CLWY'R HEN GEIR a'r dioddefydd Rhodri Prys Jones
WIR I CHI, 'does dim byd tebyg i foduro mewn hen gar, yn arbennig pan fo hwnnw'n beiriant clasurol wedi'i adnewyddu'n drylwyr. Rhuo drwy Ddyffryn Ogwen ac ar hyd yr A5 yn nuwch y nos, a'r injian yn dyrnu grym trwy'r gerflwch i'r olwynion, y bonet hir yn ymestyn chwe troedfedd o'ch blaen, chwarter milltir o lygaid cathod yn perfio arnoch o'r tywyllwch, a gwên o foddhad ar eich llygad chi, y gyrrwr.
Deng milltir a thrigain yr awr, a phob darn o'r cerbyd chwarter canrif oed yn gweithio fel wats. Y ffordd yn wag, y car yn chwim, a chithau a'ch sgarff yn dynn am eich gwddw yn sbecian bob yn hyn a hyn ar y lloer sy'n oer wenu arnoch drwy'r to agored.
Dyma 'foduro mewn steil' yr oes a fu, yn null rasus cynnar Le Mans a raliau rhyfeddol Monte Carlo yn y tri-degau; dull y Sais mawreddog a'i gap stabal, ei fenyg lledr a'i fwstas pigog-gyrliog. Mae'r cyfan yn hwyl cynhyrfus, yn dod â chi yn nes at realiti moduro. Prin bod modurwyr heddiw yn sylweddoli mor gyflym mae'n nhw'n gwibio ar hyd ein ffyrdd, nes iddynt daro rhywbeth, ac y mae'n rhy hwyr bryd hynny. Yn yr hen gerbydau, pan fyddwch chi’n torri cyfraith gwlad, mae pob rhu'n yr injian, pob sbonc o eiddo'r 'chassis' trwm a phob naid o eiddo'r mesurydd cyflymdra crydcymalog yn eich argyhoeddi'n barhaus eich bod chi, wir, yn gyrru'n hurt o gyflym.
A'r wên honno ar wyneb y gyrrwr? Gwên smyg yr hysbysebion teledu. Gwên y llond poced o'r sigârs cywir. Paham? Am fod y gyrrwr hwn wedi creu ei foduro. Ef sy'n gyfrifol na fu i'w beiriant ddadfeilio mewn cae na chael ei sardineiddio gan gywasgwr y dyn sgrap. Myn y dyn hwn fod yn wahanol i fodurwyr eraill. Thâl ganddo mo'r blychau tinsel a wneir yn y ddegawd hon.
Cafodd hyd i gerbyd nobl o’r degawdau a fu. Cludodd y cerbyd i'w fodurdy ar gefn cludwr, a thynnodd y cwbl yn ddarnau mân, a'i atgyweirio. Efallai i'r gwaith gymryd pum mlynedd iddo, i'w wneud yn gywir, trwsio, adnewyddu, glanhau, crafu, peintio a chywiro. Yn y diwedd, ceir cerbyd godidog, gwell na newydd, ac yn werth cannoedd onid miloedd, o bunnau.
***
DO, MI ddioddefais innau o’r clwy hwn. "Trysorau ar y ddaear" meddwch, "lle mae gwyfyn a rhwd yn llygru." Debyg iawn. Er gwaetha' fy nhroedigaeth Gristnogol 'fedra i yn fy myw lwyr ddianc oddi wrth y clwyf a fu. 'Does ond gobeithio y caf faddeuant trwy farchogaeth ambell i gerbyd ar fy nheithiau pregethu. Mi wnâi'r hen Hillman agored bulpud da i bregethwr!
Fy nghyngor cyntaf i’r sawl a fynn gasglu neu adnewyddu hen geir ydyw - peidiwch. Wedi dweud hynna, a chan eich bod chi eisoes mae'n siwr wedi penderfynu anwybyddu'r cyngor, mi hoffwn ddweud hyn. Darllenwch Iyfrau yn llawn darluniau o hen geir. Yna astudiwch yn fanwl y prisoedd a ofynnir amdanynt.
Mae cerbyd da yn costio llawer. Chwiliwch yn amyneddgar am y car sydd wedi mynd â'ch bryd, a phrynwch y modur gorau y medrwch chi ei gael am y pres sydd gennych i'w wario. Peidiwch a gwario'r cwbl o'ch arian ar y car. Mi ddaw biliau, lu, i'w ganlyn, a bydd arnoch chi angen pob niwc sbar i gwrdd â'r rheini.
Prynu'n breifat yw'r dull gorau yn fy marn i. Mae ocsiwn hen geir yn lle drud iawn i brynu car. Bydd dyn y garej hen geir a'i fryd ar wneud elw sylweddol.Y dull gorau am wn i yw i chi ymuno â chlwb eich hoff fodur cyn prynu car, a chwilio trwy'r hysbysebion yng nghylchgrawn y clwb. Cewch brisiau rhesymol yn y colofnau hyn.
Dyn 'Citroen' ydw i yn bennaf, ac i'r Traction Owners' Club yr ydw i'n perthyn. Mae gennym gylchgrawn Saesneg o'r enw Floating Power ac mi fydda i'n cyfrannu erthygl i hwnnw bob mis. Pwrpas y cylchgrawn yw dod â pherchnogion yr hen Citroen Traction Avant (gyrru y tu blaen) at ei gilydd. Pedwar perchennog sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, er bod gennym ryw drichant o aelodau i gyd trwy'r ynysoedd hyn.
Mae'n debyg y byddwch chi'n cofio sut un yw'r cerbyd - cerbyd y 'Resistance' yn Ffrainc, cerbyd Maigret a phob gangster a heddwas o bwys yn Ffrainc ugain mlynedd yn ôl a mwy. Cefais hyd i'r cyntaf mewn stryd gefn yn y Rhyl a phrynais ef am bumpunt a phedwar ugain. Gyrrais y cerbyd am bedair blynedd.
Mi fûm i'n trin a thrwsio, wrth gwrs, a llwyr adnewyddu'r siafftiau gyrru. Gwario ryw ddau neu dri chant ar y gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw, a chael cynnig chwe chant a hanner y llynedd gan Sais ariannog o Leeds. Cefais wythnos o wyliau yn Israel ar yr elw!
***
CEFAIS fy nghar presennol yn anrheg gan gyfaill, "provided you do it up and take it to rallies". Bûm wrthi'n datgymalu ac yn ailadeiladu hwn am gyfnod o chwe mis, ac erbyn hyn, mae yna olwg da arno, er ei fod dan glo mewn garej yn Nyffryn Conwy ar hyn o bryd, yn osgoi effaith niweidiol halen Cyngor Sir Gwynedd. Diolch am hwnnw, gyda llaw, ond mi geith y Moi Cant a Mil ei diodde fo. Yn ôl fy nghwmni yswiriant, mae'r Citroen Big 15 glas, UTF 790 yn werth £1,200 ar hyn o bryd.
O bwrcasu cerbyd fel hyn, y mae'n rhaid cael cyflenwad o ddarnau sbâr. Prynais Citroen Light 15 ym Methesda a chwalu hwnnw. Mi es i mewn trwy ddrws hwnnw, ac allan trwy'r llawr, felly dim ond ei chwalu fedrwn i ei wneud. Prynais gerbyd arall yn Aberaeron a chwalu hwnnw. 'Roedd angen men go fawr i gludo darnau VPP 711 adre. Mae 'nghydwybod yn fy mhoeni 'mod i wedi darnio'r cerbyd hwnnw, ond 'dydw i ddim yn siŵr y baswn i wedi medru byw efo'i rif o!
Yn ei ymyl y tu ôl i siop hen bethau, gorweddai hen gar digon prin - Hillman Minx Mk. VII Convertible, a'i gorff wedi ei ddi-doi yn arbennig gan Thrupp and Maberley. Cludais hwnnw adre i 'ngarej yn y Waunfawr ac yno y mae o byth, yn disgwyl sylw. 'Ches i fawr o drafferth i gael hyd i ddarnau sbâr i hwn. Cofiais fod gan gyfaill coleg imi, Emyr Puw o Dy'n y Pwll, Dinas Mawddwy, hen Hillman 1951 yn ystod dyddiau ein myfyrdod. Cerbyd i garu ynddo oedd NXW 47 bryd hynny: go brin yr âi Emyr i unman heblaw ambell i siwrnai o’r llety i'r coleg!
Chwarae teg i'w frawd, Hedd Puw, mi aeth ati i lusgo olion yr hen gar o geunant ar dir Ty'n y Pwll a chefais dynnu'r darnau mecanyddol i gyd. Yn gorwedd yn ymyl yr oedd Ostin 7 .., ac mi wyddoch y gweddill, mae'n siw'r. Mae sgerbwd hwnnw yn fy meddiant bellach, a phwy a ŵyr, efallai y daw corff ysgafn o rywle cyn hir a bydd FF5121 yn tramwyo ffyrdd Gwynedd unwaith eto.
Wel, "mi goelia i o pan wela i o" chwedl fy nghyfaill Gareth Haulfryn, sydd wedi hen arfer â ffantasïau modurawl Rhodri Prys. Coelio neu beidio, mi ddaw, ryw ben, a chaf innau bleser di-bendraw o weld peirianwaith a fu'n segur ers deunaw mlynedd wedi ei adfer i'w hen ddefnyddioldeb.