb o Glefydau CEFFYLAU, BUCHOD, LLOI, ynghyd â DEFAID A MOCH a gasglwyd gan F.B. Taylor o weithiau awduron eraill. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg T. Gee a'i Fab ac o'r llawysgrifen sydd arno rhoddir 1851 fel dyddiad ei gyhoeddi. Dim ond pedair tudalen ar ddeg sydd i'r llyfr, a'r hyn sy'n ei wneud yn nodedig yw'r siart lliain sydd yn ei gefn, sy'n mesur dwy droedfedd a naw modfedd wrth droedfedd a saith modfedd. Rhestra hwn y gwahanol afiechydon a boenydia'r amryfal ddofednod, yr achosion, yr arwyddion a'r feddyginiaeth briodol i'w gwella.

Gellir meddwl bod y gelfyddyd o drin dannedd yn un gymharol ddiweddar a chael llyfryn Cymraeg ar y grefft fel siawns mul mewn ras geffyl. Ond fel mae'n digwydd bod, cefais fy nghrafang­au ar lyfryn o'r enw Cynllun Newydd i OSOD DANNEDD CELFYDDYDOL a argraffwyd gan John Evans a'i Gyf., Heol Fawr, Caernarfon ar ran un o'r enw Mr. Capon, a oedd yn llaw­feddyg deintyddol yn 33, Ffordd Bangor, Caernarfon. Nid oes ddyddiad arno, ond mae'n bur debyg iddo gael ei gyhoeddi yn ystod chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Pamffledyn o wyth tudalen ydyw yn hysbysebu don­iau'r deintydd arbennig yma. Dyma ddyfyniad diddorol:

Byddai Mr Capon, (enw da i ddeintydd) yn ymweld â gwahanol ardaloedd yn rheolaidd. Ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd y mis byddai yn cadw deintyddfa yn nhŷ Mr. Thomas Parry, High Street, Ebenezer ac ar ail a phedwerydd ddydd Gwener yn y mis yng Nglynafon, ger gorsaf Nantlle. Mae'n ymddangos ei bod hi'r werth byw yng nghyffiniau'r pentrefi yma yn ystod y ganrif ddiwethaf os oedd y dannedd yn drafferthus!

***

LLYFR arall nad oes iddo ddydd­iad ac sy'n mesur dwy fodfedd wrth dair modfedd a hanner yw CYDYMAITH Mamau a Mammaethod a CHYFAILL PLANT gan y Doctor Buchan a argraffwyd yn Llanrwst gan John Jones. Ceir 124 o dudalennau ac oddi wrth yr ansawdd papur a'r print gellir tybio y cyhoeddwyd hwn oddeutu tridegau'r ganrif ddiwethaf. Ynddo disgrifir sut i fagu plentyn a'i ddiogelu rhag afiechydon o bob math, ac yn y cyfarwyddiadau i famau mae'r awdur yn bleidiol iawn i sicrhau bod y fam yn cael digon o ymar­feriadau;

Cyfeiria hefyd at y cymwys­terau a ddylai fod gan y merched hynny a ymddiddorai yn y swydd o fydwraig:

"...dylai y rhai hynny ag ydynt yn cymmeryd y swydd honno arnynt, gymmeryd gofal i gymhwyso eu hunain i'r gor­chwyl hwnnw, trwy iawn ad­nabyddiaeth o'r pethau hynny ag ydynt yn angenrheidiol er cyflawniad ffyddlon o hynny. "

Oes yna ferched tebyg i'w cael heddiw tybed?

Taflen arall hynod o ddiddorol sydd yn fy meddiant yw un sy'n hysbysebu PELENAU LLYS­IEUOG ADFERIADAWL a baratowyd gan W. Worsdell. Dim ond deuddeg tudalen sydd iddo ac mae'n ymddangos bod hwn yn cael ei adael yn y tai yn rhad ac am ddim gan Edward Davies, Llyfrwerthwr o Dredegar. Ynddo ceir cyfeiriadau at wahanol afiech­ydon a llythyrau oddi wrth gyn­gleifion yn canmol y pelenni rhin­weddol a ddyfeisiwyd gan William Worsdell.

Honnir y gall y pelenni gwyrth­iol yma wella'r ffliw, y typhus a'r llyngyr. Nid oes ddyddiad ar y pamffledyn yma, ond dyddiad un o'r llythyrau sy'n canmol y cynnyrch yw 1841. Felly fe all fod y daflen wedi'i dosbarthu i'r cyhoedd ym 50au'r ganrif ddi­wethaf.

***

DAU LYFRYN arall sydd wedi dal fy sylw ac sy'n brawf pendant bod y Cymry'n cael taflenni a llyfrynnau cyson i'w cynorthwyo i'w cadw rhag afiechyd yw Y cholera gan William Slyman ac a gyfieithwyd ym 1849 gan y Parch. D. Davies a oedd yn Gurad Llan­wnog, Trefaldwyn ar y pryd, a TRAETHAWD ar y GERI MARWOL gan Anti-Quack, sef Josiah Thomas Jones o Aberdâr, yn 1855. Argraffwyd y cyntaf gan Lloyd o’r Drefnewydd a'r olaf gan J.T. Jones, Swyddfa'r Gwron, Aberdâr. Ceir pedair tudalen ar hugain yn y llyfryn Y CHOLERA a deunaw tudalen yn y GERI MARWOL.

Trafod yr un afiechyd mae'r ddau gan mai'r enw Cymraeg ar y Cholera yw'r geri marwol. Roedd yr afiechyd hwn yn teithio drwy Gymru fel tân gwyllt ganrif a mwy yn ôl. Yn 1849, blwyddyn cyhoeddi'r llyfryn cyntaf, bu farw dros bedair mil a hanner yng Nghymru!

Llyfr arall rydwyf wedi ei fyseddu'n bwyllog a hir yw DIRGELWCH Y GYWRAIN GELFYDDYD 0 JAPANIO; gan Lewis Morris o Fô6n ac a argraff­wŷd gan Peter Evans, Caernarfon. Dywedir mai argraffiad diwygiedig sydd yn fy meddiant i ac fe rydd un o'r enw William Davies air ar y cychwyn i'r darllenydd i ymddiheuro am gynnwys rhai termau Saesneg yng nghorff y llyfr sydd iddo 96 tudalen. Nid oes arno ddyddiad o gwbl ond gellir tybio bod yr argraffiad yma wedi'i gyhoeddi tua chanol y ganrif ddiwethaf.

Japanio yw'r gelfyddyd o roi farnais gloyw caled o olew had llin ar wrthrychau coed a metal i ddynwared y farnais Siapaneaidd. Ceir cyfarwyddiadau hefyd i lifo lledr, i dymheru arfau mining, sut i drin y tir, i wells afiechydon ar ddyn ac anifeiliaid ac hefyd ffordd o fesur coed gyda'r pren mesur llithro (sliding rule).

***

MAE'R pren mesur llithro'n dod i mi'n daclus at lyfr nodedig arall sydd wedi bod yn fudd i'r Cymro cyffredin yn ei famiaith. Teitl y llyfr yw TRAETHAWD ar y DDWY DROEDFEDD gan Richard Griffith a oedd yn ysgol­feistr yn Llanerchymedd. Fe'i hargraffwyd dros y cyhoeddwr gan L. Jones Llanerchymedd ym 1866 a cheir 54 tudalen ynddo.

Ym Mai 9, 1857 cyhoeddwyd ail argraffiad o Y COMED FAWR gan R.I. Jones, Tremadog. Dyma a ddywed y cyhoeddwr yn ei anerchiad at y darllenwyr:

Yn y pamffledyn hwn o un ddalen ar bymtheg ceir hanes y nifer o gomedau a aeth heibio ein daear ni yn ystod y canrifoedd "oherwydd drygioni dynol ryw," medd yr awdur. Ond gan fod "pum cant a thrigain a phump o filiwnau heb wybod am Grist" ym 1857, 'roedd yr awdur yn ffyddiog "y byddai i'r gomed fynd heibio'r byd er mwyn rhoi mwy o gyfle inni gael bawb yn Gristionogion"!

Ceir nifer eraill o lyfrynnau a chyfrolau diddorol tu hwnt yn y Gymraeg ar bron bob testun dan haul: er hynny mae'n amser imi gau pen y mwdwl am y tro.